Agenda item

Mae datblygiad darpariaeth breswyl i blant mewn gofal drwy gynllunio cynllun cartrefi grŵp bychan angen ei graffu oherwydd bod y prosiect yn rhan o Gynllun y Cyngor.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan ddymuno pob llwyddiant i’r datblygiad.

b)    Nodi awydd y Pwyllgor i dderbyn diweddariad pan fydd y cartref preswyl wedi agor ac wedi cyfnod o setlo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd ac y Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau - Plant a Chefnogi Teuluoedd, gan nodi bod datblygiad cartrefi preswyl i blant mewn gofal yn un sy’n flaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor.

 

Rhannwyd cefndir i’r cynllun gan nodi bod oddeutu 280 o blant yng ngofal y Cyngor ar hyn o bryd. Diolchwyd i bawb sy’n rhan o’r cynllun maethu, gan fod y mwyafrif o blant mewn gofal wedi eu lleoli gyda theuluoedd maeth. Eglurwyd bod eraill yn byw gartref gyda’u teuluoedd ond yn derbyn cefnogaeth barhaus gan y Cyngor. Cydnabuwyd bod oddeutu 20 o blant yng ngofal y Cyngor sydd angen lleoliad preswyl ar hyn o bryd ac nid oes lleoliadau digonol ar gyfer gynnig y gwasanaeth hynny ar hyn o bryd heb allanoli. Atgoffwyd bod nifer o blant wedi eu lleoli mewn ardaloedd tu hwnt i Gymru ar hyn o bryd megis Bryste a Northumbria.

 

Cadarnhawyd mai nod y cynllun yw disodli’r angen i allanoli gyda darpariaeth a gyflenwir gan y Cyngor, gan lwyddo i ddarparu gofal preswyl i blant mewn gofal am gost sylweddol is na’r costau cyfartalog presennol.

 

Eglurwyd bod y cynllun yn lleoli 2 blentyn mewn gofal mewn tŷ yn y gymuned er mwyn sicrhau bod ganddynt gartref sefydlog pan nad yw maethu yn ddatrysiad priodol ar eu cyfer. Manylwyd ar nifer o fanteision y cynllun gan gynnwys derbyn gofal yn Gymraeg, parhau yn eu hysgol leol a pharhau i feithrin perthynas gyda theulu a ffrindiau ble’n bosibl. Cadarnhawyd mai prif ddiben y Cynllun yw darparu gofal arbenigol Cymraeg i blant yn lleol gan ddiddymu’r angen iddynt adael y sir, neu adael Cymru i’w dderbyn. Pwysleisiwyd bod y cynllun yn cydymffurfio gyda Chynllun Cydraddoldeb y Cyngor yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Esboniwyd bod tŷ addas wedi cael ei brynu ym Morfa Bychan ar gyfer cynnig gofal preswyl i blant rhwng 10 ac 18 oed. Amlygwyd mai’r pwyslais ar hyn o bryd yw sicrhau staff i’r tai er mwyn caniatáu i’r cynllun ddatblygu’n amserol cyn ystyried opsiynau o’r fath i’r dyfodol. Ymhelaethwyd y gobeithir prynu dau dŷ arall mewn cymunedau gwahanol yn y Sir yn fuan. Cydnabuwyd bod pryniant a chwblhau addasiadau i’r tŷ cyntaf yn broses araf oherwydd bod polisïau a gweithdrefnau angenrheidiol yn cael eu datblygu ar y cyd gyda datblygiad y tŷ. Pwysleisiwyd bydd pryniannau tai i’r dyfodol yn broses cyflymach oherwydd bydd y polisïau a gweithdrefnau hynny eisoes yn weithredol.

 

Adroddwyd bod angen i’r cynllun cael ei gwblhau erbyn diwedd 2027 gan bwysleisio bydd angen 3 cartref preswyl cofrestredig erbyn hynny. Cydnabuwyd bod nifer o risgiau yn deillio o’r amserlen hyn megis; anhawster i ganfod ail neu drydydd adeilad addas neu anhawster i gael y plentyn cyntaf yn y tŷ cyntaf erbyn mis Medi 2024. Nodwyd hefyd bod heriau recriwtio hefyd yn derbyn ystyriaeth gan yr Adran.

 

Tynnwyd sylw at y sefyllfa gyllidol drwy gadarnhau bod y cynllun yn cael ei ariannu drwy grant RIF/HCF gan gadarnhau bod dwy filiwn o bunnoedd wedi ei glustnodi ar gyfer cyflawni’r cynllun. Esboniwyd bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn prynu tai addas a gwneud addasiadau iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru sy’n angenrheidiol ar gyfer cofrestriad.

 

Cadarnhawyd bod blwyddyn gyntaf y cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda nifer o dargedau’r cynllun yn cael eu cyflawni’n amserol. Ymhelaethwyd bod prif dargedau sydd eisoes wedi eu cyflawni yn cynnwys: Penodi Rheolwr Prosiect, prynu ac addasu’r tŷ cyntaf (ym Morfa Bychan) a datblygu Datganiad o Bwrpas a phosibiliadau ar gyfer y datblygiad.

 

Aethpwyd ymlaen i nodi’r prif dargedau ar gyfer ail flwyddyn y cynllun, gan gynnwys: Penodi Rheolwr ar gyfer y tŷ cyntaf (ym Morfa Bychan), cwblhau addasiadau ar gyfer y tŷ cyntaf ar gyfer cofrestriad Arolygaeth Gofal Cymru, adnabod a phryniant yr ail dŷ ac adnabod trydydd tŷ i brynu neu gyflwyno cais cynllunio ar ddarn o dir yn Arfon sydd eisoes ym meddiant y Cyngor. Cadarnhawyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r Adran Tai ac Eiddo.

 

Anogwyd yr aelodau i gynorthwyo’r Adran i hysbysebu swyddi sydd ynghlwm â’r cynllun o fewn eu wardiau. Nodwyd bod swyddi ar gyfer rheolwr y tŷ cyntaf, chwe swyddog preswyl a swyddi wrth gefn i’w gweld ar wefan y Cyngor ar hyn o bryd yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac ar bosteri. Nodwyd y gobeithir bydd Rheolwr y tŷ yn gallu bod yn gyfrifol am ail dŷ yn y dyfodol er mwyn sicrhau cysondeb o fewn y cynllun tra hefyd yn cydnabod nad oes gormodedd o unigolion a fyddai’n gymwysedig i’r rôl.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Croesawyd y cynllun gan fynegi safbwynt y dylai’r cynllun fod wedi cael ei weithredu flynyddoedd yn ôl. Serch hyn mynegwyd llongyfarchiadau i’r Adran am eu cynnydd diweddar gan fynegi balchder am y cynllun.

 

Pryderwyd am niferoedd y plant fydd yn parhau mewn lleoliadau allsirol ond cydnabuwyd bod angen cychwyn yn rhywle a’i fod yn broses fydd yn cymryd amser. Credwyd y byddai’r cynlluniau yma yn rhoi elfen o normalrwydd i’r plant o gymharu â’r hen gartrefi gofal mawr. Mynegwyd balchder fod yr Adran wedi ymgynghori yn lleol.

 

Esboniwyd nad oedd yn ofynnol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn. Er hyn, cadarnhawyd bod yr Adran wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal, er mwyn sicrhau bod aelodau’r gymuned yn derbyn cyfle i ofyn cwestiynau a mynegi unrhyw bryderon. Cadarnhawyd bod y mwyafrif o’r unigolion yn gefnogol o’r cynllun ond bod yr Adran wedi bod mewn cyswllt gydag un unigolyn sydd wedi datgan pryderon

 

Mewn ymateb i sylw am yr heriau o recriwtio, eglurwyd bod pamffledi wedi eu dosbarthu ddoe yn cyfeirio at ddigwyddiad ym Mhorthmadog a sesiwn i geisio annog ceisiadau am weithwyr.

 

Holwyd sut bydd y ddarpariaeth yn gweithio mewn perthynas merched a bechgyn.  Eglurwyd mai un agwedd bwysig o’r rôl hon fydd asesu cefndir unigolion er mwyn sicrhau bod eu lleoliad preswyl yn addas a hefyd dilyn trefniadau a phrosesau ble’n briodol Nodwyd na fydd gwahaniaethu yn cael ei wneud ar sail merched a bechgyn a bydd y rheolwr yn penderfynu addasrwydd unigolion ar sail asesiadau am eu cefndir a’u hanghenion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am beth fydd yn digwydd pan fydd yr unigolion yn y tai yn troi’n ddeunaw oed, cadarnhawyd bod y cofrestriad yn caniatáu lleoliad preswyl nes yr oedran yma ond ni fydd yr unigolion hynny yn gorfod gadael y tŷ os nad oes darpariaeth addas amgen ar eu cyfer. Eglurwyd mai’r trefniant arferol mewn nifer o achosion yw bod yr unigolion yn symud i ddarpariaeth amgen ble bod cefnogaeth oruchwyliol ar gael. Ymhellach, sicrhawyd bod yr Adran wedi bod mewn trafodaethau gyda GISDA er mwyn defnyddio dau fflat yng Nghaernarfon ar gyfer trydydd cam y ddarpariaeth ble nad yw’r unigolion angen goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus, ond yn hapus i staff daro i mewn o’i bryd i’w gilydd. Pwysleisiwyd bod cyfnewid darpariaeth o’r fath yn cael ystyriaeth gan y gwasanaethau priodol, wrth iddynt droi yn 15 oed, er mwyn i’r cynllun gorau gael ei roi mewn lle iddynt pan yn ddeunaw oed.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ba ffactorau sy’n cael eu cysidro wrth ddewis lleoliad ar gyfer tŷ, eglurwyd bod pellter o drafnidiaeth gyhoeddus yn ffactor bwysig yn ogystal â phellter o’r Ysgol leol a chyfleusterau hamdden. Nodwyd bod ystyriaethau eraill hefyd megis llefydd parcio digonol i staff ac ymwelwyr a bod y lleoliad ddim yn sefyll allan ac yn gweddu i anghenion yr unigolion e.e. preifatrwydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad am y gost o gadw plentyn mewn lleoliad allsirol nodwyd ei fod yn costio tua £6,600 yr wythnos i bob plentyn. Cymharwyd hyn a’r gost wythnosol o redeg un uned sef £440 yr wythnos. Adroddwyd y byddai hyn yn arbediad o £200,000-£250,000 y flwyddyn am bob dau o blant fyddai yn cael eu lleoli’n fewnol.

 

Mynegwyd balchder bod siroedd eraill gogledd Cymru yn awyddus iawn i ddatblygu cynlluniau cyffelyb ac mae trafodaethau mewn lle er mwyn rhannu syniadau, polisïau a chyfleoedd hyfforddi.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith i ddatblygu’r cynllun a mynegwyd datganiadau o pob llwyddiant i’r cynllun. Edrychwyd ymlaen i dderbyn diweddariad pellach pan fydd y plant wedi setlo.

 

PENDERFYNWYD

a)    Derbyn yr adroddiad gan ddymuno pob llwyddiant i’r datblygiad.

b)    Nodi awydd y Pwyllgor i dderbyn diweddariad pan fydd y cartref preswyl wedi agor ac wedi cyfnod o setlo.

 

Dogfennau ategol: