Agenda item

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Nodwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24.

2.     Cymeradwyo cyflwyno’r Aadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio gyda chefnogaeth swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyn:

1.     Nodwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24.

2.     Cymeradwyo cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r Cynllun Twf a’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth gyflawni prosiectau, gan fynegi diolchiadau i swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru am eu gwaith safonol ar hyd y flwyddyn.

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy brif bwyntiau’r Adroddiad gan dynnu sylw penodol at:

 

·       Uchafbwyntiau 2023/24 - Cydnabuwyd bod heriau wedi rhwystro Achosion Busnes Llawn ac Amlinellol rhag cael eu cymeradwyo yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn a diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith er mwyn sicrhau bod yr achosion busnes hynny yn datblygu yn amserol er mwyn eu hystyried yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn ogystal, cadarnhawyd eu bod yn gweithio ar brosiectau amgen megis her Ariannu Hydrogen ac wedi llwyddo i groesawu pum prosiect newydd i ymuno â’r Cynllun Twf. Pwysleisiwyd bod nifer o Achosion Busnes Amlinellol, megis Rhwydwaith Talent Twristiaeth a Chyn Ysbyty Gogledd Cymru, ac Achosion Busnes Llawn, megis Gwaith Treulio Anerobig Glannau Dyfrdwy wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn ystod ail hanner y flwyddyn. Ymhelaethwyd bod Achos Busnes Llawn Cyn Ysbyty Gogledd Cymru bellach wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

·       Canolfan Proeseu Signalau Digidol (DSP) – Cadarnhawyd mai dyma’r prosiect cyntaf i gyrraedd y nod o gyflawni ac mai 2023/24 oedd ei ail flwyddyn o wneud hynny. Ymfalchiwyd bod y prosect wedi arwain at greu 13 o swyddi ac wedi cynhyrchu GVA ychwanegol o £1.275m. Ymhelathwyd bod y prosiect bellach wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £1.5m. Nodwyd bod y prosiect yn parhau i gydweithio gydag 18 o bartneriaid ac bod 53 o bobl wedi mynychu sesiynau sgiliau a hyfforddi yn ystod y flwyddyn.

·       Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter -  Mynegwyd balchder bod gwaith adeiladu’r ganolfan wedi cychwyn ers Chwefror 2024 ac bod y gwaith yn parhau i ddatblygu o flaen targedau amser. Atgoffwyd bydd y ganolfan yn adeilad arloesol er mwyn datblygu cydweithrediad busnes a datblygu sgiliau mewn opteg, ffotoneg a deunyddiau cyfansawdd, fel dewisiadau amgen ysgafn ar gyfer gweithgynhyrchu. Nodwyd hefyd bydd y datblygiad yn integreiddio hydrogen fel ffynhonnell tanwydd amgen gan gyfrannu at arferion cynaliadwy mewn diwydiant drwy leihau allyriadau carbon cwmnïau’r rhanbarth. Pwysleisiwyd mai rhan allweddol o’r prosiect yw denu buddsoddiad i ogledd Cymru a chreu cyflogaeth leol, gan bwysleisio y rhagwelir  oddeutu 70 i 90 o swyddi newydd yn cael eu creu o fewn y ganolfan ac dros fil o bobl wedi’u hyfforddi i ddarparu datrysiadau arloesol ar gyfer  dyfodol.

·       Cronfa Band Eang Lleol - Eglurwyd bod y prosiect wedi uwchraddio cysylltiadau band eang ar 17 safle a reolir gan y sector gyhoeddus ac wedi gosod band eang ffeibr optig sydd â gallu gigabit mewn ardaloedd yr awdurdodau lleol a safleoedd iechyd yn Wrecsam, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy. Cydnabuwyd nad oes modd adrodd ar yr effaith ehanganch o’r gwaith hyd yma ond mae’r cyflenwyr wedi cadarnhau bydd data o’r fath ar gael yn fuan i’r Aelodau.

·       Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol - Atgoffwyd yr Aelodau bod Cynllun Sgiliau cyfredol y bartneriaeth yn weithredol ers blwyddyn erbyn hyn a bod gwaith y bartneriaeth yn ffocysu ar y flaenoriaeth o ‘Alluogi a Grymuso Cyflogwyryn ogystal â ‘Galluogi a Grymuso Unigolion’.

o   Adroddwyd bod swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda cyflogwyr yn y sector carbon isel er mwyn deall eu anghenion cyn cydweithio gyda cholegau a phrifysgolion er mwyn cyfarch unrhyw fwlch mewn sgiliau allweddol. Cydnabuwyd nad oedd busnesau yn ymwybodol o ddarpariaeth a chyfarpar arloesol a oedd ar gael yng Ngogledd Cymru. Pwysleisiwyd bod hyn wedi arwain at datblygiad prosbectws sgiliau a oedd yn rhannu gwybodaeth am y sgiliau a ellir eu meithrin mewn colegau a phrifysgolion yn y rhanbarth. Mynegwyd balchder bod y prosbectws yn arfogi cwmnïau i ail-hyfforddi eu staff yn ac yn rhoi hyder i unrhyw un sydd yn symud i’r ardal, bod y sgiliau hyn ar gael i'w dysgu yma.

o   Cyfeiriwyd at y gwaith mae’r bartneriaeth wedi bod yn ei wneud gyda HMP Berwyn er mwyn recriwtio cyn-droseddwyr. Ymfalchiwyd bod y cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus gan bod swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda cyflogwyr ac bod nifer o gyn-droseddwyr wedi llwyddo i gael swydd ar ôl gadael y carchar. Pwysleisiwyd bydd y gwaith hwn yn parhau dros y flwyddyn nesaf.

o   Adroddwyd bod swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda phobl ifanc er mwyn eu haddysgu ar lwybrau gyrfa a'u cynorthwyo i lwyddo i’w ddilyn tra’n aros o fewn y rhanbarth. Esboniwyd bod swyddogion wedi llwyddo i wneud hyn drwy hyrwyddo cyrsiau sydd ar gael o fewn y rhanbarth yn ogystal â thynnu sylw at swyddi sydd ar gael yng Ngogledd Cymru. Adroddwyd bod hyn yn cael ei dreialu ar hyn o bryd drwy gynllun peilot ar y cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Manylwyd bod y bartneriaeth yn cydweithio gyda’r pum ysgol uwchradd yn y Sir er mwyn integreiddio llwybrau gyrfa mor fuan â phosib pan mae pobl ifanc yn symud i ysgolion cynradd. Esboniwyd bydd y peilot yn cael ei ymestyn i Gyngor Sir y Fflint dros y flwyddyn nesaf.

o   Ymchwil Sgiliau Digidol – Cyfeiriwyd at ymchwiliad a gomisiynwyd gan y Bartneriaeth Sgiliau a oedd yn ymgysylltu â sefydliadau ym mhob sector. Nodwyd y dechreuwyd y gwaith drwy holiadur ac fe dderbyniwyd 68 o ymatebion ar draws y rhanbarth o wahanol sectorau. Cydnabuwyd bod nifer o faterion wedi codi o fewn yr holiadur hwn gan gynnwys diffyg mewn amrywiaeth o fewn y gweithleoedd, gyda llai o fenywod yn gweithio mewn rhai meysydd. Tynnwyd sylw at nifer o agweddau cyffrous sydd ar y gweill megis Deallusrwydd Artiffisial  a gemau technolegol.

o   Adroddwyd bod yr ymchwiliad a gomisiynwyd wedi arwain at 8 argymhelliad ar gyfer y dyfodol, ac bod y nifer helaeth ohonynt yn manylu ar gasglu gwybodaeth er mwyn sicrhau ei fod ar gael i gyflogwyr ar draws y rhanbarth. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn gwireddu’r 8 argymhelliad yma fel targedau i’r dyfodol drwy nifer o wahanol fideos, cyfarfodydd, ymgyrchoedd ac astudiaethau achos. Cadarnhawyd bod yr adroddiad ar gael i'r Aelodau os ydynt yn dymuno cael golwg drosto.

o   Pecyn Cymorth y Person Ifanc - Esboniwyd bod y pecyn wedi cael ei rannu i bedwar rhan er mwyn adlewyrchu bod pob person ifanc yn wahanol ac yn dysgu mewn gwahanol ddulliau. Manylwyd mai’r pedair rhan yw; dogfen PDF ysgrifenedig, fideo wedi ei animeiddio, astudiaethau achos ysgrifenedig ac astudiaethau achos ar ffurf fideo. Esboniwyd mai thêm cyffredin ar draws yr holl rannau hyn ydi sgiliau trosglwyddadwy ac arddangos y gwahanol ffyrdd sydd ar gael i gyrraedd targedau gyrfaol. Ymfalchïwyd bod dros 2000 o ymweliadau i’r wefan ers iddo gael ei lansio ym mis Ionawr, gyda’r ddogfen PDF yn cael ei lawrlwytho dros 1000 o weithiau.

·       Cynlluniau Ynni Ardal Leol a Strategaeth Ynni Rhanbarthol - Nodwyd bod swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos gyda chyflenwyr ac yr awdurdodau lleol yn ogystal â rhanddeiliaid er mwyn datblygu cynlluniau ynni. Pwysleisiwyd mai prif nod y tîm yw cefnogi gwaith swyddogion yr awdurdodau lleol tra’n sicrhau cysondeb ar draws yr holl ranbarthau a bod cydymffurfiaeth barhaus gyda Strategaeth Ynni Rhanbarthol a Chynlluniau a Pholisïau Cenedlaethol. Cadarnhawyd bod datblygiad y strategaeth a chynlluniau hyn wedi bod yn broses trylwyr iawn gyda nifer uchel o gyfraniadau gan bartneriaid. Diolchwyd i bawb am rannu barn a’u profiadau er mwyn sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cynorthwyo targedau i gyrraedd Sero Net Carbon. Adroddwyd bod y cynlluniau terfynol yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a thargedau yn gywir a byddent yn cael eu cyfieithu a’u rhannu gyda’r awdurdodau lleol mor fuan â phosib.

·       Cyllid Ffyniant Gyffredin - Atgoffwyd yr Aelodau bod dros filiwn o bunnoedd wedi ei sicrhau o gyllid Ffyniant Gyffredin er mwyn cyflawni ffrydiau gwaith sy’n cyd-redeg â chynlluniau’r Cynllun Twf. Mynegwyd balchder bod nifer o’r ffrydiau gwaith bellach yn weithredol. Rhannwyd diweddariad ar y ffrydiau gwaith gan nodi:

o   Sgiliau a Chyflogaeth – Nodwyd bod cwmni Tropic wedi cael ei gomisiynu er mwyn datblygu Portal Sgiliau a Chyflogaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o swyddi sydd ar gael yn y rhanbarth ac ysbrydoli pobl ifanc i ystyried cwrs gyrfa mewn sectorau sy’n flaenoriaeth o fewn yr ardal.

o   Buddion a Gwerth Cymdeithasol – Adroddwyd bod swyddog yn datblygu llwyfan monitro ar-lein ar gyfer ymrwymiadau gweth cymdeithasol ac bydd arferion gorau yn cael eu rhannu ar draws y rhanbarth.

o   Ynni a Sero Net – Cadarnhawyd bod grantiau bychan ar gael i fusnesau bychan a chanolig drwy brosiect er mwyn eu cynorthwyo i ysgrifennu bidiau yn llwyddiannus, gan obeithio bydd y cwmnïau wedyn yn mynd yn eu blaenau i wneud cais i brosiect ‘Ynni Lleol Blaengar’ y Cynllun Twf pan fydd yn weithredol.

o   Digidol – Adroddwyd mai dyma’r ffrwd gwaith mwyaf o fewn y cynllun gan gynnwys ‘Cefnogaeth Gymunedol Ddigidol Wledig’, ‘Asesiadau Cysylltedd SME’, ‘Cytundebau Mynediad’ ac ‘Arolwg Darpariaeth Signal Symudol’.

 

          Edrychwyd ymlaen at y flwyddyn nesaf gan nod ei fod yn brysur iawn gyda nifer o brosiectau ar y gweill. Cadarnhawyd bod nifer o Achosion Busnes i’w hystyried dros y flwyddyn gan gynnwys ‘Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy’, ‘Rhwydwaith Talent Twristiaeth’, Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, LPWAN, Cydnerth, Parc Bryn Cegin, Advanced Wireless ac Anturiaethau Cyfrifol.

 

          Tynnwyd sylw y gobeithir bydd trosglwyddiad y Swyddfa Rheoli Portffolio a’r Cynllun Twf i Gyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn digwydd o fewn y flwyddyn gyfredol, gan olygu bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod trefniadau mewn lle i gael trosglwyddiad llwyddiannus.

 

          Yn ogystal, cyfeiriwyd at nifer o ddatblygiadau ble mae swyddogion yn caffael ar gyfer prosiectau. Manylwyd bod rhain yn cynnwys: Ynni Lleol Blaengar, Canolfan Biotechneg Amgylcheddol, Rhwydwaith Talent Twristiaeth, Cydnerth, Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter ac Fframwaith AAP. Edrychwyd ymlaen i weld y datblygiadau yn y prosiectau hyn yn ogystal â holl ddatblygiadau eraill dros y flwyddyn i ddod.

 

          Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith parhaus.

 

Dogfennau ategol: