Agenda item

Dylan J Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Nodwyd y diweddariad cynnydd ar waith i sefydlu CBC y Gogledd ac ymateb i’r tasgau sy’n ofynnol gan ei swyddogaethau statudol.

2.     Nodwyd y cynllun wedi’i ddiweddaru a’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

3.     Cymeradwywyd bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael ei ymestyn tan 31 Hydref 2024.

4.     Cytunwyd bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd petai llithriad yn yr amserlen, i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar amserlen amgen i drosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodwyd y diweddariad cynnydd ar waith i sefydlu CBC y Gogledd ac ymateb i’r tasgau sy’n ofynnol gan ei swyddogaethau statudol.

2.     Nodwyd y cynllun wedi’i ddiweddaru a’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

3.     Cymeradwywyd bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael ei ymestyn tan 31 Hydref 2024.

4.     Cytunwyd bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd petai llithriad yn yr amserlen, i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar amserlen amgen i drosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i CBC y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2021/Ionawr 2022, bu’r Cabinet a Phwyllgorau Gwaith ym mhob un o’r chwe Awdurdod Lleol gytuno, mewn egwyddor, y dylid trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru drwy gytundeb dirprwyo i’r CBC. Mae’r fframwaith statudol a sefydlu’r CBC yn golygu bod angen symud ymlaen gyda’r trosglwyddiad arfaethedig. Mae angen cymeradwyaeth gan sefydliadau partner a llywodraethau cyn y gellir trosglwyddo.

 

Gosodwyd 1af o Orffennaf fel dyddiad targed dros dro ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Y Gogledd. Fodd bynnag, roedd y dyddiad hwn yn amodol ar y sail y gallai sawl factor effeithio arno, gan gynnwys yr angen am gytundeb partner a llywodraeth i drosglwyddo’r Cynllun Tŵf; Gofynion penderfyniadau ac amserlenni; cyfyngiadau capasiti Mewnol ac ystyriaethau TUPE. Mae yna benderfyniadau allweddol y mae angen eu gwneud i gyflawni’r trosglwyddiad a llai arwain at rai meysydd trosglwyddo yn cael eu gwneud yn ystod cyfnod yr Hydref 2024. Ystyrir and oes modd cyflawni’r dyddiad trosglwyddo arfaethedig ar 1af o Orffennaf 2024. Mae’r adroddiad hwn a’r penderfyniadau sy’n ofynnol yn nodi’r cynllun a’r amserlenni diwygiedig.

 

TRAFODAETH

 

Diolchwyd i holl swyddogion cysylltiedig Uchelgais Gogledd Cymru a’r Awdurdod Lletyol am eu gwaith i baratoi adroddiad eglur o’r sefyllfa bresennol. Cydnabuwyd nad yw’n sefyllfa ddelfrydol gan nodi bod yr Adroddiad yn manylu ar yr heriau hynny sydd wedi cyfrannu tuag at y sefyllfa bresennol. Ymhelaethwyd hefyd bod capasiti swyddogion wedi cyfrannu at yr heriau a wynebwyd.

 

Tynnwyd sylw at gymhlethid y tasgau sydd angen eu cwblhau yn ogystal â’r trefniant allweddol o bryd ddylai holl dasgau gael eu cyflawni. Manylwyd ar y wybodaeth hyn drwy gyfeirio at Atodiad 1. Rhannwyd enghreifftiau o fanylder y tasgau drwy gadarnhau bod angen i holl awdurdodau lleol y rhanbarth a’r Llywodraeth gytuno ar bob cam o’r prosesau, yn ogystal â datblygu polisïau a phrosesau cadarn. Cydnabuwyd bod aneglurder ar faterion cyllidol hefyd yn her sydd wedi cael ei wynebu yn ddiweddar. Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau bod pob tasg wedi ei gwblhau a phrosesau digonol mewn lle, cyn i’r trosglwyddiad ffurfiol gael ei wneud, er mwyn sicrhau lleihad mewn risgiau i’r dyfodol. Cadarnhawyd ei fod yn allweddol i addasu dyddiad y trosglwyddiad o fis Gorffennaf i fis Tachwedd, gyda’r gobaith bydd yr holl brosesau mewn lle erbyn hynny.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd nad oes modd sicrhau bydd y trosglwyddiad mewn lle erbyn diwedd mis Hydref 2024 oherwydd mae siawns bydd materion anrhagweladwy yn effeithio ar ddatblygiad y prosesau angenrheidiol hynny, a chydnabuwyd bod swyddogion wedi derbyn beirniadaeth am fethu amserlenni ar y pwnc hwn yn y gorffennol. Yn dilyn trafodaeth fer, cadarnhawyd bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau, os bydd yr angen i ymestyn dyddiad y trosglwyddiad yn codi, yn nodi’r rhesymau pam bod dyddiad y trosglwyddiad wedi llithro. Er hyn, pwysleisiwyd bod swyddogion yn hyderus bodd y targed a osodwyd yn yr adroddiad yn gyraeddadwy.

 

Ysyriwyd nad oes yna drafodaethau manwl wedi cael eu cynnal gyda’r sector breifat ar hyn o bryd, mewn cyswllt gyda’r trosglwyddiad. Sicrhawyd bydd y trosglwyddiad hwn yn gyfle i ddatblygu perthynas arloesol gyda’r sector breifat ar gyfer y dyfodol, gan bwysleisio bod y cyswllt gyda’r sector breifat yn hanfodol ar gyfer llwyddiant. Sicrhawyd bod rôl y sector breifat ac ymgynghorwyr o fewn y cyd-bwyllgor newydd yn cael sylw parhaus gan swyddogion.

 

Mynegwyd dymuniadau am sut byddai cyllideb Ffyniant Cyffredin yn cael ei ddyrannu i’r dyfodol yn dilyn etholiad cyffredinol. Atgoffwyd yr Aelodau ei fod yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2025, a bydd unrhyw barhad pellach yn ddibynnol ar ddatblygiadau gwleidyddol newydd.

 

Dogfennau ategol: