Agenda item

I dderbyn adroddiad gan Mr Dylan Bowen, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus,  a Sian Lewis, Noddwr Cynlluniau Masnachol (Network Rail), i’r cyfarfod.

 

(A)         Eglurodd Sam Hadley mai ef fydd yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor hwn i’r dyfodol  ac fe anogwyd yr Aelodau i gysylltu ag ef yn uniongyrchol gydag unrhyw faterion o bryder iddynt.  Ymatebodd i’r cwestiynau ffurfiol a gyflwynwyd gan nodi fel a ganlyn:

 

(a)           Croesfan Talwrn Bach, Llanbedr – beth yw’r diweddaraf ynglyn a gosod bariau ar y groesfan o ystyried bod trafnidiaeth yn cynyddu dros y groesfan hon yn ddyddiol a gyda’r Neuadd bentref yn cael ei ail-leoli (dros dro) i safle’r maes awyr, bydd mwy o drafnidiaeth eto.

 

Cefnogodd sawl aelod yr un pryderon a’r Cynghorydd Annwen Hughes, aelod lleol dros Llanbedr, a’i fod yn fater sydd wedi ei godi yn y pwyllgor hwn ers blynyddoedd lawer a bod gwir angen datrys y mater unwaith ac am byth.   

 

 

Mewn ymateb, eglurwyd y bydd ymchwiliad o’r safle yn digwydd diwedd y flwyddyn ac fe addawyd y byddir yn hysbysu’r Swyddog Cefnogi Aelodau gan gyflwyno adroddiad cynhwysfawr ynghyd ag amserlen o’r datblygiad.   

 

 

(b)          Ysbwriel ar y rheilffordd yn ardal Cricieth yn benodol ochr ddwyreiniol y dref o’r Graig Ddu at Morannedd.

(c)          Nifer o goed a llwyni wedi gor-dyfu ar hyd y rheilddord – beth yw cynlluniau Network Rail i dorri/rheoli’r tyfiant ac i gael gwared o llysiau dial.

 

Mewn ymateb, esboniwyd bod Network Rail yn cael gwared o ysbwriel ond bod yn rhaid blaenoriaethu e.e. bod prosiect enfawr yn Sir Fflint i glirio ar hyn o bryd yn wyneb y ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yno gyda’r awdurdod lleol wedi darparu sgip a staff i gynorthwyo. 

 

O safbwynt rhaglen llystyfiant, cadarnhawyd os oes unrhyw dyfiant yn broblemus fe fyddir yn blaenoriaethu.  O safbwynt llysiau dial bod gan Network Rail gyfrifoldeb cyfreithiol i’w waredu os yn lledaenu ar dir trydydd parti. Gofynnwyd i’r aelod lleol am gyfeiriadau penodol lle mae llysiau’r dial yn broblemus ac fe fyddir yn dilyn hyn i fyny yn ddi-oed.

 

(ch)      Ysbwriel rhwng Penychain a Phwllheli.

 

Eto, cadarnhaodd y swyddog y byddir yn ymdrin a’r uchod a bod Network Rail llawer iawn mwy ymatebol yng Ngogledd Cymru ac fe groesawir unrhyw gydweithrediad gyda Chynghorau lleol.

 

Penderfynwyd:          (a)        Diolch i’r swyddog am yr ymateb a gofyn iddo ddilyn hwy i fyny yn ddi-oed.

 

                                    (b)       Bod y Cynghorydd Eirwyn Williams yn rhoi cyfeiriadau penodol lle mae’r llysiau dial yn lledaenu ar dir trydydd partion fel bo modd i’r Cydlynydd Cynnal a Chadw Gweithredol fedru mynd i’r afael a’r broblem. 

 

 

(B)         Derbyniwyd cyflwyniad ar ffurf sleidiau gan Sian Lewis, Noddwr Cynlluniau Masnachol  Network Rail, ar gefndir Traphont Abermaw, y gwaith hyd yma, sgop y rhaglen waith ynghyd a’r risgiau a’r sialensau ynghlwm a’r gwaith atgyweirio i draphont eiconig sydd yn rhestredig (Gradd II).  

 

Amlinellwyd y gwaith a gyflawnwyd hyd yma sef:

 

  • Ymweliadau safle dros haf 2015 er mwyn darganfod cyflwr presennol y draphont
  • Cynhyrchu adroddiad o ddewisiadau lefel uchel ar gyfer strwythurau metalig a phren
  • Cyfarfod gyda rhanddeiliaid megis Grwp Mynediad Traphont Abermaw (B-VAG)
  • Cyfarfodydd gyda CADW, Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri

 

Nodwyd bod y gwaith wedi ei rannu yn ddau sef Gwaith Brys a Gwaith Datblygu ac fe amlinellwyd sgop y gwaith fel a ganlyn:

 

Gwaith Brys:

 

·         Cynllun datblygu i ymgymryd ag atgyweiriadau i’r strwythur dur

·         Gwaith yn cynnwys ail-osod rhybedi a deunyddiau eraill tebyg at debyg

·         Disgwylir dyluniad cychwynnol erbyn diwedd mis Mai

·         Anelir i’w gyflwyno i CADW a’r awdurdodau lleol ym mis Mehefin / Gorffennaf

·         Cymeradwyaeth o’r dyluniad cychwynnol dros yr haf

·         Dylunio manwl i’w ddatblygu Hydref 2016

·         Dechrau ar y safle Gwanwyn 2017

 

Gwaith Datblygu:

 

  • Datblygu a chynhyrchu adroddiad opsiynau dros yr haf
  • Cyflwyno i CADW a’r awdurdodau lleol ym mis Medi 2016
  • Rhagwelir cyfarfodydd pellach gyda CADW a’r awdurdodau lleol yn ystod yr Hydref i gytuno ar opsiwn ffafriol, a obeithir ei gael erbyn diwedd y flwyddyn
  • Ar hyn o bryd amcangyfrifir y bydd y dyluniad yn cymryd blwyddyn neu fwy oherwydd natur sensitif y strwythur
  • Gwaith gwirioneddol ar y safle i ddilyn rhywben yn 2018
  • Pob un o’r uchod yn ddibynnol ar y camau dyluniad cychwynnol ac ymgynghoriad gyda’r rhanddeiliaid

 

Yng nghyd-destun y sialensau a wynebir, nodwyd y byddai rhain yn cynnwys:

 

  • Ymgynghori gyda’r rhanddeiliaid
  • Caniatadau / amodau strwythur rhestredig
  • Anghenion ecologeol / amgylcheddol
  • Ddim yn gwybod hyd y gwaith a faint o aflonyddwch fydd ar y rheilffordd

 

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau i’r swyddog ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

(a)   Gwnaed apel gan y Cadeirydd ac Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd i fod yn realistig gyda’r amserlen gwaith o gofio trafferthion a fu gyda’r oedi yn deillio o atgyweirio Pont Briwet, Penrhyndeudraeth, a hyderir bod gwersi wedi dysgu o hyn.  Yn ogystal, nodwyd bwysigrwydd ac apeliwyd i Network Rail   gyd-weithio gyda Threnau Arriva Cymru. 

(b)  Pwysigrwydd i hysbysebu’r cyhoedd o’r hyn sy’n digwydd

(c)  Gofynnwyd am sicrwydd y byddai’r llwybr yn ymyl y bont yn aros yn agored ac anogwyd cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd yn hyn o beth

(d)  Bod yr  A496 yn briffordd brysur iawn ac yn beryglus yn sgil nifer o ddamweiniau sydd wedi digwydd yn ddiweddar ac y dylid ystyried cyfyngiad o 40 m.y.a. ar y ffordd.  Pe byddai dawain ar y ffordd dan sylw golygai hyn i orfod dargyfeirio teithwyr oddeutu 60 milltir.

 

Penderfynwyd:    Derbyn, nodi a diolch am y cyflwyniad.