Agenda item

I ystruroed yr adroddiad, er gwybodaeth

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

COFNODION:

 

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd â gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariad ar amrywiol brosiectau.

 

Cyfeiriwyd at berfformiad dyletswyddau craidd y gwasanaeth ar gyfer 2023/24 i gymharu â 2022/23 gan nodi bod y perfformiad wedi gwella ar bob llinell gan amlygu gwelliant sylweddol mewn ’nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i anfon llythyr dyfynbris yn rhoi manylion trosglwyddiad allan’. Adroddwyd bod staff ychwanegol wedi cael eu penodi i ymateb i’r galw yn y gwasanaeth yma ac o ganlyniad y perfformiad wedi gwella e.e., er bod nifer achosion wedi cynyddu o 218 i 745 bod y nifer diwrnodau ‘ymateb’ wedi gostwng o 17.11 i 13.26. Y gwaith yma hefyd wedi sicrhau bod cofnodion o’r bobl hynny sydd yn gadael yn gywir a chyflawn ar gyfer y dashbwrdd.

 

Tynnwyd sylw at yr arolwg boddhad Gwasanaeth sydd yn cael ei anfon at Aelodau ar ddiwedd pob proses i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 162 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr arolwg yn ystod 2023/24 gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (99% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel).

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant a phoblogrwydd y wefan ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan amlygu bod nifer o aelodau yn ymweld â’r safle yn ddyddiol ac oddeutu 20,000 wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hyd yma. Nodwyd bod y Gwasanaeth yn cysylltu gyda chyflogwyr iddynt annog staff i drosglwyddo bob yn dipyn fel bod modd delio gydag unrhyw sefyllfa all godi - y gobaith yw cwblhau'r gwaith erbyn diwedd Haf 2024.

 

Mynegwyd bod fersiwn newydd o safle we hunan wasanaeth wedi cael ei lansio 10/04/2024. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu gyda chyflogwyr i ofyn iddynt annog staff i drosglwyddo bob yn dipyn i’r safle newydd fel bod modd delio gydag unrhyw sefyllfa all godi - y gobaith yw cwblhau'r gwaith erbyn diwedd Haf 2024.

 

Wrth drafod Y Rheoleiddiwr Pensiynau - Mesur Data atgoffwyd yr Aelodau bod cwmni Aquila Heywood wedi cael eu comisiynu yn y gorffennol i gynhyrchu Adroddiad Ansawdd Data ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd. Bellach, nodwyd bod meddalwedd bellach ar gael i redeg yr adroddiad hwn yn fewnol. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cael ei rannu i ddwy ran (data Cyffredin a Data Penodol i’r Cynllun). Cyfeiriwyd at un categori nad oedd wedi cyrraedd y meincnod (cyfeiriadau) a bod hyn yn ymwneud a phobl sydd wedi symud i fyw a heb roi gwybod i’r gwasanaeth o’u cyfeiriad newydd. Erbyn hyn, mae proses o olrhain y cyfeiriadau gyda Heywood, a’r gobaith yw gweld gwelliant i’r dyfodol yn y categori yma.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Yn llongyfarch y staff ar y perfformiad  - y ffigyrau yn ardderchog

·         Bod y system ar-lein newydd yn hawdd i’w ddefnyddio

·         Bod 99% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd o safon uchel - hyn yn creu ymdeimlad o falchder

·         Bod yr adroddiad yn un cynhwysfawr a’r canlyniadau yn rhai positif iawn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Dogfennau ategol: