I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu cefndir
y cynllun uchod sy’n cael ei
arwain gan y chwe awdurdod lleol
ar gyfer darparu'r sgiliau a’r gefnogaeth addas i ddisgyblion a phobl ifanc mwyaf
bregus y Sir.
(b) Eglurwyd mai Cyngor Sir Dinbych sy’n arwain
parthed rheolaeth a monitro cynllun busnes rhanbarthol a’i fe’i cyllidir
drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda’r bwriad i gychwyn y cynllun Medi 2015 hyd at Awst 2018 gyda phosibilrwydd i’w ymestyn hyd at Awst 2020. Esboniwyd mai nod y cynllun fydd “mabwysiadu
dull weithredu o adnabod disgyblion bregus yn gynnar ac ymateb
i’w anghenion trwy ddarparu cwricwlwm
a chefnogaeth addas ar eu cyfer”.
(c) Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr
Aelod Cabinet Addysg a’r swyddogion iddynt fel a ganlyn:
·
Mai 8 o swyddi fydd yn rhan
o’r cynllun gyda’r Rheolwr eisoes wedi ei
phenodi i gychwyn mis Tachwedd. Eglurwyd y bydd 6 o’r swyddi
yn rhai gweithredol
gyda dwy ohonynt o dan y teitl Gweithwyr Cymdeithasol Addysg a fydd yn gallu gweithio
gyda theuluoedd a phlant i oresgyn rhwystrau sydd ddim yn cyfarfod
â meini prawf anghenion Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd y 4 swydd arall yn canolbwyntio ar bresenoldeb, gweithiwr ieuenctid yn ysbrydoli
plant a phobl ifanc i ennill achrediadau a gweithiwr chwaraeon a fyddai’n rhan o dîm a fyddai’n targedu anghenion y bobl ifanc ac yn
eu cefnogi i barhau mewn addysg wedi
iddynt ymadael o ysgolion
·
Bod arian cyfatebol yn cael
ei gyfrannu o’r gwasanaeth sydd eisoes yn
yr ysgolion o ran strategaeth cynhwysiad, cefnogi plant yn y prif lif, gwasanaeth lles a’r gwasanaeth
cynnal ymddygiad canolog.
·
Byddir yn targedu plant o Flwyddyn 7 i fyny ac yn gallu
perchnogi disgyblion ar hyd y daith
addysgol ac yn arbennig y gwaith pontio yn 16 oed
a fydd yn gymorth i ddisgyblion wneud penderfyniadau ynglŷn â’u gyrfaoedd ynghynt.
·
Cadarnhawyd mai 480 o ddisgyblion o Wynedd yw’r nifer o gyfranogwyr
sydd mewn risg ac esboniwyd yr adnabuwyd hwy
drwy’r fframwaith ymgysylltu
·
O safbwynt cymwysterau, pwysleisiwyd y byddai’r swyddogion perthnasol yn weithredol
gyda’r plant yn ddyddiol ac yn ychwanegol bod hyfforddiant gyda nifer eang
o gyrsiau ar gael iddynt ar
gyfer cyflogaeth
·
Bod nifer o blant sydd yn
dadrithio yn is yng Ngwynedd o ran y ganran NEET (Not in Education, Employment or Training) sef oddeutu 7-8% ond eglurwyd y byddai’r cynllun Trac yn cyfarch
anghenion y plant wedi iddynt fod mewn
Colegau ac yn methu cael cyflogaeth
·
O safbwynt goblygiadau hyfforddiant i staff ysgol, esboniwyd y gwelir bod staff ysgolion yn hyddysg iawn
yn y meysydd dan sylw ond
o dan bwysau cynyddol ac y byddai’r cynllun hwn yn
ysgafnhau baich ysgolion drwy gael
swyddog i weithio am gyfnod estynedig ar y cyd gyda
phlant. Ni ragwelir y bydd gofyn hyfforddi staff ysgolion na ychwaith
bod pwysau ychwanegol arnynt.
·
Bod canran sylweddol o blant sydd yn dadrithio
ar y rhestr anghenion addysgol ychwanegol a bod carfan o blant gydag ymddygiad
dwys a thrwy’r cynllun bod modd mynd i’r rafael
â’r problemau yn gynnar.
·
Bod cryfhau’r cyswllt gyda Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid o dan ystyriaeth ar hyn o bryd a bod y nifer sy’n agored i’r
Gwasanaeth uchod wedi gostwng yn
sylweddol yn genedlaethol ac nad oedd yr Adran
wedi buddsoddi cymaint ag yn y gorffennol. Hyderir, drwy’r cynllun Trac, y gellir lleihau'r disgyblion sydd yn troseddu a’u
cadw i fyw a ffynnu yn lleol.
·
O safbwynt cysylltu gyda chyflogwyr
lleol, esboniwyd bod anghenion yr hyfforddiant
wedi ei ddatblygu
ar lefel 6 awdurdod y Gogledd a bod ystod eang o gyrsiau
cyffredinol wedi eu rhoi mewn
lle ac nad oedd hyfforddiant ar gyfer meysydd
arbenigol. Fodd bynnag, gellir
rhoi ystyriaeth bellach i’r fframwaith
hyfforddi ac y byddai modd cynnal trafodaethau
gyda mwy o gyflogwyr lleol o’u hanghenion.
·
Bod llithriad o ran derbyn y grant ond hyderir y byddir yn symud ymlaen
yn fuan gyda
dyraniad yr arian.
·
O safbwynt pwyso a mesur gwasanaeth
statudol yn erbyn anstatudol, gellir dadlau o wneud buddsoddiad yn gynnar y byddir
yn arbed arian yn y tymor
hir.
·
Y byddai’r Paneli Mynediad Ardal yn gweithredu
ar lefel ardaloedd ac yn rhoi ystyriaeth i flaenoriaethau a’r math o wasanaethau a gynigir. Byddai’r Paneli yn cynnwys gweithwyr y cynllun Trac ynghyd â chynrychiolwyr
o ysgolion.
·
Sicrhawyd o safbwynt datblygu fframwaith gweithredu, y byddir yn cydweithio
hefo Gwasanaeth Gyrfa Cymru
·
Sicrhawyd ymhellach yn deillio
o bryder ynglŷn â thensiwn daearyddol o ddosraniad yr arian rhwng
y 6 awdurdod y byddai’r arian yn cael
ei gyfeirio yn unol â meini
prawf a lle fyddai’r anghenion.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys
yr adroddiad ar y prosiect sydd
yn ei ddyddiau
cynnar.
(b) Gofyn i’r Gwasanaeth
Addysg gyflwyno diweddariad
ar y cynllun ymhen blwyddyn o’i weithredu.
Dogfennau ategol: