Agenda item

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

                                                                                                                                          

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarterol (hyd 31ain Rhagfyr 2023) Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth

 

Cofnod:

 

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC. Eglurwyd bod yr adroddiad yn cysoni’r wybodaeth mae pob cronfa yng Nghymru yn ei dderbyn ynghyd a chynnwys penderfyniadau’r Cydbwyllgor Llywodraethu a diweddariad chwarterol safonol. Tynnwyd sylw at drafodaeth yng nghyfarfod mis Mawrth 2024 o’r Cydbwyllgor oedd yn cynnwys y broses tendro i ddarparwyr eiddo (y canlyniad i’w ddatgelu yn fuan), ynghyd ag adroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan (sydd ar gael ar wefan y bartneriaeth) a’r eitemau arferol (cynllun hyfforddiant a’r cynllun busnes).

 

Yn niweddariad y Gweithredwr, amlygwyd bod yr holl gronfeydd sydd gan y Bartneriaeth bellach wedi’i sefydlu, a bod Gwynedd wedi’i bwlio mewn 7 ohonynt.  Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at unrhyw amodau’r farchnad sydd wedi cael eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw hefyd at ddadansoddiad fesul is-gronfa o’r perfformiad gan nodi bod y dychweliadau wedi bod yn bositif dros 3 mis a 12 mis a’r ffigyrau yn adlewyrchu yng ngwerth cronfa Gwynedd. Nodwyd hefyd bod cyflwyniad wedi ei wneud gan GCM Grosvenor sef dyranwr isadeiledd y bartneriaeth. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi £3.6m ar 31 Rhagfyr 2023 hyd yma gyda’r cwmni rheoli asedau yma a’r swm yma yn debygol o gynyddu'n sylweddol dros amser.  Bydd cyfle i’r Pwyllgor gwrdd gyda'r rheolwyr newydd isadeiledd yma yn y dyfodol agos.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi diweddariad chwarter 3 (hyd 31ain Rhagfyr 2023) Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth

 

 

Dogfennau ategol: