I ystyried yr adroddiad a’i gynnwys a’i
argymell i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn yn unol a’r gofyn.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan gytuno i wneud man addasiadau cyn ei argymell i’r Cyngor Llawn ar gyfer ei
fabwysiadu.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gan gytuno i wneud man addasiadau cyn ei argymell
i’r Cyngor Llawn ar gyfer ei fabwysiadu.
Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr
adroddiad blynyddol a’i argymell i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn. Eglurwyd
bod yr adroddiad yn amlinellu prif flaenoriaethau’r Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth am y flwyddyn i ddod yn ogystal ag adrodd ar y datblygiadau a
wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Esboniwyd bod yr adroddiad ychydig yn
wahanol eleni a mynegwyd balchder yn ei gynnwys a’i fformat.
Tynnwyd sylw at gynnwys yr adroddiad a’r meysydd gafodd eu blaenoriaethu
yn 2023/24 megis:
·
Diogelwch a Chefnogaeth i
Gynghorwyr oedd yn cynnwys yr elfen iechyd a lles.
·
Hyfforddiant i Gynghorwyr a’r
sgyrsiau datblygiad personol gafodd eu cynnal.
·
Trefniadau Craffu
·
Symud at fod yn Gyngor di-bapur
Cyfeiriwyd hefyd yn yr adroddiad ar nifer o
lwyddiannau 2023/24, er enghraifft yr adborth bositif iawn a dderbyniodd y Tîm
Democratiaeth gan Gynghorwyr, niferoedd y Pwyllgorau gafodd eu gweinyddu a’r
rhaglen lawn o hyfforddiant gafodd ei chynnal a’i datblygu.
I gloi cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth at flaenoriaethau
2024/25 oedd yn cynnwys:
·
Adeiladu ar drefniadau
diogelwch a chefnogaeth i Gynghorwyr
·
Rhesymoli’r rhaglen
hyfforddiant a’r rhaglen briffio ar gyfer Cynghorwyr
·
Gweithredu ar newidiadau i
drefniadau Craffu er mwyn cael y gorau allan ohono
·
Amlygu’r gefnogaeth sydd ar
gael i Gynghorwyr.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol:
-
Credwyd bod yr adroddiad yn
ffeithiol a cadarnhaol iawn a broliwyd y fformat. Gwnaethpwyd rhai sylwadau am
faint a lliw'r ffont mewn rhannau o’r adroddiad gan amlygu ei fod yn anodd ei
ddarllen mewn mannau.
-
Diolchwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac
Iaith, y Tîm Democratiaeth a Galw Gwynedd am y cymorth penodol yn dilyn
dirywiad sylweddol yng ngolwg un o’r Aelodau.
-
Cwestiynwyd y datganiad bod 29 o Gynghorwyr yn parhau i
dderbyn copïau papur dan y rhan Cyngor di-papur gan fynegi bod y nifer yma’n
ymddangos un uchel.
-
Gofynnwyd faint o Gynghorwyr sydd wedi cwblhau’r
hyfforddiant craidd.
-
Holwyd ynghylch y trefniadau Craffu ac os bydd trefn yn
cael ei sefydlu o fonitro faint o wahaniaeth mae Craffu yn ei gael yn ymarferol
o ran y broses o greu penderfyniadau yn y Cyngor. Pryderwyd bod y drefn Craffu
yn cael ei weld fel ymarfer papur a’i bod yn bwysig dangos bod Craffu yn cael
effaith bositif a’n cael ei ystyried ar lefel Cabinet.
Mewn ymateb i’r sylwadau:
-
Nodwyd nad yw’n broblem addasu’r ffont a’r lliwiau cyn
cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor Llawn a croesawyd y sylw.
-
Cydnabuwyd bod angen ail eirio’r
datganiad am y niferoedd sy’n derbyn copïau papur o raglenni Pwyllgorau gan fod
y ffigwr bellach wedi lleihau ymhellach. Cytunwyd bod angen ail eirio er mwyn
amlygu’r lleihad sylweddol sydd wedi bod yn y niferoedd hyn.
-
Eglurwyd bod adroddiad nes mlaen yn y Pwyllgor ar
hyfforddiant a bydd yr adroddiad yno yn manylu ar yr ymdrech i gynyddu’r
niferoedd sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd.
-
Adroddwyd y bydd adroddiad blynyddol Craffu yn cael ei
gyflwyno yn y Cyngor Llawn nesaf a bydd yr adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth
fanwl am effaith Craffu ac yn rhoi enghreifftiau o’r effaith. Cydnabuwyd bod yr
adroddiad yma yn crynhoi bod adolygiad wedi digwydd yn hytrach na rhoi
manylder.
Dogfennau ategol: