Agenda item

I ystyried yr adroddiad, cynnig sylwadau, a derbyn yr hyn a gynigir.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu bod saith maes craidd wedi eu hadnabod fel hyfforddiant allweddol i Aelodau sydd yn ymwneud a chyfreithiau. Nodwyd bod ffocws ar yr hyfforddiant craidd wedi ei roi yn y cyfarfod diweddaf gan dynnu sylw at y niferoedd isel o Aelodau sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant hyn. Amlygwyd bod sylw wedi ei roi i’r mater yma dros y misoedd diwethaf a bod dilyniant i’r Arweinyddion Grwpiau annog Aelodau i gwblhau’r hyfforddiant craidd. Nodwyd nad oedd cynnydd i’w weld eto yn y niferoedd sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant am ei bod braidd yn gynamserol ond bod nifer wedi cysylltu i holi am fanylion pellach.

 

Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at ffurf newydd y rhaglen ddysgu i Aelodau sef yr elfen hyfforddiant craidd, hyfforddiant arall a chyfweliadau datblygiad personol. Amlygwyd pryderon megis cyrsiau yn cael eu rhedeg yn hanner gwag am nad oes diogon o Aelodau yn cofrestru neu ddim yn troi fyny i ddigwyddiadau. Soniwyd am y bwriad i recordio teitlau craidd a’u cynnwys ar y Fewnrwyd Aelodau ond pwysleisiwyd bod angen i Aelodau hysbysu’r gwasanaeth Dysgu a Datblygu ar ôl iddynt gwblhau cwrs.

 

Tynnwyd sylw at faterion eraill megis y gwaith ar y Fframwaith Hunanwerthuso Cefnogaeth i Gynghorwyr fydd yn cychwyn yn y misoedd nesaf a’r holiadur fydd yn cael ei anfon i Aelodau dros gyfnod yr Haf am gynnwys y rhaglen hyfforddiant. Cyfeiriwyd i gloi at ran 2.17 o’r adroddiad gan nodi un cywiriad sef y dylai Cynghorwyr gyfeirio enghreifftiau penodol o ddiffyg ymateb i ymholiadau gan Swyddogion y Cyngor at Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol yn hytrach na’r Prif Weithredwr. Nodwyd bod Geraint Owen yn cymryd cyfrifoldeb dros hyn oherwydd ei gefndir yn y maes yn dilyn i bryderon nifer o aelodau gan eu hamlygu am y mater o ddiffyg ymateb i’w ymholiadau gan Swyddogion y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

-        Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi bod amryw o faterion pwysig wedi eu cynnwys.

-        Amlygwyd y pwysigrwydd i Aelodau droi fyny i gyrsiau gan gyfeirio at enghraifft benodol pan ddaru 4 Aelod droi fyny allan o 11 oedd yn wastraff adnoddau ac amser Swyddogion.

-        Mynegwyd bod y cwrs Sgiliau Cadeirio yn arbennig o dda ac anogwyd yr Aelodau i gymryd mantais o’r cyrsiau sydd ar gael.

-        Cyfeiriwyd at y sesiynau ‘sgyrsiau dros baned’ i Gynghorwyr sy’n ferched gan nodi eu bod yn werthfawr, yn enwedig i Aelodau newydd.

-        Holwyd am ystadegau niferoedd yr Aelodau sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd.

-        Cwestiynwyd pe byddai mwy o Aelodau yn troi fyny i hyfforddiant sy’n cael eu cynnal yn ddwyieithog yn hytrach na Chymraeg yn unig. 

-        Gwnaethpwyd sylw ynglŷn ag adrodd ar ymddiheuriadau pan fo gwrthdaro e.e. Pwyllgor y Cyngor â chyfarfod Corff Allanol yn cael eu cynnal ar yr un amser a holwyd os oes diweddariad ar y mater yma.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau:

-        Ategwyd bod Aelodau sydd ddim yn troi fyny i hyfforddiant yn amsugno adnoddau ac amser prin Prif Swyddogion y Cyngor.

-        Nodwyd y gall yr ystadegau ar niferoedd yr Aelodau sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd gael eu darparu. Adroddwyd y bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael eu cylchredeg i’r Aelodau. Nodwyd bod y wybodaeth wedi ei gynnwys yn adroddiad mis Chwefror o’r Pwyllgor hwn a gan nad oedd llawer o newid i’r ffigyrau ni chafodd y manylion eu cynnwys yn yr adroddiad yma.

-        Credwyd bod y data yn dangos nad yw iaith yr hyfforddiant yn effeithio ar fynychwyr a bod cyrsiau yn cael eu rhedeg yn Gymraeg neu’n ddwyieithog a bod cyfieithydd yn bresennol pe bai rywun eisiau gwrando ar y Saesneg.

-        Nodwyd nad oes diweddariad ar y ffordd mae ymddiheuriadau o gyfarfodydd yn cael eu cofnodi ond pwysleisiwyd bod y Tîm Democratiaeth yn gwneud eu gorau i osgoi gwrthdaro ac yn trafod efo’r tîm Dysgu a Datblygu yn ogystal â sefydliadau allanol fel y Parc ac Awdurdod yr Heddlu. Amlygwyd bod dros 50 o Gyrff Allanol a’i bod yn amhosib osgoi gwrthdaro ymhob achlysur. Ychwanegwyd pan fydd cyfle bod y Tîm yn dymuno rhoi sylw i sut mae ymddiheuriadau ac absenoldebau yn cael eu cofnodi ar y system.

 

Dogfennau ategol: