Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatâd
cynllunio 5/59/500 (Estyniad i'r Chwarel Lechi ac ail gyfeirio Ffyrdd y
Chwarel) er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at
2048 yn Chwarel Cwt y Bugail, Cwm Teigl, Llan Ffestiniog
AELOD LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Jones
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd
gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r canlynol:
·
Y gwaith i ddod i ben ar 31/12/2048, adfer y safle erbyn
31/12/2049.
·
Gweithgareddau a ganiateir a chydymffurfiaeth â’r lluniad /
manylion / cynlluniau / gwybodaeth a gyflwynwyd.
·
Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio am fwynau ynghyd
â'r ardaloedd tipio.
·
Dirymu hawliau GPDO Rhannau 19 a 21 ar gyfer offer neu
beiriannau sefydlog, adeiladau a strwythurau a gwastraff mwynau.
·
Terfyn allforio o 15,000 tunnell y flwyddyn.
·
Deunydd wedi'i allforio wedi'i gyfyngu i'r briffordd
gyhoeddus bresennol.
·
Gweithrediadau tipio i'w cyfeirio tuag at y tirffurf
terfynol.
·
Capasiti tipio wedi'i ddiweddaru.
·
Rheoli cyfyngiadau sŵn.
·
Cyfyngu ar ffrwydro rhwng 07:00 a 20:00 o ddydd Llun i
ddydd Sadwrn. Dim ffrwydro ar ddydd Sul na gwyliau banc na chyhoeddus.
·
Cyflymder gronynnau brig wedi'i gyfyngu i 50mm/ s ar gyfer
95% o ffrwydradau gorlwytho dros gyfnod o dri mis a heb fod yn fwy na 60mm/ s
ar unrhyw adeg.
·
Rhaid mesur anterth cyflymder gronynnau ar y pwynt agosaf
at safle'r ffrwydrad o fewn yr ardal gysgodol a ddangosir yn Lluniad Cyfeirnod
WCYBG2312 Rhif 10.
·
Monitro gweithrediadau ffrwydro i gofnodi cyflymder
gronynnau brig.
·
Adolygiad bob pum mlynedd o’r gweithrediadau.
·
Cyflwyno'r adolygiad cyntaf o fewn 12 mis.
·
Cynllun Adfer manwl.
·
Gwaith adfer graddol / blaengar.
·
5 mlynedd ôl-ofal/monitro.
·
Bydd cynllun ailfodelu tirffurf yn cael ei gymhwyso i
feinciau Chwarel y North Pole a wynebau cysylltiedig fel y nodir ar gynlluniau
ar gyfer creu tirffurf sefydlog a nodweddion i gyd-fynd â bwtresi a chreigiau a
sgri cyfagos.
·
Ar ôl rhoi'r gorau i weithio, bydd y
chwareli/peiriannau/deunyddiau/offer yn cael eu clirio a bydd y safle’n cael ei
gadael mewn cyflwr glân/taclus, meinciau chwarel yn cael eu paratoi, eu trin
a'u plannu gyda fflora o darddleoedd lleol, ffyrdd cludo i gael eu symud.
·
Cyfyngu mynediad i dda byw i'r ardaloedd sydd wedi'u
hadfer.
·
Dim peiriannau nac offer i'w gweithredu heb sgriniau
'lladd' sain priodol ac wedi'u cynnal yn iawn, distawyddion ac ati.
·
Bydd pob cerbyd sy'n cludo deunydd crai neu wastraff yn
cael eu gweithredu mewn modd fel nad ydynt yn cynhyrchu gormod o sŵn.
·
Dim gweithrediadau fydd yn achosi i lwch ffoi godi a bod
pob ardal sy'n cael eu tramwyo gan gerbydau yn cael eu dyfrio i lawr.
·
Bydd cael gwared ar lystyfiant, atgyweirio neu ddymchwel
adeiladau a gweithio ardaloedd ble yn flaenorol cafodd mwynau eu
tynnu/chwarelu/tipio yn digwydd y tu allan i'r tymor nythu er mwyn gwarchod
adar sy'n nythu. Ecolegydd cymwys
·
Dim gweithrediadau i'w gwneud ar yr wyneb heb dynnu a
storio'r pridd uchaf, isbriddoedd a mawn.
·
Priddoedd uchaf ac isbriddoedd i'w hailddefnyddio cyn
gynted â phosibl (Wrth adfer).
·
Priddoedd uchaf i gael eu storio mewn twmpathau heb fod yn
fwy na 2m o uchder.
·
Cofnodi adeilad
hanesyddol y cyfleusterau storio celf a Chynllun Ymchwilio Ysgrifenedig.
·
Cynllun monitro a difa rhywogaethau anfrodorol/ymledol.
COFNODION:
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau yn ymwneud a threftadaeth a thrafnidiaeth
a) Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff
bod Chwarel Cwt y Bugail wedi ei lleoli ar grib Manod
Mawr ac yn cynnwys chwareli Manod, Graig Ddu
a Bwlch y Slater. Adroddwyd
bod y chwarel hefyd yn cynnwys ardal
i brosesu a storio sydd wedi
eu lleoli ar lwyfandir (wedi
ei greu o domen gwastraff llechi) ar lethrau
dwyreiniol y mynydd ac yn cynnwys siediau
torri, ardal storio, siediau ffitio, maes parcio
staff, swyddfa a chyfleusterau
llesiant. Er eglurder, ategwyd nad oedd
yr ardal brosesu'r chwarel, y siediau torri, gweithdai, maes parcio staff ac isadeiledd cysylltiedig eraill i'r dwyrain
o wagle'r chwarel wedi eu cynnwys
yng nghaniatâd cynllunio 5/59/500. Er hynny, roedd Cytundeb Adran 106 cysylltiedig yn berthnasol i'r
holl safle ac yn sicrhau bod cynigion adfer yn cael eu
gweithredu.
Eglurwyd bod ardal gronnus gwaith y chwarel (sydd wedi ei
gynnwys yn y cais Cynllunio) yn fwy na 25ha ac felly dros drothwy datblygiadau
Atodlen 1 dan y Rheoliadau
Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol)
2017. Cyflwynwyd Datganiad Amgylcheddol (DA) fel rhan o'r Asesiad
Effaith Amgylcheddol (EIA) mewn ymateb i'r
gofyniad hwn.
Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad nodwyd, ar hyn
o bryd mai’r polisïau cynllunio lleol perthnasol oedd Polisi Mwynau Strategol PS 22 a Pholisi MWYN 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd ac Ynys Môn 2011 (CDLl).
Datgan Polisi PS 22 y bydd
y Cyngor yn cyfrannu at y galw rhanbarthol a lleol parhaus am gyflenwad o fwynau yn unol ag amcanion
allweddol datblygu cynaliadwy. Nodwyd hefyd bod Polisi Cynllunio Cymru - Argraffiad
12 (PCC 12) yn ymgorffori polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau mwynau ym Mholisi
Cynllunio Mwynau Cymru (2001). Yn unol â gofyn PCC 12, mae gan Cyngor Gwynedd fel yr Awdurdod Cynllunio Mwynau ddyletswydd i sicrhau
bod adnoddau mwynau yn cael eu
defnyddio mewn modd cynaliadwy, fel y gallant gyfrannu'n briodol at ofynion deunyddiau adeiladu'r ardal. Ategwyd bod y cais hefyd yn cydymffurfio
a meini prawf Polisi MWYN 3
sydd yn caniatáu
cynigon datblygu ar gyfer chwilio
am fwynau, mwyngloddio neu ymestyn gweithfeydd presennol i gynnal
banc tir agregau ardal y Cynllun neu ddiwallu’r galw am fwynau eraill.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol a’r dirwedd, nodwyd
y byddai’r datblygiad
arfaethedig yn achosi effeithiau uniongyrchol i dirwedd safle'r cais nad oes
modd eu hosgoi oherwydd natur echdynnu mwynau. Fel rhan o'r dogfennau ategol,
roedd yr ymgeisydd wedi darparu Arfarniad Tirwedd a Gweledol (LVIA) sy'n
ystyried sensitifrwydd dynodiadau tirwedd, ardaloedd preswyl a derbynyddion
hamdden cyfagos. Amlygwyd bod
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi asesu’r dogfennau gan ddarparu dadansoddiad
o’r effeithiau gweledol gan ddadleu y byddai ymestyn gweithrediadau ar y safle’n creu effaith ar
lonyddwch a chymeriad y Parc Cenedlaethol; bod cysyniad y gwaith adfer a
ganiateir ar gyfer yr ardal lle ceir adeiladau/siediau/ardaloedd stocio yn
gymharol niwlog heblaw am gael gwared ar strwythurau a phroffilio'r tir/y domen
llechi a fyddai'n gadael tirffurf ymwthiol.
Mewn ymateb, nodwyd nad
oedd y cais yn un ar gyfer datblygiad mwynau newydd, ac mai estyniad ffisegol a
/ neu addasiadau i'r ardal waith oedd dan sylw. Er hynny, cydnabuwyd bod caniatâd cynllunio, 5/59/500
yn gymharol lac o ran cyfyngiadau ar weithrediadau a all gael effaith sylweddol
ar lonyddwch (h.y., sŵn, ansawdd aer, oriau gweithredol) ac nad oedd yr
adeiladau / gweithdai / siediau llifio, cyfleusterau staff a meysydd parcio
wedi eu cynnwys gan y caniatâd yma, ond o dan nifer o ganiatadau
hanesyddol ar wahân.
Ystyriwyd bod cyfle yma
i asesu effeithiau gweledol y datblygiad yn erbyn safonau polisi cynllunio
presennol, drwy osod amod priodol i ddatblygu cynllun adfer gwell fyddai’n
gallu lleihau effaith weledol y safle ar ôl cwblhau’r gwaith. Byddai hyn yn
goresgyn pryderon CNC ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau.
Yng nghyd-destun
Hydroleg a hydroddaeareg, nodwyd y byddai’r gwaith cloddio yn parhau mewn modd
tebyg i’r hyn a wneir ar hyn o bryd. Caiff dŵr ffo o'r chwarel ei gyfeirio
at wagle’r chwarel ac wedyn i mewn i wagleoedd Chwarel Manod sy'n gweithredu
fel pyllau gwaddol ar gyfer solidau crog. Bydd dŵr o weithrediadau prosesu
yn cael ei ailgylchu gydag unrhyw ddŵr budr o'r gweithfeydd yn cael ei
fwydo trwy wasg hidlo cyn ei bwmpio i mewn i Chwarel Manod. Bydd dŵr ffo
oddi ar y safle wedi'i gyfyngu i lifo o'r pwll sy'n gorlifo i ‘Lyn Ministry’ gydag unrhyw orlif yn bwydo afon Teigl. Ar hyn o bryd mae'r chwarel yn dilyn mesurau lliniaru
priodol rhag gollyngiadau damweiniol a fydd yn cael eu cadw. Adroddwyd bod CNC
wedi adolygu'r wybodaeth a gyflwynwyd ac wedi cadarnhau nad oedd ganddynt
unrhyw bryderon ynghylch hydroleg gydag ymestyn oes gwaith y chwarel yn amodol
ar gydymffurfio â pharhau i ddefnyddio mesurau atal llygredd a chanllawiau
arfer da.
Ystyriwyd felly na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effaith
niweidiol ar nodweddion hydrolegol a pherygl llifogydd ac yn cydymffurfio â
gofynion Polisi Strategol PS 19 a Pholisi AMG 3, AMG 5, PCYFF 2, PCYFF 3, PCYFF
6 a MWYN 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026.
Yng nghyd-destun
materion ecolegol a bioamrywiaeth, nodwyd bod swyddog bioamrywiaeth yr Awdurdod
Lleol wedi amlygu pryderon am ardal yn y rhan fwyaf gogleddol o ffin y safle
sydd yn yr ardal sydd wedi ei gymeradwyo ar gyfer cloddio mwynau ond sydd eto
i'w chloddio/chwarela. Eglurwyd bod yr ardal yma oddeutu 0.5ha o ran maint ac
yn cynnwys glaswelltir ucheldirol, rhostir a chors, brigiadau creigiau a
phocedi bach o fawn ac yn ardal o werth bioamrywiaeth uchel. Er gwaethaf
colli'r tir hwn, roedd y swyddog bioamrywiaeth wedi argymell cynnwys mesurau
lliniaru o fewn y cynllun adfer.
Yng nghyd-destun
archaeoleg a threftadaeth diwylliannol nodwyd bod CADW wedi amlygu pryderon yn
ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol ynghylch digonolrwydd yr wybodaeth a
gyflwynwyd mewn perthynas â threftadaeth ddiwylliannol fel y'i cynhwysir ym
mhennod 9 y Datganiad Amgylcheddol (DA). Roedd y pryderon hyn yn benodol mewn
perthynas ag effeithiau gweithrediadau chwarela (ffrwydro/dirgryniad)
nodweddion hanesyddol nas dynodwyd yn y chwarel yn ymwneud â storio gweithiau
celf o bwys cenedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Eglurwyd bod Chwarel Manod wedi ei dewis fel
lleoliad cyfleus i storio celf cyfrinachol ac arbenigol ac roedd y datganiad
amgylcheddol yn ystyried bod y cyfleuster storio o ‘werth uchel ar y cyfan’ o
ran gwerth tystiolaethol, hanesyddol a chymunedol, ond mai gwerth tystiolaethol
cymedrol yn unig sy'n weddill o ran yr olion ffisegol adeiledig (cyflwr y
cyfleuster wedi dirywio ers i'r
Weinyddiaeth Amddiffyn ildio'r cyfleuster - generaduron, goleuadau,
rhesel hongian lluniau i gyd wedi'u tynnu gydag ychydig o offer wedi eu gadael
ar ôl a’r hyn sy'n weddill o'r strwythurau mewn cyflwr gwael a dirywiol gydag
ansefydlogrwydd toeau'r ceudyllau hefyd yn cyfyngu mynediad corfforol diogel
i'r safle).
Daw'r adroddiad, gan GWP Consultants, i'r difrod
dirgryniad posibl o ffrwydro, i'r casgliad y dylid addasu dulliau ffrwydro
presennol unwaith y bydd y gwaith o fewn 60m i rannau bregus o'r mwyngloddiau.
Ategwyd bod CADW, o dderbyn gwybodaeth ychwanegol, wedi dod i'r casgliad y
gellid cynnal gwaith cloddio heb niweidio'r cyfleuster storio celf. Roedd CADW
wedi cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i'r bwriad yn amodol ar osod amodau
perthnasol ar y caniatâd cynllunio. Bydd yr amodau'n cynnwys cyfyngiadau ar
weithgareddau ffrwydro a gofyniad am raglen i gofnodi adeiladau i ledaenu'r
canfyddiadau.
Yng nghyd-destun yr
economi nodwyd bod ymestyn gwaith cloddio mwynau yn y chwarel yn , yn
uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, swyddi/cyflogaeth gysylltiedig eraill (megis
cludiant, peiriannau a pheirianneg). Ategwyd bod y cwmni’n gwneud cyfraniad
uniongyrchol a sylweddol i’r economi leol a chyflogaeth
uniongyrchol/anuniongyrchol o ganlyniad i weithrediadau'r chwarel. Yn fwy na
hyn, mae cadw gweithwyr lleol yn cael effeithiau positif ar ddiwylliant, ac yn
fwy penodol, ar statws yr iaith Gymraeg yn yr ardal. Ystyriwyd felly y
byddai’r bwriad yn gwneud cyfraniad positif i economi’r ardal yn unol â Pholisi
Strategol PS 13 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a NCT 23.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Bod
y cais cynllunio yn hwyluso gweithrediad parhaus Cwt y Bugail / Chwarel Manod,
gan ganiatáu parhad mewn cynhyrchu llechi yn y chwarel tan 2048.
·
Os
caiff y cais ei gymeradwyo, bydd yr oes estynedig a ganiateir ar gyfer y chwarel
yn darparu sylfaen gadarn i’r Cwmni allu gwneud penderfyniadau ynghylch
gwariant cyfalaf i’r dyfodol yng Nghwt y Bugail fyddai’n lleihau gwastraff,
cynyddu nifer y llechi a gynhyrchir fesul tunnell o graig a gloddir, i
gynyddu’r gwerthiant blynyddol mewn
ymateb i’r galw ac ehangu’r dewis gan gyflwyno cynnyrch newydd, arloesol.
·
Bydd
hefyd yn sicrhau 34 o swyddi medrus yn y chwarel hyd at 2048.
·
Bod
y Cwmni'n ddiolchgar i swyddogion Gwynedd a CADW am y cyfle i gydweithio i
ddatrys materion yn ymwneud â defnydd ogofau gerllaw'r chwarel a ddefnyddiwyd gan yr Oriel Genedlaethol yn
ystod yr Ail Ryfel Byd.
·
Bod
cynllun gweithredu wedi ei gytuno fydd yn caniatáu i'r chwarel barhau i
weithredu yn unol â’r cynnig wrth sicrhau na fydd y gwaith yn cael effaith ar
yr olion, a bod cofnod llawn o’r olion yn cael ei wneud yn gyhoeddus.
·
Bod
y Cwmni’n ymwybodol iawn o werth y chwarel o ran ei hanes a’i lle yn y gymuned,
ynghyd a cheisio sicrhau dyfodol disglair i’r safle yn ogystal â gorffennol
cyfoethog.
·
Bydd
y datblygiad yn mynd ymhell i gyrraedd y nod hwn.
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu’r cais
Mewn ymateb i sylw bod
y cais wedi ei gofrestru yn 2022 gyda nifer o sylwadau’r ymgynghoriad wedi eu
dyddio 2022 ac os oedd materion mwy diweddar wedi codi ond heb gael sylw,
nodwyd bod sylwadau CADW wedi cymryd amser i’w datrys ac o ganlyniad bu rhaid
cynnal cyfnod ymgynghori ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r hawl i
Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r
canlynol:
·
Y gwaith i ddod i ben ar 31/12/2048, adfer y safle erbyn
31/12/2049.
·
Gweithgareddau a ganiateir a chydymffurfiaeth â’r lluniad /
manylion / cynlluniau / gwybodaeth a gyflwynwyd.
·
Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio am fwynau ynghyd
â'r ardaloedd tipio.
·
Dirymu hawliau GPDO Rhannau 19 a 21 ar gyfer offer neu
beiriannau sefydlog, adeiladau a strwythurau a gwastraff mwynau.
·
Terfyn allforio o 15,000 tunnell y flwyddyn.
·
Deunydd wedi'i allforio wedi'i gyfyngu i'r briffordd
gyhoeddus bresennol.
·
Gweithrediadau tipio i'w cyfeirio tuag at y tirffurf
terfynol.
·
Capasiti tipio wedi'i ddiweddaru.
·
Rheoli cyfyngiadau sŵn.
·
Cyfyngu ar ffrwydro rhwng 07:00 a 20:00 o ddydd Llun i
ddydd Sadwrn. Dim ffrwydro ar ddydd Sul na gwyliau banc na chyhoeddus.
·
Cyflymder gronynnau brig wedi'i gyfyngu i 50mm/ s ar gyfer
95% o ffrwydradau gorlwytho dros gyfnod o dri mis a heb fod yn fwy na 60mm/s ar
unrhyw adeg.
·
Rhaid mesur anterth cyflymder gronynnau ar y pwynt agosaf
at safle'r ffrwydrad o fewn yr ardal gysgodol a ddangosir yn Lluniad Cyfeirnod
WCYBG2312 Rhif 10.
·
Monitro gweithrediadau ffrwydro i gofnodi cyflymder
gronynnau brig.
·
Adolygiad bob pum mlynedd o’r gweithrediadau.
·
Cyflwyno'r adolygiad cyntaf o fewn 12 mis.
·
Cynllun Adfer manwl.
·
Gwaith adfer graddol / blaengar.
·
5 mlynedd ôl-ofal/monitro.
·
Bydd cynllun ailfodelu tirffurf yn cael ei gymhwyso i
feinciau Chwarel y North Pole ac wynebau cysylltiedig
fel y nodir ar gynlluniau ar gyfer creu tirffurf sefydlog a nodweddion i
gyd-fynd â bwtresi a chreigiau a sgri cyfagos.
·
Ar ôl rhoi'r gorau i weithio, bydd y
chwareli/peiriannau/deunyddiau/offer yn cael eu clirio a bydd y safle’n cael ei
gadael mewn cyflwr glân/taclus, meinciau chwarel yn cael eu paratoi, eu trin
a'u plannu gyda fflora o darddleoedd lleol, ffyrdd
cludo i gael eu symud.
·
Cyfyngu mynediad i dda byw i'r ardaloedd sydd wedi'u
hadfer.
·
Dim peiriannau nac offer i'w gweithredu heb sgriniau
'lladd' sain priodol ac wedi'u cynnal yn iawn, distawyddion ac ati.
·
Bydd pob cerbyd sy'n cludo deunydd crai neu wastraff yn
cael eu gweithredu mewn modd fel nad ydynt yn cynhyrchu gormod o sŵn.
·
Dim gweithrediadau fydd yn achosi i lwch ffoi godi a bod
pob ardal sy'n cael eu tramwyo gan gerbydau yn cael eu dyfrio i lawr.
·
Bydd cael gwared ar lystyfiant, atgyweirio neu ddymchwel adeiladau
a gweithio ardaloedd ble yn flaenorol cafodd mwynau eu tynnu/chwarelu/tipio yn
digwydd y tu allan i'r tymor nythu er mwyn gwarchod adar sy'n nythu. Ecolegydd
cymwys
·
Dim gweithrediadau i'w
gwneud ar yr wyneb heb dynnu a storio'r pridd uchaf, isbriddoedd a mawn.
·
Priddoedd uchaf ac isbriddoedd i'w hailddefnyddio cyn
gynted â phosibl (Wrth adfer).
·
Priddoedd uchaf i gael eu storio mewn twmpathau heb fod yn
fwy na 2m o uchder.
·
Cofnodi adeilad
hanesyddol y cyfleusterau storio celf a Chynllun Ymchwilio Ysgrifenedig.
·
Cynllun monitro a difa rhywogaethau anfrodorol/ymledol.
Dogfennau ategol: