Dafydd
Gibbard, Prif Weithredwr y Cyngor Arweiniol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ag Alwen Williams, Cyfarwyddwr
Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru a Phrif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd i gyflwyno diweddariad pellach ar gynnydd i sefydlu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) gan ymateb i'w swyddogaethau statudol a
chyflawni trosglwyddiad arfaethedig swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru i'r CBC.
Penderfyniad:
1. Derbyn yr adroddiad ar y diweddariad cynnydd ar y gwaith
i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac ymateb i'r tasgau sy'n ofynnol
gan ei swyddogaethau statudol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
2. Derbyn y cynllun wedi'i ddiweddaru ynghyd â'r dyddiad diwygiedig o’r 1af o Dachwedd ar gyfer
trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
3. Cymeradwyo’r trefniadau interim i ryddhau amser y
Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr
Dros Dro a’i ymestyn hyd at 31 Hydref, 2024. (Bydd yr holl gostau cyflogaeth a
chostau cysylltiedig yn parhau i gael ei dalu gan CBC y Gogledd).
4. Gofyn am adroddiad pellach ar gynnydd yn y broses
drosglwyddo a monitro o'r amserlen.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC.
PENDERFYNWYD:
1.
Derbyn yr adroddiad ar y diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac ymateb i'r tasgau sy'n ofynnol gan ei
swyddogaethau statudol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
2.
Derbyn y cynllun wedi'i ddiweddaru ynghyd â'r dyddiad diwygiedig o’r 1af
o Dachwedd ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd.
3.
Cymeradwyo’r trefniadau interim i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio
am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro a’i
ymestyn hyd at 31 Hydref, 2024. (Bydd yr holl gostau cyflogaeth a chostau
cysylltiedig yn parhau i gael ei dalu gan CBC y Gogledd).
4.
Gofyn am adroddiad pellach ar gynnydd yn y broses drosglwyddo a monitro
o'r amserlen.
TRAFODAETH
Holwyd ai adnoddau a
chyllid y Cyd-bwyllgor Corfforedig oedd yn mynd i mewn i’r gwaith caffael ar
gyfer symud y Parth Buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint yn ei flaen. Mewn ymateb, nodwyd:-
· Bod cytundeb wedi’i wneud
eisoes i neilltuo £100,000 o gyllideb y Cyd-bwyllgor er mwyn hwyluso’r gwaith o
fynd drwy’r Pyrth i gyflawni’r Parth Buddsoddi.
· Gan ein bod yn wynebu
Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf, bod trefniant ychwanegol mewn lle a
chytundeb gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Wrecsam i ddarparu hyd at £25,000
yr un o gyllid ar gyfer unrhyw waith sydd wedi cael ei gyfeirio tuag at
ddatblygu’r cynllun pe na fyddai’r llywodraeth newydd yn dilyn y broses o
Barthau Buddsoddi.
Holwyd ymhellach
oedd yna unrhyw amheuaeth ynglŷn â dyfodol y polisïau hyn. Mewn ymateb, nodwyd:-
· Nad oedd unrhyw lywodraeth
wedi rhoi arwydd y byddai yna drefniant newydd mewn lle, ond roedd angen
sicrwydd ynglŷn â hyn unwaith y byddai’r llywodraeth wedi’i sefydlu.
· Yn sgil mynd drwy’r broses
o fynd drwy’r Pyrth i ddarparu’r cais i gadarnhau’r Parth Buddsoddi, byddai
cyfran o’r £160 miliwn sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y Parth Buddsoddi yn
gyfran all gael ei ddefnyddio ar gyfer costau gweinyddol, felly byddai’n bosib’
gwneud cais am y costau datblygu o’r arian yna unwaith y byddai’r Parth
Buddsoddi wedi’i gymeradwyo.
Nododd Arweinydd
Cyngor Sir y Fflint ei fod yn siomedig bod y Parth Buddsoddi yn dod drwy’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig ac y byddai’n well ganddo petai yna gorff wedi’i
sefydlu rhwng Sir y Fflint a Wrecsam a’u partneriaid, megis Airbus,
i reoli’r prosiect. Nododd ymhellach y
gofynnwyd mewn dau gyfarfod o’r Cyd-bwyllgor o ble fyddai’r adnoddau yn dod,
gan fod hwn yn Barth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam, ac awgrymodd
efallai y dylid edrych ar gostau amrywiol brosiectau sydd wedi’u lleoli mewn
ardaloedd daearyddol penodol.
Nodwyd y deellid
bod yr adnodd gweithredu ar gyfer y Cyd-bwyllgor drwy secondiad gan Lywodraeth
Cymru bellach wedi dod i ben, a holwyd faint o ergyd oedd hyn i’n gallu i fwrw
ymlaen â’r gwaith o sefydlu’r Cyd-bwyllgor.
Mewn ymateb, nodwyd:-
· Bod y secondiad wedi
terfynu yn gynt na’r disgwyl oherwydd penderfyniad personol i fynd yn ôl i
Lywodraeth Cymru a dyna pam bod yna fynd ati rŵan i ail-edrych ar y
strwythurau er mwyn cael strwythur mwy cynaliadwy mewn lle i gefnogi’r gwaith o
drosglwyddo.
· Bod y Bwrdd Prosiect
Gweithredol yn cyfarfod bob dydd Llun a’r gwahanol ffrydiau gwaith yn cyfarfod
ar wahân hefyd, a bod hynny wedi gosod rhywfaint o strwythur o gwmpas y gwaith
a’r tasgau sydd angen eu cyflawni.
· Bod gwaith ar droed i weld
oes modd cael naill ai adnoddau parhaol neu adnoddau ychwanegol dros dro i
lenwi’r bwlch gweithredol.
Eglurodd y Swyddog
Monitro fod unrhyw benderfyniadau ynglŷn â throsglwyddo staff i’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn llwyr ddarostyngedig i’r dyddiad trosglwyddo’r
Cynllun Twf i’r CBC. Gan hynny, os oedd
y dyddiad trosglwyddo yn symud ymlaen i’r 1af o Dachwedd, dyna’r dyddiad cyntaf
y gallai’r staff drosglwyddo hefyd.
Dogfennau ategol: