I gyflwyno gwybodaeth
am gyfraniad y Gwasanaethau Cymdeithasol i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Uwch Reolwr Busnes a Phennaeth Cynorthwyol Adnoddau. Tynnwyd
sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol gan nodi bod yr Adroddiad yn cwmpasu
gwaith yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd yn ogystal â’r Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant:
Esboniwyd bod yr
Adroddiad yn cwmpasu gwaith y ddwy adran am y tro cyntaf oherwydd bod y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cyhoeddus yn arwain ar brosiect ‘Mwy na
geiriau’ o fewn y maes Gofal.
Adroddwyd ar ddatblygiad
Academi Gofal i geisio ymdopi â heriau recriwtio mae’r maes Gofal wedi bod yn
ei wynebu yn ddiweddar. Manylwyd bod trafferthion recriwtio yn effeithio
Awdurdodau Lleol ar hyd y wlad gyda heriau penodol mewn rhai meysydd ac ardaloedd
daearyddol. Pwysleisiwyd mai nod yr Academi yw cynorthwyo unigolion i ddatblygu
eu hunain ac amlygu llwybr gyrfaol clir o fewn y maes gofal. Esboniwyd y
gobeithir cyrraedd y targedau hyn drwy gynnig cefnogaeth a hyfforddiant er mwyn
sicrhau bod unigolion yn cymhwyso i fod yn ofalwyr drwy gyfrwng y Gymraeg boed
ar gyfer swyddi Therapyddion Galwedigaethol, Rheolwr Cartref neu unrhyw agwedd
arall o’r maes gofal. Mynegwyd balchder ar ddatblygiad y cynllun hwn gan nad yw
hyfforddiant Cymraeg ar gael ym mhob agwedd o’r maes, megis prentisiaethau, ar
hyn o bryd. Esboniwyd bod yr academi yn bodoli’n rhithiol ar hyn o bryd ond
gobeithir cael lleoliad penodol yn y dyfodol.
Cydnabuwyd bod
trafferthion recriwtio yn her sy’n wynebu’r ddwy Adran gan nodi bod y broblem
yn dwysau wrth ymdrechu i benodi swyddi mwy arbenigol sydd gyda’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol. Tynnwyd
sylw bod her benodol i’w gael yn y maes gofal cartref a gofal preswyl nyrsio
oherwydd nid oes modd recriwtio digon sydyn i gyfarch y gofyn am y
gwasanaethau. Pwysleisiwyd bod adrannau yn sicrhau eu bod yn parhau i roi
hyfforddiant a chefnogaeth i holl weithwyr sydd angen cymorth gyda’r iaith
Gymraeg ac yn nodi bod llenwi swyddi gwag a datrys yr heriau recriwtio yn
flaenoriaeth iddynt. Sicrhawyd bod darparwyr gofal yn cael cefnogaeth y Cyngor
er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael amser penodol o fewn oriau gwaith er mwyn
meithrin eu sgiliau Cymraeg. Er hyn, cydnabuwyd bod y trefniant hwn yn
ddibynnol ar y darparwyr hynny yn gweithredu yn ôl y gofyn.
Ymhelaethwyd bod yr
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd wedi cael peth llwyddiant gydag ymgyrchoedd
recriwtio yn ddiweddar ond cydnabuwyd bod heriau dal i’w gweld yn ardal
Meirionnydd. Nodwyd mai her arall yw sicrhau lleoliadau preswyl Cymraeg i blant
sy’n dymuno hynny gan fod yr holl leoliadau preswyl yn eiddo i’r sector breifat
ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd bod gan y Cyngor gynlluniau i ddatblygu lleoliadau
preswyl mewnol. Cydnabuwyd bod yr adran yn dilyn prosesau recriwtio’r Cynngor
ac yn ystyried ymgeiswyr gyda sgiiau ieithyddol is os yw’r swydd yn cael ei
hysbysebu am y drydedd gwaith. Os oes rhywun gyda sgiiau ieithyddol is na’r
gofyn yn cael cynnig y swydd sicrheir bod rhaglen hyfforddiant Cymraeg yn cael
ei weithredu ar ddechrau cyflogaeth yr unigolyn. Pwysleisiodd y ddwy adran eu
bod yn ymdrechu i ddefnyddio staff asiantaeth cyn lleied â phosibl.
Sicrhawyd bod yr
adrannau yn rhagweithiol er mwyn datrys yr heriau recriwtio hyn gan fanylu ar
nifer o brosiectau sydd ar y gweill i ddenu gweithwyr cymdeithasol megis yr
Academi Gofal, cynllun hyfforddeion, codi ymwybyddiaeth, cyfryngau
cymdeithasol, adran bwrpasol i’r sector gofal ar y wefan swyddi, hyrwyddo’r
buddiannau o weithio i’r cyngor a hefyd yn annog pobl ifanc i gysidro gofal
cymdeithasol fel gyrfa wobrwyol.
Atgoffwyd yr Aelodau o
wasanaeth cwmni ‘AskSARA’ sydd yn darparu cefnogaeth i oedolion wedi i
ddefnyddwyr gwblhau hunanasesiad o’r cymorth maent ei hangen. Nodwyd bod y
gwasanaeth hwn yn un sydd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o Awdurdodau Lleol yn
genedlaethol. Ymhelaethwyd bod y system wedi bod ar gael yn y Gymraeg yn
hanesyddol ond bod yr elfen hon o’r hunanasesiad wedi bod yn wallus iawn.
Cadarnhawyd bod y gwasanaethau Oedolion wedi bod yn cydweithio gyda’r cwmni er
mwyn datblygu elfen Gymraeg cywir i’r gwasanaeth hwn a sicrhau ei fod yn
hygyrch i holl ddefnyddwyr wrth leihau’r tebygolrwydd o drafferthion yn codi.
Nodwyd bod y cywaith hwn yn sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn mynediad i gymorth
drwy’r Gymraeg ac ymfalchïwyd bod yr adran wedi cymryd rôl arweiniol ar y
gwaith hwn sy’n cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr AskSARA ym mhob cwr o Gymru.
Adroddwyd bod
darpariaeth Dechrau’n Deg wedi cael ei ddatblygu gan nodi bod bellach 22 o
ddarparwyr gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog o fewn y
cynllun, ynghyd â datblygiad ap i ddefnyddwyr y cynllun. Pwysleisiwyd bod pob
darparwr yn cynnig gofal yn y Gymraeg gyda’r opsiwn i gynnig gofal dwyieithog
i’r Saesneg pan yn briodol. Ategwyd hyn gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant gan gadarnhau fod y ddwy adran yn cynnig gwasanaethau’n Gymraeg yn
rhagweithiol gan ddarparu gwasanaethau’n Saesneg yn dilyn ceisiadau.
Soniwyd bod yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd yn cydweithio gyda CWLWM er mwyn rhoi cefnogaeth
Cymraeg i feithrinfeydd, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant a chlybiau ar ôl
ysgol. Tynnwyd sylw o grantiau sydd ar gael i warchodwyr plant newydd sy’n ddi-gymraeg,
er mwyn galluogi iddynt brynu cyfwerth â £100 o adnoddau Cymraeg ar gyfer eu
darpariaeth. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bydd gwybodaeth bellach ar
niferoedd yr unigolion sydd wedi cymryd mantais o’r grant hon ac am ba
ddeunyddiau yn ogystal â niferoedd darparwyr gofal Dechrau’n Deg Cymraeg gyda’r
aelodau yn dilyn y cyfarfod.
Mynegwyd balchder bod ap
AiDi bellach yn derbyn ystyriaeth i’w fabwysiadu’n rhanbarthol ac yn
genedlaethol. Atgoffwyd yr Aelodau bod yr ap Cymraeg hwn yn ddeunydd arloesol i
ofalwyr ifanc di-dâl gan ei fod yn ddull effeithiol o rannu gwybodaeth ac yn
galluogi iddynt gysylltu gyda’r ysgol pan bod angen. Pwysleisiwyd bod yr
adborth i’r ap hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Ymhelaethwyd ar ap ychwanegol y
dymunir ei ddatblygu er mwyn cefnogi unigolion ag awtistiaeth. Dymunir i’r ap
dwyieithog hwn gael ei ddatblygu erbyn diwedd Mawrth 2025 yn sgil derbyn arian
grant yn ddiweddar.
Eglurwyd bod oddeutu
1,600 o staff wedi eu cyflogi ar draws y gwasanaethau cymdeithasol. Nodwyd bod
73.4% ohonynt wedi cwblhau asesiad iaith, gydag 85.5% o’r rhieni yn cyrraedd
gofynion iaith eu swyddi. Cydnabuwyd bod yr adrannau yn sylweddoli bod patrwm
i’r canlyniadau hyn wrth i gyfran mwy o weithwyr swyddfa gwblhau’r hunanasesiad
o’i gymharu a staff rheng flaen. Cadarnhawyd ei fod yn flaenoriaeth i’r
adrannau i annog rheolwyr i weithredu’r hunanasesiad gyda’r gweithwyr rheng
flaen dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau casglu data mwy cyflawn o lefelau
ieithyddol staff yr adrannau gan gynnig cefnogaeth sgiliau Cymraeg i unrhyw
aelod o staff sy’n dymuno ei dderbyn, neu angen mynychu hyfforddiant yn sgil yr
hunanasesiad.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: