Agenda item

I gyflwyno gwybodaeth ar gynnydd Prosiect Enwu Lleoedd Cyngor Gwynedd.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·       Argymell a chefnogi’r Aelod Cabinet i geisio canfod adnoddau i ymestyn cyfnod y prosiect er mwyn sicrhau datblygiad a pharhad i’r gwasanaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Prosiect Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd i’r prosiect cael ei sefydlu yn 2021 yn sgil pryderon cynyddol dros nifer o flynyddoedd bod enwau Cymraeg yn cael eu colli. Nodwyd mai un o brif ddatblygiadau'r prosiect yw’r Map Enwau Lleoedd Cyngor Gwynedd. Eglurwyd ei fod yn nodi enwau lleol ar lefydd o fewn y sir, megis caeau, lonydd, adeiladau, ardaloedd ac afonydd sydd yn cael eu defnyddio ar lafar ond ddim wedi cael eu cofnodi mewn mapiau swyddogol. Manylwyd bod y map yn parhau i gael ei boblogi gydag enwau newydd yn dilyn gweithdai mewn 15 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd. Anogwyd unigolion gyda gwybodaeth gywir am enwau lleol Cymraeg yn eu hardal i gysylltu gyda’r Swyddog er mwyn poblogi’r map hyd yn oed yn fanylach.

 

Tynnwyd sylw at nifer o brosiectau sydd ar y gweill er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd a’r cyfoeth hanesyddol, ieithyddol a diwylliannol maen nhw’n eu cynnwys. Ymhelaethwyd bod y Swyddog yn cyhoeddi erthyglau ‘Yr Enw a’r Hanes’ yn fewnol i staff y Cyngor er mwyn nodi hanes enw lle ac o fewn y Sir. Mynegwyd balchder mai dyma’r dudalen sydd yn cael y nifer mwyaf o ymwelwyr o holl dudalennau’r Fewnrwyd.

 

Adroddwyd bod y prosiect wedi bod yn weithgar iawn dros wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan.  Nodwyd bod y Swyddog yn aelod o banel trafod cenedlaethol yng nghwmni Jeremy Miles AS (Gweinidog y Gymraeg) a Dr Dylan Foster Evans (Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru) er mwyn parhau sgyrsiau ar bolisïau a threfniadau cyfreithiol yn y maes hwn. Cyfeiriwyd hefyd at sgwrs a gynhaliwyd yn y Babell Lên ar enwau lleol. Mynegwyd balchder bod y sgwrs hon a gynhaliwyd gan y Swyddog wedi cael ei ddarlledu ar S4C fel rhan o raglen goreuon yr ŵyl.  Ychwanegwyd bod y Swyddog wedi bod yn trafod y mater ar BBC Radio Cymru wrth gael cytundeb am 4 mis i drafod enwau ac acenion lleol.

 

Cyfeiriwyd at gais a ddaeth gerbron y prosiect i geisio sicrhau bod enwau Cymraeg yn unig yn cael eu rhoi ar arwyddion stryd. Pwysleisiwyd i’r Swyddog ymchwilio mewn i’r broses o adnewyddu’r holl arwyddion gan gadarnhau y byddai hyn yn rhy gostus i’w weithredu. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod y prosiect wedi mabwysiadu prosiect amgen. Manylwyd mai un o brif amcanion y prosiect yma yw gosod arwyddion newydd ar gyfer lleoliadau ac ardaloedd, megis Twthill (Caernarfon), Lôn Rocar (Llandygai) a Lôn Groes (Pistyll), ble nad oes arwyddion presennol. Ystyriwyd bydd hyn yn gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn y sir.

 

Soniwyd am brosiectau ychwanegol sy’n ffocysu ar osod arwyddion megis:

·       Codi arwyddion yn nodi’r hen enwau Cymraeg ar rai o strydoedd Caernarfon (mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddinesig Caernarfon)

·       Gosod arwyddion Cymraeg yn unig yn Nhrefor yn sgil nifer o arwyddion coll

·       Gosod arwyddion wrth gyrraedd hen gantrefi/cymunedau ar ffyrdd ‘A’ yn y Sir yn dilyn diddordeb y cyhoedd o weld arwyddion ‘Llŷn’ ac ‘Eifionydd’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Esboniwyd nad oedd gan Gynghorau Tref yr hawl, yn hanesyddol i osod arwyddion uniaith Gymraeg yn croesawu ymwelwyr yno. Mynegwyd balchder bod y swyddog, yn sgil trafodaethau gyda Chomisiynydd yr Iaith a Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i gael yr hawl i ganiatáu arwyddion Cymraeg yn unig ar gyfer y defnydd hwn.

 

Cyfeiriwyd at ap Enwau Gwynedd sydd wrthi yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a fydd ar gael i staff y Cyngor drwy’r fewnrwyd. Bydd hyn yn galluogi staff i gynorthwyo drwy gywiro unrhyw sillafiad neu gamgymeriad mewn enwau lleoedd. Eglurwyd mai’r nod yw cysoni’r enw mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio mewn gohebiaeth.

 

Eglurwyd bod Adrannau’r Cyngor yn cydweithio yn agos gyda’r Swyddog ar nifer o brosiectau. Rhannwyd enghraifft ei fod yn cynghori Rheolaeth Adeiladau ar faterion yn ymwneud ag enwi strydoedd ac eiddo yn ogystal ag ysgolion a stadau pan maent yn derbyn ceisiadau i newid enwau lleoedd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Cyfeiriwyd at lyfryn ‘Enwi eiddo – Ymarfer Da’ a ddatblygwyd gan y Swyddog er mwyn annog pobl i gadw enwau Cymraeg eu heiddo. Ymhelaethwyd bod y Swyddog yn llythyru unigolion sy’n dymuno newid enw eu tŷ o enw Cymraeg i’r Saesneg mewn ymdrech i’w argyhoeddi o enw Cymraeg gallent ei ddefnyddio yn eu lle. Fodd bynnag, cydnabuwyd nad oes gan y Cyngor grym i atal y newidiadau hyn os ydi’r perchnogion yn dymuno bwrw ymlaen. Ymhellach, nodwyd bod enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio ar 94% o holl dai newydd a adeiladwyd ers 2020 ond cadarnhawyd bod ceisiadau o newid enwau tai o’r Gymraeg i’r Saesneg yn parhau i fod yn her.

 

Ymhelaethwyd bod y Swyddog yn cydweithio gyda’r Adrannau gyda materion ynglŷn ag enwau strydoedd, bod yn gamsillafiad, camddefnydd neu geisiadau eraill. Esboniwyd bod hyn yn waith diddorol gan fod 172 o systemau gwahanol yn cael ei ddefnyddio ar draws y Cyngor gan wahanol wasanaethau a bod angen cysoni’r data am enwau strydoedd er mwyn sicrhau bod y systemau yn defnyddio’r un cyfeiriadau i’r dyfodol wrth i feddalwedd y timoedd gael ei ddiweddaru. Nodwyd os oes angen cadarnhau enw ar stryd, gellir defnyddio ‘Local Land and Property Gazetteer’, gan ddefnyddio'r enw Cymraeg ymhellach mewn unrhyw ymgais i addasu’r defnydd swyddogol ar gyfer yr ardal.

 

Cadarnhawyd bod y Swyddog yn parhau i gydweithio gyda chyrff a mudiadau allanol ar nifer o agweddau gwahanol. Nodwyd ei fod yn aelod o Fforwm Enwau Lleoedd Cymru, ble mae cynrychiolwyr o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a rhai o awdurdodau lleol eraill yn cyfarfod er mwyn gwarchod enwau lleol. Nodwyd bod y Swyddog yn annog newid deddfwriaethol yn gyson o fewn y cyfarfodydd hyn. Ymhelaethwyd bod y Swyddog hefyd yn cydweithio gyda mapio Cymru gyda’r gobaith o ddatblygu mapiau digidol Cymraeg fel sylfaen i fapiau Cyngor Gwynedd ond cydnabuwyd bod nifer o heriau gyda thrwyddedau yn codi gyda hyn.

 

Adroddwyd bod y prosiect yn weithredol ers 2021 ac wedi ei ariannu hyd at Ebrill 2025. Ystyriwyd holi’r Fenter Iaith i weld os bydden nhw yn awyddus i fabwysiadu’r gwaith os nad yw’r ymgyrch i gael estyniad i’r prosiect yn llwyddiannus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·       Argymell a chefnogi’r Aelod Cabinet i geisio canfod adnoddau i ymestyn cyfnod y prosiect er mwyn sicrhau datblygiad a pharhad i’r gwasanaeth.

 

Dogfennau ategol: