Agenda item

I ystyried y mater ymhellach.  

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

b)     Ategu’r penderfyniad gafodd ei wneud yng nghyfarfod blaenorol o’r Cydbwyllgor ar 22 Tachwedd 2023 i beidio mabwysiadu’r teitl a’r logo cenedlaethol newydd ‘Tirweddau Cenedlaethol’.

Cofnod:

Croesawyd John Watkins, Prif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol i’r cyfarfod ac atgoffwyd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol o’r drafodaeth ‘nol yng nghyfarfod mis Tachwedd, 2023 am greu brand a delwedd newydd i’r dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Cyfeiriwyd at yr argymhelliad i newid yr enw gweithredol o ‘Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol’ i ‘Dirweddau Cenedlaethol’. Adroddwyd bod yr enw Tirweddau Cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru a Lloegr gan nodi bod cefnogaeth wedi ei fynegi i’r newid hwn gan Lywodraeth Cymru.

 

Mynegodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol bod y newid yma ar y gweill ers sawl mlynedd yn dilyn cyfnod o adolygu ac ymchwil dwys. Nododd bod y dynodiadau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i fod gystal â’r Parciau Cenedlaethol o ran eu safon (er fod y dynodiad yn wahanol) gan adrodd bod y newid hwn i’r brand a’r enw yn ymgais i godi ymwybyddiaeth yn genedlaethol o bwysigrwydd y tirweddau. Credwyd y byddai hyn o gymorth i ddenu adnoddau i’r dynodiadau gan atgoffa eu bod yn ddynodiadau cenedlaethol sy’n cael eu rheoli yn lleol.

 

Nodwyd bod pob un o’r tirweddau yn Lloegr a nifer yng Nghymru bellach yn defnyddio’r enw a’r brand newydd, sy’n parchu pa mor unigryw yw’r tirweddau unigol ond yn cydnabod eu bod yn rhan o deulu ehangach. Mynegwyd cefnogaeth i’r hyn mae’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ceisio eu cyflawni. Credwyd ei bod yn bwysig i benderfyniadau ac ystyriaethau lleol ymddangos yn rhan o deulu cenedlaethol ac y byddai hyn o fudd wrth ddenu arian ac ehangu eu proffil. I gloi adroddwyd ar y mewnbwn a dderbyniwyd ar y brand newydd gan nodi ei fod wedi derbyn sylwadau cadarnhaol iawn.

 

Derbyniwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·       Nodwyd bod gwefan Tirweddau Cenedlaethol yn Saesneg a bod logo Llywodraeth Cymru ar y wefan. Mynegwyd anfodlonrwydd cryf nad oedd y wefan yn ddwyieithog.

·       Dadleuwyd bod angen gwarchod yr Iaith Gymraeg gan fynegi barn na fyddai tegwch yn cael ei roi i’r Gymraeg gan y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol.

·       Amlygwyd yr awydd i anfon neges bod Cymru yn genedl ar wahân a chredwyd y byddai gwrthod y newid hwn yn cyflawni hynny.

·       Mynegwyd safbwynt bod gwerth mabwysiadu’r enw a’r brand newydd pe bai gwneud hynny yn cryfhau proffil yr AHNE yma yn Llŷn. Cydnabuwyd bod yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn a gofynnwyd a oes modd cyfieithu gwefan Tirweddau Cenedlaethol fel ei fod yn ddwyieithog.

·       Credwyd bod yr enw a logo presennol AHNE Llŷn yn gofiadwy ac yn ddeniadol gan fynegi safbwynt bod yr enw Tirweddau Cenedlaethol yn awgrymu Cymru a Lloegr. Mynegwyd y byddai ‘Tirweddau Cymru’ yn well enw pe bai rhaid newid.

·       Nodwyd bod pawb yn gyfarwydd efo’r enw AHNE Llŷn a chredwyd nad oedd awydd i’w newid. 

·       Diolchwyd i Brif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol am ei sylwadau a’i ddadl ond mynegwyd cefnogaeth i lynu â’r penderfyniad gwreiddiol o beidio â mabwysiadu’r teitl a’r logo newydd.

 

Mewn ymateb, nododd Prif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol:-

·       Ei fod yn cydnabod y pwynt bod y wefan yn uniaith Saesneg.

·       Na fyddai yn derbyn y pwynt bod y Gymdeithas yn tanseilio’r iaith Gymraeg gan bwysleisio nad oes elfen o orfodi yn digwydd o gwbl.

·       Ei fod yn gefnogol iawn o sut mae’r dynodiad yn Llŷn yn cael ei weithredu a ni chredai bod y newid a awgrymwyd yn bygwth yr iaith Gymraeg na’r cyfansoddiad yn lleol.

·       Bod yr adolygiadau wedi bod yn un annibynnol yn Lloegr a bod yr adolygiad yng Nghymru hefyd yn un annibynnol ac ar wahân i’r adolygiad yn Lloegr.

 

Nododd y Swyddog AHNE Llŷn ei fod yn gweld y ddwy ochr. Teimlwyd bod cryn ymwybyddiaeth o’r enw AHNE Llŷn wedi ei sefydlu dros y blynyddoedd a bod y logo newydd yn anhysbys a bod llawer yn diflasu ar newid. Er hyn credwyd bod cyfle i greu delwedd newydd a chreu cysyniad o fod yn rhan o deulu, ond bod pryderon yn bodoli. 

 

Diolchodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol am amser y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol gan bwysleisio nad oedd y newid yma yn mynd i gael ei wthio ac mai penderfyniad y Cyd-bwyllgor ydyw. Dymunodd yn dda i’r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol.

 

          PENDERFYNIAD

 

a)   Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

b)Ategu’r penderfyniad gafodd ei wneud yng nghyfarfod blaenorol o’r Cydbwyllgor ar 22 Tachwedd 2023 i beidio mabwysiadu’r teitl a’r logo cenedlaethol newydd ‘Tirweddau Cenedlaethol’.

 

Dogfennau ategol: