Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
  2. Argymell bod yr Adran Addysg yn darparu canllaw syml o ran cyfeirio pryderon er defnydd pawb sy’n ymwneud â’r gyfundrefn, megis llywodraethwyr a rhieni.

 

Cofnod:

Croesawyd Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) a Llion Williams (Pennaeth Cynorthwyol: Llesiant a Chydraddoldeb) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg mewn ymateb i gais gan yr aelodau i dderbyn gwybodaeth am drefniadau diogelu mewn ysgolion, ynghyd â’r arweiniad a’r gefnogaeth a roddir yn y maes hwn gan yr Adran Addysg er mwyn rhoi sicrwydd i aelodau’r pwyllgor o briodoldeb y trefniadau.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Addysg y cyd-destun a chyflwynodd y Pennaeth Addysg ychydig eiriau ar y cychwyn hefyd.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd nad oedd gwiriad DBS yn profi bod rhywun yn berson diogel, ond yn hytrach yn datgan nad oedd person wedi’i ganfod yn euog o drosedd hyd yma.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y cytunid â’r sylw, ac yn ogystal â’r DBS, bod y Cyngor hwn yn gofyn am 2 dystlythyr cyn penodi i unrhyw swydd.

·         Mai ond 0.07% o’r staff sydd heb DBS erbyn hyn, a bod yna resymau penodol am hynny, e.e. salwch hirdymor, person wedi’i atal o’r gwaith neu bobl ar restrau llanw sydd ddim yn dymuno gweithio i Wynedd mwyach.

·         Bod ymdrechion yn mynd rhagddynt bron yn ddyddiol i gyrraedd at y targed o 100%.

·         Bod y Grŵp Gweithredol Diogelu yn monitro faint o bobl sydd wedi cael DBS, ac os yw’r canrannau’n is na’r disgwyl, yn gofyn beth yw’r eglurhad a’r cyfiawnhad dros hynny.

 

Holwyd faint o waith monitro sy’n digwydd er sicrhau bod y person diogelu dynodedig mewn ysgol yn cwblhau pob hyfforddiant angenrheidiol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod ar ffurf grwpiau bychain, fel bod pobl yn cael cyfle i ofyn cwestiynau na fyddent, efallai, yn eu gofyn mewn grwpiau mwy.

·         Bod natur yr hyfforddiant bellach yn fwy hwyliog a rhyngweithiol, a bod yr adborth o’r sesiynau blynyddol hyn yn gadarnhaol iawn.

·         O ran monitro, bod cyfrifoldeb ar gyrff llywodraethu i fod â pherson â throsolwg ar amddiffyn plant ar y corff, a byddai disgwyl i’r person hwnnw gyfarfod gyda’r person diogelu dynodedig i drafod y sefyllfa yn yr ysgol o ran diogelu plant.

·         Y darperid hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr hefyd o ran eu rôl monitro a chefnogi’r person diogelu dynodedig o fewn yr ysgol.

·         Bod Gwynedd yn un o’r ychydig awdurdodau yng Nghymru sy’n cynnal ymholiadau gwirio ansawdd, lle mae’r swyddog dynodedig yn y sir yn mynd i ysgol ac yn cynnal ymchwiliad manwl sydd wedyn yn bwydo i mewn i drosolwg awdurdod.  Drwy wneud hynny, gellir gweld oes yna bethau sydd ddim yn cael eu gwneud yn iawn, beth ydyn nhw ac a oes angen mireinio’r hyfforddiant i allu gwella’r arweiniad a roddir i bersonau dynodedig.

·         Bod y Grŵp Gweithredol Diogelu yn monitro faint o bobl sydd wedi derbyn hyfforddiant diogelu, ayb, ac yn adrodd yn rheolaidd i’r Panel Strategol Diogelu.

 

Nodwyd y gobeithid nad oedd modd i aelod staff fod yn llywodraethwr dynodedig.  Mewn ymateb, nodwyd na ddymunid i hynny ddigwydd, a phe gwelid ei fod yn digwydd, y byddai’n rhaid tynnu sylw’r corff llywodraethu at amhriodoldeb y sefyllfa.

 

Nodwyd bod hyfforddiant lefel 2 yn hynod werthfawr a phwysig ac y dylai fod yn fandadol ar gyfer llywodraethwyr dynodedig.  Holwyd pa fonitro oedd yn digwydd i sicrhau bod llywodraethwyr wedi derbyn hyfforddiant lefel 1 a bod llywodraethwyr dynodedig wedi derbyn hyfforddiant lefel 2.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr Awdurdod yn monitro bod personau dynodedig ar y corff llywodraethu wedi derbyn hyfforddiant lefelau 1 a 2.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi darlun o gyfundrefn eithaf cadarn, ond i gyfundrefn weithio bod rhaid i’r pwynt mynediad weithio, hy, bod rhaid i achos o gam-drin posib’ fynd i mewn i’r gyfundrefn yn y lle cyntaf.  Gofynnwyd am esboniad o’r drefn o’r pwynt lle mae e.e. cymhorthydd mewn dosbarth yn sylwi ar farciau ar gorff plentyn.  Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn cael ei egluro yn y polisi, ond bod y drefn fel a ganlyn:-

·         Bod staff yn cael eu hannog a’u hyfforddi i wrando ar y plentyn, i ofyn cwestiynau sydd ddim yn gwestiynau caeedig, i gofnodi’r hyn sy’n cael ei ddweud yng ngeiriau’r plentyn ac i gyfeirio hynny i sylw’r person dynodedig o fewn yr ysgol (y pennaeth neu aelod o’r tîm rheoli gan amlaf).

·         Bod cyfrifoldeb ar y person dynodedig i gysylltu â’r Tim Derbyn ym Mhwllheli i dderbyn cyngor priodol.

·         Bod y broses diogelu plant yn dod yn weithredol o’r pwynt hwn ymlaen.  Gallai gweithiwr cymdeithasol ymweld â’r ysgol i edrych ar y marciau ar y plentyn, neu o bosib y gallai’r heddlu gael eu galw.

·         Bod gofyn i’r ysgol gyflwyno ffurflen gyfeirio wedi’i chwblhau yn fanwl ac yn gywir cyn gynted â phosib’, ond nid oedd rheidrwydd i’w llenwi cyn dwyn y mater i sylw’r Tim Derbyn.

·         Y byddai’r staff yn gofalu am y plentyn yn y cyfamser ac yn parhau hefo’r gofal o gwmpas y diogelu wedi i’r plentyn gael ei weld gan y gweithiwr cymdeithasol.

 

Nodwyd ymhellach:-

·         Bod cwestiwn diogelu yn cael ei ofyn ymhob cyfweliad am swydd athro/athrawes, ac er i’r Pennaeth gyfweld degau, os nad cannoedd o athrawon dros y blynyddoedd, nid oedd erioed wedi dod ar draws unrhyw ymgeisydd oedd yn ansicr o’r gweithdrefnau diogelu.

·         Mewn achos o bryder ynglŷn â mater diogelu posib’, y cynghorid ysgolion i adael bob dim a chysylltu’n syth â’r Tim Derbyn, waeth pa mor brysur yw’r diwrnod ysgol.

 

Holwyd pwy sy’n gyfrifol petai sefyllfa yn dod i’r amlwg sydd ddim o reidrwydd yn gŵyn neu gonsyrn, ond bod yna wybodaeth sy’n awgrymu bod risg i blant.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod diogelu plant yn gyfrifoldeb i bawb, ond o fewn ysgol a chyd-destun ysgol, bod y cyfrifoldeb yn sefyll gyda’r pennaeth a’r person dynodedig o fewn yr ysgol honno.

·         Bod yna drefniadau a modelau mewn lle i ysgolion gofnodi pryderon lefel isel am blant, e.e. tyllau mewn esgidiau ayb, ac o bosib’ y gallai cofnodi’r un pryderon am ddyddiau neu wythnosau ar y tro deilyngu cyfeiriad.

·         Petai gan ysgol bryderon gwirioneddol am blant, e.e. marciau ar eu cyrff, nid oedd ganddynt ddewis ond cyfeirio’r mater i’r Tim Derbyn.

·         Bod ysgolion yn gorfod gwneud penderfyniadau’n ddyddiol i naill ai gyfeirio achos neu gofnodi pryder.  Ni allai’r Awdurdod ymyrryd yn y broses oherwydd, gyda chymaint o ysgolion yn y sir, nid oedd gofyn i’r Awdurdod wneud hynny, ac nid oedd yn ymarferol nac yn rhesymol i’r Awdurdod wneud hynny chwaith.

·         Bod yr hyfforddiant yn rhoi arweiniad ar adnabod y trothwy rhwng pryder lefel isel a phryder gwirioneddol a bod nifer y cyfeiriadau a dderbynnir gan y Tim Cyfeiriadau Plant yn dyst i’r ffaith bod ysgolion Gwynedd yn gwybod sut i adnabod risg a gweithredu ar hynny.

 

Mynegwyd pryder nad oedd prosesau’r Awdurdod yn ddigon clir i alluogi i bobl sydd ddim yn rhan o’r sefydliad addysgol, ond sy’n dod i gyswllt â phlant, megis rhieni, staff arlwyo, ayb, fwrw cŵyn.  Holwyd a ellid sicrhau bod y canllaw diogelu yn amlwg yn y polisi diogelu.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod pob aelod o staff sy’n gweithio mewn ysgol yng Ngwynedd, o’r staff arlwyo i’r tim rheoli, yn derbyn hyfforddiant priodol ar gyfer diogelu plant.

·         Ei bod yn ofynnol i bob ysgol arddangos enw’r person dynodedig ar lefel awdurdod ar bosteri yn yr ysgol.

·         Bod gan bob ysgol eu fersiwn eu hunain o’r polisi diogelu a bod y fersiwn ar y wefan yn bolisi enghreifftiol sy’n cael ei rannu gydag ysgolion, ac yn seiliedig ar arfer cenedlaethol.

 

Nodwyd y byddai’n fuddiol petai canllaw cryno ar sut i fwrw cŵyn ar gael yn hwylus o unrhyw bolisi diogelu.

 

Holwyd sut y gall, e.e. cymhorthydd mewn ysgol sy’n cyflwyno cŵyn, sicrhau bod y broses wedi’i dilyn.  Nodwyd y gellid rhoi system hyfforddiant mewn lle ar gyfer pawb sy’n rhan o’r system, ond ni fyddai’r gadwyn ond cyn gryfed â’r linc gwanaf ynddi.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Fel gydag unrhyw drefn, ni ellid rhoi sicrwydd 100%, ond bod y system mor berffaith ag y gall fod.

·         Bod DBS yn wiriad o sefyllfa aelod o staff ar bwynt mewn amser ac yn cael ei ddiweddaru yn unol ag arweiniad cenedlaethol.

·         Ei bod yn arfer da i staff sydd wedi codi pryder am blentyn wirio ydi’r cyfeiriad wedi’i wneud.

 

Awgrymwyd mai’r un peth pwysig sydd ar goll yng nghanol baich y deunydd hyfforddiant i lywodraethwyr yw’r nifer fechan o bethau syml mae llywodraethwyr wirioneddol angen wybod, sef y dylai llywodraethwr cyffredin gyfeirio pryder ynglŷn â staff yr ysgol neu riant i’r pennaeth, neu gyfeirio pryder ynglŷn â’r pennaeth i’r awdurdod.  Mewn ymateb, nodwyd bod hynny yn y polisi, ond o bosib’ bod angen ei amlygu ychydig yn well a’i symleiddio.

 

Nodwyd ei bod yn debygol bod yr achos diweddar yng nghefn meddyliau pawb o’r aelodau wrth drafod y maes hwn.  Roedd yn debygol bod gan y pennaeth dan sylw DBS a bod pawb o’i gwmpas wedi gwneud yr hyfforddiant, ayb, ond er hynny bu methiant.  Roedd y Pennaeth Addysg yn bod yn onest yn dweud na allai’r un system fod yn berffaith, ac roedd yn bwysig cael agwedd hunan-feirniadol tuag at y system.  Nodwyd ymhellach y derbyniodd y pwyllgor hwn adroddiad gan Estyn ar yr Adran Addysg oedd yn datgan bod y gyfundrefn, at ei gilydd, yn gadarn, pan nad oedd hynny’n wir.  Holwyd i ba raddau roedd yr Adran yn trafod hynny gydag Estyn, ac i ba raddau y byddai’r drafodaeth yna gyda’r corff arolygu annibynnol yn cael ei defnyddio i gryfhau trefniadau’r Adran yn y man.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr Awdurdod wedi ymateb yn gwbl ddiffuant a gonest i gwestiynau Estyn fel rhan o’r arolwg a bod yr adroddiad yn amlygu ein bod yn dilyn y canllawiau diogelu yn briodol ar yr adeg hynny.

 

Awgrymwyd bod lle i drafod yr adroddiad ymhellach gydag Estyn gan fod y pwyllgor hwn, a hefyd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn ddibynnol ar adroddiadau cyrff rheoleiddio allanol er mwyn dod i farn ar drefniadau’r Awdurdod.  Nodwyd y gallai adroddiadau o’r fath fod yn ddiffygiol drwy fod y cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn gwestiynau annigonol o ran eu cyrhaeddiad ac felly’n arwain at ddiffyg yn y broses.  Credid bod hynny’n fater i fynd ar ei ôl er ceisio atal methiant systemig.

 

Awgrymwyd, yng nghyswllt cŵyn am bennaeth yn benodol, y dylid cyfeirio’r mater fwy nag unwaith at fwy nag un parti fel nad oes unrhyw beth yn cael ei fethu.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yna drefn gytunedig o ran delio gyda chyhuddiadau yn erbyn pobl mewn safle o ymddiriedaeth, a bod yr Awdurdod yn dilyn y drefn honno.

·         Y byddai’r Pennaeth a’r Adran Addysg yn ymrwymo i unrhyw wersi a newidiadau allai ddeillio o’r adolygiad ymarfer.

 

Gofynnwyd am sicrwydd bod yna raglen hyfforddiant gadarn ar gyfer y lefel nesaf o bobl, hy swyddogion addysg, ac o bosib’, ymgynghorwyr GwE, gan eu bod hwythau hefyd yn derbyn pryderon am faterion diogelu.  Mewn ymateb, rhoddwyd sicrwydd bod yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer swyddogion yr Adran Addysg a’r gwasanaethau eraill i gyd.

 

Nodwyd, o bersbectif rhiant, y byddai’n hynod fuddiol petai yna inffograffig rhyngweithiol eithaf syml ar gael i helpu rhieni / llywodraethwyr i wybod beth i gyfeirio, pryd i gyfeirio ac i ble i gyfeirio.  Gellid gofyn i bob ysgol osod yr inffograffig ar eu safle we a chyfeirio ato bob tymor efallai, er mwyn amlygu bod yna broses gadarn yn ei lle bellach.  Nodwyd bod hyder rhieni yn y system wedi’i dolcio a bod yna waith i’w wneud i godi ymwybyddiaeth o’r arolwg a’r ffordd newydd o wneud pethau er sicrhau bod plant yn ddiogel yn yr ysgolion.  Mewn ymateb, nodwyd bod y pwynt yn un teg ac y byddai’r Pennaeth Addysg yn gofyn i’r swyddogion lunio model o inffograffig i’r ysgolion unigol ei fireinio a’i osod ar eu safle we.

 

PENDERFYNWYD

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.    Argymell bod yr Adran Addysg yn darparu canllaw syml o ran cyfeirio pryderon er defnydd pawb sy’n ymwneud â’r gyfundrefn, megis llywodraethwyr a rhieni.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, nododd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn rhoi cysur i’r pwyllgor bod yna drefn gadarn mewn lle.  Er hynny, roedd yn wir i ddweud hefyd bod ffydd y cyhoedd yn y system wedi’i danseilio.  Awgrymodd, o bosib’, y dymunai’r pwyllgor edrych ymhellach ar y maes hwn yn y dyfodol agos a gellid trafod hynny ymhellach yn y cyfarfod anffurfiol o’r pwyllgor i ddilyn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ategol: