I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod
Cabinet Addysg yn amlinellu
prosiect ar gyfer gwella amodau
arweinyddiaeth ysgolion er mwyn codi
safonau.
(b) Cyfeiriwyd
at nod y prosiect a fyddai’n
edrych ar bum maes penodol sef:
·
Comisiynu adroddiad ar amodau
arwain a rheoli ysgolion y Sir a gweithredu ar yr argymhellion
cytunedig
·
Monitro a herio pob ysgol a defnyddio’r
holl bwerau sydd ar gael
i’r awdurdod wella arweinyddiaeth a rheolaeth mewn ysgolion sy’n tanberfformio
·
Datblygu rheolwyr a darpar reolwyr o fewn gwasanaethau ac adnabod arweinwyr ar gyfer
y dyfodol
·
Datblygu cyfundrefn ysgol i ysgol rymus a sicrhau
bod trefniadau mewn lle er mwyn
rhannu arfer gorau i osgoi dyblygu;
a
·
Sicrhau bod buddsoddiadau
cyfalaf yn arwain at wella amodau arweinyddiaeth a rheolaeth
(c) Ymhelaethwyd
ar y camau nesaf a’r bwriad
i gynnal cyfarfod pellach gydag Ymgynghorwyr
Annibynnol sydd â phrofiad rhyngwladol yn y maes ac y byddent yn croesawu’r
cyfle i gyfweld ag aelodau o’r Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau fel rhan o’u
hymchwil.
(ch) Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau, ac fe wnaed y sylwadau
canlynol:
(i)
A yw’r broblem o recriwtio yn ymwneud â maint
bychan y Sir ac oni fyddai cyfuno gyda
Siroedd eraill o fantais mewn rhannu
arbenigedd?
Mewn ymateb, eglurwyd bod natur ddaearyddol y Sir yn enfawr ac yn
heriol gan fod anghenion ardaloedd
y Sir yn dra gwahanol. Bwriad yr Adran Addysg yw ail-sefydlu’r Swyddfeydd Ardal fel bo
modd cael trafodaethau lleol er mwyn diwallu
anghenion y plant.
O safbwynt datblygu unigolion yn arweinwyr
yn enwedig yn yr ysgolion
lleiaf, rhaid rhoi cyfle iddynt
fedru arwain ar feysydd strategol
er mwyn dangos
profiadau mewn gwahanol feysydd ar gyfer y cymhwyster
CPCP.
(ii)
A oes tystiolaeth
bod rhai ysgolion yn cystadlu yn
erbyn ei gilydd am ddisgyblion?
Mewn ymateb, nodwyd os byddir yn
cyd-berchnogi’r prosiect i wella arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yn rhaid cadw
llygad bod tegwch i bob dalgylch.
(iii)
O safbwynt cytuno ar lefelau
cyrhaeddiad disgyblion wrth bontio o’r
cynradd i’r uwchradd, nodwyd bod yn ofynnol i’r
wybodaeth gyfredol ar gyfer unrhyw
blentyn fod yn gywir o’r
cam cyntaf drwy’r cyfnod addysgol. Nodwyd ymhellach bod asesu yn drafodaeth barhaol
ond er mwyn
pontio llwyddiannus rhwng y cynradd a’r uwchradd rhaid
cael dealltwriaeth rhyngddynt a bod yn glir ynglŷn â dehongliad y meini prawf.
(iv)
Mewn ymateb i bryder ynglŷn â chanfyddiadau gan rieni bod rhai ysgolion yn fwy
Saesnigaidd ac o ganlyniad
bod niferoedd yn lleihau mewn ambell
ddalgylch, nodwyd mai’r her ydoedd cysoni gweithrediad y polisi iaith. Eto, yn yr un modd
gellid cynnal trafodaethau yn lleol er mwyn
sicrhau bod plant yn cael yr un fath
o brofiad a darpariaeth.
(v)
Yng nghyd-destun ffederaleiddio ysgolion cynradd ac uwchradd i’r dyfodol, nodwyd
y byddai hyn yn rhan o’r
ymchwiliad i arweinyddiaeth
a’r modelu amgen. Er bod syniadau
penodol o fewn y Gwasanaeth derbyniwyd bod ymateb gan y gymuned
o ran trefniadau a darpariaeth
yn bwysig. O ran trefniadaeth rhaid sicrhau'r isadeiledd er mwyn i’r
plant gael y canlyniadau gorau. Yn wyneb yr
hinsawdd ariannol sydd ohoni, os
am wella arweinyddiaeth a rheolwyr canol ysgolion, rhaid ystyried dulliau eraill o weithio megis rhannu gwaith
ar draws dalgylch.
(vi) O safbwynt lefel y broblem recriwtio ar hyn
o bryd, nodwyd bod record o
lwyddiant yng Ngwynedd llynedd gan i 9 unigolyn lwyddo i gael y cymhwyster arweinyddiaeth CPCP ac
fe roedd hyn yn cynrychioli
bron i hanner cwota Gogledd Cymru. Fodd bynnag, rhaid creu
cyfundrefn sydd yn hyfyw a rhoi
cyfle i ddarpar arweinwyr ddangos sgiliau i fedru arwain a rheoli. Nodwyd ymhellach bod rhai ysgolion yn rhy
fach i gael Tîm Rheoli sydd
yn fwy na’r
Pennaeth ei hunan ac felly yn ei gwneud
yn anodd i unigolion ennyn profiadau ac yn hyn o beth rhaid
creu cyfundrefn i symud unigolion i fod yn arweinwyr
y dyfodol. Yng nghyd-destun diffyg recriwtio ar draws y Sir, nodwyd ei bod yn mynd
yn anoddach ond rhaid newid
y diwylliant o fod yn annibynnol i fod yn gydweithredol.
(vii) Mewn ymateb i bryder ynglŷn â chyllido rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, hyderir
y bydd y Cyngor yn gallu buddsoddi cymaint ag sy’n bosibl er mwyn
sicrhau bod yr adeiladau yn galluogi'r
gorau ar gyfer yr athrawon
a phobl ifanc.
(viii) Yng nghyd-destun y Tîm Trefniadaeth ysgolion, nodwyd bod y Tîm wedi ei sefydlu
ar gyfer gwaith pwrpasol ar gyfer rhaglen
ysgolion yr unfed ganrif ar hugain,
ac yn ddibynnol ar y gyllideb cyfalaf
a chanfyddiadau’r ymchwiliad
arweinyddiaeth, bydd angen ystyried ail-strwythuro o fewn yr Adran i gyfarch
materion ehangach na threfniadaeth megis rôl cefnogi
arweinyddiaeth yn yr ardal leol.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad.
(b) Enwebu’r aelodau canlynol o’r Pwyllgor Craffu
hwn ar gyfer
cwrdd â’r Ymgynghorwyr Annibynnol sy’n ymwneud â’ prosiect i gynnig sylwadau ac argymhellion ar faterion y mae
angen mynd i’r afael â hwy:
Y Cynghorydd Beth Lawton – (Is-gadeirydd
y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau)
Y Cynghorydd Selwyn Griffiths
Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd
Y Cynghorydd Elin Walker Jones
Y Cynghorydd Dewi Owen
Y Cynghorydd Hefin Williams
Dogfennau ategol: