Cychwyn Trafodaethau Toriadau – Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan
Bennaeth yr Adran gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd yr Aelodau o’r
angen i ddatblygu cynlluniau arbedion a thoriadau ar draws y Cyngor yn sgil y
sefyllfa ariannol bresennol. Esboniwyd bod y Cyngor wedi gwneud toriadau
cyfwerth â 3% dros y ddwy flynedd diwethaf ar draws ei wasanaethau ond pwysleisiwyd
yr angen am fwy o doriadau i’r dyfodol.
Manylwyd bod y Cyngor yn
chwilio i wireddu toriadau gwerth 3% pellach dros y tair blynedd nesaf (oddeutu
£36miliwn). Pwysleisiwyd nad oes penderfyniadau pendant wedi cael eu gwneud hyd
yma a bod Pennaeth yr Adran yn cyflwyno cynlluniau’r Adran ar gyfer arbedion a
thoriadau i’r Aelodau Cabinet ac Arweinydd y Cyngor dros yr wythnosau sydd i
ddod gan amlygu cost gwasanaethau a rhestru gwasanaethau statudol.
Ymhelaethwyd yr ystyrir
bod hyn yn doriad o £2.7miliwn i ysgolion dros y tair blynedd nesaf.
Pwysleisiwyd nad oes penderfyniad ar faint o effeithiau’r toriadau ar ysgolion,
a nodwyd y gobeithir bydd cyfran o’r toriadau yn gallu cael eu gwireddu’n
fewnol. Ystyriwyd bod y toriadau ar ysgolion yn cael eu rhannu fel a ganlyn:
· £1.3
miliwn o doriadau yn y sector gynradd
· £1.2
miliwn o doriadau yn y sector uwchradd
· £178,000
o doriadau yn y sector arbennig.
Gofynnwyd i’r Fforwm am eu
mewnbwn am y dulliau gorau o fynd ati i geisio gwireddu’r toriadau ac arbedion
hyn. Nodwyd y sylwadau isod gan aelodau’r Fforwm:
· Cytunwyd
bod maint y toriadau i’r dyfodol yn frawychus.
· Teimlwyd
ei fod yn bwysig bod ysgolion yn derbyn cadarnhad o isafswm lefel gwasanaeth
sy’n dderbyniol yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan osod allan gofynion penodol yr
ysgolion yn glir i’r penaethiaid.
· Cyfeiriwyd
ei fod yn bwysig nad yw unrhyw doriadau yn effeithio ar yr ysgolion hynny sydd
eisoes mewn gwarchodaeth.
· Ystyriwyd
bod ysgolion o faint canolig yn aml yn dioddef yn ystod cyfnodau heriol o’r
math yma. Eglurwyd y bydd y toriadau yn debygol o arwain at golli profiadau
ymarferol oherwydd na fydd gan ysgolion niferoedd staff digonol i oruchwylio
gweithgareddau o’r fath.
· Pwysleisiwyd
y pwysigrwydd o ddiweddaru’r Strategaeth Addysg.
· Ystyriwyd
nad yw’r gyfundrefn addysg yn effeithlon yng Ngwynedd ar hyn o bryd oherwydd yr
angen i wasanaethu cynifer o ysgolion gyda niferoedd disgyblion yn mynd yn
llai.
· Rhannwyd
ymdeimlad cyffredinol bod unigolion yn derbyn bod cau ysgolion lleiaf y sir yn
anorfod.
Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhawyd bod trefniadau mewn lle i ddiweddaru’r strategaeth addysg a
disgwylir y byddai’n amlygu disgwyliadau gwasanaeth a phwysau ysgolion i’r
dyfodol.
Ymhelaethwyd ei fod yn
debygol i fwy o ysgolion cael eu categoreiddio o dan warchodaeth wrth i’r
cyfnod hwn barhau. Yn anffodus, cadarnhawyd ei fod yn debygol bydd cynnal
sgyrsiau am y posibilrwydd o gau drysau ysgolion yn anorfod oherwydd y wasgfa
ariannol. Eglurwyd os bydd ysgolion yn gorfod cau, bydd yr arbediad ariannol o
gynnal yr ysgolion hynny yn cael ei drosglwyddo i leihau’r arbediad ariannol a
ddisgwylir o ysgolion eraill y sir.
Ystyriwyd bod oediad yr
Adran i foderneiddio addysg hefyd yn cyfrannu at y sefyllfa sy’n wynebu
ysgolion yn y blynyddoedd nesaf. Sicrhawyd bydd yr Adran yn cyfathrebu unrhyw
benderfyniadau a newidiadau gyda’r ysgolion gyda thryloywder wrth symud ymlaen