I dderbyn a
nodi’r Datganiad o’r Cyfrifon Drafft
Cofnod:
Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion
gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben
Mawrth 31ain 2024.
Adroddwyd
bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth
sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur
i’r gronfa wrth roi’r dyraniad asedau strategol ar waith a buddsoddi yn
ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC)
Tynnwyd
sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau
a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn
gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod cynnydd yn y costau rheoli wrth i werth asedau’r
Gronfa gynyddu a chyflwyniad mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio
e.e. credyd preifat.
Amlygwyd
bod incwm buddsoddi'r gronfa wedi codi yn sylweddol a’r buddsoddiadau ecwiti
wedi perfformio yn gryf ac felly wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Nodwyd, fel
rhan o’r dyraniad asedau strategol newydd, bod mwy o fuddsoddi wedi ei wneud yn
y cronfeydd incwm sefydlog, ac mewn un gronfa incwm sefydlog newydd sef y Global Credit Fund. Adroddwyd bod
y buddsoddiadau yma wedi creu incwm llog sylweddol a’r buddsoddiadau yma ar y
cyd, yn cael eu defnyddio i leihau risg y gronfa i gymharu â buddsoddiadau
ecwiti. Eglurwyd bod yr incwm, fwy neu lai, yn dilyn patrwm cyfraddau llog ac
felly’n rhesymol bod y lefel incwm wedi cynyddu yn sylweddol.
Yn
ychwanegol, nodwyd bod cynnydd o oddeutu £300 miliwn yng ngwerth marchnad y
Gronfa wedi i’r marchnadoedd ecwiti adfer yn dilyn effaith rhyfel Wcráin a
chwyddiant uchel. Cyfeiriwyd hefyd at y nodiadau statudol oedd yn yr adroddiad
oedd yn rhoi manylion tu ôl i’r ffigyrau ynghyd a manylion pellach am weithgareddau’r
Gronfa a’r PPC.
Diolchwyd
am yr adroddiad
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer y cyflogwyr a pwy oedd y cyflogwr oedd
wedi gadael erbyn 31/3/24 (nifer 31/3/24 un yn llai na 31/3/23) nodwyd mai
Cynnal, cwmni dan berchnogaeth ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn oedd wedi dirwyn i
ben gyda’r gwasanaeth yn cael ei gynnwys yng ngwasanaethau technegol y Siroedd
unigol. Wedi i’r cwmni ddirwyn i ben, fe welwyd credyd yn y pensiwn ond yn unol
â’r polisi, nid oedd angen talu allan – ni ystyriwyd bod risg yma gan fod
pensiynau'r staff, oedd yn gyflogedig gan Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn yn aros
o fewn y gronfa.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r cronfeydd caeedig (gwerth £12,854,000 wedi ei
dalu allan) ac os oedd y taliad yn berthnasol i gyfnod cyn sefydlu Cyngor
Gwynedd yn 1996 yn dilyn ad-drefnu cynghorau sir yn unol â Deddf Llywodraeth
Leol (Cymru) 1994, cadarnhawyd mai dyma oedd y gronfa gaeedig.
Mewn
ymateb i sylw am yr angen i gynnwys risg seibr / neu
gyfeiriad at risg seibr yn yr adroddiad, nodwyd mai
dogfen am y cyfrifon statudol oedd yma ac y byddai gwybodaeth am risg seibr yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad blynyddol.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â datblygiad Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd
(CBC) ac effaith hyn ar Gronfa Pensiwn Gwynedd, nodwyd gan nad oedd staff ar
hyn o bryd yn gweithio’n uniongyrchol i’r CBC, y byddai’r staff sydd yn
gysylltiedig â’r gwaith hyd yma yn cael eu cydnabod fel staff Cyngor Gwynedd
ond fel endid ar wahân a’u bod yn aelodau o Gronfa Bensiwn Gwynedd ac nid
Cronfa Clwyd. Ategwyd, fodd bynnag, bod llawer o waith cyfreithiol angen ei
wneud cyn lansio’r CBC yn swyddogol 1/11/24.
PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth.
.
Dogfennau ategol: