Agenda item

 

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn egluro perfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn am y flwyddyn ariannol 2023/24. Adroddwyd bod y rheolwyr buddsoddi yn cael eu monitro yn chwarterol gan y Panel Buddsoddi gyda chyflwyniad o’r perfformiad yn cael ei adrodd i’r Aelodau gan yr ymgynghorwyr ynghyd a gwahoddiadau i reolwyr buddsoddi yn eu tro fynychu ac egluro’r perfformiad ymhellach.

 

Amlygwyd bod gwerth y gronfa ar y 31ain o Fawrth (dros y 10 mlynedd diwethaf) wedi cynyddu i £3.1 biliwn sydd yn dilyn patrwm o gynnydd graddol dros amser. Nodwyd bod perfformiad y gronfa wedi bod yn gryf gyda dychweliadau o 11.2% dros y flwyddyn, ac er bod hyn yn is na’r meincnod, roedd yn uwch na chyfartaledd Cronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol Prydain, oedd yn 9.2%. Ategwyd bod y meincnod a osodir yn heriol ynghyd ag amodau heriol y farchnad, yn enwedig o fewn ecwiti gweithredol (active equities).

 

Wrth drafod perfformiad Rheolwyr Buddsoddi Ecwiti, cyfeiriwyd at ddwy gronfa BlackRock sydd wedi perfformio’n dda dros y chwarter a’r flwyddyn ac yn unol a’r meincnod. Nodwyd bod y rheolwyr actif, sydd yn ceisio ennill y meincnod, wedi tanberfformio gan fod tanbwysau (underweights) i’r Unol Daleithiau ac amlygiad i ecwitïau o arddull gwerth yn amharu ar enillion cyffredinol y Gronfa. Ategwyd bod perfformiad y cronfeydd yn gallu bod yn gylchol ac felly’n rhesymol a disgwyliedig bod tan berfformio yn digwydd, ond bod Cronfa Global Growth, sydd yn cynnwys y rheolwyr buddsoddi Baillie Gifford, Pzena a Veritas, wedi bod yn tan berfformio ers peth amser bellach ac PPC yn edrych ar strwythur y gronfa yma i weld be all newid.

 

Wrth drafod perfformiad y Rheolwyr Incwm Sefydlog, eglurwyd bod y cronfeydd yma wedi cael cyfnodau heriol gydag ansefydlogrwydd yn y farchnad oherwydd rhyfel Rwsia a Wcráin, a chyfnod lle'r oedd chwyddiant a chyfraddau llog uchel. Er hynny, adroddwyd bod y farchnad yma wedi sefydlogi bellach a’r cronfeydd wedi perfformio yn agos at y meincnod dros y flwyddyn.

 

Wrth drafod Rheolwyr Eiddo, amlygwyd bod perfformiad y sector yn gyffredinol wan a thu ôl i’r meincnod a hynny oherwydd heriau yn y marchnadoedd eiddo lle gwelwyd bod y cronfeydd yma wedi buddsoddi e.e. mewn swyddfeydd a’r stryd fawr. Eglurwyd y bydd cryn dipyn o newid i’r portffolio eiddo dros y blynyddoedd nesaf gyda Chronfa Eiddo Lothbury yn dod i ben a’r arian i’w ddychwelyd. Nodwyd y bydd hyn yn golygu y bydd cronfeydd eiddo PPC gydag opsiynau posib i fuddsoddi arian Lothbury i dair cronfa wahanol - eiddo’r Deyrnas Unedig, eiddo Rhyngwladol ac eiddo Effaith (impact). Ategwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal ynglŷn â’r dull gorau o ail fuddsoddi’r arian yma.

 

Yng nghyd-destun Grwp Partners (sydd yn gyfrifol am reoli buddsoddiadau ecwiti preifat ac isadeiledd y Gronfa), nodwyd ei bod yn anodd mesur eu perfformiad mewn cyfnod penodol oherwydd oediad amser (time lag) ac felly nid yw’r gwir berfformiad yn cael ei fesur hyd nes bydd y gronfa wedi cau yn derfynol. Er hynny ategwyd bod Partners yn perfformio yn dda ac nad oedd Hymans wedi codi pryderon ynglŷn â’u ffigyrau. Ategwyd, fel rhan o PPC, bod buddsoddiad wedi ei wneud mewn nifer o gronfeydd gwahanol yn y maes yma ac felly bydd mwy o gronfeydd i adrodd arnynt flwyddyn nesaf.

 

Nodwyd bod perfformiad y Gronfa yn cael ei asesu’n rheolaidd er mai buddsoddi tymor hir yw’r amcan. Amlygwyd bod perfformiad y Gronfa dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn is na’r meincnod oherwydd perfformiad rhai o’r cronfeydd ecwiti, incwm sefydlog ac eiddo, ac er bod y perfformiad 3 blynedd tu ôl i’r meincnod, roedd y Gronfa yn safle 18 allan o tua 100 o holl gronfeydd Prydain sy’n dangos bod y meincnod a osodwyd yn heriol.

 

Cyfeiriwyd hefyd at yr eglurder ynglŷn â’r dyraniad asedau strategol lle adroddwyd bod Cronfa Gwynedd wedi gosod strategaeth i leihau risg i’r gronfa, h.y. lleihau’r lefelau o ecwiti a buddsoddi mewn isadeiledd a chredyd preifat. Ategwyd y byddai’r gwaith yn digwydd dros y 12-18 mis nesaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad - yr adroddiad yn un da ac yn adlewyrchu sefyllfa foddhaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am beth oedd ystyr Eiddo Effaith, nodwyd bod hyn yn cyfeirio at eiddo fyddai yn gwneud gwahaniaeth, megis Tai Cymdeithasol neu fuddsoddiadau lleol. Ategwyd bod Gwynedd yn dymuno buddsoddi mwy yn y math yma o eiddo, ond bod angen ychydig mwy o wybodaeth cyn ymrwymo yn bendant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd unrhyw fath o awgrym o werth buddsoddiadau tymor hir Grwp Partners, nodwyd bod Hymans yn cyflwyno adroddiadau chwarterol o berfformaid Partners a bod y perfformiad yn dda iawn a’r dychweliadau yn dderbyniol. Er hynny, nid oedd bwriad ail fuddsoddi yn Grwp Partners gan nad ydynt yn rhan o fuddsoddiadau PPC.

 

Nododd Tony Deakin ei fod wedi mynychu Fforwm Buddsoddi Strategol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn ddiweddar gyda llawer o bynciau trafod yn ymwneud ac ecwiti byd eang (effaith risg posib ar y farchnad yn dilyn canlyniad etholiad arlywydd yr Unol Daleithiau, cyflwyno technoleg newydd yn y diwydiant gofal iechyd, buddsoddi mewn buddsoddiadau carbon ynghyd a’r awgrym bod cynnydd tebygol yn mynd i fod ar wariant yn y maes amddiffyn). Amlygodd yr angen i fod yn fyw i’r materion hyn ac y byddai gwybodaeth bellach am y materion o fudd i’r Bwrdd.

 

Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn â bod yn agored i effaith risg marchnad Tsiena o ystyried safbwynt Plaid Weriniaethol yr UDA a’r fuddsoddi gyda Tsiena, nodwyd, drwy PPC bod dipyn o swm wedi ei fuddsoddi yn y gronfa ecwiti byd-eang ond bod y swm wedi ei rannu dros nifer o wledydd. Ategwyd bod arbenigwyr yn cadw llygad ar y sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Dogfennau ategol: