I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg, Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, ar yr uchod.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad yr Ymchwiliad
Craffu Addysg Gymraeg a fu’n ymchwilio i weithrediad, cysondeb a llwyddiant Polisi Iaith yr awdurdod
yn ysgolion y Sir.
(b) Adroddodd y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd, Cadeirydd yr Ymchwiliad, bod yr ymchwil wedi
ei gyfyngu i dri dalgylch sef
Ardudwy, Bangor a Botwnnog oherwydd demograffeg ieithyddol y tair ardal benodol. Edrychwyd ar sut y gweithredir
Polisi Iaith yr awdurdod ar
lawr gwlad mewn ysgolion unigol
a'r graddau y mae’r ddarpariaeth yn gymorth i hybu’r
defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg gan
blant a phobl ifanc. Tynnwyd sylw at yr atodiadau ynghlwm
i’r adroddiad a oedd yn nodi
sut y daethpwyd i gasgliad ar yr
argymhellion. Cydnabyddir bod gwaith gwych yn digwydd
yn yr ysgolion
ond nid da lle gellir gwell
i barhad y Gymraeg oddi fewn a thu
allan i’w llibart.
(c) I gloi, cymerodd Cadeirydd yr Ymchwiliad y cyfle i ddiolch i’w gyd-aelodau a’r swyddogion am adroddiad cynhwysfawr a chlir. Diolchodd hefyd i bawb a fu’n rhan
o’r Ymchwiliad drwy rannu eu
profiadau yn agored.
(ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:
(i)
Mynegwyd pryder o’r hyn
sy’n cael ei weithredu mewn
ysgolion preifat yn y Sir gyda fwyfwy
o ddisgyblion yn dod allan o’r
ysgolion hyn yn ddi-gymraeg.
Mewn ymateb i’r uchod,
esboniwyd bod y sector cyhoeddus
yn gorfod dilyn cwricwlwm cenedlaethol ond bod rhyddid i’r sector annibynnol, yn unol ag Adran 163 o’r Adran Arolygu,
gynnig cwricwlwm eang lle nad
oes raid i’r Gymraeg fod yn
rhan o’r cwricwlwm hwnnw. Nodwyd nad oedd gan
yr awdurdod addysg oruchwyliaeth drostynt ond gellid
cysylltu â Llywodraeth Cymru / ESTYN i ganfod beth yw
gofynion yr Adran benodol o’r
ddeddf ac a yw’r arolygaeth yn mesur
yn gydnaws i anghenion lleol.
(ii)
Bod plant yn gwneud cynnydd da yn y Canolfannau Hwyrddyfodiad ond mynegwyd rhwystredigaeth bod y gyrwyr cludiant i’r plant i ac o’r canolfannau hyn yn ddi-gymraeg. Awgrymwyd y dylid gwneud cais
i’r cwmnïau sydd yn ennill
y cytundebau cludiant bod anghenraid i’r gyrwyr fod
yn gallu siarad Cymraeg.
Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r Gwasanaeth Addysg yn ymchwilio i’r
uchod.
(d) Nodwyd, er gwybodaeth i Aelodau, derbyniwyd cais gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdod
rannu’r Siarter Iaith ar draws Cymru.
(dd) Diolchodd yr Aelod
Cabinet Addysg i’r Ymchwiliad
Craffu am y gwaith trwyadl a gyflawnwyd ganddynt ac fe groesawyd a derbyniwyd yr holl argymhellion.
Penderfynwyd: (a) Derbyn cynnwys yr adroddiad
a chymeradwyo’r argymhellion
a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg gan ofyn iddo gyflwyno
adroddiad cynnydd ar y gweithrediadau ymhen chwe mis.
(b) Gofyn i Swyddog Arweiniol yr Ymchwiliad Craffu
rannu canfyddiadau’r Ymchwiliad Craffu gydag ysgolion a chanolfannau iaith y Sir.
(c) Cyfleu i Lywodraeth Cymru / ESTYN pryder y Pwyllgor Craffu hwn ynglyn
a chwricwlwm ysgolion yn y sector annibynnol o ddefnydd yr iaith
Gymraeg fel amlinellir yn (i) uchod.
Dogfennau ategol: