Agenda item

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Ystyriwyd ac nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.

2.     Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llwyodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau gyda chefnogaeth swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Ystyriwyd ac nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.

2.     Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llwyodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd Uchelgais, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy ddiweddariadau Uchelgais Gogledd Cymru gan dynnu sylw penodol at y rhaglenni canlynol:

 

Y Rhaglen Ddigidol

Mynegwyd balchder bod Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Safleoedd a Choridorau Cysylltiedig ‘4G+’ wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Mawrth. Esboniwyd bod y gwaith o ddatblygu Achos Busnes Lawn gan gynnwys paratoadau ar gyfer ymgysylltu â’r farchnad eisoes wedi cychwyn.

 

Nodwyd bod Adolygiad Porth 2 ar Achos Busnes Amlinellol cynllun Di-wifr Uwch Campysau Cysylltiedig wedi ei gwblhau ym mis Mai. Cadarnhawyd bod y prosiect wedi derbyn graddfa Ambr a phwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r argymhellion cyn cyflwyno’r Achos Fusnes Amlinellol i’r Bwrdd ym mis Medi.

 

Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau rhanbarthol sydd ar waith er mwyn cefnogi busnesau bach a chanolig i ymchwilio i dechnolegau newydd ac i wella cysylltedd band eang mewn cymunedau lleol. Nodwyd bod y prosiectau hyn wedi ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Rhaglen Ynni Carbon Isel

Datganwyd bod prosiect ‘Egni’ arweinir gan Brifysgol Bangor yn gwneud cynnydd da. Nodwyd bod Cam 3 RIBA yn barod i’w lofnodi’n derfynol a gobeithiwyd bydd Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn y gwanwyn. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud i oresgyn materion allweddol yn ymwneud â chytundeb ariannu’r prosiect Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy, cyn cyflwyno’r achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried.

 

Nodwyd bod cydweithrediad cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwireddu prosiect Hwb Hydrogen Caergybi. Esboniwyd bod y prosiect yn gobeithio cryfhau’r sefyllfa pryniant ‘offtake’ ar gyfer Hydrogen cyn symud ymlaen i’r can nesaf.

 

Cadarnhawyd bod dogfennau tendr Ymgynghorydd y Gronfa ynghlwm â phrosiect Ynni Lleol Blaengar ar hyn o bryd yn cael ei cwblhau, ynghyd ar amserlen ar gyfer lansio’r tendr ac adolygu’r cyflwyniadau yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd.

 

Rhaglen Tir ac Eiddo

Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau’r rhaglen gan gynnwys Warren Hall, Porth y Gorllewin, Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Parc Bryn Cegin, Porth Wrecsam a Phorth Caergybi.

 

Esboniwyd bod Stage Fifty Ltd, datblygwyr prosiect Stiwdios Kinmel, wedi ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ddechrau Ebrill 2024 gan eu prif ariannwr. Pwysleisiwyd bod trafodaethau arfaethedig wedi ei cynnal rhwng swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r unigolion allweddol oedd ynghlwm wrth y cynnig gwreiddiol. Cadarnhawyd bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud er mwyn ystyried a oes modd datblygu’r cais diwygiedig. Hyderwyd bydd modd cyflwyno’r prosiect cyn diwedd y flwyddyn er y risgiau. Gobeithiwyd bydd cytundebau ar ariannu’r prosiect yn cael eu cadarnhau erbyn yr Hydref.

 

Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth

Adroddwyd bod prosiect Anturiaethau Cyfrifol yn parhau i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol drwy ymweliadau safle gyda rhanddeiliaid a pharatoi ar gyfer ceisiadau cyn-cynllunio. Nodwyd y gobeithir i’r Achos Busnes Amlinellol gael ei gyflwyno i’r Bwrdd cyn diwedd y flwyddyn hon.

 

Soniwyd bod tîm y Rhwydwaith Talent Twristiaeth a’r Swyddfa Rheoli Portffolio yn cydweithio i gwblhau’r caffael a’r Achos Busnes Llawn. Eglurwyd hefyd bod gwaith yn mynd rhagddo ar gyfer ail-frandio, prosiect sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn hybu ymgysylltu â myfyrwyr. Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn dewis is-ganolfan terfynol y prosiect.

 

Cydnabuwyd bod swyddogion yn ystyried opsiynau amgen ar gyfer Canolbwynt Economi wledig Glynllifon wedi iddynt dderbyn adborth arolygon amgylcheddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Atgoffwyd bod grŵp tasg a gorffen a sefydlwyd ar gyfer archwilio bwlch yn y meysydd amaeth a garddwriaeth y Cynllun Twf wedi derbyn adroddiad ymchwil drafft. Cadarnhawyd bod y grŵp yn gweithio gyda’r Bwrdd Rhaglen a rhanddeiliaid ehangach er mwyn cwblhau’r adroddiad a’i rannu’n rhanbarthol.

 

Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch

Soniwyd bod y gwaith o adeiladu’r Ganolan Opteg a Pheirianneg Menter yn datblygu’n dda gan nodi bod caffael pellach ar gyfer y prosiect wedi ei lansio er mwyn adnewyddu opteg, meddu ag offer addas yn ogystal â datblygu’r elfen hydrogen ohono.

 

Aethpwyd ymlaen i fanylu ar Gofrestr Risg y Portffolio gan gadarnhau bod risg grosCaniatâd Cynllunio a Statudolwedi cynyddu yn ystod y chwarter. Nodwyd bod y risg hwn yn uchel ond mae caniatâd yn cael ei reoli ar lefel rhaglen a phrosiect o fewn y Cynllun Twf er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei reoli’n effeithiol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: