Stuart
Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo
Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer y prosiect LPWAN ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151
a’r Swyddog Monitro, i gaffael a sefydlu’r ffamweithiau gofynnol i gyflawni’r
prosiect, yn amodol ar y Swyddfa Rheoli Portffolio yn ymdrin â’r materion sy’n
parhau fel nodir yn Adran 7.1 o’r adroddiad.
2.
Nodi’r
broses ar gyfer cael mynediad at gyllid drwy’r fframweithiau yn cynnwys
cyflwyno cynllun cyflawni ar gyfer pob ardal awdurdod lleol a dirprwyo’r
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Aelod Arweiniol ar
gyfer y Rhaglen Ddigidol a’r Bwrdd Rhaglen Ddigidol i gymeradwyo’r cynlluniau
cyflawni a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio yn unig y dyraniad cyllid
dilynol drwy’r fframweithiau.
3.
Nodi
bod yr Achos Cyfiawnhad Busnes LPWAN yn is-gyfres o’r prosiect Campysau
Cysylltiedig mwy y bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ohono ac yn cytuno i’r
egwyddor bod unrhyw danwariant yng nghyllideb y prosiect LPWAN yn cael ei
glustnodi i’r prosiect Camysau Cysylltiedig yn y lle cyntaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen
Ddigidol.
PENDERFYNIAD
1.
Cymeradwyo Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer y prosiect LPWAN
ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr
Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gaffael a sefydlu’r
fframweithiau gofynnol i gyflawni’r prosiect, yn amodol ar y Swyddfa Rheoli
Portffolio yn ymdrin â’r materion sy’n parhau fel nodir yn Adran 7.1 o’r
adroddiad.
2.
Nodi’r
broses ar gyfer cael mynediad at gyllid drwy’r fframweithiau yn cynnwys
cyflwyno cynllun cyflawni ar gyfer pob ardal awdurdod lleol a dirprwyo’r
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Aelod Arweiniol ar
gyfer y Rhaglen Ddigidol a’r Bwrdd Rhaglen Ddigidol i gymeradwyo’r cynlluniau
cyflawni a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio yn unig y dyraniad cyllid
dilynol drwy’r fframweithiau.
3.
Nodi bod yr Achos Cyfiawnhad Busnes LPWAN yn is-gyfres o’r
prosiect Campysau Cysylltiedig mwy y bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ohono ac
yn cytuno i’r egwyddor bod unrhyw danwariant yng nghyllideb y prosiect LPWAN yn
cael ei glustnodi i’r prosiect Campysau Cysylltiedig yn y lle cyntaf.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i’r Achos Cyfiawnhad Busnes Llawn ar gyfer Prosiect
LPWAN.
Fel prosiect sy’n
cael ei gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru, mae angen cymeradwyaeth gan y
Bwrdd i sefydlu’r fframweithiau fydd yn cyflawni’r prosiect. Oherwydd natur a
gwerth y prosiect, yn unol â chanllawiau ‘Better Business Case’ cyflwynir Achos
Cyfiawnhad Busnes sy’n gofyn am gymeradwyaeth sengl gan y Bwrdd yn unig.
TRAFODAETH
Esboniwyd bod y
defnydd o Ryngrwyd Pethau (IoT) - sef rhwydwaith o ddyfeisiau a synwyryddion sy’n
gallu casglu a rhannu data gyda phobl neu ddyfeisiadau eraill, a gweithredu yn
unol â’r wybodaeth - wedi tyfu’n gyflym mewn defnydd ac amrywiaeth ers 1999.
Cadarnhawyd bod oddeutu 950 o byrth i Ryngrwyd Pethau dros Brydain.
Ymhelaethwyd bod y datblygiadau hyn mewn casglu data o ansawdd uchel yn
caniatáu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus. Manylwyd bod hyn yn bosibl
gan bod defnyddwyr yn derbyn gwybodaeth fanwl am ased ar wahanol raddfeydd,
pellteroedd ac amleddau, drwy gyfrwng sy’n gwaredu’r heriau cyffredinol o
gasglu data. Eglurwyd bod nifer o Rwydweithiau Pethau preifat eisoes yn bodoli
ym Mhrydain megis mesuryddion clyfar a systemau monitro amgylcheddol.
Nodwyd bod
Rhyngrwyd y Pethau yn cael eu defnyddio ym Mhrydain ac yn fyd-eang i gyflawni
buddion economaidd ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Cadarnhawyd mai
nod y prosiect hwn yw ehangu’r defnydd o Ryngrwyd Pethau, sydd â chymwysiadau
eang yn y rhanbarth, gan ddefnyddio’r sector gyhoeddus fel defnyddiwr angor i
gefnogi hygyrchedd ehangach i’r sector preifat.
Adroddwyd bod
pedair prif amcan gwariant i’r prosiect LPWAN, sef:
1.
Cyflawni cysylltedd
LPWAN fforddiadwy a rhwydd i’w ddefnyddio, i leoliadau o flaenoriaeth
yn siroedd y rhanbarth erbyn 2027 (gan alluogi effeithlonrwydd
ledled gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus).
2.
Cefnogi mabwysiadu
10-20 rhaglen newydd o dechnoleg LPWAN ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y rhanbarth
erbyn 2032.
3.
Cefnogi rhwng £0.1m a
£0.5m o fuddsoddiad yn y rhanbarth erbyn 2032.
4.
Cefnogi creu 20 o swyddi yn y rhanbarth
erbyn 2032.
Cadarnhawyd bod
rhwydweithiau LPWAN wedi eu cynllunio ar gyfer cymwysiadau a gwasanaethu
Rhyngrwyd Pethau sydd â chyfraddau data isel, batrïau hir oes a gallant weithredu mewn lleoliadau anghysbell ac anodd eu
cyrraedd.
Esboniwyd bydd
nifer o dechnolegau yn cael eu defnyddio fel rhan o’r cynllun LPWAN, gan
gynnwys LTE-M ac NB-IoT. Nodwyd bod y rhain yn cael
eu defnyddio mewn cyswllt â rhwydweithiau ffonau symudol gan fanylu bydd modd
integreiddio rhwydwaith LPWAN ar orsafoedd sylfaen symudol (mastiau ffôn)
presennol. Ystyriwyd bod defnyddio'r rhain fel rhan o’r rhwydwaith yn addas gan
eu bod wedi’i optimeiddio ar gyfer bywyd batri hir iawn ac yn gallu ymdopi â
chyfraddau data uwch oherwydd eu bod fel arfer yn cael darparu gwasanaeth i
ddefnyddwyr am ffi yn fisol yn unol â rheolaeth y cwmni darparol.
Ymhelaethwyd bydd
technoleg LoRa hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn
cynllun LPWAN. Esboniwyd ei fod yn ffynhonnell technoleg agored gan ddefnyddio trwydded
di-sbectrwm. Nodwyd ei fod yn ddull effeithiol o ddarparu gwasanaeth da
gyda phŵer trosglwyddiadol isel iawn wrth hefyd
ganiatáu adeiladu datrysiad preifat diwedd i ddiwedd.
Cydnabuwyd gall
derbyn mynediad i rwydwaith LPWAN fod yn heriol i fusnesau bach yn sgil y
buddsoddiad cychwynnol gofynnol, yn enwedig ble nad ydynt wedi treialu defnydd
y rhwydwaith i’w busnes cyn ymrwymo’n ariannol. Fodd bynnag, tynnwyd sylw at
feysydd ble mae defnyddio rhwydwaith LPWAN wedi bod yn llwyddiant megis:
gwella’r defnydd o wrtaith a monitro amodau pridd yn y maes amaethyddol yn
ogystal â monitro defnydd bae parcio a niferoedd ymwelwyr mewn adeiladau o fewn
y maes twristiaeth.
Datganwyd bod
oddeutu 100 o byrth i’r rhwydwaith dros ranbarth Gogledd Cymru ar hyn o bryd a
nodwyd bydd y prosiect yn llenwi’r bylchau a welir yn y system ar hyn o bryd
drwy ddatblygu fwy o byrth i’r rhwydwaith. Gobeithiwyd bydd oddeutu 250 o byrth
i’r rhwydwaith wrth i’r prosiect ddatblygu. Llongyfarchwyd Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy ar lwyddo i weithredu LPWAN dros gyfran helaeth o’r Sir, ond
eglurwyd bydd y pyrth hyn yn sicrhau bod mynediad i’r rhwydwaith ym mhob rhan
o’r rhanbarth yn unol â’r gofynion i lenwi bylchau.
Soniwyd mai cam
cyntaf y cynllun bydd i ddatblygu mapio cychwynnol y lleoliadau porth gorau
posibl. Esboniwyd bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn caffael y pyrth gan roi’r
cyfle i’r awdurdodau lleol i fuddsoddi yn y pyrth hynny. Cadarnhawyd bydd hyn
yn sicrhau bod y fframwaith yn parhau i fod yn gyflawn ac yn derbyn yr un
rheolaeth ar draws y rhanbarth. Ymhelaethwyd bod ail gam y cynllun yn sicrhau’r
defnydd o synwyryddion er mwyn dangos ceisiadau a buddion ar draws y
gwasanaethau. Eglurwyd bydd hyn yn arwain at drydedd cam y cynllun gan alw ar
Arweinyddion yr awdurdodau lleol i’w hyrwyddo ac ysgogi'r gallu i ychwanegu
defnyddwyr ychwanegol i’r rhwydwaith.
Pwysleisiwyd bydd
dyddiadau gosod ar gyfer ymuno a’r rhwydwaith yn cael eu pennu am gyfnod o dair
blynedd unwaith bydd yr awdurdodau lleol wedi darparu rhestr o safleoedd i’r
pyrth angenrheidiol. Ymhelaethwyd bydd gofyn i’r awdurdodau adrodd ar y buddion
maent wedi ei weld wedi iddynt wneud defnydd o’r rhwydwaith yn ogystal â
monitro’r niferoedd sy’n mabwysiadu’r rhwydwaith o’r sector breifat.
Datganwyd bod yr
achos cyfiawnhad busnes hon wedi cael ei adolygu a bod adborth strategol,
economaidd, masnachol ac ariannol wedi ei dderbyn. Manylwyd ar adborth
rheolaethol a dderbyniwyd gan gadarnhau bydd rheolwr prosiect rhan amser yn
cael ei benodi ym mis Medi er mwyn goruchwylio’r diweddariadau. Nodwyd bydd
swyddogion hefyd yn diweddaru’r gofrestr risg gan gadw mewn cysylltiad cyson
gyda’r awdurdodau lleol er mwyn bod yn ymwybodol o’u gofynion ynglŷn â’r
rhwydwaith.
Cydnabuwyd bod
rhai risgiau i’r cynllun gan gynnwys:
·
Cyllid Refeniw - Nodwyd
bod yr awdurdodau lleol yn cwrdd
â’r costau refeniw wrth gefnogi’r
capasiti ychwanegol a chyflawni’r gweithgareddau hybu galw cymedrol
dros gyfnod o dair blynedd. Nodwyd
bydd cynlluniau cyflawni lleol y cynghorau yn cadarnhau
lefelau defnyddio y gellir ymdopi â hwy a phwysleisiwyd bod yr awdurdodau wedi
rhoi adborth cadarnhaol nad yw’r cynnydd yng
nghostau’r defnydd yn un sy’n achosi
pryder.
·
Mabwysiadu gan
y sector gyhoeddus - Soniwyd os nad yw’r
cynghorau yn llwyddo i adnabod
rhaglenni cynhyrchiol a allai arwain
at fuddion, mae risg y gallai gwasanaethau
porth estynedig fynd yn anghynaladwy.
Eglurwyd gellid rheoli’r risg drwy
gynlluniau defnyddio lleol er mwyn ymrwymo’r
cynghorau i lefel dderbyniol o ddefnydd y gellir ymdopi ag o a bydd
y rhwydwaith yn tyfu mewn ymateb
i’r galw. Pwysleisiwyd mai’r dull lliniaru allweddol yw hybu dwys
ac adolygu cyfleoedd o fewn awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus cyn a tra ei fod
mewn defnydd.
·
Mabwysiadu gan
y sector breifat – Cadarnhawyd
os yw lefel
yr ymrwymiad gan y sector breifat yn gyfyngedig, na fydd y buddion
anuniongyrchol ehangach sy’n gysylltiedig ag arloesol, twf a chyflogaeth yn cael eu gwireddu.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweithgareddau hybu yn lleol. Nodwyd
bydd Uchelgais Gogledd Cymru hefyd
yn cydweithio â rhan-ddeiliaid sydd eisoes yn hybu
Rhyngrwyd Pethau er mwyn codi ymwybyddiaeth
a derbyn cyllid pellach er mwyn ymestyn yr ymgysylltu.
Ystyriwyd bod
hyrwyddo’r rhwydwaith gyda’r sector breifat yn allweddol i lwyddiant y cynllun
o fewn y rhanbarth. Gobeithiwyd bydd rhaglen hyrwyddo bwrpasol yn cael ei
ddatblygu er mwyn sicrhau bod y risg hon yn cael ei gyfarch yn ychwanegol i
weithgareddau hybu. Manylwyd ar y cynllun hyrwyddo rhagweladwy gan nodi ei fod
yn cynnwys gweithdai, seminarau a rhannu gwybodaeth ar y we. Pwysleisiwyd bydd
hyn yn gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol a’r rheolwr prosiect.
Adroddwyd y
gobeithir bydd Cynlluniau Defnyddio Lleol yn cael eu cymeradwyo o fewn yr
awdurdodau lleol erbyn Mawrth 2025 gyda gweithgareddau hybu galw cyntaf yn cael
eu cynnal yng ngwanwyn 2025. Cadarnhawyd gwariant y prosiect i fod oddeutu
£1.1m.
Dogfennau ategol: