JAC Y
DO, CLWB CEIDWADWYR, CAERNARFON, GWYNEDD
LL55 1RT.
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais fel
cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau sŵn a golau a
gyflwynwyd gan Adran Iechyd yr Amgylchedd.
·
Ni chaniateir cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LAeq 15
munud yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5, 63 a 125Hz oddi fewn i unrhyw
eiddo preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo yn agored neu ar gau) o
ganlyniad i sŵn adloniant yn deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas yr
amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142: 2019 .
·
Er mwyn arbed i sŵn a dirgrynant adael yr
eiddo trwyddedig, bydd drysau a ffenestri'r adeilad yn cael eu cadw ar gau yn
ystod yr adloniant, heblaw i sicrhau mynediad i mewn ac allan o’r eiddo.
·
Os, wedi cyhoeddi'r drwydded hon, bydd Cyngor
Gwynedd yn derbyn tystiolaeth nad oes cydymffurfiaeth ag amod (i) bydd
perchennog yr eiddo yn gwneud y canlynol:
-
Gwneud unrhyw waith ynysu / arbed sŵn er
mwyn sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio ac amod sŵn a / neu
-
Gosod dyfais rheoli sŵn yn yr ystafell/oedd
lle cynhelir yr adloniant. Bydd y ddyfais wedi ei sefydlu i dorri cyflenwad
trydan unrhyw system sain neu wrthsefyll cynnydd mewn lefel sŵn uwchlaw'r hyn sydd wedi ei sefydlu fel uchafswm
caniataëdig.
·
Unwaith bydd lefel ar ddyfais reoli sŵn yn
cael ei sefydlu, nid yw’r lefel yma i’w newid heb ymgynghoriad a Swyddog Iechyd
yr Amgylchedd (Llygredd), Cyngor Gwynedd.
·
Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu
ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 -
08:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu
fin gyda chaead.
·
Bydd arwyddion clir a dealladwy yn cael eu gosod
wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid sydd yn gadael yr adeilad i gysidro
trigolion lleol, yn arbennig yn eu hannog i beidio â gweiddi, clepian drysau
ceir na chanu cyrn ceir.
·
Ni chaniateir i unrhyw gerddoriaeth cael ei
chwarae tu allan yr eiddo.
·
Nid yw unrhyw oleuo mewnol nac allanol sydd i’r
pwrpas o ddiogelwch staff neu ddiogelwch yr eiddo yw gosod mewn modd sydd yn
achosi niwsans i unrhyw eiddo ger llaw.
Amodau ychwanegol i
gynnwys
·
Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor yn
manylu ar botensial sŵn o gerddoriaeth chwyddedig yn yr eiddo o effeithio
ar eiddo cyfagos sy'n sensitif i sŵn ar Stryd y Farchnad, Stryd Fawr,
Caernarfon, a'r fflatiau uwchben yr adeilad.
·
Os yw’r asesiad yn dangos bod sŵn o’r eiddo
yn debygol o effeithio ar eiddo cyfagos sy’n sensitif i sŵn, yna bydd yn
cynnwys cynllun manwl o fesurau lliniaru sŵn i ddangos na fydd niwsans yn
cael ei achosi i feddianwyr eiddo cyfagos sy’n sensitif i sŵn gan sŵn
o’r eiddo trwyddedig.
·
Bydd yr holl waith a argymhellir yn cael ei
gwblhau cyn dechrau'r drwydded safle a rhaid hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu o
leiaf 5 diwrnod cyn i'r gwaith gael ei gwblhau a'r eiddo'n cael ei ddefnyddio.
·
Bydd peiriant cyfyngu sŵn yn cael ei osod i
reoli a mesur sŵn
·
Cynnwys y
mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.
Cofnod:
Eraill a wahoddwyd:
Non Edwards –
Ymgeisydd
Siân Astley - Partner Busnes yr ymgeisydd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.
Ategodd y Rheolwr
Trwyddedu, yn absenoldeb Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, ers cyhoeddi rhaglen yr
Is-bwyllgor, bod asesiad sŵn wedi ei dderbyn a bod y swyddog bellach yn
argymell cymeradwyo’r cais yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau sŵn a
golau a gyflwynwyd gan Adran Iechyd yr Amgylchedd.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffaith bod
Adran Gwarchod y Cyhoedd yn ymdrin â chais cynllunio i’r eiddo gael ei
ddefnyddio fel tafarn, ac nad oedd ystyriaethau digonol wedi eu gwneud i reoli
sŵn, nododd y Swyddog Cyfreithiol er bod sŵn yn fater perthnasol i
gyfundrefn cynllunio a thrwyddedu mai’r cyd-destun trwyddedu oedd angen ei
ystyried yma.
ch)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:
·
Mai’r bwriad oedd chwarae miwsig cefndirol – dim
byd swnllyd. Nad oedd bwriad chwarae cerddoriaeth byw pob dydd – efallai
unwaith bob pythefnos
·
Bod yr eiddo wedi agor dros dro yn ystod Gŵyl
Fwyd Caernarfon ac fe ddaeth i’r amlwg yr adeg hynny bod angen cais cynllunio.
Nid oedd y landlord wedi gwneud un
·
Bod asesiad sŵn bellach wedi ei gyflwyno
d) Manteisiodd
yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a
gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.
Yn absenoldeb Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, cadarnhaodd y Rheolwr
Trwyddedu bod asesiad sŵn bellach wedi ei dderbyn a bod y swyddog yn
fodlon bod yr asesiad hwnnw yn cydymffurfio â’r gofynion. Diolchodd hefyd bod
cydweithio da wedi bod rhwng Adran Gwarchod y Cyhoedd a’r ymgeisydd.
Diolchwyd i bawb am eu sylwadau
Ymneilltuodd yr
ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd,
sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y
Swyddog Trwyddedu ynghyd
â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad. Ystyriwyd
Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu
pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion
trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd
y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion
uchod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais fel cafodd ei
gyflwyno, yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau sŵn a golau a gyflwynwyd
gan Adran Iechyd yr Amgylchedd.
·
Ni chaniateir cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LAeq 15
munud yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5, 63 a 125Hz oddi fewn i unrhyw
eiddo preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo yn agored neu ar gau) o
ganlyniad i sŵn adloniant yn deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas yr
amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142: 2019
·
Er mwyn arbed i sŵn a dirgrynant adael yr
eiddo trwyddedig, bydd drysau a ffenestri'r adeilad yn cael eu cadw ar gau yn
ystod yr adloniant, heblaw i sicrhau mynediad i mewn ac allan o’r eiddo.
·
Os, wedi cyhoeddi'r drwydded hon, bydd Cyngor
Gwynedd yn derbyn tystiolaeth nad oes cydymffurfiaeth ag amod (i) bydd
perchennog yr eiddo yn gwneud y canlynol:
- Gwneud unrhyw waith ynysu / arbed sŵn er
mwyn sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio ac amod sŵn a / neu
- Gosod dyfais rheoli sŵn yn yr ystafell/oedd
lle cynhelir yr adloniant. Bydd y ddyfais wedi ei sefydlu i dorri cyflenwad
trydan unrhyw system sain neu wrthsefyll cynnydd mewn lefel sŵn uwchlaw'r hyn sydd wedi ei sefydlu fel uchafswm
caniataëdig.
· Unwaith bydd lefel
ar ddyfais reoli sŵn yn cael ei sefydlu, nid yw’r lefel yma i’w newid heb
ymgynghoriad a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Llygredd), Cyngor Gwynedd.
· Ni chaniateir
gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad
trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 - 08:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi
fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead.
· Bydd arwyddion
clir a dealladwy yn cael eu gosod wrth bob allanfa yn gofyn i gwsmeriaid sydd
yn gadael yr adeilad i gysidro trigolion lleol, yn arbennig yn eu hannog i
beidio â gweiddi, clepian drysau ceir na chanu cyrn ceir.
· Ni chaniateir i
unrhyw gerddoriaeth cael ei chwarae tu allan yr eiddo.
· Nid yw unrhyw
oleuo mewnol nac allanol sydd i’r pwrpas o ddiogelwch staff neu ddiogelwch yr
eiddo yw gosod mewn modd sydd yn achosi niwsans i unrhyw eiddo ger llaw.
Amodau ychwanegol i gynnwys
· Bydd adroddiad yn
cael ei gyflwyno i'r Cyngor yn manylu ar botensial sŵn o gerddoriaeth
chwyddedig yn yr eiddo o effeithio ar eiddo cyfagos sy'n sensitif i sŵn ar
Stryd y Farchnad, Stryd Fawr, Caernarfon, a'r fflatiau uwchben yr adeilad.
· Os yw’r asesiad yn
dangos bod sŵn o’r eiddo yn debygol o effeithio ar eiddo cyfagos sy’n
sensitif i sŵn, yna bydd yn cynnwys cynllun manwl o fesurau lliniaru
sŵn i ddangos na fydd niwsans yn cael ei achosi i feddianwyr eiddo cyfagos
sy’n sensitif i sŵn gan sŵn o’r eiddo trwyddedig.
· Bydd yr holl waith
a argymhellir yn cael ei gwblhau cyn dechrau'r drwydded safle a rhaid hysbysu'r
Awdurdod Trwyddedu o leiaf 5 diwrnod cyn i'r gwaith gael ei gwblhau a'r eiddo'n
cael ei ddefnyddio.
· Bydd peiriant
cyfyngu sŵn yn cael ei osod i reoli a mesur sŵn
· Cynnwys y mesurau
ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.
Rhoddwyd
ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn ni
chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.
Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni
chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.
Yng
nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, roedd Gwasanaeth Iechyd Amgylchedd
yn fodlon gyda’r cais pe byddai’r amodau a gynigwyd
ganddynt mewn ymateb i’r cais, ynghyd a’r amodau pellach a argymhellwyd yn yr
Adroddiad Asesiad Sŵn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Nid oedd unrhyw
sylwadau eraill wedi eu cyflwyno mewn cysylltiad â’r egwyddor hwn, felly roedd
yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau.
Yng
nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn
berthnasol i’r egwyddor hwn..
O dan yr
amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar
amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais. Ni dderbyniwyd sylwadau /
gwrthwynebiadau gan y cyhoedd na gan yr Aelod Lleol. Ar nodyn cyffredinol,
eglurwyd mai ar sail tystiolaeth roedd yr Is-bwyllgor yn gwneud eu penderfyniad
a bod y ddeddfwriaeth yn darparu gweithdrefn adolygu lle gellid gofyn i'r
awdurdod adolygu unrhyw agwedd o’r drwydded os oedd angen.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: