Agenda item

 

MOTOCAMP CYMRU, FFORDD PEN Y CEFN, DOLGELLAU, LL40 2ES

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar ddiwygio amodau cerddoriaeth awyr agored i 4 digwyddiad y flwyddyn galendr yn ystod y cyfnod y gofynnwyd amdano, sef 12:00 – 23:30

 

Amodau ychwanegol i gynnwys

·        Creu cynlluniau rheoli diogelwch digwyddiadau manwl ar gyfer pob digwyddiad unigol a fydd yn cael eu trafod gyda Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, a chytunir â phob  aelod o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch (SAG) a'u gweithredu gan Drefnwyr y Digwyddiad.

·        Bydd pob digwyddiad yn gofyn am gymeradwyaeth Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd drwy gyflwyno Asesiadau Risg priodol ar gyfer digwyddiadau a Cynllun Rheoli.

·        Bydd mesurau i atal trosedd ac anhrefn a rheoli torf yn cael eu cytuno gyda'r heddlu ac aelodau eraill o'r SAG a'u hymgorffori yng Nghynllun Rheoli Digwyddiadau a'u gweithredu gan drefnwyr y digwyddiad.

·        Bydd gan bob digwyddiad gynllun rheoli digwyddiadau diogelwch pwrpasol. Bydd mesurau i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn cael eu trafod ag aelodau'r SAG a'u hymgorffori yn y Cynllun Rheoli Digwyddiadau a'u gweithredu gan Drefnwyr y Digwyddiad.

·        Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

·         Stephanie Jeavons – Ymgeisydd

·         Elizabeth Williams – Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Moto Camp Wales, Ffordd Pen y Cefn, Dolgellau, Gwynedd. Cafodd y cais ei gyflwyno mewn perthynas am drwydded eiddo i: Werthu alcohol i gwsmeriaid sydd yn aros hefo nhw ar y safle (ar yr eiddo) o 14:00 - 02:00, o ddydd Llun i Sul. Cerddoriaeth byw yn ystod gweithgareddau penwythnos (tu fewn a thu allan) rhwng 12:00 a 23:30 ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul. Cerddoriaeth wedi recordio (tu fewn a thu allan) eto o 12:00 hyd at 23:30 ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul.

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

Tynnwyd sylw at ymateb a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan amlygu bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud cais i amodau ychwanegol gael eu cynnwys ar y drwydded yn ymwneud â chydweithio gyda Grŵp Cynghori a’r Ddiogelwch. Amlygwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân nac Adran Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais er wedi tynnu sylw at gwynion sŵn a dderbyniwyd yn dilyn digwyddiad dros dro a gynhaliwyd ar y safle yn 2023. Er i staff y safle ddelio gyda’r cwynion yn effeithiol, ystyriwyd y byddai caniatau cerddoriaeth fyw hyd 23:30 pob dydd Gwener i ddydd Sul achosi niwsans cyhoeddus i drigolion cyfagos, ac felly, yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd, nodwyd bod cyfaddawd i ganiatáu hyd at bedwar digwyddiad y flwyddyn galendr ar gyfer cerddoriaeth awyr agored wedi ei gytuno.

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell fod y Pwyllgor yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd ac yn caniatau y cais cyn belled a bod yr ymgeisydd yn fodlon gyda chyfaddawd a gytunwyd gyda Gwarchod y Cyhoedd a chytuno gydag amodau’r Heddlu.

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

c)    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·       Ei bod yn hapus gyda’r cyfaddawd i leihau nifer digwyddiadau gyda cherddoriaeth awyr agored i bedwar mewn blwyddyn - hyn yn rhoi cyfle da iddynt brofi eu hunain o reoli digwyddiadau heb ymyrraeth.

ch)  Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.

       Elizabeth Williams Heddlu Gogledd Cymru

·         Bod cais i’r ymgeisydd gwblhau holiadur syml yn ymwneud â rheoli diogelwch.

·         Bod y cyfaddawd gyda Gwarchod y Cyhoedd yn un doeth, ond bydd pob digwyddiad yn gofyn am gymeradwyaeth Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd – bydd rhaid cyflwyno asesiad risg priodol a chynllun rheoli ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Yn absenoldeb Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd, pwysleisiodd y Rheolwr Trwyddedu yr angen i’r ymgeisydd gwblhau’r holiadur oedd yn ymwneud â rheoli diogelwch, a’i gyflwyno i’r Grŵp Cynghori a’r Ddioglewch ar gyfer trafodaeth. Ategwyd os bydd yr Heddlu a’r Cyngor yn hapus gyda’r modd mae’r safle yn cael ei reoli yn ystod digwyddiadau gyda cherddoriaeth awyr agored, ac nad oedd profiadau negyddol, yna bydd modd ystyried opsiynau megis amrywio trwydded neu gyflwyno hysbysiad digwyddiad dros dro. Nododd bod amodau’r Heddlu yn rhan o ymarferoldeb y broses. 

Diolchwyd i bawb am eu sylwadau 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                      i.        Atal trosedd ac anhrefn

                     ii.        Atal niwsans cyhoeddus

                    iii.        Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                   iv.        Gwarchod plant rhag niwed

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar ddiwygio amodau cerddoriaeth awyr agored i 4 digwyddiad y flwyddyn galendr yn ystod y cyfnod y gofynnwyd amdano, sef 12:00 – 23:30

Amodau ychwanegol i gynnwys

·         Creu cynlluniau rheoli diogelwch digwyddiadau manwl ar gyfer pob digwyddiad unigol a fydd yn cael eu trafod gyda Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, a chytunir â phob  aelod o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch (SAG) a'u gweithredu gan Drefnwyr y Digwyddiad.

·         Bydd pob digwyddiad yn gofyn am gymeradwyaeth Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd drwy gyflwyno Asesiadau Risg priodol ar gyfer digwyddiadau a Chynllun Rheoli.

·         Bydd mesurau i atal trosedd ac anhrefn a rheoli torf yn cael eu cytuno gyda'r heddlu ac aelodau eraill o'r SAG a'u hymgorffori yng Nghynllun Rheoli Digwyddiadau a'u gweithredu gan drefnwyr y digwyddiad.

·         Bydd gan bob digwyddiad gynllun rheoli digwyddiadau diogelwch pwrpasol. Bydd mesurau i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn cael eu trafod ag aelodau'r SAG a'u hymgorffori yn y Cynllun Rheoli Digwyddiadau a'u gweithredu gan Drefnwyr y Digwyddiad.

·         Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn, cyflwynwyd sylwadau gan yr Heddlu yn argymell amodau penodol i’w hychwanegu at y drwydded mewn cysylltiad â chynnal digwyddiadau. Roedd yr ymgeisydd yn pryderu y byddai gorfod cyflwyno cynllun ar gyfer pob digwyddiad fod yn feichus, ond eglurwyd y byddai’n rhaid llenwi holiadur ar gyfer pob digwyddiad, ond y byddai’r gofynion, o ran paratoi cynllun yn gymesur gyda natur y digwyddiad penodol. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y dylid cadw’r amodau fel ag yr oeddynt. Er pryder ynglŷn â thraffig a defnydd tir, nodwyd y byddai’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio gyda'r gofynion.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, cyflwynodd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd sylwadau yn mynegi pryderon y gallai cerddoriaeth awyr agored danseilio’r egwyddor yma yn enwedig gan fod cwynion sŵn wedi eu derbyn yn dilyn digwyddiad yn 2023. Er hynny, roedd y gwasanaeth yn fodlon bod y staff wedi delio gyda’r cwynion hynny cyn gynted ag yr oeddynt yn ymwybodol ohonynt. Roedd cyfaddawd wedi ei gytuno  gyda’r ymgeisydd y byddai 4 digwyddiad y flwyddyn galendr ar gyfer miwsig y tu allan (byw ac wedi ei recordio) ar gyfer yr oriau y gofynnwyd amdanynt yn dderbyniol

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais. Ar nodyn cyffredinol, eglurwyd mai ar sail tystiolaeth roedd yr Is-bwyllgor yn gwneud eu penderfyniad a bod y ddeddfwriaeth yn darparu gweithdrefn adolygu lle gellid gofyn i'r awdurdod adolygu unrhyw agwedd o’r drwydded os oedd angen.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: