Agenda item

 

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl (edrychiad, tirlunio) ar gyfer creu 5 llain hunan adeiladu ar gyfer tai fforddiadwy.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 

1.    Amser

2.    Unol a’r cynlluniau

3.    Deunyddiau

4.    Amod fforddiadwy

5.    Amodau priffyrdd

6.    Amod bioamrywiaeth/gwelliannau bioamrywiaeth

7.    Amod CNC

8.    Amod Dŵr Cymru

9.    Amod materion a gadwyd yn ôl

10.  Tynnu hawliau PD estyniadau a chyfyngu i ddefnydd preswyl C3 yn unig

11.  Gwarchod llwybr cyhoeddus

 

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl (edrychiad, tirlunio) ar gyfer creu 5 llain hunan adeiladu ar gyfer tai fforddiadwy.

 

a)     Atgoffwyd yr Aelodau y bu i’r Pwyllgor ym mis Ebrill 2024 ohirio'r penderfyniad er mwyn ymweld â’r safle a rhoi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno rhagor o wybodaeth. Adroddwyd bod

ymweliad safle wedi ei gynnal ac y derbyniwyd Datganiad Tai, Datganiad Tirlun a Phrisiad Lleiniau/Safle gan yr ymgeisydd a’r cais wedi ei ail addasu ynn ngoleuni’r wybodaeth ychwanegol. Nodwyd bod yr argymhelliad gwreiddiol yn un i wrthod y cais am dri rheswm, sef; effaith gweledol y datblygiad, diffyg gwybodaeth o ran yr angen, cymysgedd tai a diffyg gwybodaeth i gwblhau asesiad o dan y Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau.

 

Adroddwyd, o safbwynt materion bioamrywiaeth, cadarnhaodd yr Uned Bioamrywiaeth, oherwydd bod y safle 750m i’r gogledd o’r ACA Pen Llyn a’r Sarnau, na fyddai’r datblygiad yn achosi colled o gynefinoedd morol nac yn achosi sŵn yn y môr a all aflonyddu ar famaliaid morol (dolffin, morfil, morloi). Ni fyddai chwaith yn achosi niwed i brosesau arfordirol ac yn annhebyg iawn y gall llygredd o’r datblygiad gyrraedd y môr. O ganlyniad, daethpwyd i gasgliad na fyddai’r datblygiad yn debygol o gael effaith ar y ACA a’r bwriad bellach yn dderbyniol ac yn unol â gofynion polisïau PS 19 a AMG 5.

 

Yng nghyd-destun materion ‘angen’, yn seiliedig o’r datganiad tai a phrisiad tebygol o’r lleiniau a dderbyniwyd ynghyd a gwybodaeth gan yr Uned Strategol Tai, ystyriwyd bod yr angen cyffredinol wedi ei brofi. Ategwyd y bydd angen i’r unigolion brofi’r ‘angen’ yn llawn trwy’r broses asesu tai teg, ond wrth osod a rhyddhau amod tai fforddiadwy cyn dechrau unrhyw waith datblygu, bydd cyfle i gadarnhau’r math o ddeiliadaeth, cymysgedd tai a chyfle i'r unigolion cwblhau'r broses asesu tai teg.

 

Gyda’r cais yn un amlinellol, nodwyd nad yw’n bosib gwerthuso unrhyw eiddo hyd nes bydd cynlluniau manwl yn ei lle. Er hynny, derbyniwyd prisiad lefel uchel ar sail maint tŷ 3 llofft 94m2 ar y farchnad agored sydd yn unol â maint tŷ 3 llofft deulawr yn y CC Tai fforddiadwy ac felly’n berthnasol i’w ystyried yng nghyd-destun y cais. Ymddengys bod y prisiad yn dangos bod modd gosod disgownt, ond byddai angen disgownt o oddeutu 40% i sicrhau fforddiadwyedd. Nodwyd hefyd y gellid ystyried gosod disgownt unigol ar bob annedd yn seiliedig ar y dyluniad terfynol trwy gais rhyddhau amod a chytundeb 106. O ganlyniad, roedd y swyddogion, o dderbyn y wybodaeth ychwanegol a’r gallu i osod amod i gytuno ar y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, o’r farn bod yr ‘angen’ wedi ei sefydlu a bod egwyddor y datblygiad bellach yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun effaith gweledol, derbyniwyd datganiad tirwedd oedd yn amlygu’r gallu i osod amodau i sicrhau tirweddu a defnydd gofalus o ddeunyddiau a lliwiau. Ategwyd bod y swyddogion yn parhau i bryderu am yr effaith weledol gan y byddai gosodiad y tai arfaethedig o fewn cae agored presennol yn sefyll allan ac yn newid edrychiad gweledol y safle ac yn ymledu’r ffurf adeiledig bellach i mewn i gefn gwald agored. Er hynny, wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ystyriwyd bod yr angen am dai fforddiadwy i drigolion lleol yn gorbwyso’r gwrthdaro gyda’r polisïau gweledol perthnasol ac y gellid dygymod â’r effaith drwy gytuno manylion dyluniad a maint y tai, tirlunio a gosodiad terfynol y safle. Er nad oedd y bwriad yn cydymffurfio'n llawn gyda pholisi o safbwynt effaith gweledol, ni ystyriwyd y dylid gwrthod y cais yn groes i bolisi PS 5, PCYFF 3, PCYFF 4 a TAI 16 o ystyried yr angen am dai fforddiadwy.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·        Ei fod yn falch bod y wybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn a bod yr aelodau wedi ymweld â’r safle

·        Ei fod yn croesawu’r argymhelliad bellach i ganiatáu

·        Ei fod yn llwyr gefnogol i’r cais - yn gyfle euraidd i 5 teulu ifanc gael prynu tŷ yn lleol ac aros ym mro eu mebyd

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·        Yn gwerthfawrogi bod y wybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno

·        Bod yr ymweliad safle wedi bod yn fuddiol

·        Bod budd i ohirio a chynnal trafodaeth – balch bod hyn wedi dwyn ffrwyth

·        Cyfle yma i Aberdaron barhau yn gymuned Gymraeg

·        Siom mai cyd-destun cytundeb 106 sy’n cael ei ystyried ac nid hunanadeiladu

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 

1.      Amser

2.      Unol a’r cynlluniau

3.      Deunyddiau

4.      Amod fforddiadwy

5.      Amodau priffyrdd

6.      Amod bioamrywiaeth/gwelliannau bioamrywiaeth

7.      Amod CNC

8.      Amod Dŵr Cymru

9.      Amod materion a gadwyd yn ôl

10.    Tynnu hawliau PD estyniadau a chyfyngu i ddefnydd preswyl C3 yn unig

11.    Gwarchod llwybr cyhoeddus

 

Dogfennau ategol: