Newid
defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau preswyl) i hostel
gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw) ynghyd a llety byw
warden cysylltiedig (ail-gyflwyniad).
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
GWRTHOD yn groes i’r
argymhelliad
Rhesymau:
·
Pryder ynglŷn â natur, graddfa a dwysedd y datblygiad
yn cael effaith negyddol ar fwynderau preswyl trigolion lleol – yn
groes i bolisi PCYFF 2 a TWR 2
·
Gor-ddefnydd o’r ffordd gul sy’n arwain at y
safle
Cofnod:
Newid defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau
preswyl) i hostel gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw)
ynghyd a llety byw warden cysylltiedig (ail-gyflwyniad).
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod y bwriad yn ymwneud a
newid defnydd cyn gartref nyrsio’r henoed i ddefnydd hostel gwyliau
gwasanaethol 25 ystafell a llety byw ar gyfer warden. Nodwyd bod y safle wedi
ei leoli ar gyrion pentref Penisarwaun a’r cartref
gofal wedi bod yn segur ers 2018. Adroddwyd y byddai’r adeilad yn darparu
storfeydd, ystafelloedd sychu, gemau, ymolchi/cawodydd, cegin ac ystafell fwyta
ynghyd a darparu estyniad bychan i ffurfio lobi ar gyfer y brif fynedfa. Nid
oedd newid allanol arall yn cael ei gynnig.
Amlygwyd bod y cais yn
ail-gyflwyniad o gynllun tebyg a wrthodwyd yn 2023 oherwydd diffyg gwybodaeth
ynghylch y nifer gwelyau fyddai’n codi pryderon ynglŷn ag effeithiau mwynderol niweidiol i drigolion lleol ynghyd a diffyg
gwybodaeth am lety’r warden a’r ddarpariaeth parcio.
Eglurwyd bod y cais,
mewn ymateb i’r rhesymau gwrthod uchod, yn cadarnhau mai uchafswm nifer
preswylwyr fydd 60; bod llety'r warden yn gwbl ar wahân a bod 42 o lecynnau
parcio wedi eu darparu ar y safle sydd yn cwrdd â gofynion safonau parcio
llywodraeth Cymru.
Nodwyd, wrth ystyried y
cais, bwysigrwydd hanes cynllunio a natur defnydd cyfreithiol blaenorol y safle
fel cartref gofal; y nifer preswylwyr, lefel uchel o staff oedd yn
angenrheidiol ar gyfer darparu’r gofal ynghyd a mynychwyr ychwanegol megis
teuluoedd a gwasanaethau iechyd. Ystyriwyd na fyddai’r datblygiad yn cynyddu
dwysedd defnydd y safle mewn modd arwyddocaol o’i gymharu â’r defnydd
blaenorol, ac y gellid sicrhau hyn drwy osod amod cyfyngu’r cyfleuster i
uchafswm o 60 ar yr un pryd. Cydnabuwyd bod natur defnydd llety gwyliau o’r
math yma yn gallu achosi aflonyddwch sylweddol gwahanol i’r defnydd blaenorol,
fodd bynnag, amlygwyd bod modd rheoli’r effeithiau hyn drwy osod amod cynllunio
i sicrhau fod cynllun rheolaeth yn ei le fyddai’n ymrwymo’r rheolwyr i
fabwysiadu mesurau priodol ar gyfer rheoli sŵn, trafnidiaeth ac ymddygiad
preswylwyr ynghyd a delio gyda chwynion.
Yn ychwanegol, nodwyd bod y bwriad yn darparu llety gwasanaethol i
ymwelwyr, sy’n fath gwahanol o lety i’r rhai hunan-wasanaethol, ac nad oedd
gormodedd o’r math yma o lety yn yr ardal leol.
Wedi ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol, egwyddor y datblygiad, mwynderau gweledol,
cyffredinol a phreswyl, materion trafnidiaeth a mynediad, cynaliadwyedd, is
adeiladwaith, bioamrywiaeth a’r Iaith Gymraeg, ystyriwyd fod yn fwriad yn
dderbyniol.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau
canlynol
·
Bod
y cais yr un fath a’r un a wrthodwyd
·
Bod
y cynnydd mewn defnydd yn sylweddol - byddai’n amharu ar y ddelwedd leol - y
defnydd wedi dyblygu - sut felly bod y raddfa'r un peth?
·
Hon
fydd yr hostel fwyaf yn yr ardal
·
Byddai’n
codi poblogaeth y pentref o 10%
·
Pwy
yn y pentref fydd yn elwa?
·
Nid
yw yn cyd-fynd a Pholisi TWR2
·
Nid
oes digon o safleoedd parcio wedi eu darparu
·
Bydd
cynnydd arwyddocaol mewn llygredd sŵn - yn creu aflonyddwch ac effaith
negyddol ar safon byw trigolion lleol
·
Byddai’r
safle yn addas ar gyfer tai – tai fforddiadwy i gymuned Gymraeg
·
Y
bwriad yn or-ddatblygiad - pam bod angen hostel mor fawr mewn pentref mor fach?
c) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Mai cyn ddefnydd y safle oedd cartref henoed oedd wedi
bod yn segur ers 2019
·
Bod y safle wedi ei brynu gan hogyn ifanc o’r pentref
·
Gwrthodwyd
y cais gwreiddiol ar sail diffyg eglurder ac effaith ar fwynderau preswyl
·
Dyma
ail gyflwyniad o’r cais sydd yn darparu gwybodaeth oedd ar goll o’r cais
gwreiddiol. Y swyddogion yn fodlon gyda’r hyn sydd wedi ei ddarparu ac yn
argymell caniatáu y cais gydag amodau
·
Bod
yr adroddiad yn cadarnhau nifer gwelyau - 25 llofft gyda 60 gwely gyda lle i
warden a 3 i 4 o staff llawn amser. Capasiti’r hostel
fydd 62, ond annhebygol y byddai yn llawn drwy’r flwyddyn oherwydd natur
dymhorol y busnes. Fel cartref gofal byddai 30 o breswylwyr a 26 o staff
·
Bod
estyniad ar gyfer y cartref wedi ei ganiatáu fyddai wedi darparu 40 ystafell
wely ychwanegol gyda 56 o staff - byddai wedi bod yn llawer mwy na’r hyn sydd
yn cael ei gyflwyno yma
·
Bod asesiad effeithiau posib wedi ei ddarparu oedd yn
dod i gasgliad nad oedd effeithiau annerbyniol
·
Yr ymgeisydd yn barod i gyflwyno cynllun rheolaeth
trwy amod fyddai’n nodi mesurau i reoli sŵn ac ymddygiad preswylwyr ynghyd
a phrosesau clir i ddelio gyda chwynion
·
Bod digon o ddarpariaeth parcio - yr Uned Priffyrdd heb wrthod y cais
ch) Er nad yn bresennol, roedd yr Aelod Lleol
wedi cyflwyno'r sylwadau canlynol i’r swyddog eu darllen allan;
·
Y
cais wedi bod gerbron o’r blaen. Nid oeddwn bryd hynny naill ai o’i blaid nac
yn gwrthwynebu gan fy mod ar y pryd yn ystyried bod y manteision o ddatblygu
adeilad segur yn ôl i ddefnydd a chreu rhywfaint o waith lleol yn gytbwys a’r
anfanteision fyddai’n dod yn sgil cynnydd mewn traffig yn yr ardal fyddai’n
arwain at broblemau parcio yn ogystal â chynnydd mewn sŵn.
·
Cafodd y cais hwnnw ei wrthod yn rhannol oherwydd
diffyg manylder
·
Yn
naturiol, wedi trafod yr achos a’r rhesymau dros y gwrthod a meddwl sut y
byddai posib datblygu rhywbeth fyddai’n gallu bod o fantais i’r gymuned
ehangach e.e. math o siop fyddai yn amlwg yn gostwng y nifer o lefydd aros
·
Tra bod mwy o fanylder wedi ei roi gerbron y tro hwn
yn y bôn yr un cais ydyw
·
Tra
bod cyflymder y ffordd heibio’r safle bellach wedi ei
ostwng o 60.m.y.a i 30 m.y.a yr un ffordd ydyw o ran
lled; mae’n ffordd gul gyda rhai mannau pasio lletach na'i gilydd arni
·
Bod
nifer fawr o drigolion Penisarwaun bellach wedi
cysylltu yn mynegi eu pryderon. Trigolion sydd ddim yn byw yn gyfagos yn
ogystal â’r trigolion agosaf sy’n bryderus am y cynnydd mewn traffig.
·
Yn
eithaf amlwg o’r ddarpariaeth parcio mai gyda cheir/van
neu efallai gerbydau mwy bydd yr ymwelwyr yn cyrraedd - gyda cherbyd felly bydd
rhaid mynd yn ôl ag ymlaen i wneud eu siopa gan nad oes siop gerllaw.
·
Nid
oes yma chwaith gyfleusterau adloniant o unrhyw fath a digon o waith fyddai pob
un o’r ymwelwyr yn awchu am dawelwch Penisarwaun tra
yma ar eu gwyliau. Bydd felly angen teithio i wahanol lefydd i fwynhau ein
hardal achos ar ben y diffyg adnoddau mae yma hefyd ddiffyg gwasanaethau
trafnidiaeth gyhoeddus
·
O
ystyried felly'r diffyg adnoddau a’r gwasanaethau presennol sydd ar gael yn y
gymuned rhaid ystyried bod y datblygiad fel y mae yn or-ddatblygiad yng nghefn
gwlad
·
Er
cymaint felly, mae rhywun yn awyddus i weld y safle yn cael ei ddatblygu, rwy’n
ystyried fod yr anfanteision a ddaw yn sgil y datblygiad yma yn gorbwyso’r
manteision ag oherwydd hynny ni allaf ei gefnogi.
d) Cynigiwyd ac eiliwyd
gwrthod y cais oherwydd ei fod yn orddatblygiad - dim
gwasanaethau ar gael, dim palmant, bod y safle yn amhriodol ac anaddas i’w
amgylchiadau. Pryder o ran graddfa ac effaith ar fwynderau preswyl trigolion
lleol.
dd) Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
Gwell fyddai gweld tai fforddiadwy ar y safle
·
Bod
y Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol wedi cyflwyno rhesymau dilys dros wrthod
·
Nid
yw’r pentref yn gefnogol i’r cais felly rhaid gwrando ar lais y bobl
·
Bod yr asiant yn gamarweiniol yn cymharu defnydd
blaenorol gyda defnydd y bwriad – cartref preswyl bach oedd yma gyda’r staff yn
byw yn lleol – dim byd tebyg i’r hyn sydd yn cael ei drafod
·
Nad
oes siop na gwasanaethau yn Penisarwaun - bydd hyn yn
arwain at orddefnydd o’r ffordd wrth i bobl fynd i chwilio am wasanaethau
·
Byddai’r
hostel efallai yn denu pobl sydd ddim yn ystyried mwynderau pobl leol
·
Cynnydd mewn traffig yn dod a pheryglon ychwanegol
·
Effaith
ar ansawdd bywyd pobl leol - hyn yn sail ddigonol i wrthwynebu
·
Yr hostel yn rhy fawr
·
Y bwriad yn groes i Bolisi TWR 2 o ran graddfa a
dwysedd ac effaith ar breswylwyr lleol
·
Bod lot o fynd a dod wedi bod yn y cartref preswyl
·
Bod
caniatâd wedi ei dderbyn i ehangu’r safle
·
Hogyn lleol sydd yma wedi prynu’r safle – angen
anogaeth iddo lwyddo
·
Gwell gweld hostel na dolur llygad
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â pha mor hyderus oedd y swyddogion bod digon o le parcio
wedi ei ddarparu, nododd y Pennaeth Cynorthwyol mai un o ddiffygion y cais
gwreiddiol oedd gwybodaeth annigonol ynglŷn â’r ddarpariaeth parcio. O
ganlyniad, cyflwynwyd gwybodaeth ychwanegol ac nid oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r ddarpariaeth oedd yn cael ei gynnig oedd hefyd yn
unol â gofynion safonau parcio Llywodraeth Cymru. Ategodd nad oedd tystiolaeth
bod trafnidiaeth yn sail i wrthod y cais.
PENDERFYNIAD: GWRTHOD y cais yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
·
Pryder ynglŷn â natur, graddfa
a dwysedd y datblygiad yn cael effaith negyddol ar fwynderau preswyl trigolion
lleol - groes i bolisi PCYFF 2 a TWR 2
·
Gorddefnydd o’r ffordd gul sy’n arwain at y safle
Dogfennau ategol: