Agenda item

Cais am 9 carafan ychwaengol ar y cae carafanau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GWRTHOD yn groes i’r argymhelliad

Rhesymau:

·         Bod y bwriad yn or-ddatblygiad - byddai’n creu effaith cronnus o dwristiaeth mewn ardal lle mae gormodedd o safleoedd carafanau teithiol a sefydlog presennol

·         Byddai’n creu niwed i ansawdd gweledol y dirwedd yn ogystal ag achosi effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau pobl leol, yn groes i amcanion polisi TWR 5

Cofnod:

Cais am 9 carafán ychwanegol ar y cae carafanau

Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth yn y ffurflen sylwadau hwyr ac at benderfyniad apêl Tachwedd 2023

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud â chynyddu niferoedd carafanau teithiol ar y safle presennol o 19 i 28  ac nad oedd bwriad ymestyn terfynau’r safle. Eglurwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o safbwynt gofod rhwng unedau a ni chodwyd unrhyw bryderon am ddwysedd yr unedau mewn perthynas â maint y safle. Ni ystyriwyd y byddai'r bwriad yn orddatblygiad o'r safle a bod lle digonol i leoli 9 uned ychwanegol ar y safle carafanau teithiol presennol.

 

Tynnwyd sylw at feini prawf polisi TWR 5 sy’n dod i’r casgliad fod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor. Nodwyd bod ystyriaethau’r polisi  yn cynnwys mynediad, agosrwydd i'r brif rwydwaith ffyrdd, effaith gweledol, defnydd gwyliau fel maes carafanau teithiol yn unig a dim gormodedd o leiniau caled.

 

Atgoffwyd yr aelodau eu bod wedi gwrthod cais cynllunio ar y safle (Mawrth 2023), ond yn dilyn apêl, cafodd y cais ei ganiatáu (Tachwedd 2023). Amlygwyd bod y caniatâd wedi cael ei weithredu a’r safle yn cael ei ddefnyddio fel maes carafanau teithiol. Ar y cais blaenorol codwyd pryderon gan yr Aelodau am effaith gronnus o ran agosatrwydd y safle at safleoedd carafanau eraill yn yr ardal. Er bod sawl safle sefydlog a theithiol yn y cyffiniau, nid yw’r ardal dan sylw yn esiampl o leoliad sydd o dan bwysau aruthrol o ran datblygiadau twristiaeth o'r fath. Yn wahanol i bolisi TWR 3 sy'n ymwneud â safleoedd carafanau sefydlog, nid yw effaith gronnus yn ystyriaeth ym meini prawf polisi TWR 5 gan mai defnydd dros dro yw'r defnydd teithiol gyda llai o effaith na strwythurau sefydlog.

 

Fodd bynnag, mae'r meini prawf eu hunain yn ymateb i'r effaith gronnus yn yr ystyr na ddylid caniatáu safleoedd mewn mannau ymwthiol nad ydynt yn agos i'r prif rwydwaith ffyrdd. Ystyriwyd y safle, hyd yn oed dros fisoedd y gaeaf, wedi ei sgrinio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Tynnwyd sylw at baragraff 6.3.81 y polisi sy’n nodi na ddylid caniatáu carafanau mewn lleoliadau agored ger yr arfordir nac mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol; gyda’r safle wedi ei leoli i ffwrdd o leoliad arfordirol agored ac unrhyw ddynodiad tirwedd i'r cyffiniau. Adroddwyd bod safle teithiol Fferm Afon Wen gyferbyn wedi ei guddio'n gymharol dda, ac er efallai y byddai'n rhannu'r un cyd-destun gweledol o'r ffordd sirol, oherwydd natur y llystyfiant ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn ymddangos yn ormodol nac yn niweidiol i'r tirlun yn y safle yma. Eglurwyd bod y mater o effaith gronnus hefyd wedi cael ei ystyried a'i ddiystyru gan yr Arolygydd fel rhan o'r apêl ac felly ystyriwyd fod sylw teg wedi ei roi i effaith gronnus datblygu safle carafanau teithiol ar y tir ar gais yr apêl.

 

Mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Gorfodaeth Trwyddedu Carafanau gan 3ydd parti yn amlygu  pryderon nad yw’r safle carafanau yn gweithredu yn unol â'r caniatâd cynllunio cyfredol, nodwyd bod y gwasanaeth cynllunio yn ymwybodol o'r materion hyn ac yn ymchwilio i'r materion a godwyd. Wrth gydnabod fod posibilrwydd nad yw'r safle yn gweithredu yn unol â'r caniatâd cynllunio yn llwyr, nodwyd nad oedd hynny yn ei hun yn rheswm dros wrthod y cais presennol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai'n cael effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau'r gymdogaeth na diogelwch ffyrdd.

 

b)     Er nad yn bresennol, roedd yr Aelod Lleol wedi cyflwyno’r sylwadau canlynol i’r swyddog eu darllen allan;

·        Bod y Cyngor Cymuned yn bryderus bod yr ymgeisydd yn gwneud ôl gais cynllunio yn gyson ac nad yw'n mynd ati i wneud ceisiadau cynllunio cyn datblygu safleoedd.

·        Pryder bod y cais yn ychwanegiad buan wedi'r caniatâd gwreiddiol ar yr un safle gyda’r ychwanegiad yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau yn yr ardal, yn rhoi pwysau ar y gymuned ac yn gweddnewid yr amodau naturiol o amgylch y safle

·        Pryder nad yw amodau'r cais gwreiddiol C21/1038/41/LL wedi eu bodloni am nad oes tystiolaeth bod yr amodau bioamrywiaeth wedi eu cyfarch.

·        Bod ardal o amgylch y safle yn cynnwys niferoedd uchel o garafanau. Gellid dadlau nad oes yr un safle o fewn Gwynedd â chymaint o garafanau nag sydd o fewn 5 milltir sgwâr i'r cais. Pe na fyddai modd i wrthod y cais hwn ar sail gormodedd yna gellid dadlau nad oes gan y Cynllun Datblygu Lleol unrhyw allu i fedru rheoli niferoedd safleoedd carafanau teithiol.

·        I ystyried 6.2.1 fel cymal perthnasol i wrthod y cais:

‘6.2.1 Er nad ydynt, yn aml, yn cael eu defnyddio am fwy na rhan o'r flwyddyn, mae'r safleoedd carafanau teithiol a gwersylla yn aml wedi’u lleoli mewn Ileoliadau amlwg ac agored ac fe allant fod yn ymwthiol lawn mewn cefn gwlad agored, yn enwedig ar yr arfordir. Ceir ardaloedd sydd dan bwysau aruthrol mewn nifer o gymunedau sydd wedi'u lleoli ger yr arfordir, gan gynnwys rhannau helaeth o'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bydd angen rhoddi ystyriaeth briodol i effaith gronnol y bwriad. Fel rhan o'r ystyriaeth yn gysylltiedig â'r effaith gronnol bydd y Cyngor angen tystiolaeth i ddangos na fydd cynigion am fwy o unedau llety mewn ardaloedd o'r fath yn ychwanegu at broblemau gwasanaethu, ardrawiad traffig annerbyniol na niwed annerbyniol i gymeriad neu adnoddau naturiol yr ardaloedd hyn, ar ôl mesurau lliniaru’.

·        Yn ôl y cymal uchod, mae gofyn AR Y CEISYDD i ddarparu tystiolaeth na fydd y cynnig hwn yn arwain at broblemau ac mae angen iddo gynnig mesurau lliniaru priodol. Nid oes tystiolaeth o'r fath wedi dod i law ac felly dylid gwrthod y cais

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·        Bod angen gorfodi gwneud y gwaith sydd ei angen  - bod y safle wedi cau hyd nes bydd y gwaith wedi ei gwblhau

·        Bod rhaid cadw at amodau sydd yn cael eu gosod

·        Nid yw’r safle yn weladwy o’r brif ffordd

·        Siom bod yr arolygwr yn mynegi nad oedd tystiolaeth i gefnogi’r farn ‘gormodedd’ er bod yr aelod lleol wedi amlygu hynny

·        Beth yw costau apêl?

·        Bod yr ardal yn dioddef effaith o or-dwristiaeth - cyfrifoldeb i amlygu hynny er mwyn gwarchod cymunedau

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod copi drafft o’r wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer yr apêl wedi ei gyflwyno i’r Aelod Lleol ac i’r cynigydd am sylwadau ac roedd y ddogfen derfynol a gyflwynwyd i’r arolygydd yn cynnwys yr holl dystiolaeth a gwybodaeth ynghyd a sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd gan yr Aelod Lleol. Ategodd, er i’r apêl ganiatáu’r cais, nid oedd costau yn erbyn y Cyngor, dim ond costau amser a gwaith swyddogion i baratoi’r apêl oedd yn amddiffyn penderfyniad y pwyllgor i wrthod y cais. O ran amseriad cyflwyno ceisiadau, nododd nad oedd rheolaeth ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

 

Nododd bod y cais yn un am 9 carafán ychwanegol ac yn dilyn canlyniad yr apêl, anodd fyddai gwrthod y cais dan sylw ar sail effaith ar y dirwedd a’r cyffiniau.

 

d)     Gwaned cais am bleidlais gofrestredig ar y cynnig i ganiatáu a phleidleisiodd mwy na chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig i ganiatáu

 

O blaid:      3         Cynghorwyr Elwyn Edwards, Anne Lloyd Jones, Edgar Owen

Atal:           0

Yn erbyn:   9        Cynghorwyr: Delyth Griffiths, Louise Hughes, Elin Hywel, Gareth Tudor Jones, Cai Larsen, Gareth Coj Parry, John Pughe Roberts, Huw Rowlands, Gruffydd Williams

 

             Disgynnodd y cynnig.

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

            PENDERFYNWYD: GWRTHOD yn groes i’r argymhelliad

Rhesymau:

·        Bod y bwriad yn or-ddatblygiad - byddai’n creu effaith cronnus o dwristiaeth mewn ardal lle mae gormodedd o safleoedd carafanau teithiol a sefydlog presennol

·        Byddai’n creu niwed i ansawdd gweledol y dirwedd yn ogystal ag achosi effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau pobl leol, yn groes i amcanion polisi TWR 5

 

Dogfennau ategol: