Cynnig i godi 10 rh. tŷ fforddiadwy a datblygiadau
cysylltiedig
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
3.
Cydymffurfio â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a
chadw i’r dyfodol.
4.
Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r anheddau
fforddiadwy e.e. meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau
bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
5.
Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Arolwg
Ecolegol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Cynllun Gwelliannau Bioamrywiaeth.
6.
Sicrhau enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar gyfer yr
anheddau ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
7.
Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener;
08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
8.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys mesurau
lleihau sŵn, llwch a dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y
datblygiad, llwytho/dadlwytho nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle,
ffensys diogelwch, cyfleusterau golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu
sbwriel.
9.
Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth.
10.
Cytuno gyda gorffeniadau allanol yr anheddau.
11.
Llechi naturiol i’r toeau.
12.
Sicrhau darpariaeth amserol o’r lle chware.
13.
Cyfyngu meddiant o’r Tai i ddosbarth C3.
Nodiadau:
·
Draeniad Cynaliadwy
·
Dwr Cymru
·
Cyfoeth Naturiol Cymru
·
Trafnidiaeth
Cofnod:
Cynnig i godi 10 rh. tŷ fforddiadwy a
datblygiadau cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau gan yr Adran Addysg oedd yn cadarnhau capasiti digonol i ymdopi gyda’r cynnydd tebygol mewn
disgyblion a fyddai’n deillio o’r datblygiad hwn.
a)
Amlygodd
yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 10 tŷ fforddiadwy
canolradd ar ffurf 4 tŷ pâr deulawr dwy lofft, a dau deras o dri tŷ
deulawr tair llofft ynghyd a gwaith cysylltiedig ar safle segur cyn Ysgol
Babanod Coed Mawr, o fewn ardal breswyl ac o fewn ffin ddatblygu Bangor
Eglurwyd bod y cynnig yn ail-ddyluniad o’r hyn a ganiatawyd o dan gais
C22/0525/11/LL er mwyn ymateb i ofynion draenio ac er bod newid materol o’r hyn
sydd wedi ei ganiatáu yn barod o ran dyluniad a threfniant y safle, nid oedd
newid yn y cyfanswm unedau na’r dull daliadaeth o’i gymharu â’r caniatâd
blaenorol. Ystyriwyd fod y cais yn gyson gyda’r caniatâd blaenorol a bod yr
egwyddor o ddatblygu 10 tŷ fforddiadwy canolradd ar y safle yma yn parhau
i fod yn dderbyniol.
Ategwyd
bod dyluniad a ffurf y tai yn adlewyrchu dyluniad traddodiadol ac yn cynnwys
elfennau cyfoes o fewn y dyluniad. Er bod rhai coed yn cael eu colli o
ganlyniad i’r bwriad, mae’r prif goed sydd o ansawdd uchel yn cael eu cadw ac
mae bwriad i dirweddu’r safle ymhellach. O ganlyniad, ystyriwyd bod effaith
weledol y bwriad yn dderbyniol. Wrth drafod y pellter fydd rhwng y tai, gosodiad a gogwydd yr anheddau bwriedig mewn perthynas â’r tai presennol cyfagos ynghyd
a’r coed a llwyni presennol ynghyd a’r tirweddu bwriedig
ar hyd ffiniau’r safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn creu strwythurau
gormesol nac yn achosi gor-edrych neu golli
preifatrwydd sylweddol ar draul mwynderau deiliad cyfagos. Nodwyd y bydd amodau
cynllunio yn sicrhau mwynderau’r preswylwyr lleol yn ystod y gwaith adeiladu.
b)
Er wedi ymddiheuro, nododd y Cadeirydd bod yr Aelod
Lleol wedi dymuno nodi ei fod yn llawn gefnogol i’r datblygiad
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch
Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r
cais.
3.
Cydymffurfio â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith
cynnal a chadw i’r dyfodol.
4.
Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r
anheddau fforddiadwy e.e. meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i
sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
5.
Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau
Arolwg Ecolegol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Cynllun Gwelliannau
Bioamrywiaeth.
6.
Sicrhau enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar
gyfer yr anheddau ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
7.
Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i
Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
8.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys
mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y
datblygiad, llwytho/dadlwytho nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle,
ffensys diogelwch, cyfleusterau golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu sbwriel.
9.
Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth.
10.
Cytuno gyda gorffeniadau allanol yr anheddau.
11.
Llechi naturiol i’r toeau.
12.
Sicrhau darpariaeth amserol o’r lle chware.
13.
Cyfyngu meddiant o’r Tai i ddosbarth C3.
Nodiadau:
·
Draeniad Cynaliadwy
·
Dwr Cymru
·
Cyfoeth Naturiol Cymru
·
Trafnidiaeth
Dogfennau ategol: