Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn Y Cynghorydd Angela Russell

 

O ystyried fod hinsawdd Cymru yn mynd yn wlypach o flwyddyn i flwyddyn, hoffwn ofyn, pa gamau mae Cyngor Gwynedd yn gymryd i uwchraddio'r lôn A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog.  Byddai hyn yn arbed trigolion Llanbedrog, Abersoch, Botwnnog, Sarn ac Aberdaron rhag defnyddio lonydd cul heibio Cefn Llanfair a Rhydyclafdy ayyb sy’n golygu tagfeydd wrth i lorïau a bysus ddod wyneb yn wyneb ar y lonydd cul yma.

 

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

Fel y gwelwch o’r ateb ysgrifenedig o’ch blaen, Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn arwain ar y Prosiect Rheoli Llifogydd yn ardal Pwllheli.  Fe welwch fod gwaith ar yr A499 yn opsiwn ychwanegol sy’n cael ei gysidro, ond bod angen gwaith pellach cyn creu cynllun gwelliant i’r ffordd yna.  Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau y byddwn fel Cyngor yn pwyso i gael cynllun gwella i’r ffordd yn rhan o’r prosiect, ac wrth gwrs, fe wnawn eich diweddaru chi fel mae pethau yn symud yn eu blaenau.  

 

(2)       Cwestiwn Y Cynghorydd Huw Rowlands

 

Pa ddefnydd a wneir gan Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC Cyngor Gwynedd o gontractwyr allanol, a pha fonitro sy’n digwydd er mwyn sicrhau safon, gwerth am arian a chydymffurfiaeth â’u cytundebau?

 

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

Mae’n wir i ddweud bod yr Adran yn defnyddio nifer o gontractwyr i’r gwahanol feysydd gwaith rydym ni’n ymgymeryd â hwy, sy’n golygu tipyn o waith monitro gan swyddogion.  Wrth symud ymlaen, rydym yn ceisio mewnoli rhai o’r contractau yma er mwyn sicrhau gwell atebolrwydd a chysondeb, a hefyd i ddatblygu sgiliau’r gweithlu mewnol a chadw’r budd yn lleol.  Yn ogystal â hyn, mae llawer o’r contractau torri gwair, er enghraifft, yn dod i ben a bydd angen ail-dendro.  Y gobaith yw y bydd modd creu pecynnau llai o waith fydd yn golygu y gall contractwyr mwy lleol ymdopi gyda’r gwaith, yn y gobaith y bydd hyn i gyd yn gwella’r gwasanaeth i drigolion Gwynedd.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Huw Rowlands

 

A all yr Adran adrodd yn ôl wedi iddyn nhw gael cyfle i ail-ystyried sut mae pethau yn cael eu gweithredu?

 

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

Yn sicr, fe wnawn ni adrodd yn ôl ar hynny.  Er gwybodaeth hefyd, bydd y contractau gwair yn mynd allan i dendr ddechrau’r flwyddyn gobeithio fel y bydd yna gontractwyr newydd mewn lle erbyn y gwanwyn.

 

(3)       Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried sylwadau gan Swyddogion ac Aelod Cabinet y Cyngor hwn bod y drefn ar gyfer ceisiadau grantiau teithio llesol yn anffafrio ardaloedd gwledig, pa foddion y mae’r Cyngor hwn wedi eu defnyddio i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y drefn, ac i ba raddau y mae’r pwyso wedi bod yn effeithiol?

 

Ateb – Y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig)

 

Mae yna ateb ysgrifenedig wedi’i ddarparu.  Rwy’n meddwl, yn anffodus, a hefyd yn onest, mai’r frawddeg bwysig ydi nad oes newid sylweddol wedi bod ym meini prawf y Rhaglen Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny er gwaethaf pwysau mawr gan y Cyngor yma.  Mae yna ddogfennau wedi’u hategu i’r ateb ysgrifenedig.  Mae yna lythyr dyddiedig y 9fed o Chwefror gan yr Arweinydd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, at Dr Dafydd Trystan Davies, Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol.  Enghraifft arall ydi’r ymateb i ymgynghoriad ar y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth yn Hydref 2022, a hefyd cyflwyniad gan swyddogion y Cyngor yma i Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Felly dyma esiamplau o’r pwysau rydym ni wedi ei roi.

 

Fodd bynnag, nid ydi’r sefyllfa yn ddu i gyd ac rwy’n meddwl ei bod yn werth i mi ddarllen allan y rhestr o beth sydd wedi digwydd yng Ngwynedd yn y maes yma.  Wedi’u cwblhau yn barod mae:-

 

·       Ffordd Penrhos, Bangor – Rhan 1

·       Lôn Las Ogwen

·       Llochesi Beics yn Ysgol Cymerau, Pwllheli

·       Ysgol Godre’r Berwyn, y Bala

 

Mae gwaith yn mynd ymlaen i ddatblygu cynlluniau:-

 

·       Llanrug i Gaernarfon

·       Chwilog i Afonwen

·       Tywyn i Aberdyfi

 

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen i sôn bod y cynlluniau canlynol wedi’u cymeradwyo ar gyfer eu datblygu ymhellach, sef:-

 

·      Llochesi Beics mewn Ysgolion

·      Datblygiad Cynllun Teithio Llesol Bethel i Gaernarfon

·      Datblygiad Cynllun Chwilog i Afonwen

·      Gwelliannau i lwybr presennol Ysgol Llanllechid

·      Datblygiad Cynllun Y Ffôr i Bwllheli

·      Cyfraniad tuag at ddarpariaeth Teithio Llesol Ysgol Treferthyr, Cricieth

·      Datblygiad Cynllun Ysgol Maenofferen a Ffordd Glyndŵr

·      Datblygiad Cynllun Teithio Llesol Llanrug i Gaernarfon.

 

Mae £900,000 hefyd wedi ei sicrhau i wireddu ail wedd Cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, Bangor a dros £400,000 i gyflwyno gwelliannau y tu allan i Ysgol Treferthyr, Cricieth, a hefyd Ysgol Rhostryfan.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried bod y Cyngor, yn ôl yr enghreiffitiau, wedi pwyso ar y moddion sy’n ddisgwyliedig, hynny yw, drwy ymgynghoriadau â fforymau gwledig, a gan ystyried, fel ‘roedd yr Aelod Cabinet yn ddweud, nad ydi’r drefn wedi newid, hynny yw, mae ardaloedd gwledig yn dal o dan anfantais yn y drefn grantiau, pa foddion newydd mae’r Cyngor yma yn mynd i’w defnyddio i bwyso ar y Llywodraeth er mwyn cael y maen i’r wal a chael mwy o degwch i ardaloedd gwledig?

 

Ateb – Y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig)

 

Fel cyd-aelod yn ardal Eifionydd, rwy’n pregethu yn aml iawn am yr angen i sicrhau tegwch ar draws y sir, yn enwedig i ardaloedd gwledig.  Diolch hefyd i’r Aelod am ei waith fel Aelod Lleol.  Rwyf wedi cael y pleser o ymweld â’r Ward a mynd am dro ar hyd y Lôn Goed, gan hefyd gerdded ar y lôn o Afonwen i Chwilog.  Felly rydw i’n llwyr ddeall y rhwystredigaeth a phwysigrwydd y pwnc yma.  Byddaf yn cymryd pob cyfle, pob ymgynghoriad, pob cyfarfod hefo’r Gweinidog ymhob cyfarfod o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i bwyso'r mater yma yn ei flaen, fel y bydd pob Aelod Cabinet arall a swyddog yn y Cyngor yma yn ei wneud hefyd rwy’n siŵr.  Fel y rhan fwyaf o’r Siambr yma, byddaf hefyd yn sicr yn pwyso, yn ymdrechu ac yn ymgyrchu am Lywodraeth Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn 2026, oherwydd dyna sut y cawn ni ddealltwriaeth go iawn o anghenion gwledig ar draws y sir yma ac ar draws Cymru gyfan.  Dyna ydi’r ateb go iawn yn fy marn i - newid go iawn i lawr ym Mae Caerdydd.

 

(4)       Cwestiwn Y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Dosberthir tai cymdeithasol ar rent yng Ngwynedd trwy restr Opsiynau Tai y Cyngor mewn cydweithrediad â’r asiantaethau tai, Adra, Cynefin ayyb.  Beth yw’r trefniadau i sicrhau hawliau a chyfle cyfartal i denantiaid, yn benodol ym materion cytundebol?

 

Ateb – Aelod Cabinet Tai, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Nid oes yna lawer y gallaf ei ychwanegu i’r ymateb ysgrifenedig.  Mae’n dod i lawr i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.  Un peth fyddwn i’n ychwanegu – rwy’n cofio ar un pwynt roedd pawb yn dweud bod y ddeddf yma yn mynd i fod yn un o’r deddfau mwyaf arloesol yn Ewrop.  Yn y diwedd, doedd hi ddim, ond mae’n gam pell ymlaen o’r sefyllfa oedd yn bodoli cynt.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Wrth geisio helpu teulu sy’n wynebu decantio, daeth i’m sylw nad yw polisïau a gweithdrefnau asiantaethau tai yn unffurf o bell ffordd.  Mae gwahaniaethau amlwg rhyngddynt, sy’n destun pryder.  Oni ddylai’r Cyngor sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau, hynny yw, y gwaith papur i’n tenantiaid, yn unffurf i holl denantiaid Gwynedd er mwyn sicrhau tegwch i bawb.

 

Ateb – Aelod Cabinet Tai, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

I fod yn onest, roeddwn i’n meddwl eu bod yn unffurf yn barod felly byddaf yn gofyn i’r Adran edrych i mewn i hyn, ond mi fuaswn i’n dweud ein bod, fel y sector yng Ngwynedd, yn cydweithio’n agos iawn.  Rwy’n cadeirio Grŵp Partneriaeth Tai Gwynedd.  Mae ein swyddogion yn cwrdd â swyddogion pob cymdeithas dai yn aml iawn.  Mae’r cymdeithasau tai yn cwrdd yn aml iawn.  Rydym yn ceisio sicrhau bod y trigolion yn cael y profiad gorau.  Mi fuaswn i’n deud ein bod ni’n llwyddo i wneud hynny ac mae’r Llywodraeth wedi ein canmol ni yng Ngwynedd yn ddiweddar, gan ddweud mai ni ydi’r gorau yng Nghymru o ran ein perthynas gyda’n cymdeithasau tai.  Felly, efallai nad ydi pob dim yn berffaith, ond yn bendant, rydym ni eto yn mynd i’r cyfeiriad iawn.

 

(5)       Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Yng ngoleuni cynigion papur gwyn Llywodraeth Cymru i wneud cyswllt lleol yn llai o ystyriaeth ar gyfer tai cymdeithasol, ac o gofio bod cwynion cyson ar lawr gwlad nad yw siarad Cymraeg na bod yn wreiddiedig mewn cymuned yn ystyriaeth ddigonol parthed cael blaenoriaeth i cymdeithasol yma yng Ngwynedd, sy'n gadarnle’r iaith, beth yn union yw’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud gan y Cabinet i geisio newid y drefn flaenoriaethu hynod niweidiol yma?

 

Ateb – Aelod Cabinet Tai, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Cefais fy mhenodi fel Aelod Cabinet Tai yn 2017, ac un o’r pethau cyntaf wnaethom ni oedd ail greu'r Polisi Gosod Tai.  Cyn y newid yna roedd anghenion tai eraill yn trympio yr elfen leol, felly un o’r pethau wnaeth y Polisi Gosod Tai newydd oedd rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr elfen leol.  Rwy’n meddwl ein bod wedi llwyddo.  Erbyn hyn mae 97% o’n tai cymdeithasol yn mynd i bobl leol, sy’n ardderchog yn fy marn.  Mae’r papur gwyn mae’r aelod yn cyfeirio ato yn sôn am danseilio hynny.  Rydym yn cytuno â llawer o bethau yn y papur gwyn, ond mae yna hefyd ynddo bethau nad ydym yn cytuno â hwy.  Er mwyn gwneud rhywbeth am hynny, rydym ni’n gwneud popeth y gallwn - fedra’i ddim meddwl am unrhyw beth arall y gallem fod yn ei wneud.  Rydym ni wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad.  Mae’r Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn amlinellu ein pryderon ni.  Mae swyddogion yr Adran Tai wedi cwrdd â swyddogion tai'r Llywodraeth.  Rydw i wedi bod mewn sawl cyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gydag aelodau cabinet tai eraill ar draws Cymru ac yn siarad hefo Julie James AS, y cyn-weinidog Tai, ac ni allaf feddwl am unrhyw beth arall y gallem ei wneud.  Nid ydym ni’n hoffi’r hyn sy’n digwydd, ond eto, hyd nes y byddwn ni’n pleidleisio dros Blaid Cymru fel Llywodraeth Cymru, nid oes yna unrhyw beth y gallwn ni wneud ynghylch hynny.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

O ystyried bod yna bolisi yn barod ar stad o dai ym Mhowys sydd â’r nod o warchod a hyrwyddo’r Gymraeg, ac sy’n rhoi blaenoriaeth “i ymgeiswyr gyda chysylltiad ag ardal Cyngor Tref Machynlleth ers o leiaf 10 mlynedd, yn siaradwyr Cymraeg ac mewn angen tai” fy nghwestiwn ydi, rŵan bod Cyd-bwyllgor yr AHNE a 12 o gynghorau cymuned a thref yn Llŷn ac Eifionydd yn galw ar Gyngor Gwynedd i weithredu ar argymhellion Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn gwarchod a hyrwyddo’r Gymraeg, a bod Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau bod Cyngor Gwynedd wedi methu cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, pa bryd y bydd Cyngor Gwynedd yn dilyn arweiniad Cyngor Sir Powys ac yn sefydlu polisïau gosod tai hefo’r nod o warchod a hyrwyddo’r Gymraeg?

 

Ateb – Aelod Cabinet Tai, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Mae pob person yn y Cabinet yn blaenoriaethu’r iaith.  Mi fuaswn i’n deud mai’r un peth sy’n uno pawb ohonom ydi’r iaith.  Mae hynny’n wir am y grŵp yr ochr yma i’r Siambr a’r Siambr i gyd, a’r swyddogion yn y Cyngor i gyd.  Rydym ni i gyd yn trio amddiffyn a hwyluso’r iaith Gymraeg.  Nid wy’n siŵr at beth mae’r aelod yn cyfeirio.  Nid ydym yn trafod pryd rydym yn mynd i gopïo Cyngor Sir Powys, felly nid wy’n siŵr sut y gallaf ateb fwy na’r hyn rwyf newydd ei ddweud. 

 

(6)       Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

O ystyried:

·           ei bod yn ofynnol bod pob penderfyniad a wneir a phob polisi a gyflwynir gan y Cyngor hwn yn destun asesiad effaith ar y Gymraeg

·           a’i bod yn dilyn o hynny bod y mesurau i reoli tai gwyliau a’r polisi gosod tai cymdeithasol, fel ei gilydd, wedi bod yn destun asesiad o’r fath

·           ac (i) nad oes casglu gwybodaeth am iaith ymgeiswyr ar y rhestr aros am dai cymdeithasol a (ii) ein bod yn dal i ddisgwyl am ddata ar effaith ieithyddol y premiwm yng nghyd-destun symudiadau o dai gwyliau i brif breswylfeydd

·           ac na ellir asesu na monitro effaith heb yr wybodaeth hon

·           a bod pryderon dilys ar lawr gwlad ynghylch effaith y naill bolisi a’r llall ar gymunedau yn Llŷn ac Eifionydd (a Gwynedd yn ehangach, siŵr o fod)

 

Pa fwriad sydd i gywiro’r sefyllfa hon fel na wastreffir adnoddau yn cynhyrchu asesiadau effaith yn y meysydd hyn sydd mor ddiffygiol nes rhoi’r argraff nad ydynt ond ymarferiadau soffistigedig i ystumio a chuddio gwir effeithiau, ac effeithiau posibl, y polisïau a’r penderfyniadau dan sylw?

 

Ateb – Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol, Y Cynghorydd Menna Trenholme

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein cymunedau ac yn rhoi ystyriaeth briodol i hyn wrth lunio polisïau.  Rydym yn ymfalchïo ein bod wedi adolygu ein trefniadau cynnal asesiadau effaith gan gynnwys asesiadau effaith ar yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r deddfwriaethau perthnasol ac yn rhoi sylw i nodweddion cydraddoldeb, y Gymraeg ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Datblygwyd y trefniadau presennol gyda chydweithrediad swyddfeydd y comisiynwyr perthnasol.  Byddwn yn symud i ddefnyddio fersiwn electroneg newydd yn fuan a threfnu hyfforddiant pellach i staff.

 

Mae yn ofynnol i’r Cyngor, dan ofynion Safonau’r Gymraeg (Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) ystyried yr effaith fydd newid mewn unrhyw bolisi neu weithdrefn (neu greu polisi neu weithdrefn o’r newydd), yn ei gael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’n rhaid hefyd (dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) ystyried yr effaith fydd newid mewn unrhyw bolisi neu weithdrefn (neu greu polisi neu weithdrefn o’r newydd), yn ei gael ar bobl hefo nodweddion cydraddoldeb gwarchodedig, sicrhau tegwch a meithrin perthnasau da ac ers Ebrill 2021 rhoi sylw dyledus i fynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol mewn penderfyniadau strategol.  Gwneir yr holl asesiadau yn seiliedig ar y data sydd ar gael. Mae’r honiad eu bod yn ymarferiadau i ystumio a chuddio gwir effeithiau, ac effeithiau posibl, y polisïau a’r penderfyniadau dan sylw yn anghywir.

 

Byddwn yn parhau i gynnal asesiadau yn unol â’r gofyn cyfreithiol ac yn ystyried a oes cyfleoedd i ddatblygu a gwella hynny yn y dyfodol.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

O ystyried bod hwn yn gwestiwn sy’n deillio’n wreiddiol o rybudd o gynnig na gyrhaeddodd y rhaglen am resymau penodol, ac o ystyried fy mod ar ddeall y byddai’r rhybudd o gynnig, o’i droi’n gwestiwn, wedi cael ateb llawn, mae’r ateb yma yn siomedig a dweud y lleiaf, ac yn annigonol.  Mae’r cwestiwn yn mynd ar ôl pwyntiau eithaf penodol ynghylch casglu data a materion trefniadaethol a pholisi.  Rwy’n meddwl ei fod wedi ei osod allan yn eithaf rhesymegol fesul pwynt.  Mae’n gwestiwn sy’n galw am sylwadau gan dair adran o leiaf, yr Adran Tai, yr Adran Gyllid a’r Adran Gyfreithiol, i’w ateb yn gyflawn.  O ystyried hynny i gyd, oes modd i ni gael gwybod pwy ddrafftiodd yr ateb diffygiol, anghyflawn ac annigonol yma, ac mewn ymgynghoriad a phwy?

 

Ateb – Y Prif Weithredwr

 

Hoffwn ddweud i gychwyn nad wyf yn cytuno bod yr ateb yn ddiffygiol ac anghyflawn.  Mae’n gyfuniad o wybodaeth gan sawl adran wahanol a sawl swyddog gwahanol.  Os ydych chi’n dymuno mwy o wybodaeth neu drafodaeth bellach ynglŷn â’r pwnc, rwy’n hapus iawn i gael y drafodaeth yna gyda chi a mynd ar ôl yr adrannau unigol i ddarparu gwybodaeth bellach.

 

Dogfennau ategol: