Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor.
Penderfyniad:
Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad
Cyngor Gwynedd 2023/24.
Cofnod:
Yn absenoldeb yr Arweinydd, Y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Nia Jeffreys,
adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad
Blynyddol a Hunanasesiad 2023/24.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i holl weithwyr y Cyngor am eu
gwaith dros y flwyddyn, a hynny mewn cyfnod hynod o heriol. Diolchodd hefyd i aelodau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio am eu sylwadau ac i Dîm y Cabinet am eu gwaith yn
arwain ar y meysydd penodol.
Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at rai meysydd
blaenoriaeth yn yr adroddiad, sef:-
·
Gwynedd Yfory – bron i
5,000 o blant oedran cynradd yn derbyn cinio poeth maethlon bob dydd yn yr
ysgolion.
·
Gwynedd Glyd – creu dros
200 o gartrefi ychwanegol ar gyfer trigolion Gwynedd.
·
Gwynedd Ofalgar - y
tŷ cyntaf wedi’i brynu ar gyfer y Gwasanaeth Cartrefi Bychan i Blant yn
ardal Porthmadog a’r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol ysgafn wedi’i agor ym Mhwllheli ar gyfer oedolion.
·
Gwynedd Werdd – y gwaith
o drawsnewid dau o safleoedd tirlenwi Gwynedd wedi arwain at arbed 74 erw yn
Ffridd Rasys, Harlech a 32 erw yn Llwyn Isaf, Penygroes.
Yna cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at un stori
y tu ôl i’r ystadegau gan amlygu pwysigrwydd rhoi wynebau i waith y Cyngor ac
enwau i’r ystadegau, a hefyd er mwyn cydnabod llwyddiannau.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Nodwyd nad oedd y stori y
tu ôl i’r ystadegau yn stori unigryw o bell ffordd a bod yr holl waith mae’r
swyddogion yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Gwynedd,
a hynny er gwaethaf yr argyfwng ariannol.
Ategwyd diolchiadau’r Dirprwy Arweiniydd i
holl staff y Cyngor.
·
Diolchwyd yn arbennig i’r
Timau Ardal Ni, y glanhawyr strydoedd, y staff gorfodaeth stryd, a hefyd y
staff gwaredu ysbwriel am eu gwaith caled ymhob tywydd.
·
Nodwyd bod ystadegau’n
dangos bod 5,400 o bobl wedi gadael Gwynedd yn ystod y flwyddyn, a holwyd beth
oedd y rheswm am hyn. Mewn ymateb,
eglurwyd bod canran uchel iawn o’r 5,400 o ganlyniad i farwolaethau a diffyg genedigaethau,
yn hytrach nag allfudo. Yn amlwg, roedd
pobl ifanc yn gadael y sir hefyd, ond hyderid y byddai creu cyfleoedd gwaith,
darparu tai fforddiadwy, ynghyd â nifer o’r cynlluniau eraill yng Nghynllun y
Cyngor o gymorth yn hyn o beth.
·
Nodwyd
bod Osian Rhys, swyddog ifanc sy’n gweithio ar y Cynllun Arfor,
wedi rhoi cyflwyniad ysbrydoledig mewn noson Rhwydwaith Seren yn Pontio yn
ddiweddar ar fanteision dychwelyd i’r ardal hon i fyw a gweithio. Roedd bwriad i roi’r cyfle iddo roi’r
cyflwyniad hwn yn ehangach gan y byddai llawer o bobl ifanc yn siŵr o
uniaethu ag ef yn ei angerdd a’i ddyhead i weld pobl ifanc yn dychwelyd i
Wynedd, ac roedd angen uchafu ac amlhau'r negeseuon hynny.
·
Diolchwyd i’r Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a phawb sy’n gwthio Cynllun Safle Penrhos
yn ei flaen, ond pwysleisiwyd yr angen i ddal ati i wthio i gael y maen i’r wal
gan nad oes yna unrhyw welyau nyrsio yn Llŷn ar hyn o bryd.
·
Nodwyd bod y rhan o’r
adroddiad sy’n cyfeirio at adfywio cymunedau a chanol trefi (tudalen 16) yn
nodi y lluniwyd Cynlluniau Canol Tref ar gyfer Bangor, Caernarfon a Phorthmadog, a holwyd oedd yna reswm pam nad oedd Pwllheli
wedi’i gynnwys. Mewn ymateb, nodwyd bod
cynllun ar gyfer Pwllheli ar y gweill mewn cydweithrediad agos gyda’r Cyngor
Tref.
·
Mynegwyd
pryder bod cyflwyno Erthygl 4 wedi creu llawer iawn o broblemau yn
Llŷn. Nodwyd mai 1,000 yn unig o’r
4,000 o ymatebwyr i’r ymgynghoriad oedd o blaid cyflwyno Erthygl 4, a
chwestiynwyd ai dyna sut y dylai ymgynghoriad weithio. Nodwyd bod yna nifer sylweddol iawn o dai
wedi dod ar y farchnad yn Llŷn ers cyflwyno Erthygl 4, a nifer o fusnesau
ar fin, neu wedi cau. Cyfeiriwyd hefyd
at broblemau ehangach yn yr ardal, gan gynnwys diffyg meddygon, ambiwlansys a
thrafnidiaeth gyhoeddus. Mewn ymateb, nodwyd
nad refferendwm oedd ymgynghoriad, ac yr edrychwyd yn ofalus iawn ar yr holl
ymatebion. Nodwyd ymhellach bod sawl
cyfeiriad wedi’i wneud at y data o ran effaith Erthygl 4 a’r Premiwm Treth
Cyngor, ac y byddai’r adroddiad i’r Cyngor ym mis Rhagfyr ar osod Premiwm ar
gyfer 2025/26 yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r effaith, ynghyd â’r gwaith
ymchwil sydd wedi digwydd dros yr haf.
·
Croesawyd diwyg ac iaith
yr adroddiad a mynegwyd gobaith y bydd y ddogfen ar gael yn rhwydd i drigolion
Gwynedd weld y gwaith da sy’n mynd rhagddo ar adeg mor heriol.
·
Gan gyfeirio at dudalen
40 o’r adroddiad, nodwyd bod y cais ‘Gwynedd Oed Gyfeillgar’ a gyflwynwyd i Sefydliad
Iechyd y Byd bellach wedi’i dderbyn gyda chanmoliaeth mawr gan y
Sefydliad. Gan hynny, byddai’r gwaith yn
parhau dan bartneriaeth Oed Gyfeillgar a sefydlwyd o fewn y Cyngor.
·
Holwyd
sut roedd y Cyngor yn penderfynu lle i brynu tai. Mewn ymateb, nodwyd na fyddai’r Cyngor yn
diystyru unrhyw leoliad gan fod yr angen ymhob man a gofynnwyd i’r aelodau
hysbysu’r Adran o unrhyw gyfleoedd i brynu tai yn eu hardaloedd. Er hynny, nodwyd bod rhaid i’r Cyngor fod yn
hynod ofalus rhag cystadlu yn erbyn personau lleol sy’n dymuno prynu’r tai
hynny hefyd.
·
Nodwyd
bod yna brinder tai newydd ar rent yn y pentrefi bychan a holwyd a fyddai’n
bosib’ i’r Cyngor adeiladu rhywfaint o dai eu hunain. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd Gwynedd yn
awdurdod sy’n dal stoc tai, ac mai rôl y Cyngor o ran darparu tai rhent oedd
sicrhau bod y cymdeithasau tai yn darparu gymaint o dai â phosib’ a darparu
gymaint â phosib’ o arian i’w galluogi i wneud hynny. Er hynny, roedd y Cyngor ei hun wedi cychwyn
adeiladu tai er mwyn ceisio llenwi’r bwlch yn y ddarpariaeth lle mae prynwyr
tro cyntaf yn methu prynu eu tai eu hunain, a phetai’r
Cyngor yn methu gwerthu’r tai hynny am ryw reswm, megis diffyg pobl leol mewn
angen ac mewn sefyllfa i brynu, yna gellid ystyried gosod y tai hynny ar
rent.
·
Nodwyd bod ardaloedd
Meirion a Dwyfor o’r sir ymysg y tlotaf yng Nghymru, os nad yn Ewrop, a bod
pobl ifanc yn gorfod gadael yr ardal i chwilio am waith. Mewn ymateb, nodwyd bod y Cyngor yn hollol
effro i’r angen i greu gwaith i holl bobl y sir ac yn gwneud popeth o fewn ei
allu i hwyluso hynny. Er enghraifft,
nodwyd bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu cymorth i bobl sy’n byw mewn tlodi
drwy wneud yn siŵr eu bod yn hawlio pob budd-dal sy’n ddyledus iddynt ac
yn elwa ar bob cyfle.
·
Nodwyd
nad oedd yna unrhyw gynllun teithio llesol ym Meirionnydd ac y gofynnwyd am
lwybr o Ddinas Mawddwy i Fallwyd ers blynyddoedd. Mewn ymateb, cyfeiriwyd at y meini prawf ar
gyfer grantiau a nodwyd y rhoddid pwysau drwy’r amser i geisio sicrhau tegwch
ar draws y sir.
·
Nodwyd
ei bod yn anodd dadansoddi’r hunanasesiad gan nad oedd yn arfarnu cynlluniau yn
ôl y meysydd maent yn perthyn iddynt.
Teimlid bod hynny’n ei gwneud yn anodd adnabod prif rwystrau’r Cyngor a
pha gynlluniau sydd heb eu cyflawni, ayb, a gofynnwyd i’r swyddogion gymryd
hynny i ystyriaeth wrth lunio adroddiad 2024/25.
·
Holwyd
pa fodel a ddefnyddid i fesur poblogaeth.
Mewn ymateb, nodwyd y daeth Gwynedd yn 21ain allan o’r 22 o gynghorau
Cymru o ran newid mewn poblogaeth y llynedd, a bod hynny wedi taro’n cyllideb
refeniw ar gyfer y flwyddyn i ddod. Fel
rhan o’r gwaith o geisio cyfarch y bwlch anferth o £14m sy’n wynebu’r Cyngor,
edrychwyd ar y ffigurau ar gyfer y flwyddyn nesaf, a gwelwyd bod Gwynedd
bellach yn 5ed allan o’r 22 cyngor sir.
Nid oedd yn hysbys o ble roedd y ffigwr hwn wedi dod, ond roedd i’w
groesawu gan y byddai’n golygu llai o effaith ar ein cyllidebau'r flwyddyn
nesaf.
·
Gan gyfeirio at nod
Gwynedd Lewyrchus o greu’r amgylchiadau gorau bosib’ yng Ngwynedd i fusnesau a
mentrau cymunedol ffynnu, nodwyd bod menter gymunedol yn Llanuwchllyn wedi
llwyddo i brynu Tafarn yr Eagles gyda nawdd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
(SPF). Mynegwyd gwerthfawrogiad o’r
arweiniad a gafwyd gan swyddogion y Cyngor drwy gydol y broses o ymgeisio am y
grant, a holwyd beth oedd y rhagolygon i’r dyfodol o ran y grant yma. Mewn ymateb, nodwyd y dymunid diolch i
fentrau cymunedol o’r fath gan na fyddai llawer o gynlluniau yn gallu cael eu
gwireddu heb y cydweithio gyda’r trydydd sector, yn ogystal â’r bartneriaeth
gyda’r swyddogion. Fodd bynnag, byddai
arian y Gronfa Ffyniant Bro, y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac arian Arfor yn dod i ben yn 2025, er gwaethaf yr addewid ‘not
a penny less’ a roddwyd
adeg Brexit, a phwysleisiwyd pwysigrwydd dwyn pob
pwysau bosib’ ar y 2 lywodraeth yn hyn o beth.
·
Nodwyd bod llawer o waith
y Cyngor yn gallu bod yn anweledig a chroesawyd y ffaith bod yr adroddiad yn
dangos yr ystod o wasanaethau a ddarperir.
Er enghraifft, nodwyd bod gwaith y Tîm Awtistiaeth yn anweledig i’r
mwyafrif o bobl, a diolchwyd iddynt am eu holl waith yn cefnogi plant ac
oedolion sydd â diagnosis, neu’n aros am ddiagnosis, nid yn unig drwy ddarparu
grwpiau penodol ar gyfer rhieni a phlant sy’n aros am ddiagnosis, neu’n
bryderus am ymddygiad eu plant, ond hefyd drwy hyfforddi staff. Nodwyd hefyd y byddai’r Tîm Awtistiaeth
mewnol yn darparu hyfforddiant yn fuan ar gyfer gweithwyr cymdeithasol fel bod
modd iddynt gefnogi rhieni maeth, teuluoedd ac athrawon.
·
Nodwyd, yn ogystal â
chadw a denu pobl ifanc yn ôl i Wynedd, bod angen ystyried sut i ddenu pobl
sy’n hanu o rannau eraill o Gymru i ddod i fyw i Wynedd.
·
O ran y sylwadau
ynglŷn â diffyg swyddi yng Ngwynedd, nodwyd bod yna lawer iawn o gyfleoedd
ar gael yn y sectorau gofal, iechyd ac addysg.
Nodwyd hefyd yr edrychid ymlaen at weld sefydlu Academi Gofal Gwynedd, fydd
yn gyfle gwych i ddatblygu gyrfa yn y sector gofal.
·
O
ran y cwestiwn yn gynharach yn y drafodaeth ynglŷn â pham bod Pwllheli heb
ei gynnwys ar y rhestr o drefi y lluniwyd Cynlluniau Canol Tref ar eu cyfer,
awgrymwyd efallai bod tueddiad anfwriadol i weld yr hyn sydd o’n blaenau ac i
anghofio am y pethau sydd ar y cyrion.
Mewn ymateb, nodwyd bod Pwllheli wedi’i gynnwys yng Nghynllun 2024/25 a
bod cynlluniau creu lleoedd ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru
yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ym Mhwllheli.
·
Awgrymwyd bod sawl
cyfeiriad yn yr adroddiad at ‘lluniwyd cynlluniau’, ‘cynhaliwyd
gweithdai’ ayb, ond nad oedd llwyddiannau ar bapur yn argyhoeddi pobl ar
lawr gwlad, er y deellid bod yna brosesau i’w dilyn ar gyfer pob datblygiad a
chynllun. Mewn ymateb, nodwyd y deellid
y rhwystredigaeth, ond bod yna bethau yn digwydd ar lawr gwlad sy’n gwneud
gwahaniaeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo a
mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd
2023/24.
Dogfennau ategol: