Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig
fel a ganlyn:-
A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r
rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi
bod:
Dros 40,000 o drigolion Gaza
wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.
Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu
darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.
Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn
sifiliaid.
Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau
anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.
Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno
wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.
Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.
O ystyried hyn, ac o
ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcrain, Yemen a Maymar,
geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth
Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn
cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a parchu cyfraith
rhyngwladol .
Penderfyniad:
A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn
mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:
Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel
- y mwyafrif llethol yn sifiliaid.
Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd
bron yn sicr yn farw.
Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.
Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch
byddin Israel.
Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi,
neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.
Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.
O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o
sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r
Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth
Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn
cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith ryngwladol.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Cai Larsen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
A hithau bellach
yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn
mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:
Dros 40,000 o drigolion
Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y
mwyafrif llethol yn sifiliaid.
Tua 10,000 o bobl
- sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.
Dros 90,000 wedi
eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.
Yn agos i 200,000
wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.
Bod mwyafrif
llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod
symud o’u cartrefi.
Bod pobl sydd â’u
teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.
O ystyried hyn, ac
o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o
adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i
ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a
pharchu cyfraith ryngwladol.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Bod
pethau wedi symud ymlaen ers iddo lunio’r cynnig o ran nifer y marwolaethau a
maint y dirfod, a hefyd o ran lleoliad daearyddol y distryw, ond nad oedd am
gyfeirio at yr erchyllterau hynny yn benodol gan fod y cynnig yn siarad drosto’i hun.
·
Bod
pobl Gwynedd wedi ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol drwy gynnal
gwylnosau rheolaidd yng Nghaernarfon a gwrthdystiadau mewn gwahanol lefydd yn y
sir, gan gynnwys gwrthdystiad hirhoedlog ac arwrol gan fyfyrwyr ym Mangor.
·
Y
dymunai esbonio pam ei fod o’r farn y dylai’r Cyngor adolygu ei bolisïau a’i
strategaethau buddsoddi i flaenori buddsoddiadau moesegol yng nghyd-destun
Israel, ac yng nghyd-destun record hir gan arweinwyr y wlad honno o anwybyddu
cyfraith ryngwladol a hawliau dynol, a gwneud hynny yn fwriadol dros gyfnod hir
o amser pan nad oes yna ryfel yn mynd rhagddo.
·
Bod
yr ymddygiad hirdymor yma yn cynnwys:-
Ø
Camdriniaeth
gyson a hirhoedlog o Balesteiniaid.
Ø
Gorddefnydd
o rym.
Ø
Llofruddiaethau
di-gyfiawnhad.
Ø
Amddifadu
pobl o’r hawl i ymgynnull a symud yn rhydd.
Ø
Yr
arfer o ymestyn presenoldeb Israelaidd ar lan Gorllewinol
yr Iorddonen, sy’n groes i 4ydd Confensiwn Genefa, confensiwn sy’n gwahardd
pwerau meddiannol rhag symud ei phoblogaeth ei hun i diroedd maent wedi eu
meddiannu.
Ø
Cosbi
torfol - hyd yn oed cyn y cyrch presennol roedd blocâd Gaza
yn amddifadu trigolion Gaza o fynediad hawdd i fwyd,
meddyginiaeth a chyfleoedd economaidd, oedd ynddo’i
hun yn creu argyfwng dyngarol cyn i’r cyrch yma gychwyn.
Ø
Gwahaniaethu
yn erbyn pobl o gefndir Arabaidd oddi mewn i ffiniau Israel, gwahaniaethu o ran
cynrychiolaeth ddemocrataidd, cyfleoedd economaidd a mynediad i wasanaethau.
Ø
Y
defnydd o lysoedd milwrol i erlyn sifiliaid a defnyddio system erlyn gyfochrog
filwrol sy’n lleihau tryloywder, lleihau hawliau sylfaenol ac yn arwain at
gyfnodau hir o garcharu di-ddyfarniad.
Ø
Cyfyngu
ar hawliau i hunanfynegiant a chyfyngu ar hawliau mudiadau mewnol i feirniadu
polisïau Israel tuag at Balesteiniaid yn fater
hirhoedlog.
·
Bod
yr hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd, ac sydd wedi digwydd yno
ers sefydlu gwladwriaeth Israel, yn adlewyrchu canfyddiad cwbl wrthyn bod
llawer mwy o werth i fywydau pobl o rai cefndiroedd crefyddol ac ethnig nag
eraill.
·
Ei
fod yn sylweddoli nad yw’r materion y cyfeiriwyd atynt yn gyfyngedig i Israel,
a byddai pasio’r cynnig yn sicrhau bod y Cyngor hwn yn edrych ar ei bolisïau er
mwyn blaenori buddsoddiadau moesegol yn gyffredinol, nid yn Israel yn unig.
·
Er
hynny, ei fod yn cyfeirio’n benodol at Israel am ddau reswm, sef:-
Ø
Bod
yr amgylchiadau erchyll sydd ohonynt wedi bod yn mynd ymlaen am bron i flwyddyn
gyfan, ac yn lledaenu ymhellach ac ymhellach o ddiwrnod i ddiwrnod.
Ø
Bod
perthynas y Gorllewin yn llawer agosach at Israel nag ydyw at wledydd eraill
sydd â record wael iawn parthed parchu cyfraith ryngwladol a hawliau
dynol. Gan fod economi Israel wedi
integreiddio i sustem gyfalafol y Gorllewin roedd yna risg uwch bod
buddsoddiadau o’r Cyngor yma yn gwneud eu ffordd i Israel.
·
Y
gofynnid i’r Cyngor gefnogi’r cynnig er mwyn datgan ein gwrthwynebiad i’r hyn
sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol heddiw, a beth sydd wedi bod yn digwydd yno
dros y degawdau a hefyd er mwyn tanlinellu’r gred sy’n greiddiol i’n gwerthoedd
Cymreig, sef bod gwerth cyfartal i bob enaid dynol a bod y gwerth hwnnw yn
annibynnol o gefndir crefyddol, ethnig neu wladol.
Mynegodd sawl
aelod gefnogaeth frwd i’r cynnig. Yn
ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-
Nodwyd mai safiad dewr
myfyrwyr Prifysgol Bangor fu’n rhannol gyfrifol am ysbrydoli’r cynnig hwn. Pwysleisiwyd ei bod yn destun balchder mai
gwersyll Bangor yw’r unig un drwy’r gwledydd hyn sydd wedi sefyll yn ddi-dor
ers mis Mai, a diolchwyd i’r myfyrwyr am eu safiad a’u dygnwch rhyfeddol, sydd
wedi tynnu ystod eang o drigolion Gwynedd a thu hwnt at ei gilydd i’w cefnogi
ac i gyd-sefyll gyda hwy. Nodwyd hefyd
bod croeso i bawb ddod i’r wylnos ychwanegol a drefnwyd ar nos Lun, 7 Hydref i
nodi blwyddyn ers cychwyn y tywallt gwaed.
Gofynnwyd am farn
y Swyddog Monitro ar faterion yn ymwneud â phriodoldeb geiriad y cynnig, sef:-
·
Bod
y cynnig yn rhestru ffigurau, ond oedd modd gwneud hynny heb adroddiad gerbron
yn tystio i gywirdeb y ffigurau hynny?
·
Bod
paragraff olaf y cynnig yn nodi ein bod yn galw am ychwanegu darpariaeth sydd
yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith
ryngwladol. Oedd awgrym felly nad oedd y
ddarpariaeth bresennol yn unol â’r gyfraith?
·
Nad
oedd yma adroddiad ar y baich ar adnoddau o weithredu yn y modd yma na
phriodoldeb gwneud hynny o ystyried ein bod yn ymdrin ag arian cyhoeddus.
·
A
oedd y Cyngor mewn sefyllfa i fuddsoddi yn unol â moesoldeb, ar wahân i’r hyn
sy’n unol â threfn gyfreithiol?
·
Na
welid y cyswllt rhwng paragraff olaf y cynnig a’r rhagymadrodd, ac a oedd y
cynnig yn cyfeirio at unrhyw wladwriaeth sydd â byddin, neu unrhyw gwmni sy’n
cynhyrchu’r darnau lleiaf ar gyfer arfau milwrol, ayb?
·
Ai’r
ystyriaethau sylfaenol yn yr achos hwn ydi’r hyn sy’n unol â’r gyfraith fel y
mae a’r hyn sy’n dod â’r buddsoddiad gorau i arian cyhoeddus?
·
Nad
oedd cyfeiriad yma at y goblygiadau risg i’r sefydliad, boed hynny yn
gyfreithiol drwy her neu’n ariannol drwy fuddsoddiadau llai proffidiol.
Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Bod
rhybuddion o gynnig yn mynd drwy broses o’u trefnu a’u hidlo er mwyn cael
cynigion sy’n briodol.
·
Bod
y ffigurau yn y cynnig wedi’u rhoi ymlaen gan y cynigydd ac yn seiliedig, mae’n
debyg, ar wybodaeth sy’n gyhoeddus beth bynnag.
Hefyd, gofynnid i’r Cyngor ‘nodi’ y ffigurau, yn hytrach na’u ‘mabwysiadu’.
·
Bod
geiriad y cynnig wedi’i fframio yn hynod o ofalus fel cais i ‘ystyried’
y materion hyn gan gloriannu’r risgiau, priodoldeb a chyfreithlondeb
ychwanegu’r ddarpariaeth a geisid wrth adolygu’r Strategaeth Fuddsoddi. Nid oedd y cynnig yn rhagdybio canlyniad yr
adolygiad hwnnw.
·
Mai
amcan y geiriad oedd cynnal adolygiad o ran buddsoddi’n foesegol lle bynnag y
bo hynny’n digwydd, ac nid oedd yn gyfyngedig i Israel nac unrhyw wlad arall.
·
Na ellid dweud bod cynnig sy’n gofyn am ymchwil o’r
fath yn amhriodol, yn enwedig o ystyried hefyd mai’r Cyngor llawn fydd yn
mabwysiadu’r Strategaeth Fuddsoddi yn eu cyfarfod ym mis Mawrth. Byddai’r adroddiad i’r Cyngor yn cynghori ar
briodoldeb, cyfreithlondeb, a hefyd risgiau’r materion hyn.
Ar
bwynt o eglurder, ac mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y cynnig yn
ymwneud â Strategaeth Fuddsoddi arian y Cyngor, ac nid arian y Gronfa Bensiwn.
Holwyd
sut bod yna fuddsoddiad yn Israel os oedd y Cyngor wedi ymrwymo i’r mudiad
Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau yn 2012.
Mewn ymateb, eglurwyd bod y cynnig yn gofyn am gynnwys geiriad penodol i
amlygu dyhead y Cyngor ynglŷn â buddsoddi moesegol, ond bod 95% o arian y
Cyngor mewn buddsoddiadau arian parod beth bynnag.
Yn
ei sylwadau cloi, nododd y cynigydd:-
·
Bod y cynnig yn gyfaddawd, ac oherwydd hynny bod rhywfaint o
eglurder wedi’i golli. Er hynny, roedd
yn gyfaddawd y bu’n hapus i’w wneud.
·
Bod y Strategaeth Fuddsoddi eisoes yn cynnwys blaenoriaethau
ynglŷn ag, er enghraifft, net sero a buddsoddi yn gyfrifol.
·
Bod yr ymdrech i danseilio’r cynnig yn destun syndod iddo.
Galwyd am
bleidlais gofrestredig ar y cynnig.
Yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-
O blaid |
48 |
Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Menna Baines, Beca Brown, Stephen Churchman, Dafydd
Owen Davies, Elwyn Edwards, Elfed Wyn ap Elwyn, Alan Jones Evans, Dylan
Fernley, Delyth Lloyd Griffiths, R. Medwyn Hughes, Iwan Huws, Elin Hywel, Nia
Wyn Jeffreys, Berwyn Parry Jones, Dawn Lynne Jones, Dewi Jones, Elin Walker
Jones, Elwyn Jones, Gwilym Jones, Gareth Tudor Jones, Huw Wyn Jones, Linda
Ann Jones, June Jones, Cai Larsen, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Edgar Wyn
Owen, Gwynfor Owen, Gareth Coj Parry, Nigel Pickavance, John Pughe, Rheinallt
Puw, Arwyn Herald Roberts, Beca Roberts, Elfed P Roberts, Meryl Roberts, Huw
Llwyd Rowlands, Paul Rowlinson, Ioan Thomas, Peter Thomas, Menna Trenholme,
Rhys Tudur, Einir Wyn Williams, Elfed Williams, Gruffydd Williams, Sasha
Williams a Sian Williams. |
Yn erbyn |
1 |
Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts. |
Atal |
5 |
Y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Beth Lawton, Dewi Owen,
John Pughe Roberts a Rob Triggs. |
Nododd y Cadeirydd
fod y cynnig wedi cario.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
A hithau bellach
yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn
mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:
Dros 40,000 o
drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch
Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.
Tua 10,000 o bobl
- sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.
Dros 90,000 wedi
eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.
Yn agos i 200,000
wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.
Bod mwyafrif
llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod
symud o’u cartrefi.
Bod pobl sydd â’u
teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.
O ystyried hyn, ac
o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o
adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i
ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a
pharchu cyfraith ryngwladol.