Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig
fel a ganlyn:-
1.
Mae Cyngor
Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael
ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y
Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion
a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i
Lywodraeth Yr Alban.
2.
Mae'r
Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu
ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac
ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a
chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros
£161,000 i Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35
ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i
£144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i
wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd
tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain.
Dylai'r arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.
3.
Rydym yn galw ar y Prif
Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd
sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i
geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i oedi anfonebu pellach nes bydd sefyllfa
gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o
£443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor
Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real.
Penderfyniad:
1.
Mae
Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y
Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan
Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein
trigolion a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei
ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.
2.
Mae'r
Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu
ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac
ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a
chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i
Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen
draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer
'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i wasanaethau
cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at
gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain. Dylai'r
arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.
3.
Rydym
yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron
ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif
Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i beidio codi rhent ar y
Cyngor nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y
Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr
un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn
termau real.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Dewi Jones o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
1.
Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y
dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y
Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion
a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad
y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.
2.
Mae'r Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd
bod rheidrwydd arnom i dalu ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn
sicrhau bod trigolion Gwynedd ac ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd,
gan gynnwys ein traethau a chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd
gyfanswm o dros £161,000 i Stad y Goron.
Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth
Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan
Pwllheli'. Mewn cyfnod o gyni ariannol
difrifol i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r
fath yn mynd tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys
yn Llundain. Dylai'r arian hwn aros yng
Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.
3.
Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor
trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor
Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y
Goron i oedi anfonebu pellach nes bydd sefyllfa
gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod
elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn
2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei
dorri mewn termau real.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Mewn
cyfnod o gyni ariannol difrifol, ei bod yn warth bod y Cyngor hwn yn gorfod
talu nifer o brydlesi i Stad y Goron er mwyn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr
i Wynedd yn cael mynediad i’n traethau a chyfleusterau eraill.
·
Y
byddai oedi unrhyw anfonebu pellach yn creu arbediad ariannol fyddai’n cyfrannu
at amddiffyn gwasanaethau hanfodol sydd dan gymaint o straen ar hyn o bryd.
·
Bod
Cymru yn wlad sy’n gyfoethog mewn adnoddau naturiol, gyda’i thir, ei harfordir
a’i moroedd yn meddu ar y potensial i bweru ein heconomi, atgyfnerthu ein
cymunedau a’n cefnogi i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â newid yn yr
hinsawdd. Ar hyn o bryd, fodd bynnag,
roedd yr adnoddau hyn yn cael eu rheoli gan gorff sy’n atebol i Lywodraeth San
Steffan, ac nid i bobl Cymru, a’r refeniw sy’n deillio o Stad y Goron yng
Nghymru yn mynd i Drysorlys y Deyrnas Gyfunol yn Llundain.
·
Pe
bai cyfrifoldeb am Stad y Goron yn cael ei ddatganoli, byddai’r elw a
gynhyrchir o dir a môr Cymru yn aros yng Nghymru, gan ein galluogi i fuddsoddi
mewn seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus a phrosiectau cymunedol sy’n addas i’n
hanghenion penodol.
·
Gallai
Cymru arwain y byd ym maes datblygiad ynni adnewyddadwy, yn enwedig gwynt y
môr, ynni llanw a thechnolegau gwyrdd arloesol eraill, ond i wneud hynny byddem
angen yr awdurdod i reoli ein hadnoddau ein hunain, gan ganolbwyntio ar
gynaliadwyedd a buddion hirdymor i’n cymunedau a’n hamgylchedd.
·
Bod
datganoli Stad y Goron yn ymwneud â llawer mwy na dim ond pwy sy’n rheoli ein
tiroedd a’n moroedd, ac roedd yn ymwneud â hyder yn ein gallu i lywodraethu ein
hunain, ymddiriedaeth yn ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a hyder y gallwn
lunio economi sy’n gwasanaethu pobl Cymru.
Gofynnodd y Prif
Weithredwr i’r cynigydd ystyried cryfhau’r cyfarwyddyd yn ail frawddeg trydydd
paragraff y cynnig trwy addasu’r geiriad i ddarllen ‘Byddwn yn annog y Prif
Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i oedi
anfonebu pellach beidio codi rhent ar y Cyngor nes bydd
sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella’.
Cydsyniodd y cynigydd
i’r newid ac ni fu gwrthwynebiad i hynny o’r llawr. Gyda’r newid, fe eiliwyd y cynnig.
Nodwyd na welid pam na
allai siroedd Cymru fanteisio ar yr adnoddau sydd ganddynt a chadw’r budd yn
wirioneddol leol, yn hytrach na bod yr holl arian yn mynd i Gaerdydd, a
gofynnwyd i’r cynigydd ystyried diwygio brawddeg gyntaf paragraff cyntaf y
cynnig i ddarllen “Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r
cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru awdurdodau
lleol yng Nghymru.”
Nododd y cynigydd y
gallai newid o’r fath fod â goblygiadau pellgyrhaeddol i’r Cyngor, a gan nad
oedd yntau na’i gyd-aelodau wedi cael cyfle i bwyso a mesur ac ystyried hynny o
ddifri’, gofynnodd am gefnogaeth yr aelodau i’r cynnig fel yr oedd.
Gan gyfeirio at ail
frawddeg trydydd paragraff y cynnig, nodwyd bod y cyfeiriad at ‘nes bydd
sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella’ yn annelwig a bod angen diffiniad o
hynny. Mewn ymateb, cytunwyd ei bod yn
anodd diffinio beth yw sefyllfa gyllidol well a’i bod yn anodd gweld yn yr
hinsawdd ariannol sydd ohoni sut y gall y Cyngor fyth gyrraedd sefyllfa
gyllidol well.
Nodwyd, er y llwyr
gytunid y dylai Cymru reoli ei hadnoddau naturiol ei hun, na ddylid
arallgyfeirio’r adnoddau hynny i ddwylo corfforaethau rhyngwladol sy’n pwyso am
sero-net ac yn gwthio mwy o bobl i dlodi tanwydd.
Cynigiwyd ac eiliwyd y
gwelliant canlynol i frawddeg gyntaf paragraff cyntaf y cynnig:-
“Mae Cyngor Gwynedd
yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei
ddatganoli i Lywodraeth Cymru awdurdodau lleol yng Nghymru.”
Trafodwyd y gwelliant.
Nododd cynigydd y
cynnig gwreiddiol bod yna gryn feddwl wedi mynd i mewn i’r cynnig, ond nad oedd
yn gweld bod yr un lefel o feddwl wedi mynd i mewn i’r gwelliant. Ni chredai fod cynigydd y gwelliant wedi
gwneud unrhyw fath o ymchwil ar y pwnc nac wedi cyflwyno unrhyw fath o
dystiolaeth, ac ar sail hynny, anogodd yr aelodau i wrthod y gwelliant a
chefnogi’r cynnig gwreiddiol.
Nodwyd, er y byddai
angen dadlau sut i gael budd i Wynedd maes o law, bod angen sicrhau budd i
Gymru gyfan yn gyntaf fel cenedl.
Pleidleisiwyd ar y
gwelliant, ac fe gollodd.
Yn ei sylwadau cloi,
nododd y cynigydd:-
·
Bod
Stad y Goron wedi gwneud elw o £443m y llynedd, gyda’r ffigwr hwnnw wedi mwy na
dyblu i £1.1bn eleni, tra bod cyllidebau Cyngor Gwynedd ac awdurdodau eraill
wedi’u gwasgu a gwasanaethau yn gorfod cael eu torri.
·
O
ran y sylw ynglŷn â datblygwyr ynni yng Nghymru, byddai datganoli Stad y
Goron yn rhoi mwy o reolaeth i ni o ran pwy sy’n cael trwyddedau ynni, ac ati,
ac yn dod â’r penderfyniadau yn agosach at bobl Cymru.
·
O
weld yr ymateb i’r cynnig hwn ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd yn amlwg bod
llawer o bobl wedi bod yn trafod Stad y Goron dros y dyddiau diwethaf. Roedd yn bwysig bod pobl Cymru yn sylweddoli
pa mor wael yw’r fargen bresennol ac roedd cyfrifoldeb arnom i frwydro dros
gael bargen fwy teg ar gyfer ein trigolion.
·
Bod
anogaeth i awdurdodau lleol a chynghorau eraill ar draws Cymru fynd i’r un
cyfeiriad â’r Cyngor hwn, ac anogid pobl Cymru i gysylltu â’u haelodau
etholedig ar bob lefel yn galw arnynt i bwyso am ddatganoli Stad y Goron i
Gymru.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
1.
Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r
cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y
Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion
a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad
y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.
2.
Mae’r Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod
rheidrwydd arnom i dalu ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau
bod trigolion Gwynedd ac ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan
gynnwys ein traethau a chyfleusterau eraill.
Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i Stad y
Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023
yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen
draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gyni ariannol difrifol i
wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd
tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn
Llundain. Dylai'r arian hwn aros yng
Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.
3.
Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor
trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor
Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif
Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i beidio codi rhent ar y
Cyngor nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu
o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor
Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real.