Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 ac argymhellwyd bod y Cyngor Llawn yn ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 ac argymhellwyd bod y Cyngor Llawn yn ei fabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet am ei gymeradwyaeth cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Hydref. Eglurwyd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ynghylch y cynnydd yn erbyn yr hyn a nodir yng Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028 yn ystod y flwyddyn 2023/24. Esboniwyd bod yr adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor yn 2023/34 a diolchwyd i holl weithwyr y Cyngor am eu gwaith dros y flwyddyn.

 

Adroddwyd bod y cyfnod diweddar wedi bod yn un anodd iawn i Lywodraeth Leol gyda’r galw yn codi ar sawl maes blaenoriaeth yn ogystal â gorfod ymdopi efo llai o gyllideb. Nodwyd bod dwy ran i’r adroddiad gyda’r rhan gyntaf sef yr adroddiad perfformiad blynyddol yn canolbwyntio ar brosiectau Cynllun y Cyngor a’r gwaith dydd i ddydd. Esboniwyd bod yr ail ran sef yr hunanasesiad o berfformiad y Cyngor yn ofyn statudol newydd dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Eglurwyd bod yr hunanasesiad drafft wedi cael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y 5ed o Fedi a derbyniwyd sylwadau positif ar y cyfan. Derbyniwyd rhai awgrymiadau i wella’r drefn megis awydd yr Aelodau i gael eu cynnwys yn gynt yn y broses o lunio’r adroddiad. Derbyniwyd sylwadau pellach ynghylch yr effaith mae’r prosiectau blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor yn ei gael ar drigolion y Sir a bod angen rhoi mwy o sylw i’r elfen hon.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn llawn ffigyrau ac ystadegau ond tu ôl i’r ystadegau bod straeon calonogol o brofiadau pobl Gwynedd a’r cymorth a roddwyd iddynt. Cyfeiriwyd at esiampl dan y maes blaenoriaeth Gwynedd Lewyrchus o sut mae gwaith swyddogion yn y maes hwn wedi newid bywydau pobl Gwynedd er gwell. Soniwyd am ddyn lleol oedd yn ddi-waith a digartref a manylwyd ar y gefnogaeth a dderbyniodd gan Waith Gwynedd megis help i sicrhau cyfweliad, cymorth budd-dal a chymorth i brynu dillad addas ar gyfer ei swydd newydd. Diolchwyd i’r tîm Gwaith Gwynedd am y gefnogaeth gan nodi fod yr unigolyn dan sylw bellach mewn swydd llawn amser, efo cartref ac yn teimlo’n sefydlog yn ariannol. Nodwyd bod amryw o enghreifftiau tebyg dan amrywiaeth o feysydd blaenoriaeth o Gynllun y Cyngor.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig cydnabod llwyddiant a diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith. Cydnabuwyd bod taith hir i gyrraedd y nod ym mhob maes blaenoriaeth.  Ychwanegodd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor bod rhywfaint o waith dylunio pellach i’w wneud cyn cyflwyni’r ddogfen yn ffurfiol i’r Cyngor Llawn ar y 3ydd o Hydref. Cyfeiriwyd at sylwadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r awgrym i ystyried y trefniadau ymgynghori ar gyfer y rhan hunanasesu. Eglurwyd bod hynny yn rhywbeth sydd wedi derbyn sylw a bydd camau priodol yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn sicrhau adborth priodol i fwydo mewn i’r hunanasesiadau yn y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·       Diolchwyd am y gwaith wrth lunio’r adroddiad a diolchwyd i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethau ac Archwilio am eu sylwadau adeiladol. Amlygwyd bod y sylw am fesur effaith yn sylw fydd yn cael ei weithredu ond cydnabuwyd ei bod yn anodd gweld effaith mewn blwyddyn.

·       Croeswyd y plethu rhwng uchelgais Grŵp Plaid Cymru’r Cyngor i Gynllun y Cyngor i weithredu a bellach i adrodd ar y cynnydd.

·       Mynegwyd nad yw’r adroddiad yn rhy faith ac yn rhwydd i bobl Gwynedd ei ddilyn. Croesawyd y dyluniad a’r modd mae’r wybodaeth wedi ei osod.

·       Diolchwyd i’r Dirprwy Arweinydd am gydnabod gwaith staff y Cyngor gan nodi y bydd y neges hon o ddiolch yn cael ei phasio i’r staff. 

·       Tynnwyd sylw at y sefyllfa ariannol ddifrifol sy’n fygythiad i wasanaethau craidd y Cyngor gan amlygu y rhagwelir bwlch ariannol o £14 miliwn ar gyfer flwyddyn nesaf. Ychwanegwyd y gall hyn olygu y bydd angen ail edrych ar Gynllun y Cyngor er myn adlewyrchu beth fydd gallu’r Cyngor i gyflawni. Gobeithiwyd y byddai’r rhagolygon ariannol yn gwella fel y gall ymdrechion gael eu rhoi i gyflawni’r uchelgais er lles pobl Gwynedd heb orfod poeni am gynnal gwasanaethau sylfaenol y Cyngor.

 

 

Awdur:Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor

Dogfennau ategol: