Agenda item

I ystyried y Datganiad o Gyfrifon Statudol (drafft amodol ar archwiliad) er gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad

Cymeradwyo:

·         Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2023/24

·         Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru

 

Diolch i’r staff am gwblhau’r cyfrifon yn gywir ac amserol

 

Cofnod:

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau bod y cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau i’w harchwilio gan Archwilio Cymru, ein harchwilwyr allanol, ers canol Mehefin. Nodwyd bod estyniad eto eleni yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda’r bwriad o gwblhau’r archwiliad a chymeradwyo’r cyfrifon ym Mhwyllgor Tachwedd 28ain 2024.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2023/24 wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 23ain o Fai ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.

 

Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro bod chwe set o gyfrifon ar gyfer 2023/24, yn cael eu cwblhau

1.      Cyngor Gwynedd

2.      Cronfa Bensiwn Gwynedd

3.      GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi)

4.      Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (cydbwyllgor o sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi)

5.      Harbyrau Gwynedd a

6.      Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

 

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau:

·       Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £57 miliwn yn ystod y flwyddyn i gymharu gyda £37 miliwn yn y flwyddyn flaenorol.

·       Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb

·       Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2024, sef yr un lefel â Mawrth 2023 a Mawrth 2022. Bod Reserfau yn amlygu lleihad yn y cronfeydd £104 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023 i £102 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2024

·       Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad ym malansau ysgolion - £17 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2024 i gymharu â £12 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2023 a £9 miliwn erbyn diwedd 2024 sydd yn amlygu darlun yn agosach at lefel y balansau cyn Covid. Eglurwyd bod hyn yn ddarlun cyffredinol sydd yn cael ei weld yng Nghymru gan fod y balansau ysgolion wedi bod yn uchel yn dilyn nifer o grantiau yn sgil Covid.

·       Yng nghyd-destun y fantolen a’r newid i ffigyrau pensiwn, nodwyd bod y flwyddyn 2022 / 23 yn un lle gwelwyd am y tro cyntaf sefyllfa o ased pensiwn yn hytrach nag ymrwymiad, sefyllfa oedd yn ddigynsail, oherwydd amodau y farchnad a chwyddiant uchel. Eglurwyd bod prisiad yr actiwari yn defnyddio bondiau corfforaethol, a gan fod cynnyrch y bondiau hyn wedi bod yn uchel, roedd wedi arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uchel oedd yn rhoi gwerth sylweddol is ar yr ymrwymiadau pensiwn. Ategwyd nad oedd  y sefyllfa yn unigryw i Wynedd ond yn golygu bod cryn drafodaeth o ran ei driniaeth yn y cyfrifon y llynedd, ac felly roedd rhaid cael arweiniad gan CIPFA a Thim Technegol Archwilio Cymru. Nodwyd eleni, bod mwy o arweiniad wedi ei dderbyn gan yr Actiwari ar y driniaeth a chadarnhad o’r dull gan Archwilio Cymru o’r dull cyfrifo a ffefrir. O ganlyniad, bydd y cyfrifon yn cael eu haddasu i adlewyrchu hyn gyda’r newid yn cael effaith ar y prif ddatganiadau a’r nodiadau cysylltiedig.

 

Cyfeiriwyd at Nodyn 10 - Gwybodaeth fanwl am gronfeydd sydd yn cynnwys  Reserfau wrth gefn a glustnodwyd: Balansau Ysgolion, Reserfau a Glustnodwyd yn cynnwys dadansoddiad o’r £102 miliwn o gronfeydd wrth gefn (gan gynnwys y prif rai sef reserfau cyfalaf, cronfa cynllun y Cyngor, cronfa cefnogi’r strategaeth ariannol a chronfa Premiwm Treth y Cyngor)

 

Cyfeiriwyd at Nodyn 15 – Eiddo, Offer a Chyfarpar sydd yn cyflwyno dadansoddiad fesul categori tir ac adeiladau, cerbydau, offer a chyfarpar ayyb. Ymrwymiadau Cyfalaf sydd yn cynnwys gwaith cyfalaf Ysgol Treferthyr, Cricieth – y symiau a’r taliadau hyd yma.

 

Nodyn 22 Darpariaethau sydd yn berthnasol i Safleoedd Gwastraff a hawliadau yswiriant a Nodyn 32 manylion am Incwm Grant sydd wedi ei dderbyn (dros £145 miliwn yn 2023/24 i’w gymharu gyda £108 miliwn yn 2022/23).

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran am y gwaith manwl, gan wahodd cwestiynau a sylwadau gan yr aelodau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·       Yn llongyfarch y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol ar gyflwyno’r adroddiad mewn modd diddorol a dealladwy. Yr adroddiad yn gynhwysfawr

·       Yn llongyfarch yr Adran ar gwblhau’r gwaith o fewn amserlen dynn

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â Dyledwyr Treth Cyngor (Nodyn 18b) bod swm y ddyled wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf ac i’r cwestiwn pa ymdrechion oedd yn cael eu gwneud i fynd i’r afael a’r dyledion hyn, nododd y Pennaeth Cyllid bod y Tîm Trethi yn cadw llygad ar y sefyllfa ac yn edrych ar wahanol ddulliau o fynd ar ôl y ddyled drwy sicrhau ymgysylltu effeithiol gyda’r talwyr o geisio anogaeth, cyngor a chefnogaeth. Ategwyd, pe byddai’r ddyled yn parhau i gynyddu, yna bydd rhaid edrych yn fanylach ar y sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymrwymiadau dibynnol ac awgrym bod angen cynnwys nodyn am geisiadau iawndal yma, nododd y Pennaeth Cyllid bod yr ymrwymiadau yswiriant yn berthnasol i drefniadau yswiriant cyn Awdurdodau (cyn 1996), ond petai achos yn cael ei ddwyn yn erbyn y Cyngor byddai yn cael ei gyfeirio at y Cwmni Yswiriant. Ategodd os bydd gwarchodaeth yn ei le bydd yn cael ei gyfarch drwy’r polisi yswiriant neu ei ariannu drwy gronfa sydd wedi ei sefydlu at y pwrpas yma. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â honiadau bod ceisiadau iawndal gerbron y Cyngor ac os yw hyn i’w adnabod fel risg, nododd y Pennaeth Cyllid bod trafodaethau wedi eu cynnal ac nad oedd yn rhagweld y mater fel mater o risg ar hyn o bryd a bod y warchodaeth yswiriant yn cynnwys atebolrwydd cyhoeddus.

 

Mewn ymateb i gais am wybodaeth cefndir i’r grantiau Cyfalaf ac a oedd y grantiau hyn yn grantiau oedd wedi eu hadnabod gan y Cyngor i ymateb i flaenoriaethau’r Cyngor, nodwyd bod rhai o’r grantiau yn cael eu rhyddhau gan Llywodraeth Cymru ar faes penodol ac fod y Cyngor yn derbyn swm penodol a ddynodwyd gan y Llywodraeth, tra gyda grantiau eraill bod dewis gan yr Awdurdodau Lleol i wneud cais am ddyraniad a bod elfen o gystadleuaeth rhwg awdurdodau.. Ategodd, mewn trafodaethau gyda’r Llywodraeth, bod dyhead i mwy o grantiau ddod yn rhan o’r setliad blynyddol a bod y grantiau i raddau yn ymateb i benderfyniadau mae’r llywodraeth wedi eu gwneud yn hytrach na bod y grantiau yn ymateb i angen a blaenoriaethau lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag yswiriant ar gyfer goblygiadau i achos apêl Her Erthygl 4, nodwyd nad oedd nodyn wedi ei baratoi ar gyfer yr elfen erthygl 4 gan nad oedd y Cyngor ar hyn o bryd yn ystyried  bydd costau. Petai Archwilio Cymru yn ystyried y sefyllfa yn wahanol, yna bydd ymrwymiadau dibynnol (contingency liability) yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad

Cymeradwyo:

·       Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2023/24

·       Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru

 

Diolch i’r staff am gwblhau’r cyfrifon yn gywir ac amserol

 

Dogfennau ategol: