I ystyried a derbyn yr adroddiad ar
ganfyddiad ac argymhellion yr archwiliad a gynhaliwyd ar y Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
·
Derbyn
yr adroddiad ar ganlyniad ac argymhellion yr arolwg
·
Llongyfarch
y Gwasanaeth ar ganlyniadau’r arolygiad
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a Rheolwr Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar ganfyddiadau ac
argymhellion Arolygiad o’r Gwasanaeth a gynhaliwyd Tachwedd 2023.
Adroddwyd bod y Bwrdd Rheoli Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Gwynedd
ac Ynys Môn yn hynod falch gyda’r graddiad cyffredinol 'Da' oedd wedi ei
gyhoeddi yn dilyn yr Arolygiad a diolchwyd i bartneriaid y ddau Awdurdod Lleol,
y rhwydwaith Cyfiawnder Troseddol Lleol, a'r Sector Gwirfoddol am eu cefnogaeth
yn ystod y gwaith paratoi ac yn ystod wythnos yr Arolygiad. Nodwyd y bu i'r arolygiaeth
adnabod sawl maes o ymarfer da gan gynnwys trefniadau partneriaethol cryf sy'n
llywio ac yn darparu adnoddau ar gyfer gweithio'n effeithiol â phlant a
theuluoedd; grŵp o staff sy'n cael eu cefnogi a'u goruchwylio yn dda, a
thystiolaeth bod plant a rhieni yn rhan weithredol o'r gwaith o gynllunio a
chyflwyno cefnogaeth.
Cyfeiriwyd at y meysydd sydd i’w gwella, y cynllun gwella sydd wedi ei
lunio mewn ymateb i saith argymhelliad yr arolygiad ynghyd a’r camau nesaf.
Nodwyd bod y Cynllun Gwella ar y cyd gydag aelodau’r Bwrdd Rheoli, y Grŵp
Rheoli Gweithredol a staff y Gwasanaeth yn dilyn cyfarfod ddiwedd mis Ionawr i adolygu’r
adroddiad drafft a chychwyn ar y broses o lunio ymateb fel bod y berchnogaeth i
weithredu’r Cynllun Gwella yn cael ei dderbyn drwy’r Gwasanaeth a’r
partneriaid.
Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y staff ar ganlyniadau
calonogol a chadarnhaol yr arolygiad – yn bleser darllen yr adroddiad. Yr
arolygiad yn amlygu canlyniad da, gofalgar gyda staff ymroddedig.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwy fydd yn monitro cynnydd y Cynllun
Gwella nodwyd bod y Cynllun Gwella wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Rheoli ym mis
Ebrill 2024 ac y bydd yn cael ei adolygu yn rheolaidd mewn cyfarfodydd o’r
Bwrdd Rheoli.
Er yn canmol bod y sgôr am y gwaith cynllunio (maes 3: Datrysiadau tu
allan i’r Llys) ar yr elfen bod y ‘gwaith cynllunio yn canolbwyntio ar gefnogi
ymataliadeth y plentyn’ yn 100%,
amlygwyd pryder bod y gwaith ‘cynllunio yn canolbwyntio’n ddigonol ar gadw’r
plentyn yn ddiogel’ yn derbyn sgôr o 58%. Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y 58%
yn adlewyrchu canran nad oedd y prosesau yn peri risg ac os mai risg o waith
gweinyddol oedd yma ynteu risg o waith gofal, nodwyd bod yr elfen yn mynegi bod
gwaith digonol yn cael ei wneud i gadw’r plentyn yn saff ond bod angen i’r
staff wella cofnodion y cynllun diogelu sydd ynghlwm ag achos y plentyn.
Ategwyd bod y mater wedi ei gyfarch yn y cynllun gweithredu.
Awgrymwyd bod angen, yn y maes Gwybodaeth a Chyfleusterau - Amrywiaeth
Staff a’r Plant, gynnwys manylion am y canran o’r staff sydd yn siarad Cymraeg
a chanran plant sydd yn gofyn am wasanaeth yn y Gymraeg. Mewn ymateb, nodwyd
bod oddeutu 95% o staff y gwasanaeth yn
siarad Cymraeg a bod 60% o blant yn
derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg. Ategwyd nad oedd y System Cyfiawnder Troseddol
yn cynnig ei hun i’r Gymraeg a bod nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn defnyddio
termau technegol Saesneg oherwydd rhwyddineb y sefyllfa.
Mewn ymateb i sylw bod diffyg absenoldebau o’r Adran Addysg yng
nghyfarfodydd y Bwrdd Rheoli Strategol yn amlygu nad oedd cyswllt o waith y
gwasanaethau gyda’r gwasanaeth addysg a bod cyfle da yma yn cael ei golli o
gyd-gysylltu negeseuon ac ymarfer da, nodwyd bod yr elfen yma bellach wedi ei
gyfarch ac er yr absenoldeb, dyletswyddau’r Bwrdd Rheoli Strategol yw rhannu
negeseuon a bwydo’r wybodaeth yn nol i’r Adran Addysg. Derbyniwyd bod modd
rhannu negeseuon am bolisïau ac ymarfer da fyddai’n cryfhau’r negeseuon gydag
Adran Addysg y ddwy Sir a bod modd hefyd cynnal cyfarfod gyda Phenaethiaid
Addysg i drafod y gwasanaeth penodol yma.
Mewn ymateb i nifer y gweithrediadau yn y Cynllun Gweithredu ac os oedd
yr amserlen heriol yn realistig i ddatrys rhai materion ynghyd ag adnoddau
digonol i’w cwblhau, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth bod amserlen gweithrediadau
rhai materion yn uchelgeisiol a bod angen i’r Bwrdd addasu hyn. Ategodd bod
cysylltiadau gyda Gwasanaethau eraill hefyd yn gallu bod yn heriol a bod
trefniadau hyfforddi yn cymryd amser i'w trefnu ond bod rhai gwelliannau eisoes
wedi eu cwblhau.
Mewn ymateb i sylw am leoliad y Gwasanaeth ac nad oedd cysylltiadau
rhwydwaith da i’r safle, nodwyd nad oedd y swyddfa yn addas i ddefnyddwyr
trefniadaeth gyhoeddus ac yn enwedig i unigolion dan 16, ond bod y gwasaneth yn
un peripatetig; y gwasanaethau trydydd sector, yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd
yn cynnig ystafelloedd i’w defnyddio. Ategodd, er y costau teithio uchel, bod y
drefn yn cael ei rheoli yn dda.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn
yr adroddiad ar ganlyniad ac argymhellion yr arolwg
·
Llongyfarch y Gwasanaeth ar
ganlyniadau’r arolygiad
Nodyn:
·
Ychwanegu canran defnyddwyr
o dderbyn gwasaneth Gymraeg i’r ystadegau
Dogfennau ategol: