I ystyried cynnwys y
ddogfen drafft ar gyfer 2023/24 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a’r
Hunanasesiad Drafft 2023/24
Nodyn:
Angen ystyried trefniadau
ymgynghori priodol i’r dyfodol i sicrhau mewnbwn trigolion Gwynedd yn y broses
Angen cynnwys y Pwyllgor yn
gynharach yn y broses – awgrym i gynnal gweithdy gyda’r Aelodau fel bod y
Pwyllgor yn cael mewnbwn a gwell cyfle i gynnig argymhellion
Wrth gyflwyno data – angen
sicrahu eglurhad llawn e.e, osogi categorïau ieithyddol mewn ysgolion uwchradd
Cynyddu Cyflenwad o Dai i Bobl Leol - angen amlygu’r
effaith ac nid y nifer yn unig
Prosiectau
Gwynedd Yfory
·
Moderneiddio Adeiladau ac
Amgylchedd Dysgu - ychwanegu bod arogliad RAC wedi ei gynnal
·
Hyrwyddo Llesiant Plant a Phobl
Ifanc - ychwanegu bod cynlluniau / ymgyrchoedd yn eu lle gan yr Adran Addysg i
wella presenoldeb disgyblion
·
Ymestyn Cyfleoedd Chwarae a
Chymdeithasu – ychwaegu cefnogaeth arainnol ychwanegol gan y Cyngor i
Ganolfannau Bwy’n Iach – hyn wedi bod yn benderfyniad positif
Cofnod:
Croesawyd y Cyng. Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor), Cyng. Nia
Jeffreys (Dirprwy Arweinydd y Cyngor) a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi
Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd
drafft o Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24
ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor gan ofyn iddynt gynnig sylwadau ac argymhellion
ar gynnwys yr adroddiad. Adroddwyd bod yr Hunanasesiad yn ofyn statudol o dan
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sydd hefyd yn nodi bod angen
cynnwys y Pwyllgor yn y broses hunanasesu.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyngor eisoes yn
casglu llawer o dystiolaeth ac yn cyhoeddi dogfennau sy’n cynnwys y math o
wybodaeth sy’n ddisgwyliedig i’w gynnwys o fewn yr hunanasesiad - dogfennau
megis (ond ddim yn gyfyngedig i) adroddiadau blynyddol Perfformiad,
Cydraddoldeb, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Datganiad Cyfrifon
Blynyddol. Nodwyd hefyd bod cyswllt agos rhwng y ddogfen yma a’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol (gweler eitem 7) ac o ganlyniad, gwaned ymdrech i gadw’r
ddogfen hunan asesiad yn gymharol gryno gan gyfeirio tuag at nifer o’r
dogfennau lle ceir gwybodaeth bellach er mwyn ceisio osgoi dyblygu.
Diolchwyd
am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol:
· Bod
angen cynnwys y Pwyllgor yn gynharach yn
y broses - awgrym cynnal gweithdy i’r dyfodol fel bod yr Aelodau yn cael cyfle
ac amser i drafod yr adroddiad a chynnig mewnbwn ac argymhellion
· Bod
fformat yr adroddiad yn glir a hawdd i’w ddeall – yn drefnus a thaclus
· Yr
adroddiad yn rhoi darlun gonest o’r sefyllfa
· Bod
yr asesiad yn fanwl iawn, yn anodd ei adolygu heb ddealltwriaeth lawn o feysydd
· Bod
angen sicrhau bod trigolion yn derbyn gwybodaeth am y gwasanaethau - angen
sicrahu cyfathrebu da
· Geiriau
megis ‘lluniwyd strategaeth – angen gweld mwy o weithrediad
· Teithio
llesol - amlwg mwy o adnoddau i ardaloedd trefol / poblogaeth uchel, ond angen
gweld mwy o ymdrech i faterion teithio llesol gwledig ar draws y Sir
·
Wrth gyflwyno data - angen
sicrhau eglurhad llawn e.e, osgoi categorïau ieithyddol mewn ysgolion uwchradd
·
Cynyddu Cyflenwad o Dai i Bobl
Leol - angen amlygu’r effaith ac nid y nifer yn unig
·
Prosiectau Gwynedd Yfory
-
Moderneiddio Adeiladau ac
Amgylchedd Dysgu - ychwanegu bod arogliad RAC wedi ei gynnal
-
Hyrwyddo Llesiant Plant a Phobl
Ifanc - ychwanegu bod cynlluniau / ymgyrchoedd yn eu lle gan yr Adran Addysg i
wella presenoldeb disgyblion
-
Ymestyn Cyfleoedd Chwarae a
Chymdeithasu - ychwanegu cefnogaeth ariannol ychwanegol gan y Cyngor i
Ganolfannau Bwy’n Iach - hyn wedi bod yn benderfyniad positif
Mewn ymateb i gwestiwn os oedd ymgynghoriad gyda phobl leol, busnesau
lleol, staff ac undebau llafur wedi ei gynnal, nodwyd nad oedd ymgynghoriad
penodol ar berfformiad wedi ei gynnal ond bod adborth a gwybodaeth o
ymgynghoriadau niferus eraill ar draws y Cyngor wedi eu hystyried. Ategwyd bod
ymgynghoriad perfformiad wedi ei gynnal ym mis Mai 2023 ac mai ychydig iawn o
adborth a dderbyniwyd y pryd hynny (yr adborth yn bwydo mewn i gyfnod
Hunanasesiad 2022/23).
Adroddodd yr Arweinydd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda
Llywodraeth Cymru sydd yn bwriadu cynnal arolwg preswylwyr cenedlaethol ac y
bydd modd i Wynedd gofrestru gyda’r arolwg fel bod modd derbyn adborth i fwydo
i mewn i’r Hunanasesiad. Gofynion y Ddeddf yw paratoi Hunanasesiad o fewn y
flwyddyn ariannol ac felly pe byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn
ddiweddarach yn y flwyddyn gellid ystyried cynnwys yr adborth yr adeg hynny.
Mewn ymateb i sylw am deithiau llesol, nodwyd bod amryw o ganllawiau
Llywodraeth Cymru sydd yn ymwneud a theithio llesol yn pwysleisio ar yr elfen
‘teithio i waith’ ac felly anodd yw cael cyllid ar gyfer cynlluniau gwledig. Er
hynny, ategwyd bod trafodaethau yn parhau i geisio newid y canllawiau.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i’r Aelodau am eu cyfraniad gan nodi y
byddai’r sylwadau yn cael eu hymgorffori i’r adroddiad neu’n derbyn sylw i’r
dyfodol. Derbyniwyd y sylw bod angen cynnwys pobl Gwynedd yn y broses a’r angen
i amlygu effaith y gwaith. Croesawyd yr awgrym i gynnal gweithdy gyda’r Aelodau
i’r dyfodol. Petai’r Pwyllgor eisiau cyflwyno sylwadau pellach bydd rhaid
iddynt wneud hynny fel Aelodau unigol ac nid fel Pwyllgor
PENDERFYNIAD
Derbyn yr Adroddiad
Perfformiad Blynyddol a’r Hunanasesiad Drafft 2023/24
Nodyn:
Angen ystyried trefniadau ymgynghori priodol i’r dyfodol
i sicrhau mewnbwn trigolion Gwynedd yn y broses
Angen cynnwys y Pwyllgor yn gynharach yn y broses –
awgrym i gynnal gweithdy gyda’r Aelodau fel bod y Pwyllgor yn cael mewnbwn a
gwell cyfle i gynnig argymhellion
Wrth gyflwyno data - angen sicrhau eglurhad llawn e.e,
osgoi categorïau ieithyddol mewn ysgolion uwchradd
Cynyddu
Cyflenwad o Dai i Bobl Leol - angen amlygu’r effaith ac nid y nifer yn unig
·
Moderneiddio Adeiladau ac
Amgylchedd Dysgu - ychwanegu os yw arolygiad RAC wedi ei gynnal
·
Hyrwyddo Llesiant Plant a Phobl
Ifanc - ychwanegu bod cynlluniau / ymgyrchoedd yn eu lle gan yr Adran Addysg i
wella presenoldeb disgyblion
·
Ymestyn
Cyfleoedd Chwarae a Chymdeithasu - ychwanegu cefnogaeth ariannol ychwanegol gan
y Cyngor i Ganolfannau Bwy’n Iach - hyn wedi bod yn benderfyniad positif
Dogfennau ategol: