Gwesty Dolbadarn, Stryd Fawr, Llanberis, Gwynedd LL55 4SU
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD
Rheswm: Mesurau rheolau annigonol i gydymffurfio â’r amcanion
trwyddedu
Cofnod:
· Sarah
Hopwood Ar
ran yr ymgeisydd
· Arwel
Huw Thomas Gwasanaeth
Cynllunio Cyngor Gwynedd
· Louise
Woodfine Iechyd
Cyhoeddus
· Moira
Duell Pari Iechyd
Amgylchedd Cyngor Gwynedd
·
Elizabeth Williams Heddlu Gogledd Cymru
Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan breswylwyr lleol a gyflwynwyd sylwadau -
Lesley Wilson, Adrian Roberts, Dylan
Davies a Dylan Wyn
Jones
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad
trwydded eiddo ar gyfer
Gwesty Dolbadarn, Stryd Fawr, Llanberis. Cyflwynwyd y cais i amrywio ei
drwydded i gynnwys gwerthu alcohol o'r ardd tu allan i’r gwesty ac wedi'i
wahanu gan gyffordd mynediad.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
· Nifer o breswylwyr
cyfagos yn gwrthwynebu’r cais gan amlygu pryderon ynglŷn â nifer o
achosion o droseddau anhrefn cyhoeddus oedd wedi bodoli yn yr ardal yn
ddiweddar; pryderon ynghylch diffyg darpariaeth teledu cylch cyfyng TCC) a
goleuo gwael yn debygol o gynyddu'r tebygolrwydd y bydd gweithgareddau
troseddol ac anhrefn yn cynyddu gydag estyniad; pryderon ynghylch lles y bobl
sy'n aros yn y Gwesty sydd â phroblemau dibyniaeth ar alcohol, gan y byddai
argaeledd alcohol ar yr eiddo yn cynyddu temtasiwn.
· Y Gwasanaeth
Cynllunio yn gwrthwynebu’r cais gan nad oedd digon o wybodaeth ynghylch a yw'r
uned yn gwbl symudol ai peidio; gyda’r uned wedi ei lleoli ar y safle am nifer
o fisoedd efallai y bydd angen caniatâd cynllunio; pryderon mewn perthynas â
lleoliad arfaethedig yr uned, gan fod y cynllun yn dangos y lleoliad y tu hwnt
i gwrtil y dafarn.
· Bod Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
wedi cyflwyno sylwadau i wrthwynebu yng nghyswllt yr amcanion trwyddedu
amddiffyn plant rhag niwed a diogelwch y cyhoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig
â gwerthu alcohol yn agos i eiddo sy’n darparu llety dros dro i unigolion
digartref.
·
Gwarchod y Cyhoedd
(Rheoli Llygredd) yn gwrthwynebu ar sail mesurau annigonol i reoli niwsans
cyhoeddus gyda chwynion wedi dod i law ynglŷn ag arogl coginio
· Nad oedd Heddlu
Gogledd Cymru yn gwrthwynebu'r cais, fodd bynnag, yn gofyn am newidiadau i
amodau presennol y drwydded gan fod lle i wella gyda rhai amodau wedi dyddio
a/neu wedi'u dyblygu yn ôl y gyfraith neu'n anorfod.
Roedd y Swyddog yn argymell bod yr Is-bwyllgor yn ystyried yr holl
wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ofalus, cyn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar
a yw o'r farn y gall yr ymgeisydd gydymffurfio â'r amcanion trwyddedu ai
peidio, a Deddf Trwyddedu 2003.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Cyfle i Aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
· Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd
y Cyngor.
· Rhoi cyfle i’r
ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion
· Rhoi cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
· Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd
· Rhoi gwahoddiad i
bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig
· Rhoi cyfle i
gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
c)
Mewn
ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor,
·
ynglŷn â thoiledau ar y safle, nodwyd nad oedd
toiledau parhaol i’r eiddo gan nad oedd Gwesty Dolbadarn yn agored i’r cyhoedd gan
ei fod yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cartref dros dro i bobl di gartref.
Ategwyd bod y cais yn un anghyffredin - yn westy trwyddedig heb ei gofrestru
·
ynglŷn â ‘Pubwatch’, nodwyd gan nad yw’r
Gwesty yn agored i’r cyhoedd nad oedd y perchennog yn mynychu cyfarfodydd, ond
y byddai’r person dynodedig cyfrifol yn ymrwymo i fynychu cyfarfodydd
·
ynglŷn â’r safle, nodwyd mai’r bwriad oedd
lleoli carafán fwyd yn yr ardd gwrw fu’n gweithredu yno yn achlysurol dros y
misoedd diwethaf o dan drefniadau TENS
·
pam nad oedd argymhelliad pendant wedi ei wneud gan
y Swyddogion, nodwyd bod y cais yn un unigryw
gyda’r Is-bwyllgor â rhyddid i wneud y penderfyniad eu hunain gan
ystyried natur a sail a thystiolaeth a gyflwynwyd
ch) Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd Sarah Hopwood, cynrychiolydd yr ymgeisydd a
pherchennog y garafán bwyd:
·
Bod y cais yn un i reoli’r ardd gwrw yn well gan
fod yr ardal ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio fel man cyhoeddus - nid yw yn
ardal saff ac nid oes neb yn cadw at yr amcanion trwyddedu
·
Er ei bod yn gwerthu bwyd ac yn cynnig lle i
gwsmeriaid eistedd yng ngardd Gwesty Dolbadarn, bod y cyhoedd yn gallu prynu
alcohol o siop neu dafarn gyfagos a’i yfed yn yr ardd - nid oedd hyn yn addas
i’w busnes gyda gwydr a sbwriel yn cael ei adael ar lawr
·
Bod y bwriad yn un cyfeillgar i deuluoedd gyda
byrddau wedi eu gosod yn yr ardd – yn agored hyd 20:00. Ni fydd alcohol yn cael
ei weini heb fwyd ac ni fydd grwpiau yn cael mynediad
·
Ei bod yn deall pryderon a lles trigolion cyfagos,
ond bod hawl gan breswylwyr y gwesty ddefnyddio’r ardd. Er yn sefyllfa anodd,
nid ei chyfrifoldeb hi yw dweud na ond y gall wrthod gweinio alcohol iddynt.
Bod y sefyllfa angen rheolaeth well.
·
Bod bwriad gwneud yr ardal yn un saff gyda gwell
golau, TCC a thoiledau – petai’r cais yn cael ei ganiatáu bydd modd darparu
uned toiled symudol.
·
Mewn ymateb i bryderon sŵn, ei bod wedi
gweithredu TENS am 21 diwrnod ac nad oedd materion wedi codi. Er hynny, cynllun
rheoli sŵn wedi ei lunio
·
Bod cwynion arogl wedi eu datrys gyda mesurau ar
reolaeth safle wedi eu gweithredu – dim olew, dim ffrio a ffan awyru wedi ei
symud.
·
Bod dŵr yfed ar gael
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr
Is-bwyllgor, nodwyd:
·
ynglŷn â phryderon ‘goleuo gwael’ a ‘llecynnau
tywyll’ ac os oedd TCC yn ddigonol i warchod diogelwch y cyhoedd, cwsmeriaid a
staff, nodwyd bod bwriad gwella’r goleuni a chyflwyno mwy o oleuadau - er
hynny, bwriad yw agor y busnes yn ystod yr Haf pan fydd golau naturiol fin nos.
Ategwyd, bod tri chamera TCC yn cadw llygad ar yr ardal gyda chamera ar y
trelar bwyd, y bar gweini ac yn yr ardal eistedd.
·
ynglŷn â sut bydd modd atal y cyhoedd rhag
defnyddio’r ardd, nodwyd ar hyn o bryd bod rhai yn prynu bwyd o’r garafán ac
alcohol o siop neu dafarn gyfagos. Bydd rhaid datgan, os bydd y cais yn cael ei
ganiatáu, bod yr ardal yn un drwyddedig ac nad oes modd yfed alcohol o eiddo
arall yn yr ardd.
·
ynglŷn â nifer y byrddau, nodwyd bod lle i
oddeutu 20 o bobl eistedd ar y byrddau ac nad oedd bwriad ychwanegu mwy o
fyrddau
·
.ynglŷn â sut bydd perchennog y Gwesty yn cadw
golwg ar weinyddiaeth y drwydded (o ystyried nad oedd yn byw yn lleol), nodwyd
y byddai yn penodi swyddog dynodedig ar
gyfer y safle ac y byddai hi, fel rheolwr y busnes bwyd wedi cytuno i hyn.
·
Ynglŷn â diffyg rheolaeth a chyfyngu cwsmer i
6 uned o alcohol, bydd modd cadw rheolaeth o le daw’r alcohol ac yn yr hyn sy’n
cael ei yfed - bydd alcohol ond yn cael ei weini gyda bwyd. Mewn ymateb i
gwestiwn ategol y gall hyn roi pwysau ychwanegol ar staff y garafán bwyd,
nodwyd bod tîm digonol ar gyfer y gwaith gyda thri ar gyfer gweini bwyd, un ar
gyfer gweini alcohol ac un swyddog diogelwch ar adegau prysur.
d)
Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y
cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.
Arwel
Huw Thomas (Gwasanaeth
Cynllunio Cyngor Gwynedd)
·
Bod pryderon cychwynnol gyda’r cais am
drwydded - cyflwynwyd cynllun safle yn dangos amlinelliad o ffin y safle yn
unig.
· Nid oes
unrhyw wybodaeth wedi cyflwyno yn dangos union leoliad na chwaith unrhyw
wybodaeth am yr uned bwyd yn ei chyfanrwydd.
· Ar sail
diffyg gwybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, nid oedd modd i’r Gwasanaeth
Cynllunio ddod i gasgliad wrth asesu’r bwriad yn erbyn polisïau cynllunio a
pholisïau Gorfodaeth y Cyngor.
· Bod Eglwys Saint
Padarn, sydd yn adeilad rhestredig wedi ei leoli cyfochrog i’r De o’r safle -
heb wybodaeth nid oedd modd asesu’r bwriad yn erbyn polisïau cynllunio sy’n
ymwneud ag adeiladau rhestredig o fewn y CDLl.
· Nid oedd digon o
wybodaeth wedi cyflwyno er mwyn sicrhau os mai uned llwyr symudol neu beidio
yw’r bwriad. Ar sail diffyg gwybodaeth am natur yr uned a’i union leoliad, nid
oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn penderfynu os oedd angen
caniatâd cynllunio ar gyfer yr uned.
· Ar sail gwybodaeth annigonol
a gyflwynwyd, roedd y Gwasanaeth Cynllunio yn gwrthwynebu cais am drwydded
Louise Woodfine
(Iechyd Cyhoeddus Cymru)
·
Byddai’r
bwriad yn cynyddu hygyrchedd i safle sydd eisoes yn peri rhai problemau
·
Bod
y digartref ac unigolion eraill sydd yn preswylio yn y gwesty yn unigolion
bregus - byddai darparu alcohol yn creu sefyllfa heriol iawn i rai hynny oedd
yn gadael ysbyty gyda gofynion iechyd meddwl cymhleth a phroblemau yn ymwneud
ag alcohol a/neu sylweddau eraill.
·
Bod
unigolion digartref yn defnyddio alcohol fel mecanwaith ymdopi; bod gan y
boblogaeth ddigartref fwy o achosion o broblemau iechyd na'r boblogaeth
gyffredinol
·
Lle
mae eiddo trwyddedig wedi cael eu defnyddio fel llety dros dro - gall arwain at
ddirywiad cyflym mewn cyflwr meddyliol gan arwain at fynediad i'r ysbyty.
·
Pryder
ynglŷn â sut bydd gwrthod preswylwyr rhag prynu alcohol yn cael ei reoli
·
Bod
pryder at agosatrwydd yr ardd at yr ysgol leol – 4 munud o daith gerdded
·
Nad
oeddynt yn cefnogi’r cais
Moira
Duell Pari (Iechyd
Amgylchedd Cyngor Gwynedd)
·
Derbyn
yr angen i ehangu’r busnes, ond yn safle hanesyddol am ymddygiad
gwrthgymdeithasol
·
Dwr
yfed – angen cadarnhad os bydd yn cael ei weini o beipen neu o botel?
·
Bod
toiledau tu mewn i’r gwesty!
·
Cynllun
sŵn - e-bost wedi ei dderbyn ond angen mwy o wybodaeth
·
Angen
mwy o wybodaeth am y goleuadau PIR pan nad ydynt mewn defnydd
·
A
yw yn gais trwydded dros yr Haf yn unig neu drwy’r flwyddyn – angen manylion
Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)
· Bod angen sicrhau
bod dŵr yfed ar gael
· Bod y safle yn
rhan o’r dafarn ac felly bod yr hawl i wrthod eisoes yn bodoli
Diolchwyd i bawb am eu sylwadau
dd) Yn cymryd y cyfle i gloi ei hachos,
nododd y Rheolwr Trwyddedu:
·
Bod ei phryderon yn parhau - mesurau rheoli
annigonol wedi eu cyflwyno
·
Er staff digonol – nifer o agweddau i’w rheoli
Yn cymryd y cyfle i gloi ei hachos, nododd
cynrychiolydd yr ymgeisydd:
· Bod y garafán yn
un symudol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau - os angen caniatâd
cynllunio, bod posib cyflwyno cais
· Y byddai yn rheoli
y safle yn dda fel deilydd trwydded
· Ni fydd gormod o
alcohol yn cael ei weini
· Byddai yn
gweithredu yn unol â’r amcanion trwyddedu - yn cadw'r ardal yn saff
e)
Ymneilltuodd yr
ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
Wrth gyrraedd
y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y
gwrandawiad. Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u
mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o
dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd y
sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.
PENDERFYNWYD: Gwrthod y cais
Rheswm: Mesurau rheolau annigonol i gydymffurfio â’r amcanion
trwyddedu
Rhoddwyd
ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Bod trigolion cyfagos wedi gwrthwynebu’r cais gan
gyfeirio at broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd yn cynnwys preswylwyr y
gwesty yn ymgynnull i yfed. Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod yr Heddlu a’r
Gwasanaeth Ambiwlans yn cael eu galw i'r gwesty yn aml ac yn mynegi pryder y
byddai caniatáu’r drwydded yn cynnig temtasiwn pellach i’r preswylwyr ac yn
gwneud y sefyllfa’n waeth. Serch hynny, ystyriodd yr Is-bwyllgor nad oedd yr
Heddlu yn gwrthwynebu’r cais, ond yn argymell amodau TCC i’r drwydded fel modd
o rwystro'r person(au) hynny sy'n mynnu ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol ac
achosi problemau.
Roedd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd
wedi gwrthwynebu’r cais ar sail amcanion trwyddedu diogelwch y cyhoedd ac
amddiffyn plant rhag niwed. Roedd eu pryderon wedi eu priodoli i’r eiddo
penodol yma oherwydd y defnydd a wnaed o adeilad y gwesty i letya unigolion
digartref gan gynnwys y rhai gaiff eu rhyddhau o Uned Hergest ym Mangor. Byddai
darparu alcohol yn eu barn nhw yn creu sefyllfa heriol iawn i’r rhai hynny oedd
yn gadael ysbyty gyda gofynion iechyd meddwl cymhleth a phroblemau yn ymwneud
ag alcohol a/neu sylweddau eraill. Heb broses o ‘ffiltro’ yr unigolion mwyaf
bregus gallai arwain at gynnydd mewn niwed tra ar y safle, ond byddai hynny’n
anodd iawn ar hyn o bryd oherwydd lefel yr angen. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn
fod y sylwadau yma yn arwyddocaol. O safbwynt y pryderon a godwyd o ran
agosatrwydd yr eiddo at ysgol, nid oedd yr Is-bwyllgor yn credu fod tystiolaeth
ddigonol i gefnogi’r ddadl yma.
Cyflwynodd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Rheoli
Llygredd sylwadau yn gwrthwynebu ar sail mesurau annigonol i reoli niwsans
cyhoeddus. Roedd cwynion wedi dod i law ynglŷn ag arogl coginio ac nid
oeddynt wedi derbyn ymateb i’r pryderon erbyn dyddiad y gwrandawiad. Roedd
ganddynt hefyd bryderon ynglŷn â darpariaeth toiledau a dŵr yfed gan
nad oedd cyfleusterau'r gwesty ar agor i’r cyhoedd. Roedd angen mwy o wybodaeth
am y math o oleuadau i’w defnyddio ar y safle a hefyd bod angen cynllun rheoli
sŵn i fynd i’r afael ag unrhyw sŵn gan gwsmeriaid. Eglurodd yr
Ymgeisydd y byddai’n cymryd camau i rwystro arogleuon rhag ymyrryd ar gymdogion
gan gynnwys coginio oddi ar y safle. Eglurodd y byddai’n defnyddio toiledau
symudol ar y safle. Cyfaddefodd yr Ymgeisydd bod pobl yn gadael sbwriel gan
gynnwys gwydrau ar y safle ac y byddai cael trwydded yn fodd o reoli hyn.
Roedd yr Is-bwyllgor yn deall y rhesymeg y tu ôl
i’r cais sef, yn gryno, y byddai cael trwydded i werthu alcohol ar y safle yn
fodd o rwystro pobl rhag dod ag alcohol o fannau eraill fel sy’n digwydd ar hyn
o bryd, ac i reoli faint a pha fath o alcohol fyddai’n cael ei yfed yno. Serch
hynny, rhaid cofio bod y safle mewn perchnogaeth breifat ac fel y perchennog a
deilydd trwydded, roedd gan yr Ymgeisydd y cyfrifoldeb i reoli’r safle’n
gyfrifol ac y gallai eisoes gymryd camau i fynd i’r afael a phroblemau pe bai’n
dymuno.
Roedd tystiolaeth yn dangos i’r Is bwyllgor nad
oedd yr ymgeisydd yn gwneud hynny ar hyn o bryd ac roedd hynny’n achosi pryder
iddynt. Roedd cynrychiolydd yr ymgeisydd
hefyd yn nodi mai dim ond am oriau a chyfnodau penodol y o’r flwyddyn y
byddai’r busnes yn gweithredu o’r ardd ac na fyddai felly yn medru mynd i’r
afael â’r problemau y tu allan i’r oriau hynny. Yn ogystal, nodwyd fod y
garafán fwyd eisoes wedi bod yn gweithredu ar y safle ac yn cyflenwi alcohol o
dan drefniadau TENS.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor ymarferoldeb cadw
rheolaeth ar y safle fel ag yr oedd yr Ymgeisydd yn bwriadu tra bod y garafán
yn gweithredu. Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai modd rheoli’r
safle yn ddigonol o gymryd i ystyriaeth natur agored a chyhoeddus y safle a’r
nifer o staff fyddai yn bresennol ar unrhyw un adeg. Ni fyddai chwaith yn
ymarferol i staff i fedru adnabod holl drigolion dros dro y gwesty fel bod modd
eu gwahaniaethau oddi wrth gwsmeriaid eraill a gwrthod eu gweini. Roedd hi’n amlwg
i’r Is-bwyllgor o’r hyn yr oedd pawb, gan gynnwys Ymgeisydd yn ei ddweud, bod
problemau yn bodoli ar y safle eisoes.
Yn gyffredinol roedd y cais yn bwriadu mynd i’r
afael â’r problemau hyn drwy gael trwydded i werthu alcohol gyda bwyd yn yr
ardd o’r garafán. Nid oedd yr Is-bwyllgor serch hynny wedi ei berswadio y
byddai hynny yn ddigonol ynddo’i hun i reoli’r holl broblemau ac nad oedd yn
ymarferol i weithredu’r mesurau rheoli a gynigwyd. Roedd y defnydd penodol a
wnaed o’r gwesty a natur fregus y trigolion yn golygu y gallai arwain at
waethygu’r sefyllfa. Penderfynodd yr
Is-bwyllgor felly wrthod y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau
ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn
Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio
unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon
Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd
yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: