Becws Melyn, 41 B Stryd Fawr, Llanberis LL55 4EU
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD
Rheswm: Mesurau rheolau annigonol i gydymffurfio â’r amcanion
trwyddedu
Cofnod:
·
Sarah Hopwood Ymgeisydd
·
Heather Jones Cyngor
Cymuned Llanberis
·
Arwel Huw Thomas Gwasanaeth Cynllunio
Cyngor Gwynedd
·
Moira Duell Pari Iechyd
Amgylchedd Cyngor Gwynedd
Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Jen Owen (preswylydd
lleol a gyflwynodd sylwadau) ac Elizabeth
Williams (Swyddog Trwyddedu,
Heddlu Gogledd Cymru) oedd wedi colli cysylltiad oherwydd problemau
technegol.
a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu
yn manylu ar gais i amrywio trwydded eiddo Becws Melyn, 41 B Stryd Fawr, Llanberis. Eglurwyd bod Becws Melyn yn gweithredu fel bwyty a bar bychan
gyda diodydd yn cael eu gweini gyda bwyd. Roedd yr ymgeisydd o’r farn y byddai
estyniad yn yr amser agor yn fanteisiol a bod y busnes wedi ei drwyddedu ers
blwyddyn, wedi ei reoli yn llwyddiannus drwy’r Haf heb unrhyw drafferthion. Nid
oedd llawer o werthiant alcohol ac o
ganlyniad ni fydd potensial sŵn neu ymddygiad afreolus.
Gofynnwyd am yr hawl i ymestyn gwerthiant
alcohol i gychwyn am 09:00 y bore yn hytrach na 12, ac ymestyn oriau agor o
22:00 yr hwyr i 00:00 bob nos Iau, Gwener, Sadwrn a nos Sul. Gofynnwyd hefyd am
ymestyn oriau cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio nos Iau, nos Wener Sadwrn
a’r Sul hyd at 00:00.
Amlygwyd y cafodd y cyfnod ymgynghorol ei
ymestyn i’r 13eg o Awst oherwydd nad oedd
wedi ei hysbysebu yn gywir, ond cadarnhawyd bod yr Awdurdod Trwyddedu yn
hapus fod y cais wedi ei hysbysebu yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003 a’r
rheoliadau perthnasol ac felly yn ddilys.
Tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori
· Cyngor Cymuned Llanberis yn gwrthwynebu’r cais oherwydd bod cwynion
sŵn wedi eu derbyn yn dilyn un o’r nosweithiau a gynhaliwyd fin nos ar yr eiddo. Nodwyd
hefyd fod sŵn yn cario wrth agor drysau blaen y bwyty.
·
Gwasanaeth
Cynllunio yn amlygu bod hawl Cynllunio diwygiedig yn caniatáu i’r eiddo fod ar
agor rhwng 8:00 a 23:30, ond bod y cais am amrywiad trwyddedu arfaethedig yn
mynd tu hwnt i’r oriau hynny ar bedair noson. Nodwyd hefyd fod y gwasanaeth
gorfodaeth cynllunio wedi derbyn cwynion am y sŵn
· Trigolion
cyfagos yn gwrthwynebu ac wedi amlygu pryderon, yn bennaf mewn perthynas â’r
amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, atal trosedd ac anrhefn a diffyg
ffydd yng ngallu perchennog y busnes i reoli sŵn ac ymddygiad gwrth
gymdeithasol ar yr eiddo.
·
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi derbyn
cwynion am aflonyddwch sŵn ac nad oedd y busnes yn cadw at oriau caniatâd
Cynllunio. Yn amlygu pryder gan nad oedd digon o wybodaeth wedi ei dderbyn gan
yr ymgeisydd yn hanesyddol nac yn bresennol ar sut y bwriedir sicrhau fod
mesurau rheoli a chamau gweithredu mewn
lle i gyfarch yr amcanion trwyddedu.
·
Er nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu’r cais gan nad
oedd yr oriau arfaethedig yn hwyrach nag eiddo trwyddedig eraill yn yr ardal,
derbyniwyd sylw fod yr Heddlu wedi derbyn adroddiad o wyn sŵn cerddoriaeth
yn dilyn digwyddiad yn yr eiddo ar y 31/5/24 a aeth yn ei flaen tan oriau man y
bore; ac aflonyddwch oherwydd bod pobl yn sefyll tu allan i’r eiddo yn
yfed.
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell
fod yr Is-bwyllgor yn ystyried y dystiolaeth o ddiffyg rheolaeth sydd wedi bod
ar yr eiddo hyd yma, ac yn gwrthod y cais
b)
Wrth ystyried
y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn
y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r
ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn
y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd
·
Rhoi
gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i
gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.
c)
Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:
·
Bod y bwyty yn
fach ac yn gwerthu tapas fin nos – yn defnyddio cynnyrch Cymreig wedi ei weini
gyda diod – yn ardal gyfforddus gyda atmosffer gynnes
·
Y busnes
oddeutu 90% bwyty a 10% gweithgareddau fin nos
·
Bod cau am 22:00 i weld yn gynnar ac yn
bechod gorfod cau gyda chwsmeriaid eisiau aros ymlaen - cais felly i ystyried
estyniad hyd 22:30.
·
Bod llefydd
bwyta eraill yn y pentref yn agor hyd 23:00
·
Ei bod yn ymddiheuro am sŵn o’r
parti a gynhaliwyd ddiwedd Mai 2024. Wedi gwaith caled a llwyddiant y busnes
cafwyd cyfle i ddathlu gyda’r gymuned leol. Un digwyddiad ydoedd ac nid oedd
trafferth ers hynny. Nid oedd yn ymwybodol bod cwynion wedi eu cyflwyno. Cafwyd
parti preifat i staff o 22:00 ymlaen ar y noson gydag oddeutu 15 o bobl - hwn
wedi bod yn gamgymeriad ac ni ddylai fod wedi digwydd
·
Yn anymwybodol o gwynion sŵn eraill
hyd nes derbyniwyd llythyr gan y Cyngor. Cynhaliwyd cyfarfod i drafod mesurau
lliniaru sŵn, ond trafodwyd materion bwyd a chynllunio ac ni dderbyniwyd
manylion am y cwynion sŵn. Hefyd, yn anymwybodol o gwynion cwsmeriaid yn
yr ardal patio - eto, yn ymddiheuro am hyn
·
Ers y diwrnod
cyntaf, y busnes wedi ei hysbysebu fel bwyty / bar
·
Bod digwyddiadau yn cael eu cynnal yn yr
eiddo yn cynnwys nosweithiau bwyd, grwpiau Cymraeg, dosbarthiadau cyn geni ac
ati
·
Yn teimlo yn rhwystredig na allai fod
wedi trafod y materion / cwynion sŵn gyda chymdogion - bod modd lliniaru
sŵn a lleihau’r effaith. Gellid datrys y sefyllfa gyda materion allweddol
·
Offer mesur
sŵn ar gael ac yn barod i rannu lefelau sŵn gyda’r Gwasanaeth
Trwyddedu
·
Nid yw eisiau
creu problemau sŵn i gymdogion
·
Yn dymuno y
byddai’r pryderon wedi ei rhannu gyda hi
Mewn ymateb i’r sylwadau, diolchwyd i’r ymgeisydd am ei
chyfaddefiad gonest o beidio bod yn ymwybodol o bryderon sŵn ac am
ymddiheuro, er hynny ystyriwyd bod y bwyty, gyda’r dydd yn atyniad positif ond
yn far swnllyd gyda’r nos. Sut felly byddai’n rheoli’r sefyllfa?
Nododd yr ymgeisydd mai ei chymdogion agosaf oedd wedi cyflwyno
cwynion ac nid oedd yn ymwybodol o’r cwynion hynny. Petai’r wybodaeth wedi ei
rannu gyda hi buasai wedi ymateb drwy gau’r drysau, cau ffenestri a chlirio’r
ardal patio. Buasai wedi dymuno trafodaeth agored i ddatrys y problemau /
pryderon. Ategodd bod cwsmeriaid o’r clwb cymdeithasol yn dueddol o greu
sŵn wrth ddod i fyny o’r clwb i’r stryd fawr, a hynny fwy neu lai gyferbyn
a’r bwyty / bar. Ni fyddai yn caniatáu mynediad i’r cwsmeriaid hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â faint o staff oedd yn gweithio
yn y bwyty / bar a disgrifiad o’r eiddo, nododd yr ymgeisydd bod y bwyty / bar
ar agor drwy’r flwyddyn ac yn derbyn cefnogaeth pobl leol. Eglurwyd bod stafell
fechan i fyny’r grisiau yn eistedd hyd at 8 o bobl. Nid oedd tapiau cwrw yn y
bar. Petai’n gorfod cau y bwyty / bar gyda’r hwyr yna ni fydda’r busnes yn
llwyddo.
Yng nghyd-destun mynediad i’r eiddo, nodwyd bod ramp i’r eiddo yn
cael ei ddefnyddio fel ardal ‘patio’, ond bod modd cael mynediad i bramiau /
cadair olwyn drwy ddrws cefn yr eiddo sydd ar lefel stryd.
ch) Manteisiodd
yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a
gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.
Moira
Duell Pari (Iechyd Amgylchedd
Cyngor Gwynedd)
Rhannwyd
fideos o rai digwyddiadau oedd yn amlygu sŵn o’r eiddo (tu allan i oriau
agor)
·
Bod
cwynion wedi ei derbyn am y parti a gynhaliwyd 31-05-24. Er yn barti preifat i
staff yn unig, ei fod wedi ei gyhoeddi ar y gwefannau cymdeithasol
· Bod cwynion yn ymwneud
a thrwyddedu, cynllunio a gwarchod y cyhoedd wedi dod i law gyda llythyr wedi
ei anfon at yr ymgeisydd 06-06-24 yn tynnu sylw at y cwynion. Er bod yr
ymgeisydd yn disgyn ar ei bai, nid oedd wedi ymateb
· Cyfarfod wedi ei drefnu
gyda deilydd y drwydded a Rheolwr y bwyty / bar lle trafodwyd materion a rhannu
gwybodaeth am bobl yn ymgynnull tu allan i’r eiddo ac yn codi lleisiau. Yr
ymateb i hyn wedi bod yn siomedig
· Cam ddefnydd o
gerddoriaeth acwstig / wedi chwyddo - rhaid ymddwyn yn gyfrifol ac angen
strwythur rheoli gadarn
· Fel person busnes,
disgwylid rhoi ystyriaeth i ymddygiad ac ymateb yn gyfrifol
Arwel
Huw Thomas (Gwasanaeth Cynllunio
Cyngor Gwynedd)
·
Y
Gwasanaeth Cynllunio yn gwrthwynebu’r cais. Hawl cynllunio yn caniatáu i’r
eiddo fod ar agor rhwng 8:00 a 23:30 y nos. Tra bod yr oriau agor i’r cyhoedd
(chwarae miwsig byw ac wedi ei recordio a gwerthu alcohol o ddydd Llun i ddydd
Mercher) yn unol â’r cyfyngiadau agor sydd ar yr eiddo, mae ymestyn yr oriau i
hanner nos rhwng dydd Iau a dydd Sul yn groes i’r cyfyngiad. Byddai caniatáu
diwygio’r drwydded yn groes i’r caniatâd cynllunio sydd yn bodoli ar yr eiddo
yn barod.
· Bod yr Uned Gorfodaeth
Cynllunio wedi derbyn cwynion am lefelau sŵn annerbyniol yn deillio o’r
eiddo yn y gorffennol, ac ystyriwyd y byddai caniatáu ymestyn oriau'r drwydded
ond yn amlygu hynny ymhellach. Cwyn wedi ei gyflwyno yn amlygu bod cerddoriaeth
wedi bod yn cael ei chwarae yn uchel yn ystod oriau mân y bore ar y 1 Mehefin
2024.
· Bod y sylwadau hyn yn
ystyriaethau materol Cynllunio a gwrthodir cynigion os byddant yn cael effaith
andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion lleol.
· Petai’r oriau yn cael
eu hymestyn byddai rhaid ail asesu drwy weithdrefnau Cynllunio ac yn erbyn
polisïau Cynllunio'r Cyngor fydd yn destun cais cynllunio newydd.
Heather
Jones (Cyngor
Cymuned Llanberis)
·
Bod
cwynion sŵn wedi eu derbyn yn ardal yr eiddo
·
Yn
gwrthwynebu ar sail diffyg cydymffurfiaeth (digwyddiad 31-05-24)
·
Er
yn annog busnesau i’r stryd fawr ac yn croesawu’r bwyty a’i ddefnydd ar gyfer
digwyddiadau cymunedol, rhaid sicrhau cydbwysedd – gormod o sŵn yn dod o’r
eiddo gyda’r nos
·
Yn
derbyn bod sŵn hefyd yn dod o’r clwb cymdeithasol, ond yn poeni am effaith
y sŵn ar drigolion sydd yn byw rhwng Becws Melyn a’r Clwb Cymdeithasol
Diolchwyd i bawb am eu sylwadau
Yn cymryd y cyfle
i gloi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu:
·
Ei bod yn croesawu busnes newydd, llwyddiannus ond
nid wedi ei hargyhoeddi bod rheolaeth effeithiol o’r safle
Yn cymryd y cyfle
i gloi ei hachos, nododd yr ymgeisydd:
·
Ei bod yn barod i ddangos y gall reoli'r eiddo yn
dda ac ymateb i sylwadau Cynllunio
· Cais i’r Aelodau
ystyried hanner awr ychwanegol – hyd at 22:30
Ymneilltuodd
yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
Wrth gyrraedd
y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu ynghyd â
sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad. Ystyriwyd
Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr
Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn
erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y
Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd
ac anhrefn
ii.
Atal niwsans
cyhoeddus
iii.
Sicrhau
diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant
rhag niwed
Diystyrwyd
y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion
uchod.
PENDERFYNWYD: GWRTHOD
Rheswm: Diffyg rheolaeth i gydymffurfio
â’r amcanion trwyddedu
Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Roedd y sylwadau a’r gwrthwynebiadau a
dderbyniwyd yn ymwneud â’r amcan trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus. Ni
chyflwynwyd gwrthwynebiad gan yr Heddlu oherwydd nad oedd yr oriau arfaethedig
yn hwyrach nag eiddo trwyddedig eraill yn yr ardal. Serch hynny eglurwyd iddynt
dderbyn adroddiad o gŵyn sŵn cerddoriaeth yn dilyn digwyddiad yn yr
eiddo ar y 31/5/24 aeth yn ei flaen tan oriau man y bore, ac aflonyddwch
oherwydd bod pobl yn sefyll tu allan i’r eiddo yn yfed. Eglurodd Gwasanaeth
Gwarchod y Cyhoedd fod yr eiddo mewn lleoliad sensitif i sŵn, a bod
cyfyngiad oriau'r caniatâd cynllunio wedi eu gosod oherwydd bod yr Awdurdod
Cynllunio Lleol yn ystyried bod angen rheoli niwsans sŵn ac aflonyddwch.
Derbyniwyd cwynion ar ôl parti dathlu
pen-blwydd y busnes ar 31/05/24 yn ogystal â chwynion sŵn o nosweithiau
eraill yn 2023 a 2024. Dangoswyd fideos wedi eu ffilmio gan drigolion cyfagos
fel tystiolaeth. Wrth gyflwyno eu sylwadau, roedd y Gwasanaeth Cynllunio yn
nodi hefyd iddynt dderbyn cwynion am y sŵn. Eglurodd y Gwasanaeth fod
cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r Ymgeisydd ar 07/08/24 i drafod rheolaeth
sŵn, ond nad oeddynt yn teimlo fod eu pryderon wedi cael y sylw yr oeddynt
yn ei ddisgwyl ac nad oedd yr Ymgeisydd wedi ‘perchnogi’r’ broblem. Roeddynt
hefyd yn teimlo y dylai’r Ymgeisydd fod wedi sylweddoli fod problemau gyda’r
eiddo beth bynnag a’u bod wedi ysgrifennu ati. Roeddynt o’r farn nad oedd digon
o wybodaeth wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn hanesyddol nac ynglŷn â’r
cais presennol ar sut yr oedd yn bwriadu gosod mesurau rheoli a chamau
gweithredu i sicrhau bod yr amcan trwyddedu yn cael ei gyflawni.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau’r
Ymgeisydd gan gynnwys ei eglurhad nad oedd yn ymwybodol bod cymaint o gwynion
wedi eu gwneud a’i bod yn credu mai dim ond yr un digwyddiad ar 31/05/24 oedd y
broblem. Roeddynt serch hynny o’r farn y dylai fod yn cadw gwell rheolaeth ar
yr eiddo beth bynnag yn enwedig o ystyried bod yr eiddo mewn ardal sy’n
sensitif o safbwynt sŵn. Roedd yr Is-bwyllgor yn gwerthfawrogi bod yr
Ymgeisydd yn syrthio ar ei bai ac yn ymddiheuro am y digwyddiadau; a’i bod yn
cydnabod bod angen gwella rheolaeth yr eiddo. Roeddynt hefyd yn gwerthfawrogi
ei bod wedi cynnig, yn y gwrandawiad, i gymryd mesurau rheoli sŵn drwy
e.e., lleihau oriau, sicrhau bod y drws ar gau a bod mesurydd sŵn i
sicrhau nad oedd y sŵn yn cyrraedd lefelau annerbyniol. Serch hynny nid
oedd yr amodau a’r newidiadau yma wedi eu cynnwys yn y cais na ‘chwaith wedi eu
cyflwyno a’u trafod gyda swyddogion cyn y gwrandawiad.
Mewn
achos o’r fath lle'r oedd llawer o bryderon wedi eu mynegi, byddai’r Is
bwyllgor angen sylwadau gan y swyddogion proffesiynol ar ôl iddynt gael cyfle
i’w cloriannu’n drwyadl a’u trafod ymhellach gyda’r ymgeisydd pe bai angen.
Nodwyd hefyd nad oedd yr Ymgeisydd wedi adrodd ar y lefelau a fesurwyd gan ei
mesurydd sŵn a bod hyn yn atgyfnerthu’r argraff nad oedd sylw digonol wedi
ei dalu i’r mater. Nid oedd modd i’r Is-bwyllgor fodloni ei hun y byddai’r hyn
oedd yn cael ei gynnig yn ddigonol i fynd i’r afael â’r pryderon ynglŷn
â’r cais.
Roedd tystiolaeth glir o broblemau
sŵn o'r eiddo ac nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd ar hyn
o bryd yn cymryd camau digonol i reoli'r broblem. Byddai angen i'r Is bwyllgor
fod yn fodlon bod unrhyw amrywiadau i'r drwydded bresennol yn rhesymol o ran yr
oriau arfaethedig a bod amodau addas a digonol ar waith i fynd i’r afael a’r
broblem sŵn. Am y rhesymau hyn nid oedd yr Is-bwyllgor yn gallu
cymeradwyo'r cais naill ai ar sail yr oriau a gyflwynwyd yn y cais neu leihad
yn yr oriau ychwanegol a gynigiwyd gan yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: