Agenda item

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Iwan Evans (Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Derbyn y diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud i baratoi ar gyfer trosglwyddiad arfaethedig y Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC.

2.     Cefnogi'r strwythur llywodraethu fel sail ar gyfer trafodaeth gyda phartneriaid hyd nes ceir adroddiad pellach yn ddarostyngedig i addasu aelodaeth etholedig yr Is Bwyllgor  Llesiant Economaidd arfaethedig i gynrychiolaeth Arweinyddion Cynghorau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC ac Iwan Evans, Swyddog Monitro

 

PENDERFYNWYD:

1.     Derbyn y diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud i baratoi ar gyfer trosglwyddiad arfaethedig y Cynllun Twf, ei gyllid a'r PMO i'r CBC.

2.     Cefnogi'r strwythur llywodraethu fel sail ar gyfer trafodaeth gyda phartneriaid hyd nes ceir adroddiad pellach yn ddarostyngedig i addasu aelodaeth etholedig yr Is Bwyllgor Llesiant Economaidd arfaethedig i gynrychiolaeth Arweinyddion Cynghorau.

 

TRAFODAETH

 

Croesawyd David Hole, Rheolwr newydd Rhaglen Gweithredu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i’r cyfarfod. Nodwyd bod gan y Cyd-bwyllgor bŵer yn hytrach na dyletswydd i hyrwyddo lles economaidd yn y rhanbarth. Amlygwyd bod penderfyniad gwreiddiol mewn egwyddor oedd yn rhagweld y byddai Is-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cael ei sefydlu ond ers hyn mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi mabwysiadu brand Uchelgais Gogledd Cymru. Yn sgil hyn cynigir sefydlu Is-bwyllgor Lles Economaidd er mwyn cefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor ac er mwyn cyflawni swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais.

 

Nodwyd bod y prif ddadleuon cefnogol dros fabwysiadu’r strwythur wedi eu cynnwys o fewn yr adroddiad ond yn gryno fyddai datblygu’r strwythur ar sail y fersiwn arfaethedig yn hwyluso rôl strategol y Cyd-bwyllgor ac yn creu'r gallu i roi'r sylw haeddiannol a’r arweinyddiaeth i faterion a chyfloed ehangach na’r Cynllun Twf drwy’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.

 

Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn y diweddariad ar y cynnydd o sefydlu’r CBC gan nodi bod y gwaith yma yn cynnwys trosglwyddo cytundeb y Cynllun Twf, y cyllid a’r Swyddfa Rheoli Portffolio i mewn i’r CBC fel sefydliad annibynnol yn ogystal â chyflwyno egwyddorion drafft sy’n rhoi sail i’r model llywodraethu arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor.

 

Amlygwyd mai’r dyddiad targed ar gyfer trosglwyddo’r Cynllun Twf sydd yn flaenoriaeth benodol o fewn cwmpas y gwaith i sefydlu’r CBC yw’r 1af o Dachwedd. Adroddwyd bod cyflawni hyn yn ddibynnol ar dderbyn cymeradwyaeth gan bartneriaid y Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth ynghyd â chael nifer helaeth o faterion gweithredol mewn lle.

 

Esboniwyd bod yr adroddiad hefyd yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor gefnogi datblygiad o fodel llywodraethu arfaethedig sy’n cynnig golwg cychwynnol ar y trefniadau llywodraethu er mwyn hwyluso trafodaethau gyda phartneriaid ar y Cynllun Twf. Cyflwynwyd fersiwn diwygiedig o’r strwythur gan amlygu’r prif newidiadau sef:

·       Arweinyddion y 6 awdurdod i eistedd ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd

·       Cyfrifoldebau o Fonitro Perfformiad, cyflawni a risgiau a Chymeradwyo prosiectau ABLl y Cynllun Twf a gyfeiriwyd oherwydd risgiau anarferol yn rai all gael eu gosod ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn hytrach na’r CBC. Nodwyd bod y rhain yn swyddogaethau sydd yn gysylltiedig â’r CBC ond y gellir eu cyfeirio lawr i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro mai’r amcan ydi derbyn cefnogaeth i’r model arfaethedig fydd yn rhoi hyder i bartneriaid bod model sylfaenol y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cael ei gadw ymlaen yn y trosglwyddiad i’r CBC. Nododd nad oedd rheswm cyfreithiol na chyfansoddiadol i beidio â chael Is-bwyllgor efo Arweinyddion fel aelodau arno.

 

Mynegwyd fod yr Arweinyddion yn awyddus i gadw mewn cyswllt efo holl waith y Bwrdd Uchelgais Economaidd felly yn hapus i fod yn aelodau o’r Is-bwyllgor Lles Economaidd gan eu bod yn gyfarwydd â’r gwaith. Credwyd bod yr adroddiad yn symleiddio trefniadau drwy roi gwell eglurder o gyfrifoldebau. Nodwyd bod trafodaethau eraill i’w cynnal ac adroddiad pellach i’w gyflwyno.

 

Diolchwyd am y gwaith gan gydnabod bod y mater o drosglwyddo cyfrifoldebau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a sefydlu’r CBC wedi bod yn broses gymhleth.

 

Dogfennau ategol: