Agenda item

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Awdurdodi’r Prif Weithredwr dros dro i barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid lleol i baratoi dogfennau'r Porth sy'n weddill ar ffurf drafft, o dan gyfarwyddyd a chyngor Uwch Swyddog Cyfrifol arfaethedig y Parth Buddsoddi, Prif Weithredwr dros dro y CBC. Bydd penodiad yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) yn cael ei ffurfioli ym Mhorth 3, a’i gyflwyno i’r CBC maes o law.

2.     Cefnogi, mewn egwyddor, y Model Llywodraethu arfaethedig sy'n gosod allan y ffurf arfaethedig o’r strwythurau penderfyniadau ar gyfer y Parth Buddsoddi.

3.     Cyflwyno dogfennaeth arfaethedig y Porth i'w chymeradwyo, gan y CBC yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cyn cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraethau'r DU a Chymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC.

 

PENDERFYNWYD:

1.          Awdurdodi’r Prif Weithredwr dros dro i barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid lleol i baratoi dogfennau'r Porth sy'n weddill ar ffurf drafft, o dan gyfarwyddyd a chyngor Uwch Swyddog Cyfrifol arfaethedig y Parth Buddsoddi, Prif Weithredwr dros dro y CBC. Bydd penodiad yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) yn cael ei ffurfioli ym Mhorth 3, a’i gyflwyno i’r CBC maes o law.

2.          Cefnogi, mewn egwyddor, y Model Llywodraethu arfaethedig sy'n gosod allan y ffurf arfaethedig o’r strwythurau penderfyniadau ar gyfer y Parth Buddsoddi.

3.          Cyflwyno dogfennaeth arfaethedig y Porth i'w chymeradwyo, gan y CBC yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cyn cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraethau'r DU a Chymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ar gynnydd y Parc buddsoddi newydd yn Fflint a Wrecsam sy’n canolbwyntio ar Weithgynhyrchu Uwch. Croesawyd Iain Taylor, Ymgynghorwr AMION Consulting i’r cyfarfod gan nodi bod gan Iain brofiad o weithio efo rhanbarth dinas Lerpwl i ddatblygu eu hachos ar gyfer y Parc Buddsoddi.

 

Eglurwyd bod y broses o ddatblygu Parthau Buddsoddi yn gydweithredol o ran natur ac yn ddibynnol ar rannu dogfennaeth i’w hadolygu ar draws rhanddeiliaid lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cyfeiriwyd at y bwriad o rannu dogfennau Porth drafft wrth iddynt gael eu paratoi ac i dderbyn adborth a chytundeb wrth i’r rhain ddatblygu.

 

Nodwyd fod y CBC wedi ei adnabod fel y Corff atebol ar gyfer y Parth Buddsoddi gan dynnu sylw at natur y swyddogaeth, y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau y mae’r CBC yn eu hysgwyddo wrth ddatblygu a chyflawni'r Parth Buddsoddi. Cyfeiriwyd at y penderfyniadau fydd gan y CBC i’w gwneud wrth ddatblygu’r Parth Buddsoddi. Rhannwyd fodel o strwythur llywodraethiant arfaethedig (Atodiad A o’r adroddiad) fel sail i baratoi ar gyfer y broses o fynd drwy’r pyrth efo’r Llywodraethau ac i gael cymeradwyaeth ar y Parth Buddsoddi.

 

Ymhelaethodd yr Ymgynghorwr AMION Consulting ar y strwythur Llywodraethiant arfaethedig gan nodi bod bwriad i’r strwythur ffitio fewn efo’r strwythur Llywodraethiant sefydledig er mwyn osgoi dyblygu. Nododd bod y gwaith yn ymdrech gyfunol ac estynnodd ddiolch i Gynghorau Fflint a Wrecsam am eu cefnogaeth, gwaith a’u parodrwydd i gyd-weithio. Soniodd am yr amcan o gynyddu nifer y swyddi Gweithgynhyrchu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gan nodi bod y strwythur yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymryd rhan yn natblygiad y broses. Ymhelaethodd mai’r CBC fydd yn gyfrifol am adrodd ar gyflawni ac yn gyfrifol am y buddsoddiadau grant.

 

Diolchodd Arweinydd Cyngor Sir Wrecsam i’r swyddogion am eu gwaith a diolchodd i Gyngor Sir y Fflint am eu cydweithrediad gan nodi bod y cynllun a’r buddsoddiad yn sylweddol. Ategwyd sylwadau tebyg gan gynrychiolydd Cyngor Sir y Fflint gan nodi eu bod yn edrych ymlaen at gyd-weithio efo Cyngor Wrecsam. Mynegwyd gwerthfawrogiad i Brif Weithredwr dros dro y CBC a’i thîm am eu gwaith.

 

Holwyd os fydd y terfyn amser ym mis Tachwedd ar gyfer cyflwyno yn cael ei gyrraedd. Mewn ymateb nodwyd bod y ddogfennaeth sy’n ofynnol i gyflwyno i’r Llywodraeth yn parhau i gael eu datblygu. Adroddwyd y bydd y Llywodraeth yna yn adolygu’r dogfennau mynediad ac yn rhoi adborth a chadarnhau os ydynt yn bodloni gofynion y parth buddsoddi. Ychwanegwyd ar ôl datganiad yr Hydref a pan fydd y gyllideb wedi ei chadarnhau ar 30 Hydref fod y CBC yn paratoi i allu bod mewn sefyllfa i gyflwyno cyn gynted ag y bo modd. Eglurwyd na all y Llywodraeth ddechrau’r broses o adolygu’r ddogfennaeth yn swyddogol tan ar ôl y gyllideb. Cadarnhawyd bod y CBC yn hyderus y byddant mewn sefyllfa dda i gyflwyno erbyn ym mis Tachwedd.

Holwyd os mai’r CBC fydd yn atebol os fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Croesawyd y cynnydd ond tybiwyd bod gwaith pellach i’w wneud o ran oblygiadau’r Corff atebol, petai hynny yn y Cyd-bwyllgor neu Wrecsam a Fflint. Ymhelaethwyd ei bod yn gwneud synnwyr i Wrecsam a Fflint wneud y penderfyniadau gan mai eu prosiectau nhw fydd y rhain ond pryderwyd nad oedd eglurder pendant ar gyfrifoldeb pwy yw’r penderfyniadau a’r canlyniadau posib.

 

Mewn ymateb nodwyd bod cyfrifoldeb corfforaethol wedi ei nodi yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Cadarnhawyd y bydd trafodaeth bellach ar yr agwedd hon ym mis Tachwedd a chaiff manylion eu darparu bryd hynny ar sut mae’r cyfrifoldebau fydd yn disgyn ar y CBC yn cael eu hysgwyddo mewn difrif gan bartneriaid oddi fewn i’r parth buddsoddi. Ategwyd bod perchnogaeth ac atebolrwydd clir yn bwysig ynghyd ag agweddau fel herio a chraffu; nodwyd bod angen bod yn glir pwy fydd yn gyfrifol am hyn.

 

Cytunwyd bod hwn yn fater pwysig a bod eglurder yn hollbwysig i aelodau’r Cyd-bwyllgor er mwyn gallu symud ymlaen fel un. Edrychwyd ymlaen at dderbyn rhagor o fanylion ym mis Tachwedd.

 

Dogfennau ategol: