Adeiladu tŷ fforddiadwy ynghyd a chreu
mynedfa gerbydol i'r ffordd sirol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn Herald Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
yn groes i’r argymhelliad
1.
5 mlynedd
2.
Unol a’r cynlluniau
3.
Deunyddiau
4.
Tynnu hawliau a ganiateir a defnydd C3
yn unig
5.
Amod 106 Tŷ Fforddiadwy
6.
Tirweddu a draenio tir a manylion ffin,
7.
Amod bioamrywiaeth/gwelliannau
bioamrywiaeth
8.
Enw Cymraeg i’r eiddo
Cofnod:
Adeiladu tŷ
fforddiadwy ynghyd a chreu mynedfa gerbydol i'r ffordd sirol.
a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i godi tŷ unllawr fforddiadwy ar safle
ar ddarn o gae agored y tu allan i, ond yn cyffwrdd ffin datblygu’r pentref
Carmel.
Adroddwyd,
o safbwynt egwyddor y datblygiad, bod ffigyrau yn dangos fod cyflenwad digonol
yng Ngharmel ar gyfer y datblygiad ar hyn o bryd, ond gyda’r safle yn gorwedd
tu allan i’r ffin datblygu roedd angen sicrhau fod y bwriad yn cwrdd gyda
pholisi Tai 16 sy’n berthnasol i safleoedd eithrio gwledig. Ategwyd bod digon o
wybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i dderbyn fod yr angen lleol am
dŷ fforddiadwy wedi’i brofi na ellid ei gyfarch o fewn amserlen resymol ar
safle marchnad tu mewn i’r ffin ddatblygu. Derbyniwyd prisiad marchnad agored
ar y tŷ oedd yn dangos fod modd gosod disgownt o 40% pe byddai’r cais yn
cael ei gymeradwyo.
Yng
nghyd-destun maint y tŷ, byddai’n mesur oddeutu 89 medr sgwâr yn cynnwys
ystafell fyw / fwyta, 2 ystafell wely a swyddfa ynghyd a modurdy 20 medr sgwâr.
Yn seiliedig ar wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan yr asiant yn egluro bod
yr ymgeiswyr yn gwpl ifanc oedd yn bwriadu magu teulu yn y dyfodol agos, a’r
cartref yma yn caniatáu iddynt aros yng Ngharmel, ystyriwyd yn rhesymol cefnogi
tŷ o’r maint yma gan y byddai’n sicrhau bod yr annedd yn cwrdd ag
anghenion ymgeiswyr presennol ac i'r dyfodol. Nodwyd nad oedd yn sylweddol
groes i’r arweiniad o fewn y canllaw cynllunio tai fforddiadwy o safbwynt maint
tai fforddiadwy.
Yng
nghyd-destun dyluniad y tŷ, ystyriwyd bod y dyluniad a’r deunyddiau yn
eithaf safonol ac yn ymddangos yn dderbyniol. Er hynny, amlygwyd bod polisi TAI
16 yn gofyn bod cynigion yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddiad. Nodwyd,
er bod y safle yn cyffwrdd â'r ffin datblygu, bod y bwriad yn golygu codi
tŷ newydd mewn cae agored sydd wedi ei osod i lawr trac mynediad newydd
40m o hyd i ffwrdd o’r briffordd. Ategwyd bod
terfyn eiddo Bryn llifon (sydd wrth ochor y fynedfa newydd) yn creu ffin
naturiol i’r pentref a’r eiddo hwnnw yn agos i ac yn wynebu’r briffordd. Gan
fod bwriad yma i osod y tŷ i ffwrdd o’r briffordd ac yn bell tu ôl i
linell datblygu Bryn Llifon, ystyriwyd nad oedd yn dilyn patrwm datblygu naturiol y pentref.
Cyfeiriwyd hefyd at lain Teras Mount Pleasant sydd wedi'i leoli i ffwrdd o’r
safle ac wedi ei wahanu gan drac mynediad ac ardaloedd gardd gydag amryw o
adeiladau gardd fel storfeydd a modurdai. Ystyriwyd bod y llain yn eistedd ar
wahân i'r ffurf adeiledig a phan fydd y safle i'w weld o'r fynedfa arfaethedig,
ni ystyriwyd y byddai’r tŷ yn cael ei weld yn yr un cyd-destun a'r tai
teras.
Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod lleoliad y tŷ a
lleoliad ffenestri wedi cael ystyriaeth lawn wrth ddylunio’r eiddo ac nad oedd
pryder am yr effaith ar gymdogion. Tynnwyd sylw at yr angen i gydnabod bydd
rhywfaint o effaith ar Bryn Llifon oherwydd lleoliad y fynedfa a’r trac, ond
gan fod y bwriad yma o raddfa fach ac ar gyfer un tŷ preswyl yn unig, ni
ystyriwyd bydd y lefel o draffig ac aflonyddwch yn sylweddol ac na fyddai’n
cael effaith andwyol sylweddol niweidiol ar fwynderau Bryn Llifon. Nodwyd fod y
fynedfa wedi cael ei dylunio i safon ac nad oedd pryder gan yr Uned
Trafnidiaeth.
Adroddwyd
bod materion ieithyddol, bioamrywiaeth ac isadeiledd wedi cael sylw llawn ac fe
ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd gyda’r polisïau perthnasol. Er hynny roedd y
Gwasanaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais gan na ystyriwyd fod y bwriad
yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddiad.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Ei
gŵr fyddai’r 6ed genhedlaeth o’i deulu i fyw yng Ngharmel
·
Y tir wedi bod ar werth ac felly wedi cymryd y cyfle
i’w brynu. Hyn wedi rhoi gobaith iddynt aros yn lleol
·
Eu bod wedi derbyn cymeradwyaeth Tai Teg
·
Dim newid wedi bod mewn dwy flynedd – ac er y term
‘fforddiadwy,’ nid felly yw’r costau o gynnal arolygiadau i gael tŷ
fforddiadwy
·
Bod y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl ) yn nodi 12
tŷ i Carmel dros gynfod y Cynllun - 2 dŷ yn unig sydd wedi eu
hadeiladu
·
Eu bod yn cyfrannu i’r economi leol ac yn gweithio yn
yr ardal leol
·
Digon
yma i gyfiawnhau tŷ i deulu ifanc lleol
c) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Bod
angen tai fforddiadwy i bobl leol - cymunedau cefn gwlad yn dioddef
·
Bod gwreiddiau’r cwpl ifanc yn yr ardal a’u bod yn
dymuno ymgartrefu yn yr ardal
·
Eu bod wedi derbyn cymeradwyaeth Tai Teg
·
Dyluniad ar gyfer tŷ un llawr sydd yma, fydd wedi
ei suddo yn isel i’r dirwedd i leihau’r effaith
·
Bod
y maint yn dderbyniol ac yn esiampl dda o dŷ fforddiadwy
·
Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn, yn enwedig gan
drigolion lleol
·
Cyngor Cymuned yn gefnogol
·
Yn gefnogol i’r cais ac y byddai’n croesawu ceisiadau
tebyg i gadw Carmel yn hyfyw
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu’r cais, yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
·
Bod yr estyniad i’r anheddle yn un rhesymol
·
Bod
yr angen am dŷ fforddiadwy wedi ei brofi
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
O ystyried y darlun mawr, y cais yn dderbyniol
·
Dim
llawer o gyfleoedd yn codi i bobl leol
·
Nid yw yn ymddangos yn ymwthiol
·
Yr angen am dai fforddiadwy wedi ei brofi
PENDERFYNWYD: Caniatáu yn groes
i’r argymhelliad
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r
cynlluniau
3. Deunyddiau
4. Tynnu hawliau
a ganiateir a defnydd C3 yn unig
5. Amod 106
Tŷ Fforddiadwy
6. Tirweddu a
draenio tir a manylion ffin,
7. Amod
bioamrywiaeth/gwelliannau bioamrywiaeth
8. Enw Cymraeg
i’r eiddo.
Dogfennau ategol: