Cyfleuster Storio Ynni Arfaethedig, mynediad
cysylltiedig, tirweddu, seilwaith, offer ategol, gyda chynhwysedd mewnforio ac
allforio cysylltiad grid o 57MWac.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines
Penderfyniad:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
3.
Cydymffurfio â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a
chadw i’r dyfodol.
4.
Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad
Ecolegol Cychwynnol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Datganiad Seilwaith
Gwyrdd.
5.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu Amgylcheddol i’r ACLL cyn
dechrau
6.
Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Trafnidiaeth Adeiladu.
7.
Cytuno gyda gorffeniadau allanol y strwythurau.
8.
Sicrhau enw Cymraeg ac arwyddion dwyieithog gyda’r
flaenoriaeth i’r Gymraeg.
9.
Cytuno rhaglen waith Archeolegol
10.
Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol
11.
Amodau Trafnidiaeth a Gwarchod y Cyhoedd fel bo angen
12.
Rhaid adfer y safle i’w gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod
Cynllunio wedi i’r cyfnod gweithredol y datblygiad ddod i ben
Nodiadau:
Uned Dŵr ac
Amgylchedd
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Cynllunio
Archeolegol Gwynedd
Cofnod:
Cyfleuster Storio Ynni Arfaethedig, mynediad cysylltiedig, tirweddu,
seilwaith, offer ategol, gyda chynhwysedd mewnforio ac allforio cysylltiad grid
o 57MWac.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
oedd yn cynnwys sylwadau gan yr Uned Trafnidiaeth
a)
Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio llawn oedd dan sylw ar gyfer
gosod a gweithredu System Storio Ynni Batri, oedd yn cynnwys unedau storio
ynni, is-orsaf drydan, mynediad i’r safle, tirlunio a seilwaith ategol ar dir
i’r gorllewin o is-orsaf drydan presennol Pentir. Tynnwyd sylw at holl
elfennau’r cais gan nodi y byddai’r bwriad yn galluogi gwneud defnydd
effeithiol o’r ynni cynaliadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn barod. Ategwyd y
byddai cysylltiad cebl tanddaearol i'r grid trydan yn cael ei sicrhau trwy gais
cynllunio ar wahân.
Adroddwyd
bod y safle’n cynnwys 2.57 hectar o dir pori garw mewn safle Cefn Gwlad Agored
y tu allan i unrhyw ffin datblygu ac oherwydd maint y safle, eglurwyd bod
yr ymgeisydd wedi ymgymryd ag
ymgynghoriad cyn cyflwyno cais fel sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad a
ddiffinnir fel un mawr gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod y datblygiad wedi’i
sgrinio ar gyfer Asesiad Effaith Amgylcheddol ac ystyriwyd byddai’r
effaith ar yr amgylchedd yn annigonol i
gyfiawnhau cyflwyno datganiad amgylcheddol gyda’r cais.
Cyfeiriwyd
at ymateb a sylwadau'r Uned Priffyrdd yn cadarnhau nad oedd ganddynt
wrthwynebiad mewn egwyddor yn ddarostyngedig i sicrhau fod asesiad o gyflwr y
ffordd yn cael ei gwblhau cyn ac ar ôl y gwaith adeiladu, a bod Cynllun Rheoli
Amgylcheddol Adeiladu a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cael eu cyflwyno
a’u cymeradwyo.
Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod cyfiawnhad wedi ei roi yn y
Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad dros leoli’r adnodd yn y man a fwriedir
yn seiliedig ar agosatrwydd Is-orsaf Pentir a’r
cymhlethdod a’r effaith ar y dirwedd o osod ceblau i gysylltu rhwng y
storfa batris a’r rhwydwaith Grid Cenedlaethol ac felly’n cwrdd â gofynion
Polisi Cyff 1 - bod y lleoliad yn addas. Ategwyd bod Polisi ISA 1 hefyd yn
gefnogol o gynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r
ddarpariaeth, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl ac yn nodi pwysigrwydd
bod y ddarpariaeth isadeiledd ar gyfer safle datblygu yn cael ei leoli a’i
ddylunio mewn modd sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac
adeiledig. Drwy osod y datblygiad ar y safle yma yn agos i’r is-orsaf
bresennol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt amgylcheddol.
Cydnabuwyd
y byddai peth aflonyddwch yn ystod y cyfnod gwaith a fydd yn parhau am oddeutu
12 mis, ond wedi hynny, bydd y safle yn cael ei reoli o bell ac ni fydd
presenoldeb ar y safle oni bai yn achlysurol ar gyfer cynnal a chadw.
Ar
sail y wybodaeth oedd wedi ei gyflwyno ystyriwyd fod yr holl effeithiau wedi eu
lliniaru’n ddigonol, ac na fyddai’r cynnig yn niweidiol i fwynderau gweledol, i
unrhyw effeithiau annerbyniol ar ddefnyddiau sensitif cyfagos, nag ansawdd dwr;
y lleoliad wedi ei gyfiawnhau heb
effaith cronnus annerbyniol ar y dirwedd gyda’r cyfarpar yn cael ei dynnu o’r
safle wedi diwedd oes y cynllun. O ganlyniad, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol
ac argymhellwyd caniatáu’r cais gydag amodau.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;
·
Bod
y bwriad yn un i gyflenwi system storfa ynni sydd yn hanfodol ar gyfer dyfodol
ynni adnewyddadwy carbon isel
·
Bod
y cynllun yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru
·
Bod
storio ynni yn dechnoleg allweddol i gyflawni sero-net
·
Byddai’r
cynllun yn cynnig cyfleoedd gwaith i bobl leol
·
Bod
cynnydd mewn defnydd storfa ynni i ymateb i alw a chyflenwad
·
Bod
sgrinio digonol, sefydlog eisoes yn bodoli ger yr is-orsaf
·
Na
fyddai’r bwriad yn creu effaith ar y dirwedd – tir pori caled sydd yma gyda
lefel isel o fioamrywiaeth. Er hynny, bwriad plannu mwy i leihau’r effaith
weledol
·
Cyfarfodydd
ymgynghori wedi eu cynnal gyda thrigolion lleol a Chyngor Cymuned Pentir
·
Wedi
cydweithio gyda’r swyddogion cynllunio a budd-ddeiliaid
·
Bod
buddion cymunedol i’r cynllun
c)
Er
nad yn bresennol, roedd yr Aelod Lleol wedi nodi mewn e-bost i’r Cadeirydd ei
bod yn gefnogol i'r bwriad ar sail
datblygu gynaliadwy, h.y. fod storio ynni yn ymddangos yn dechnoleg
angenrheidiol wrth geisio cyflawni'r nod ynni net sero.
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch
Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau’r Uned
Trafnidiaeth a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
a’r amodau isod:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r
cais.
3.
Cydymffurfio â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith
cynnal a chadw i’r dyfodol.
4.
Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau
Asesiad Ecolegol Cychwynnol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth a’r Datganiad
Seilwaith Gwyrdd.
5.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu Amgylcheddol i’r
ACLl cyn dechrau
6.
Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Trafnidiaeth Adeiladu.
7.
Cytuno gyda gorffeniadau allanol y strwythurau.
8.
Sicrhau enw Cymraeg ac arwyddion dwyieithog gyda’r
flaenoriaeth i’r Gymraeg.
9.
Cytuno rhaglen waith Archeolegol
10. Cyflwyno Cynllun
Rheolaeth Amgylcheddol
11. Amodau
Trafnidiaeth a Gwarchod y Cyhoedd fel bo angen
12. Rhaid adfer y
safle i’w gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod
gweithredol y datblygiad ddod i ben
Nodiadau:
Uned Dŵr ac Amgylchedd
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth
Cynllunio Archeolegol Gwynedd
Dogfennau ategol: