Agenda item

I rannu gwybodaeth gydag Aelodau ar Gynllun Rheoli’r AHNE.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn gan atgoffa’r Aelodau bod paratoi ac olygu Cynllun Rheoli yn un o gyfrifoldebau statudol Cyngor Gwynedd yn unol â Deddf Cefn gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Nodwyd bod gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol hwn rôl yn ystod y broses o baratoi ac adolygu’r Cynllun.

 

Cydnabuwyd bod amryw o ffactorau wedi amharu ar amserlen adolygu’r Cynllun megis y pandemig, gwaith ar brosiectau cyfalaf eraill a chapasiti’r swyddogion i gyflawni’r gwaith yn amserol. Er hyn, pwysleisiwyd bod y Cynllun presennol wedi dyddio ac mae ei adolygu yn flaenoriaeth.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd ystyried y gwybodaeth ddiweddaraf am nodweddion yr ardal, cynlluniau, strategaethau ac amcanion cadwraeth wrth adolygu’r Cynllun. Nodwyd hefyd bydd angen dilyn canllawiau gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru sydd bellach yn cael eu diweddaru gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer AHNEau ac Parciau Cenedlaethol. Nodwyd bod swyddogion AHNE Llŷn eisoes wedi cyflawni peth gwaith cefndirol drwy gomisiynu diweddariad o Adroddiad ar Gyflwr yr AHNE, gyda chrynodeb o ddiweddariad ar wahanl nodweddion o’r ardal wedi cael ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor. Ychwanegwyd y bu i Ymgynghorydd gael ei gomisiynu er mwyn diweddaru Cyd-destun y Cynllun.

 

Atgoffwyd yr Aelodau o rinewddau AHNE Llŷn, gan nodi na ragwelir yr angen i addasu’r rhain ar gyfer y Cynllun diwygiedig. Nodwyd mai’r rhinweddau sydd yn perthyn i AHNE Llŷn yw:

 

·       Tirlun ac Arfordir Hardd

·       Tawelwch ac Amgylchedd lân

·       Cyfoeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd

·       Yr Amgylchedd Hanesyddol

·       Yr Iaith Gymraeg a’r diwylliant

·       Pobl a chymunedau clos

·       Cynnyrch a busnesau lleol

·       Mynediad hawliau tramwy

 

Argymhellwyd gweledigaeth newydd ar gyfer y Cynllun diwygiedig yn seiliedig ar y flwyddyn 2050 sef;

 

“Ardal o dirlun ac arfordir hardd gyda bywyd gwyllt cynhenid yn ffynnu, lefel isel o lygredd amgylcheddol a digonedd o gyfleon mynediad cyhoeddus. Adeiladau a nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau Llŷn yn cynnal yr iaith a’r diwylliant Cymreig”.

 

Ychwanegwyd bod y weledigaeth hon yn ddiweddariad i’r weledigaeth at gyfer 2040 sydd eisoes mewn lle yn y Cynllun presennol.

 

Eglurwyd bydd Uned AHNE yn adolygu amcanion a pholisiau’r Cynllun presennol gan drefnu cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor i drafod yr addasiadau hynny. Ymhelaethwyd bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei addasu er mwyn cynnwys manylion am y gwaith yr anelir ei gwblhau o fewn cyfnod gweithredol y Cynllun. Nodwyd yr angen i adolygu Asesiadau Rheoliadau Amgylcheddol a Rhywogaethau sydd ynglwm â’r cynllun.

 

Aethpwyd ymlaen i gadarnhau bydd cyfnod o ymgynghori ar y Cynllun diwygiedig drafft. Cadarnhawyd bydd gan y Cyd-bwyllgor rôl i ystyried y sylwadau a dderbynnir.

 

Trafodwyd sefydlu is-bwyllgorau penodol er mwyn datblygu’r Cynllun a derbyn mewnbwn manwl gan Aelodau’r Cyd-bwyllgor ar rinweddau penodol AHNE Llŷn. Er hyn, pwysleisiwyd gallai hyn arafu’r broses o ddiweddaru’r Cynllun gan i’r Uned dderbyn gwybodaeth ac argymhellion yn dameidiog. Sicrhawyd bydd trafodaethau ar agweddau o adolygu’r Cynllun yn cael ei drafod yn fanwl yng nghyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y  dyfodol. Cytunwyd ei fod yn holl-bwysig bod cymaint o fewnbwn a phosib i’r Cynllun gan gydnabod mai cyfrifoldeb statudol Cyngor Gwynedd yw ei gwblhau. Nodwyd bod cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn cael ei gynnal yn amlach wrth adolygu’r Cynllun.

 

          PENDERFYNIAD

 

·       Derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad ar gyfer y Cynllun Rheoli.

·       Cynnal cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd er mwyn trafod materion sy’n ymwneud ag adolygu’r Cynllun Rheoli yn unig.

 

Dogfennau ategol: