Agenda item

I graffu diweddariadau o fewn y Gwasanaeth Parcio.

Penderfyniad:

 

Argymell i’r Cabinet:

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd parcio yn flynyddol neu bob dwy flynedd gan roi ystyriaeth i sefyllfa chwyddiant;

·       Ni ddylid addasu’r trefniadau gorfodaeth yn y meysydd parcio arhosiad byr oherwydd yr effaith ar yr economi leol.

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd ymhellach ym meysydd parcio mewn ardaloedd twristiaeth penodol megis Pen y Gwryd.

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd safleoedd Arosfan yn flynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) a’r Rheolwr Parcio a Gwaith Stryd.

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad yn cynnwys addasiadau i drefniadau ffioedd parcio er mwyn cydymffurfio â chynlluniau arbedion y Cyngor a mynd i’r afael â gorwariant o fewn y gwasanaethau parcio Atgoffwyd bod dau o’r prosiectau a welwyd yn yr adroddiad (Cynyddu ffioedd parcio Pen y Gwryd a Chynyddu pris Tocyn Parcio Blynyddol a Thocynnau Parcio Lleol meysydd parcio £5 y flwyddyn) eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Cabinet.

 

Tynnwyd sylw at gynllun i Ymestyn Oriau Gorfodaeth Parcio ym Meysydd Parcio Arhosiad Byr y Cyngor gan dynnu sylw mai’r oriau gorfodaeth presennol yw rhwng 10:00yb ac 4:30yh. Eglurwyd y bwriedir ymestyn yr oriau gorfodaeth i 09:00yb i 05:00yh. Atgoffwyd mai dyma oedd argymhelliad gwreiddiol y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn 2021.

 

Nodwyd mai’r pedwerydd cynllun sydd ynghlwm a’r adroddiad yw Addasiad i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir Band 2. Eglurwyd bod y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno er mwyn cyfarch cynnydd mewn chwyddiant. Tynnwyd sylw at her wrth gyfarch cynnydd chwyddiant er mwyn sicrhau bod ffioedd addas yn cael eu cyflwyno ar gyfer unrhyw un sydd yn dymuno talu ag arian parod, heb orfod canfod llawer o arian mân. Cadarnhawyd mai’r trefniant arferol yw aros ychydig o flynyddoedd cyn addasu ffioedd parcio yn unol â chwyddiant er mwyn sicrhau bod ffioedd parcio yn ymarferol i ddefnyddwyr. Cydnabuwyd bod hyn yn arwain at cryn dipyn o gynnydd ond bod yr addasiadau i brisiau yn cael eu gwneud yn llai aml. Cadarnhawyd bod yr addasiadau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn gynnydd o oddeutu 30%-40% gan sicrhau na fydd angen eu haddasu ymhellach hyd at y flwyddyn 2028/29.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Cytunwyd gyda’r cynlluniau i gynyddu ffioedd parcio ym Mhen y Gwryd ac anogwyd yr adran i fuddsoddi mewn lleoliadau cyffelyb gan ei bod yn cael defnydd cyson. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am Ffioedd Parcio Band 1-3 ar gyfer arosiadau hir.

 

Anghytunwyd gyda chynlluniau i addasu oriau gorfodaeth meysydd parcio. Ystyriwyd byddai hyn yn cael gormod o effaith negyddol ar drigolion a busnesau lleol gan arwain at ddirwyon. Nodwyd ei fod yn debygol y byddai cynyddu cost tocyn parcio blynyddol i £145 yn golygu na fyddai unigolion yn ei brynu.

 

Tynnwyd sylw bod cyfnodau amser mewn ffioedd parcio yn addasu mewn rhai achosion. Trafodwyd enghraifft bod £2 am gael parcio am 1 awr yn addasu i fod yn £2.50 am gyfnod o 4 awr. Ystyriwyd os bydd hyn yn atal pobl rhag talu i barcio oherwydd nad oeddent yn defnyddio’r maes parcio am gyfran helaeth o’r cyfnod hwnnw. Er hyn, cytunodd Pennaeth yr Adran bod y cynnydd hwn mewn amser ar gyfer mannau parcio arhosiad hir yn un o awgrymiadau grŵp tasg a gorffen y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn 2019. Eglurwyd bod y grŵp yn teimlo byddai hyn yn cefnogi busnesau lleol oherwydd byddai gan bobl amser, ac yn gwario arian mewn busnesau lleol.

 

Nodwyd nad oedd gwybodaeth wedi cael ei gynnwys ar fysiau yn parcio mewn meysydd parcio. Nodwyd byddai’r Adran yn cyflwyno gwybodaeth ar hyn yn y dyfodol gan nodi bod defnydd bysiau mewn meysydd parcio ar gynnydd.

 

Gofynnwyd i’r Adran ail-ystyried eu trefniadau wrth gynyddu prisiau parcio gyda chyfraddau chwyddiant er mwyn sicrhau nad ydi costau parcio yn mynd i fyny ar gyfradd uchel wrth eu haddasu. Tynnwyd sylw bod y trefniadau presennol yn arwain at gynnydd mawr mewn costau parcio. Mewn ymateb i’r sylwadau, cydnabuwyd bod ffioedd parcio yn cynyddu ar lefel uwch. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet bod hyn yn her ar gyfer yr adran oherwydd bod targedau incwm mewnol yn cynyddu gyda chwyddiant ac mae'r rhain yn cael eu methu nes mae’r ffioedd yn cynyddu. Pwysleisiwyd ei fod yn anodd addasu’r prisiau yn amlach oherwydd byddai ffioedd parcio yn symiau anarferol ond rhagdybir na fydd hyn yn gymaint o broblem yn y dyfodol a bydd modd cynyddu ffioedd yn flynyddol wrth i daliadau cerdyn neu ffôn ddod yn fwy cyffredin. Tynnwyd sylw byddai hyn hefyd yn lleihau niferoedd o achosion difrodi peiriannau talu ac arddangos ond bod angen gofal parhaus i sicrhau cyfle cyfartal i unrhyw un sydd yn dymuno talu gydag arian parod.

 

Eglurodd y Rheolwr Parcio a Gwaith Stryd bod ffi o 5c ar ddefnyddwyr ap i dalu am barcio. Ymhelaethwyd bod y ffi yn hwn yn un cyffredinol am ddefnyddio’r ap. Cadarnhawyd bod modd derbyn neges i gadarnhau taliad, neu i rybuddio bod y cyfnod parcio ar fin dod i ben, gan gadarnhau bod y rhain yn gostau ychwanegol i unrhyw un sydd yn dewis eu derbyn. Pwysleisiwyd nad oes cynnydd yn y ffioedd hyn wrth i ffioedd parcio gael eu haddasu. Ymhellach, mewn ymateb i sylwadau nad oes modd defnyddio’r ap ar brydiau, cadarnhaodd bod swyddogion, a’r cwmni sydd yn gweithredu’r ap, yn cael neges pan mae unrhyw safle yn profi trafferthion. Eglurwyd bod modd gosod bocsys er mwyn gwella wi-fi mewn rhai ardaloedd er mwyn sicrhau bod yr ap yn gweithio. Cadarnhawyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r cwmni yn gyson er mwyn sicrhau bod y trafferthion yn cael eu datrys mor fuan â phosib.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ddefnydd y cyhoedd o fannau parcio rhad ac am ddim mewn siopau a chanolfannau, cadarnhawyd bod hyn yn cael ystyriaeth fanwl gan yr Adran, er mwyn sicrhau bod unrhyw un sydd angen lle parcio ar gyfer defnyddio’r cyfleusterau hynny yn gallu gwneud hynny yn ddidrafferth.

 

Cafwyd nifer o sylwadau am geisio sicrhau nad yw’r cyhoedd yn cael eu heffeithio yn ormodol gyda’r addasiadau hyn, gan fanteisio ar wariant ymwelwyr. Pwysleisiwyd gan Bennaeth yr Adran bod hyn yn cael ystyriaeth ond mae’n broses heriol iawn oherwydd mae nifer o leoliadau yn cael eu defnyddio’n gyson gan ymwelwyr ac trigolion lleol. Er hyn, ystyriwyd bod rhai ardaloedd yn defnyddio mannau parcio oherwydd nad oes modd parcio tu allan i dai, ac byddai sefyllfaoedd o’r fath yn derbyn ystyriaeth fanwl.

 

Ystyriwyd nad oedd sylwadau’r Adran ar gydymffurfiaeth â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mor drwyadl ag adrannau eraill y Cyngor. Gofynnwyd i’r adran fanylu ar y wybodaeth hon i’r dyfodol er mwyn sicrhau bod unigolion o grwpiau cymdeithasol economaidd gwahanol yn cael eu gwarchod a’u cefnogi. Mewn ymateb i’r sylwadau, cydnabuwyd bod hyn yn fater all gael ei adrodd yn well i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar gynllun ‘Arosfan’ sydd yn cynnig mannau parcio a chyfleusterau dros nos i gartrefi modur, cadarnhawyd na fyddai’r addasiadau ffioedd hyn yn effeithio ar y cynllun. Eglurwyd ei fod yn gynllun peilot ar hyn o bryd sydd yn cynnig y gwasanaeth am £16.50 y noson, drwy beiriant talu ac arddangos arferol (gydag arian parod neu gerdyn/ffôn symudol). Ymhelaethwyd bod sylwadau cymysg wedi ei dderbyn ar y peilot hyd yma, a bod modd derbyn incwm ychwanegol os bydd mannau parcio ychwanegol yn cael eu sefydlu i’r dyfodol. Diweddarwyd bod dau leoliad ‘Arosfan’ mewn defnydd yn Nwyfor ac Arfon ar hyn o bryd ac mae’r Adran yn ymchwilio am leoliad addas yn ardal Meirionnydd er mwyn treialu’r cynllun yn yr ardal honno hefyd.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cabinet:

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd parcio yn flynyddol neu bob dwy flynedd gan roi ystyriaeth i sefyllfa chwyddiant;

·       Ni ddylid addasu’r trefniadau gorfodaeth yn y meysydd parcio arhosiad byr oherwydd yr effaith ar yr economi leol.

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd ymhellach ym meysydd parcio mewn ardaloedd twristiaeth penodol megis Pen y Gwryd.

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd safleoedd Arosfan yn flynyddol.

 

Dogfennau ategol: