Agenda item

I dderbyn diweddariad ar ddatblygiadau yn y maes Cludiant Cyhoeddus.

Penderfyniad:

(i)             Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)            Argymell i’r Adran Amgylchedd:

·       y dylid cynnwys yr Aelodau Lleol mor fuan â phosib wrth ystyried newidiadau i wasanaethau bws;

·       bod angen cryfhau’r trefniadau ymgynghori gyda chymunedau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) a’r Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd.

 

Eglurwyd bod newid cyson wedi bod ym maes cludiant cyhoeddus ers nifer o flynyddoedd yn sgil addasiadau deddfwriaethol ac esblygiad blaenoriaethau’r Cyngor, Trafnidiaeth i Gymru ac Llywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi derbyn canmoliaeth gan y Llywodraeth am y gwaith a gyflawnwyd yn y maes. Ymfalchïwyd bod gwaith o safon uchel wedi cael ei gyflawni ac bod trigolion yn gweld buddion o ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

 

Tynnwyd sylw at natur gymhleth tirwedd y Sir, gan egluro bod 7 gwahanol fath o wasanaethau cludiant cyhoeddus ar gael gyda gwahanol brosesau ariannu. Manylwyd bod rheolaeth y Cyngor dros y prosiectau hyn yn amrywio yn unol â chontractau gyda phartneriaid. Cydnabuwyd bod dibyniaeth ar arian y tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn risg i’r gwasanaeth.

 

Pwysleisiwyd bod ‘Rhwydwaith cludiant cyhoeddus sy’n cwrdd ag anghenion cymunedau Gwynedd’ wedi cael ei nodi fel blaenoriaeth ‘Gwynedd Werdd’ fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28. Nodwyd bod yr Adran yn gweithio i addasu gweithdrefnau presennol yn barhaus er mwyn cyflawni’r flaenoriaeth hon. Diweddarwyd bod cytundebau gwasanaethau cludiant cyhoeddus wedi cael eu diweddaru ym mhob ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gwasanaethau newydd mewn lle. Manylwyd bod gwasanaethau Caernarfon a Dyffryn Nantlle wedi eu diweddaru ym mis Gorffennaf 2023, Meirionnydd wedi ei ddiweddaru ym mis Chwefror 2024 a gwasanaethau Bangor a Dyffryn Ogwen wedi eu diweddaru ym mis Mehefin 2024.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

Croesawyd y cyfle i ymgysylltu gyda’r Adran wrth iddynt ystyried rhwydwaith a threfniadau yn Nwyfor i’r dyfodol. Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae’r Adran yn monitro defnydd wrth ystyried newid gwasanaethau, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod peiriant ar pob bws yn monitro faint o bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau penodol ac i ble maent yn teithio. Ymhelaethwyd bod Swyddogion yn gallu defnyddio’r wybodaeth hyn wrth ystyried unrhyw addasiad i gylchdeithiau’r gwasanaeth.

 

Diolchwyd i’r adran am wasanaeth cyfleus a dibynadwy yn ardal Dyffryn Nantlle. Mewn ymateb i ymholiad am dalu gyda cherdyn drwy ddefnyddio technoleg ‘Tapio ‘Mlaen/Tapio Ffwrdd’, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod modd gwneud hyn. Ymhelaethwyd bod cost isafswm y defnydd o’r technoleg hwn yn £2.20 hyd at uchafswm o £6.50 y diwrnod, os oes defnydd o’r gwasanaeth wedi ei wneud.

 

Mewn ymateb i enghraifft o sefyllfa ble mae amserlen y gwasanaeth yn anghyfleus i rai defnyddwyr, cydnabodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd bod yr heriau hyn yn codi mewn rhai amgylchiadau ond bod y gwasanaeth yn gweithio ar gyfer canran uchel o ddefnyddwyr gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad i ymholiad am ystyriaeth o ddefnydd myfyrwyr o’r gwasanaethau cludiant cyhoeddus pwysleisiwyd bod y rhwydwaith yn un cymhleth iawn. Diolchodd y Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i Drafnidiaeth i Gymru am eu cydweithrediad er mwyn sicrhau rhwydwaith defnyddiol i ardaloedd gwledig y Sir. Ymhelaethwyd bod nifer o bartneriaethau a rhwydweithiau yn rhan o’r gwasanaeth cludiant cyhoeddus a bod trafodaeth barhaus gyda hwy i gyd yn allweddol i lwyddiant y gwasanaeth.

 

Rhannwyd enghreifftiau o rai ardaloedd sydd yn teimlo bod safon y gwasanaeth wedi dirywio yn dilyn diwygiadau i’r gwasanaeth. Teimlwyd bod diffyg ymgysylltu digonol gyda defnyddwyr gwasanaeth wedi arwain at doriad yn amlder y gwasanaeth gan adael rhai cymunedau heb gludiant cyhoeddus ar rai adegau megis wedi 5yh neu ar ddyddiau Sul. Mewn ymateb i’r pryderon, cydnabuwyd bod angen gwella’r trefniadau ymgysylltu presennol er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth ac Aelodau Etholedig yn cael mewnbwn i addasiadau posib amserlenni cludiant cyhoeddus. Mewn ymateb,  pwysleisiwyd nad yw newid gwasanaethau yn broses syml oherwydd cymhlethdod y rhwydwaith a’r partneriaid sydd ynghlwm iddo. Sicrhawyd bod y mwyafrif o drigolion a defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo bod y gwasanaeth wedi gwella yn gyffredinol yn y misoedd diwethaf.

 

Manylodd y Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) ar y trefniadau ymgysylltu sydd yn cael ei ddefnyddio yn bresennol gan nodi bod nifer o rwystrau yn codi. Manylwyd bod angen asesu dyheadau lleol ac ymhellach wrth ymgysylltu am wasanaethau, gyda rhai defnyddwyr yn manteisio am y gylchdaith gyfan ac eraill yn teithio ar ran ohono. Nodwyd bod angen pwyso a mesur unrhyw ymgynghoriad gyda sicrhad bod gwasanaethau yn ariannol hyfyw ac yn sicrhau'r synnwyr gorau er lles yr amgylchedd. Cydnabuwyd nad oes modd sicrhau bod dyheadau pob unigolyn yn cael eu cyfarch. Fodd bynnag, sicrhawyd nad ydi cymunedau sydd ddim ar y cylchdeithiau yn cael eu diystyru a threfnwyd i gynnal sgwrs i ystyried y cymunedau hynny gydag Aelodau Etholedig yn rhannu mewnbwn.

 

Llongyfarchwyd yr adran am gyflwyno gwasanaethau TrawsCymru a Fflecsi. Ymhelaethwyd y credir bod y gwasanaethau hyn yn derbyn nifer o ddefnyddwyr a'i fod yn llenwi’r bylchau sy’n codi o’r gwasanaeth bws traddodiadol. Rhannwyd bod trigolion sydd yn elwa o’r gwasanaethau hyn yn credu ei fod yn gyfleus iawn ac yn gymorth mawr i unigolion sydd â thrafferthion symudol ac anhwylderau corfforol i gyrraedd apwyntiadau. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, diolchodd yr Aelod Cabinet i’r holl bartneriaid am sicrhau gwasanaethau o safon i drigolion Gwynedd gan obeithio bydd trigolion yn parhau i wneud mwy o ddefnydd ohonynt yn hytrach na cheir personol i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad am ymestyn gwasanaethau Fflecsi, cadarnhawyd bod modd i wneud hynny yn ddibynnol ar grantiau i’r dyfodol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol mai’r dyhead byddai i ddefnyddio’r gwasanaeth hon i lenwi’r bylchau yn y cylchdeithiau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am heriau i sicrhau bod gwasanaethau yn mynd allan i dendr, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod hyn yn heriol iawn oherwydd bod cwmnïau cludiant cyhoeddus wedi wynebu nifer o heriau dros y blynyddoedd diwethaf megis lleihad mewn defnyddwyr gwasanaeth a chostau cynyddol. Er hyn, mynegwyd balchder bod pob gwasanaeth ar y rhwydwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

 

Datganwyd pryderon am gostau ychwanegol i’r Adran wrth iddynt  fuddsoddi mewn technoleg newydd er mwyn cyrraedd targedau i leihau allyriadau carbon. Mewn ymateb, cydnabodd y Pennaeth Adran bod buddsoddiad mewn technoleg yn sylweddol gan ei fod yn newydd, ond rhagdybir i gostau leihau yn y dyfodol wrth iddo gael ei ddefnyddio’n fwy cyson. Ymhellach, cadarnhawyd bod yr Adran wedi derbyn grantiau er mwyn cynnal bysiau trydan ac mae gwaith yn mynd rhagddo i monitro ffioedd ei gynnal er mwyn cymharu gyda chostau bysiau tanwydd. Rhannwyd enghraifft o arbediad mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd drwy ddiweddaru’r fflyd ceir i foduron trydan yn raddol, gan nodi bod y ceir trydan oddeutu £350 yn rhatach i’w cynnal pob mis.

 

Mewn ymateb i ymholiadau am ddiweddariadau yn ardal Arfon, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod cytundebau wedi cael eu cytuno arnynt yn ddiweddar a bydd trafodaethau am addasiadau yn cael eu cynnal o fewn y cyfnod cytundebol o hyd at 4 mlynedd. Nodwyd bod ymgynghori yn elfen bwysig o hyn ond eglurwyd bod cwmnïau mawr yn teyrnasu ar y maes ac yn cadarnhau trefniadau yn y pen draw.

 

PENDERFYNWYD

 

(i)             Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)           Argymell i’r Adran Amgylchedd:

·       y dylid cynnwys yr Aelodau Lleol mor fuan â phosib wrth ystyried newidiadau i wasanaethau bws;

·       bod angen cryfhau’r trefniadau ymgynghori gyda chymunedau.

 

Dogfennau ategol: