I dderbyn diweddariad ar y rhaglen waith a’r
materion sydd angen sylw ym
meysydd gwastraff ac ailgylchu.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth yr Adran Amgylched a’r Pennaeth Cynorthwyol.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y gwasanaeth hwn
wedi cael ei drosglwyddo o’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC yn ôl yn Hydref
2022 a bod newidiadau mawr wedi cael eu gweithredu i wella gweithrediad y
gwasanaeth o fewn yr Adran Amgylchedd. Cydnabuwyd bod nifer o heriau wedi codi
yn y cyfnod trosglwyddo, gan arwain at drafferthion casglu a chylchdeithiau,
ond credir bod y gwasanaeth yn sefydlog erbyn hyn.
Cyfeiriwyd at
dargedau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod 70% o holl wastraff Awdurdodau Lleol
yn cael ei ailgylchu erbyn Mawrth 2025. Pwysleisiwyd bod hyn yn darged heriol
iawn ac bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio ei gyrraedd. Eglurwyd bod y Cyngor
yn cyrraedd targedau cyfredol y Llywodraeth o ailgylchu 64% o wastraff ac yn
hyderus bydd fframweithiau’r Adran yn arwain at gynnydd yn y canran hwn.
Tynnwyd sylw bod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn awgrymu gall Awdurdodau
Lleol cael eu cosbi’n ariannol os na bydd y targed o 70% yn cael ei gyrraedd.
Eglurwyd bod dwy
ffactor wedi arwain at gorwariant o fewn y gwasanaeth yn ddiweddar. Manylwyd
bod rhain yn cynnwys lefelau salwch y gweithlu yn ogystal â goramser. Nodwyd
bod cymysgedd o salwch byr dymor ac hir dymor wedi arwain at hyn, gan sicrhau
bod y gwasanaeth yn cydweithio gyda cwmni Byw’n Iach er lles y gweithwyr.
Diolchwyd i’r gweithlu am eu ymateb cadarnhaol i’r galw am newid yn y ffordd o
weithio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb.
Diolchwyd hefyd i holl staff y gwasanaeth am eu hagwedd gadarnhaol a’u parodrwydd i gyflawni’r gwaith o safon
uchel er budd holl drigolion y Sir.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i bryderon am ddirwyon
gan Lywodraeth Cymru os na fydd 70% o wastraff yn cael ei ailgylchu, sicrhaodd
y Pennaeth Cynorthwyol nad oes unrhyw Awdurdod Lleol wedi derbyn dirwy hyd yma,
er bod rhai wedi methu cyrraedd targedu. Pwysleisiwyd nad oes cadarnhad pendant
o’r ddirwy hwn wedi cael ei gyhoeddi a chredir bydd y Llywodraeth yn edrych ar
dargedau Awdurdodau Lleol dros y blynyddoedd er mwyn gweld os oes ymdrech wedi
ei wneud er mwyn cyrraedd y lefelau a ofynnir. Manylwyd bod Gwynedd wedi bod yn
cyrraedd targedau’r Llywodraeth yn gyson dros y blynyddoedd ac yn cydweithio’n
agos gyda swyddogion felly ni ragwelir bydd Gwynedd yn derbyn dirwy os na fydd
y lefel ailgylchu o 70% yn cael ei gyfarch.
Ymholiad
ar gynlluniau’r Adran i godi ffioedd ar gwaredu rhai eitemau o wastraff megis
teiars, rwbel ac asbestos ac ystyriwyd os byddai hyn yn debygol o arwain at fwy
o achosion tipio slei bach. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Adran Cynorthwyol
bod oddeutu 80 tunnell o deiars yn cyrraedd y canolfannau ailgylchu yn
flynyddol ac mae’n costio tua £20,000 er mwyn eu prosesu. Pwysleisiwyd bod
gweithdrefnau mewn lle o fewn yr Adran Priffyrdd, Bwrdeistrefol ac YGC i ddelio
gyda achosion tipio slei bach, ac os bydd y ffioedd hyn yn cael eu cyflwyno,
bydd gwaith yn mynd rhagddo i fonitro’r effaith y bydd yn ei gael ar y prosesau
hynny, gan gydnabod bydd cynnydd mewn niferoedd tipio slei bach yn risg
cysylltiol.
Cyfeiriwyd
at gynlluniau a drafodwyd mewn cyfarfod blaenorol, o gyflwyno sachau hessian i ddal gwastraff ailgylchu yn hytrach na’r cartiau plastig presennol. Mewn ymateb, cadarnhaodd y
Pennaeth Adran Cynorthwyol bod yr Adran yn awyddus i treialu’r sachau hyn mewn
rhai ardaloedd oherwydd eu bod yn dal mwy o wastraff tra’n cymryd llai o le ac
yn lanach. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi ystyried ei dreialu eisoes ond nad
oedd hyn wedi cael ei gyflawni oherwydd yr etholiad cyffredinol diweddar.
Nodwyd bod yr Adran yn parhau i fod yn awyddus i’w dreialu ac yn y broses o
ganfod ardal addas i wneud hynny.
Eglurwyd bod yr adroddiad yn
cyfeirio at feddalwedd newydd sydd wedi cael ei chyflwyno i’r lorïau lyn
ddiweddar a gofynnwyd i’r Adran sut ymateb a gafwyd gan y gweithwyr i’r defnydd
o gamerâu o fewn y lorïau. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Adran Cynorthwyol
bod y gweithwyr wedi bod yn ganolog i’r sgwrs a nodwyd bod y camerâu yn ddull o
helpu’r gweithwyr yn hytrach na’u monitro. Pwysleisiwyd mai pwrpas y camerâu yw
cadarnhau i ble mae’r lorïau wedi bod yn ystod y cylchdeithiau. Ymhelaethwyd
bod modd ail-edrych ar y camerâu os bydd ymholiad neu gŵyn yn codi er mwyn
asesu’r sefyllfa - gan lwyddo i allu cadarnhau os oedd achwynwyr wedi gosod eu cartiau ailgylchu mewn man addas ac ati. Cydnabuwyd bod
ymateb negyddol i’r camerâu ymysg gweithwyr yn y lle cyntaf, ond erbyn hyn
maent yn eu cefnogi oherwydd maent yn gweld y budd mae’n ei wneud i
effeithlonrwydd y gwasanaeth ac y gellir delio gydag ymholiadau’n rhwyddach.
Mewn ymateb i ymholiad am
drefniadau ailgylchu busnesau, cydnabuwyd y gallai mwy wedi gwneud er mwyn codi
ymwybyddiaeth o’r trefniadau ailgylchu angenrheidiol a gyflwynwyd gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau. Eglurwyd nad oedd yr Adran yn llawn barod ar
gyfer y rheoliadau newydd hyn ond bod gwaith yn cael ei gyflawni erbyn hyn er
mwyn cefnogi busnesau.
Gofynnwyd
os oes digon o ddeunyddiau ailgylchu yn cael ei gasglu i wneud elw er mwyn
cyfrannu at gostau’r Cyngor. Holwyd os
oedd gwastraff gardd yn cael ei gompostio a’i gynnig yn ôl i drigolion er eu
defnydd. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Adran Cynorthwyol bod yr Adran yn
ddibynnol ar y farchnad er mwyn gweld faint o arian a dderbynnir am y
deunyddiau. Er hyn, nodwyd yn gyffredinol nad oes digon yn cael ei gasglu er
mwyn creu digon o elw. Eglurwyd bod yr Adran yn buddsoddi mewn canolfannau
prosesu newydd yn Ffridd Rasus, Harlech a Caergylchu, Caernarfon er mwyn gwella ansawdd y deunyddiau
gyda’r gobaith byddent yn cael eu prynu gan gwmnïau allanol am fwy o elw i’r
dyfodol. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod partneriaeth wedi ei sefydlu gyda
Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn compostio gwastraff gardd. Nodwyd hefyd bod
darparwr preifat hefyd yn derbyn cyfran ohonno.
Eglurwyd mai mater i’r darparwr oedd beth a wneir gyda’r compost.
Cadarnhawyd
bod cost gwaredu gwastraff gweddilliol oddeutu £4miliwn ar hyn o bryd. Tynnwyd
sylw bod treth newydd ar allyriadau carbon yn debygol o gael ei gyflwyno erbyn
2028 gan arwain at gynnydd o oddeutu £0.6miliwn - £1.5miliwn i’r Cyngor. Mewn
ymateb i gwestiwn ar sut bydd y cynnydd ariannol hwn yn cael ei gyfarch,
eglurodd y Pennaeth Adran Cynorthwyol bod y Cyngor mewn partneriaeth hirdymor
gyda Pharc Adfer. Pwysleisiwyd mai’r dull gorau o leihau’r risg ariannol hwn yw
sicrhau bod trefniadau ailgylchu cadarn mewn lle gan arwain at lai o wastraff
gweddilliol yn y biniau gwyrdd.
Ymhelaethodd
y Pennaeth Adran bod gwaith angen ei wneud er mwyn newid meddylfryd ac addysgu
trigolion ar faterion ailgylchu. Adroddwyd bod 57% o wastraff a welir yn y bin
gweddilliol gwyrdd yn ddeunyddiau a all ei ailgylchu.
Mewn
ymateb i bryderon bod tai gwyliau, lletyau gwyliau ac AirBnB
yn arwain at wastraff yn cael ei adael am ddyddiau cyn y diwrnod casglu,
cadarnhaodd y Pennaeth Adran Cynorthwyol bod ffioedd yn cael ei godi ar rhain
fel gwastraff masnachol. Anogwyd unrhyw Aelod i ddod i gyswllt gyda’r
gwasanaeth os oes trafferthion o’r fath yn codi’n eu wardiau.
Llongyfarchwyd y gwasanaeth am eu gwaith gan
gadarnhau ei fod o safon uchel ac nid yw Aelodau Lleol yn derbyn unrhyw sylwad
negyddol amdano erbyn hyn. Diolchwyd i’r holl weithwyr am eu gwaith caled.
Diolchwyd hefyd i staff y swyddfa am ymateb i e-byst am bryderon yn gyflym ac
ystyrlon.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: