Agenda item

I dderbyn diweddariad ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn).

 

Penderfyniad:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Argymell bod yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn cysylltu gyda Chynghorwyr i gynnig cyflenwad o’r pecynnau bagiau baw cŵn i’w defnyddio yn eu cymunedau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a'r Rheolwr Gwasanaethau Stryd.

 

Eglurwyd bod gorchymyn rheoli cŵn wedi bodoli ers 2013 a'i fod erbyn hyn wedi ei ymestyn hyd at Awst 2027. Ymhelaethwyd bod  gorchymyn yn ymwneud â pheidio â chlirio neu godi baw ci, gadael i gi fynd ar dir lle mae cŵn wedi ei gwahardd a pheidio rheoli a chadw ci ar dennyn pan ofynnir i’r person wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn ymwybodol bod y materion hyn yn bwysig i drigolion Gwynedd gan nodi bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gynnal yn ddiweddar, yn unol a’r gofyniad statudol i adnewyddu’r gorchymyn pob 3 mlynedd. Pwysleisiwyd bod 1100 o ymatebion wedi eu derbyn o’r ymgynghoriad hwn, o’i gymharu â 75 ymatebiad i ymgynghoriad yr Adran ar strategaeth llifogydd yn ddiweddar.

 

Eglurwyd bod gorfodaeth o fewn y gwasanaeth hon wedi bod yn heriol yn y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn marwolaeth sydyn aelod allweddol o staff. Cydymdeimlwyd gyda’r gweithwyr am eu colled. Pwysleisiwyd bod materion staffio wedi gwella erbyn hyn ac mae niferoedd cosbau ar gynnydd a phresenoldeb y tîm yn fwy amlwg wrth iddynt ymdrin â nifer o agweddau gorfodaeth megis graffiti a baw cŵn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Adran wedi cyfuno tri gwasanaeth er mwyn sefydlu Gwasanaeth Edrychiad Stryd. Mae’r rhain yn cynnwys y timoedd gorfodaeth, glanhau strydoedd a thacluso Ardal Ni. Nodwyd bod y timau yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol er mwyn addysgu trigolion, gosod biniau baw cŵn, arwyddion a thacluso’r strydoedd. Ymhelaethwyd bod addysgu a chynnal ymgyrchoedd yn agwedd cyson o waith rheolaeth cŵn a chyfeiriwyd at nifer o brosiectau megis yr arwyddion coch a welir mewn cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf. Adroddwyd bod ffocws y gwasanaethau yn addasu yn dymhorol gan nodi eu bod wedi bod yn cydweithio gyda’r gwasanaethau morwrol dros yr haf er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn ymwybodol o’r rheoliadau cŵn gan baratoi i addasu’r pwyslais ar strydoedd a pharciau dros y gaeaf.

 

Adroddwyd bydd yr Adran yn edrych ar y sefyllfa rheolaeth cŵn yn ehangach i’r dyfodol er mwyn gweld sut mae cydweithio yn draws adrannol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn mynd i’r afael a’r mater. Cyfeiriwyd at gynlluniau newydd sydd yn cael eu datblygu gan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd a fyddai’n darparu arweiniad i’r Awdurdodau Lleol yn fuan.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd bod y gwasanaeth yn cydweithio gyda milfeddygon. Nodwyd bod y gwasanaeth yn darparu pecynnau gwybodaeth a phosteri ar eu cyfer a’i fod yn elfen bwysig o rannu gwybodaeth gyda perchnogion cŵn am y rheoliadau sydd mewn grym. Diolchwyd i’r milfeddygon am eu parodrwydd i gydweithio.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd bod pecynnau bychan o fagiau baw ci ar gael i Aelodau Etholedig ac anogwyd iddynt ddod i gyswllt gyda’r gwasanaeth os ydynt yn dymuno eu derbyn er mwyn eu defnyddio o fewn eu cymunedau. Rhannwyd enghreifftiau gan Aelod sydd yn derbyn y pecynnau hyn gan yr Adran ac maent yn cael defnydd rheolaidd gan berchnogion cŵn yn ei ward, gan nodi nad ydi torri rheoliadau cŵn pob amser yn fwriadol a bod rhoi’r bagiau hyn i berchnogion yn eu helpu i gydymffurfio os ydynt wedi anghofio dod a’r bagiau gyda nhw. Tynnwyd sylw bod sicrhau bod y biniau baw cŵn yn cael eu gwagio yn rheolaidd yn rhan bwysig o’r cydweithrediad yma.

 

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am sut mae’r gwasanaeth yn addasu’r lleoliadau a dargedir dros y gaeaf a pha ymgyrchoedd bydd mewn lle. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd bod nifer o ymgyrchoedd dros y gaeaf gan gynnwys posteri, cydweithredu gyda’r wasg a gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol hyd at ddwywaith yr wythnos dros y misoedd nesaf. Ychwanegwyd bydd pwyslais yn cael ei roi ar y cosbau gellir ei dderbyn drwy beidio â chydymffurfio gyda rheoliadau. Adroddwyd bod y gwasanaeth yn chwilio am ddatrysiadau newydd yn gyson megis cydweithrediad gydag ysgolion ac arwyddion coch i ddenu sylw. Anogwyd unrhyw un gyda syniadau am sut gellir codi ymwybyddiaeth bellach, i ddod i gyswllt gyda’r gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Argymell bod yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn cysylltu gyda Chynghorwyr i gynnig cyflenwad o’r pecynnau bagiau baw cŵn i’w defnyddio yn eu cymunedau.

 

Dogfennau ategol: