I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan:
1.
Nodi pryder am y rhestrau aros am ofal cartref
mewn rhai ardaloedd y Sir.
2.
Ofyn am ddata am y rhestrau aros ar draws y Sir er
mwyn gallu cymharu ardaloedd yn rhwyddach.
3.
Ofyn i’r Aelod Cabinet ddiweddaru’r Pwyllgor ar
waith y Prosiect Gofal Cartref gan gynnwys gwybodaeth am leihau costau a gwella
ansawdd data.
Cofnod:
Eglurwyd
bod cyfres o newidiadau ar y gweill o fewn y maes gofal cartref ar hyn o bryd.
Cydnabuwyd bod rhai materion angen sylw ers peth amser ond cadarnhawyd eu bod
yn cael eu gweithredu erbyn hyn. Esboniwyd bod yr addasiadau hyn yn cael eu
cyflwyno rŵan yn unol ag adolygiad Ffordd Gwynedd. Nodwyd bod swyddogion
yn edrych ar y gwasanaethau o bersbectif dinesydd er mwyn asesu os yw
gwasanaethau yn effeithiol neu beidio.
Datganwyd
bod cytundeb a fabwysiadwyd gyda darparwyr allanol, sydd wedi ei fabwysiadu ers
Tachwedd 2022, yn gweithredu dull newydd o weithio. Nodwyd bod pob darparwr yn
cydweithio yn effeithiol gyda’r gweithwyr cymdeithasol a’r cymunedau ehangach
er mwyn cynnig gofal cartref o’r radd flaenaf i ddefnyddwyr. Cymharwyd hyn
gyda’r model gweithio blaenorol ble nad oedd cymaint o gydweithio ac roedd
gofyn i ddarparwyr gofal cartref weithio ar ffurf undonog er mwyn darparu gofal
yr un amser o’r dydd heb wir ystyried addasiadau i amserlen y defnyddiwr.
Pwysleisiwyd bod y model presennol yn caniatáu i weithwyr fagu perthynas gyda
defnyddwyr a bod modd llwyddo i ddatrys unrhw broblem neu angen sydd angen ei
gyfarch yn haws, gyda chymorth partneriaid.
Er hyn,
cydnabuwyd bod addasu patrymau gwaith rhwng y ddau fodel uchod yn heriol a
chadarnhawyd bod yr adran yn parhau i fod yn y cyfnod trosglwyddo hynny ar hyn
o bryd. Sicrhawyd bod gweithwyr o’r farn bod eu telerau gwaith wedi newid er
gwell yn y blynyddoedd diwethaf a nodwyd
bod dechrau gweithredu’r model newydd o weithio wedi arwain at gydweithrediad
gwell mewn hybiau cymunedol yn rhoi gwerth cymunedol ychwanegol o’r cytundebau.
Rhannwyd enghreifftiau o sut mae telerau gwaith wedi gallu cael eu haddasu megis
newid mewn dyddiau gwyliau a chostau teithio ac addasiadau i batrymau shifft.
Cydnabuwyd bod rhai gweithwyr o’r farn
eu bod ar eu pen eu hunain ac nad ydynt yn teimlo yn rhan o benderfyniadau
perthnasol ac felly sicrhawyd bod yr Adran yn parhau i ganfod ffyrdd newydd o
gyflwyno syniadau a chyfathrebu gyda gweithwyr er mwyn sicrhau mewnbwn.
Cadarnhawyd
bod pob cytundeb allanol bellach gyda’r trydydd sector neu deuluoedd trydydd
sector bychan. Pwysleisiwyd nad oes arian yn cael ei wario y tu hwnt i ardal
leol y Sir.
Mewn
ymateb i ymholiad ar addasiadau i systemau TGCh, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant
bod angen addasu 4 o systemau’r gwasanaethau gofal cartref oherwydd y newid i
fodel gweithio. Eglurwyd bod systemau presennol y gwasanaeth yn dilyn yr hen
fodel gweithio ac mae angen eu haddasu er mwyn sicrhau bod trefniadau cynllunio
gofal, trefnu oriau staff a chofnodi symudedd defnyddwyr yn cael eu llunio yn
dilyn y model newydd o weithio. Nodwyd bod y gwaith o edrych i mewn i addasu’r
systemau hyn yn dechrau’n fuan gan Athro o Brifysgol Abertawe a disgwylir i’r
canfyddiadau gael eu cyhoeddi erbyn mis Mawrth 2025.
Esboniwyd
bod trafferthion darpariaeth gofal cartref yn fwy heriol mewn rhai ardaloedd
nag eraill. Ymhelaethwyd bod oddeutu tri o ardaloedd gyda niferoedd uchel ar y
rhestr aros am ofal cartref a thrafferthion recriwtio dros y ddwy flynedd
ddiwethaf. Nodwyd bod swyddogion wedi ymchwilio i unrhyw batrymau posib i’r
diffygion hyn ond nodwyd nad oes patrymau rhwng darparwyr mewnol allanol nac
chwaith patrymau daearyddol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod 5 neu lai o
unigolion yn aros am ofal cartref yn y mwyafrif llethol o ardaloedd y Sir.
Cyhoeddwyd
bod Bwrdd Prosiect mewnol newydd wedi cael ei sefydlu o dan arweiniad Pennaeth
yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant. Anogwyd unrhyw aelod i gysylltu gyda’r
swyddogion gydag unrhyw ymholiad ynglŷn â’r pwnc hwn.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Atgoffwyd yr Aelodau o’r ymrwymiad a roddwyd i weithwyr gofal y
Cyngor yn y cyfnod cyn y cytundebau cyfredol, y byddai modd iddynt barhau i
weithio i’r Cyngor mewn ardal gyfagos i’w safle gwaith presennol, os oedd y
cytundebau newydd yn arwain at newid mewn rheolaeth gofal cartref a olygai bod
eu safle gwaith presennol yn cael ei drosglwyddo i ddarparwr allanol. Nodwyd
hefyd byddai’r gweithwyr hynny wedi gallu symud i weithio i’r darparwyr allanol
os oeddent yn dymuno.
Eglurodd y Pennaeth
Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant bod y cwmni allanol wedi methu
recriwtio digon o weithwyr mewn rhai ardaloedd i gyfarch y gofyn am wasanaeth
felly mae’r Cyngor wedi parhau i gynnig gwasanaethau. Mynegwyd balchder bod
darpariaeth gofal cartref wedi gallu parhau i gael ei ddarparu yn yr ardaloedd
hynny ond nodwyd bod hyn hefyd yn cael effaith ar ardaloedd cyfagos sydd yn
gweithredu gyda llai o weithwyr nes bod y trafferthion recriwtio wedi cael ei
ddatrys. Pwysleisiwyd nad oes un trefniant arferol ar gyfer datrys trafferthion
o’r fath mewn cymunedau ac nodwyd bod swyddogion a phartneriaid yn edrych ar y
farchnad yn gyson er mwyn ceisio canfod datrysiadau i broblemau sydd yn codi.
Ymhelaethwyd bod staff yn cael sgyrsiau cyson gyda swyddogion er mwyn nodi
unrhyw bryderon a’u datrys mor fuan â phosib.
Yn dilyn yr ymateb, gofynnwyd a yw’r Cyngor wedi arbed arian
drwy’r addasiadau hyn ynteu a yw’r costau o ddarparu gofal cartref yn uwch i’r
Adran erbyn hyn. Mewn ymateb pellach, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran nad yw’r
rhaniad o ganran traws sirol o bwy sydd yn darparu’r gwasanaeth gofal cartref
wedi newid llawer. Eglurwyd bod y Cyngor, sector breifat a’r trydydd sector yn
gweithredu o fewn ardaloedd penodol o fewn y Sir yn hytrach na chydweithio
gyda'i gilydd ar draws y Sir yn ei gyfanrwydd fel rhan o’r model newydd.
Rhannwyd barn bod hyn wedi rhoi mwy o gyfleoedd i’r trydydd sector i weithredu
o fewn y Sir ac roedd y Cyngor yn awyddus i weld hynny. Manylwyd ar arbedion a
wnaed yn sgil y newid hwn gan nodi nad oes arbedion sylweddol wedi eu cyflawni
hyd yma yn uniongyrchol. Eglurwyd bod cynnydd cychwynnol wrth ddechrau
gweithredu’r model ond bod gan yr Adran gynlluniau a phrosesau i sicrhau
arbediad dros y cyfnod nesaf. Pwysleisiwyd nad arbedion ariannol oedd yn
gyrru’r newidiadau hyn i’r model gweithio ond sicrhau mai defnyddwyr gwasanaeth
a’u hanghenion sydd yn ganolog i’r trefniadau.
Ymhelaethwyd bod heriau ariannol o fewn y system bresennol a
phwysleisiwyd bod swyddogion yn cydweithio gydag Archwilio Cymru er mwyn
sicrhau bod systemau ariannol tynn yn cael eu sefydlu. Cadarnhawyd bod y gost o
ddarparu gofal cartref yn fewnol gan y Cyngor yn cael ei fonitro’n barhaus.
Hyderwyd bydd dilyn y camau hyn yn lleihau’r costau gorwariant sydd yn y maes
ar hyn o bryd. Tynnwyd enghreifftiau ble mae rhai gwasanaethau wedi
trawsffurfio i’r model newydd yn rhwydd ond nodwyd bod rhai gwasanaethau yn cael
trafferthion i fabwysiadu newid mewn gweithdrefnau. Sicrhawyd bod yr Adran yn
ei gyfanrwydd yn asesu’r gofal a ddarparwyd yn fewnol ac yn allanol er mwyn
sicrhau bod trafferthion ariannol yn cadw o fewn rheolaeth ac i sicrhau llai o
wariant a mwy o arbediad yn y maes hwn yn y dyfodol agos.
Mewn ymateb i ymholiad a phryderon am ardal Tywyn
a nodwyd yn yr adroddiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant bod 24
unigolion yn aros am ofal yn yr ardal hon. Adroddwyd bod hyn yn 20% o’r galw am
wasanaeth gofal cartref yn yr ardal honno. Eglurwyd bod oddeutu 8800 o oriau
gofal yn cael eu diwallu yn Sirol ond bod oddeutu 920 o oriau heb eu diwallu.
Nodwyd y golyga hyn bod oddeutu 10% sydd yn gofyn am ofal cartref ddim yn
derbyn darpariaeth ar hyn o bryd a phwysleisiwyd ei fod yn bryder i’r Adran.
Pwysleisiwyd bod yr Adran wedi addasu eu systemau casglu data yn y cyfnod
diwethaf er mwyn amlygu pan fydd gwybodaeth gwahanol basau data yn anghyson er
mwyn gallu ymchwilio i’w ddeall, ac mae hyn wedi arwain at restrau aros byrrach
yn gyffredinol yn y Sir ac yn yr ardal benodol hon. Cydnabuwyd bod pegynnau ble
mae rhai ardaloedd yn gweld rhestrau aros mwy nac eraill. Pwysleisiwyd y cynhaliwyd cyfarfod grŵp
gofal cartref yn yr ardal yn ddiweddar er mwyn casglu syniadau ar sut i fynd
i’r afael a’r diffyg hwn megis addasu oriau gwaith, cydweithio gyda’r hybiau
cymunedol lleol ac ati. Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod hyfforddiant staff a
magu sgiliau hanfodol yn allweddol i gyfarch y galw am gwasanaethau hyn.
Mynegwyd balchder bod y model newydd yn llwyddiant yn yr ardal hon cyn ymrwymo
i’r contractau a gobeithiwyd y gellir datrys y diffyg mor fuan â phosib.
Tynnwyd sylw bod Gwynedd yn darparu mwy o ofal cartref fesul
100,000 o’r boblogaeth na’r mwyafrif o siroedd Cymru. Mewn ymateb i hyn,
cadarnhaodd y Pennaeth Adran nad oedd hyn yn rhywbeth cadarnhaol ei natur o
reidrwydd. Manylwyd bod hyn yn arwydd bod Gwynedd yn gor-ddarparu gwasanaethau
gofal cartref a gobeithir bydd y model newydd hyn yn arwain at newid yn yr
ystadegyn hwn i’r dyfodol.
Tynnwyd sylw at digwyddiad codi ymwybyddiaeth diweddar ar daliadau
uniongyrchol a gynhaliwyd yn ardal Porthmadog. Ystyriwyd byddai gwneud defnydd
o’r trefniadau hyn yn lleihau’r rhestrau aros am ofal cartref wrth gefnogi
unigolion sydd wedi addasu eu ffordd o fyw er mwyn darparu gofal i’w hanwyliaid
oherwydd nad oes digon o ofalwyr ar gael o fewn y Sir i gwblhau’r gwaith. Mewn
ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau,
Iechyd a Llesiant bod gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i ddatblygu’r gwasanaeth
hwn ac ei fod yn broses cymhleth iawn. Ymhelaethwyd bod yr Adran yn cydweithio
gyda cwmni ‘Community Catalysts’, ac wedi sefydlu Swyddog Catalydd yn fewnol er
mwyn cefnogi unigolion o fewn cymunedau’r Sir sydd â diddordeb sefydlu busnesau
bychan sy’n cynnig gofal – ac yn cael eu talu drwy system taliadau
uniongyrchol. Adroddwyd bod 17 o fenterau bychan wedi cael eu sefydlu hyd yma
ac mae mwy yn y broses o gael eu datblygu ar hyn o bryd. Cydnabuwyd nad oes
modd darparu taliadau uniongyrchol i unigolion sydd yn byw gyda’r unigolyn sydd
yn derbyn gofal oherwydd cyfyngiadau statudol ond anogwyd teuluoedd i gael
sgwrs gyda darparwyr gofal a gweithwyr cymdeithasol am yr her hon os mai dyma’r
brif elfen pam nad yw ungolion yn defnyddio’r gwasanaethau.
Diolchwyd i’r Adran am gyflwyno Adroddiad gonest gyda gwybodaeth
glir am lwyddiannau a heriau sy’n codi o fewn y maes. Gofynnwyd am wybodaeth am
niferoedd darparwyr gofal sydd yn gallu darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Eglurwyd bod hyn yn her o fewn yr Adran ac nid yw’r ffigyrau o siaradwyr
Cymraeg mor uchel a dymunir iddynt fod. Ymhelaethwyd bod yr Adran yn cefnogi
staff gyda hyfforddiant iaith ond nodwyd ei fod yn her gyffredinol.
Mewn ymateb i sylwadau ar gefnogaeth i weithwyr, cadarnhaodd y
Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant bod Bwrdd Prosiect
wedi cael ei sefydlu o fewn yr Adran er mwyn mynd i’r afael â’r materion sydd
angen sylw yn nhyb y timoedd a darparwyr gwasanaeth. Ymhelaethwyd bod y Bwrdd
Prosiect (a’r Cyngor yn gyffredinol) yn derbyn cefnogaeth allanol i wireddu
amcanion drwy brosiect IMPACT (Improving Adults Care Together). Nodwyd bod y
prosiect hwn yn cefnogi gweithwyr o’r run meysydd ac yn rhannu arferion da fel
bod pawb dros Gymru a Lloegr yn ymwybodol o ba fath o systemau sydd yn gweithio
a sut gellir gwella.
Cyfeiriwyd at holiadur PERCY sydd yn asesu ansawdd bywyd
defnyddwyr gwasanaeth gofal er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo bod pwrpas i’w
bywyd a bod eu lles yn gwella. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth
Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant bod grŵp prosiect wedi ei
sefydlu i edrych i mewn i’r holiadur er mwyn gweld os byddai’n fuddiol i
ddefnyddwyr gofal cartref yng Ngwynedd.
Diolchwyd i’r swyddogion a’r holl weithwyr gofal am eu gwaith
caled o fewn y maes.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan:
1.
Nodi pryder am y rhestrau aros am ofal
cartref mewn rhai ardaloedd y Sir.
2. Gofyn
am ddata am y rhestrau aros ar draws y Sir er mwyn gallu cymharu ardaloedd yn
haws.
3. Gofyn
i’r Aelod Cabinet ddiweddaru’r Pwyllgor ar waith y Prosiect Gofal Cartref gan
gynnwys gwybodaeth am leihau costau a gwella ansawdd data.
Dogfennau ategol: