Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Beca Brown

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch pobl ifanc y Sir ar eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch gan ategu mai un maes o allu person ydi gradd arholiad. Cydnabuwyd gwaith caled pobl ifanc y Sir dros y cyfnod arholiadau yn ogystal â’r athrawon gan ddymuno’n dda i bob un person ifanc yn y Sir ar eu cam nesaf.

 

Adroddwyd bod y gwaith o ehangu’r ddarpariaeth gofal plant 2 oed i ardaloedd newydd bron a’i gwblhau efo 22 o ddarparwyr bellach yn cynnig gofal plant Dechrau’n Deg. Tynnwyd sylw bod polisi mynediad Ysgolion Gwynedd yn newid o fis Medi flwyddyn nesaf ac y bydd disgwyliad i blant Meithrin fod wedi eu toiledu cyn cychwyn.

 

Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth ADYaCh wedi llwyddo i wella amseroedd aros am gwnsela a nodwyd ei bod yn braf gweld y gwaith o addasu dosbarthiadau yn Ysgol Pendalar yn parhau. Ategwyd ei bod yn wych gweld Ysgol Treferthyr wedi agor ei ddrysau dechrau’r mis a soniwyd hefyd am y gwaith cyffrous o foderneiddio adeiladau  sy’n digwydd ar draws Ysgolion Bangor gydag amryw yn derbyn sylw.

 

Tynnwyd sylw at lefelau presenoldeb Ysgolion gan nodi bod angen gwella’r lefelau. Mynegwyd pryder fod y lefelau presenoldeb heb ddychwelyd i’r hyn ydoedd cyn y pandemig. Cyfeiriwyd hefyd at y cynnydd yn niferoedd y gwaharddiadau penodol a parhaol o ganlyniad i ymddygiad heriol o fewn yr Ysgolion gan nodi bod y maes yma wedi derbyn sylw dros y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd bod arolwg manwl wedi ei gomisiynu ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2023 ar y Gwasanaeth Cynhwysiad a chyflwynwyd argymhellion ar sut i gryfhau’r ddarpariaeth.

 

Ymfalchïwyd ym mhenodiad Meirion Prys Jones fel ymgynghorydd llawrydd fydd yn cydweithio gyda’r Adran Addysg i ail-edrych ar y Polisi Iaith Addysg ac eglurwyd bod y gwaith o gynnal gwerthusiad o’r Gyfundrefn Drochi yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

 

I gloi cydnabuwyd yr heriau a’r boen a brofwyd yn ystod y flwyddyn yn sgil troseddau Neil Foden a bod meddwl Cyngor yn parhau i fod gyda’r dioddefwyr. Ategwyd bod y Cyngor wedi ymrwymo i gydweithredu’n llawn gyda’r adolygiad annibynnol yn unol â chanllawiau cenedlaethol Adolygiad Ymarfer Plant. Yn ogystal croesawyd bwriad y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i gynnal ymchwiliad craffu i’r maes diogelu gan nodi parodrwydd yr Adran Addysg i gydweithio’n llawn gyda’r ymchwiliad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·       Diolchwyd am yr adroddiad gan ymfalchïo bod cymaint o newyddion da wedi ei gynnwys.

·       Holwyd pa gymorth sydd ar gael i rieni i doiledu plant cyn mynd i’r Ysgol Feithrin, yn enwedig plant ag anghenion ychwanegol. Gofynnwyd pa mor haearnaidd ydi’r rheol o ystyried y ffaith bod Derwen efo rhestr aros ar gyfer rhai o’u gwasanaethau.

·       Mewn ymateb eglurwyd y rhesymau dros y newid i’r polisi sef i osgoi dargyfeirio sylw athrawon a cymhorthyddion dosbarth o weddill y dosbarth tra maent yn treulio amser tu allan i’r dosbarth yn newid clytiau. Ychwanegwyd fel rhan o’r gwaith o edrych ar y maes blynyddoedd cynnar bod y pwyslais yn symud i rieni fod yn toiledu. Pwysleisiwyd na fydd Ysgolion yn troi plant i ffwrdd os nad ydynt wedi ei toiledu, ond yn hytrach bod y disgwyliad yn cael ei gyfleu o hyn allan. Nodwyd y bydd ymdrech hyrwyddo a gall hyfforddiant gael ei ddarparu yn amserol gyda’r bwriad o wneud pethau yn haws i rieni.

·       Mynegwyd balchder bod arolwg manwl wedi ei gomisiynu ynglŷn ag anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. Holwyd ymhellach ynglŷn â’r polisi yma ac os yw plant sydd efo anghenion niwro-ddatblygiadol yn cael eu cynnwys yn y strategaeth hon. Nodwyd hefyd bod y ffigyrau gwaharddiadau yn bryder.

·       Mewn ymateb nodwyd bod y strategaeth hon yn cynnwys ystod lawn o anghenion plant ac yn cynnwys plant ag anghenion niwro-ddatblygiedig. Eglurwyd o ran yr ochr ymddygiadol bod adroddiad wedi ei gomisiynau yn ogystal â Grŵp Prosiect wedi bod yn edrych ar yr elfen yma dros dymor yr Haf ac wedi ymweld â Siroedd eraill er mwyn gweld pa ddarpariaethau sydd ar gael a beth yw’r arferion gorau. Nodwyd ar hyn o bryd fod yr Adran yn modelu'r gefnogaeth byddent yn dymuno ei roi ond cydnabuwyd ei bod yn anodd buddsoddi ymhellach dan yr hinsawdd ariannol bresennol. Nodwyd bod mwy o ffocws wedi ei roi yn y gorffennol ar agweddau fwy emosiynol yn hytrach nag agweddau ymddygiadol a bod her o ran strwythuro’r ddarpariaeth er mwyn gallu rhoi sylw i’r ddwy agwedd.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

Dogfennau ategol: