I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad blynyddol gan yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
Oedolion ac Iechyd, yn rhoi trosolwg
o’r ystadegau a phrif faterion sydd wedi deillio
o gwynion yn ystod y flwyddyn 2014-15 ynghyd ag ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor
Craffu hwn yn ei gyfarfod
paratoi ar 28 Gorffennaf.
(b) Atgoffwyd yr Aelodau bod y drefn gwynion yn
un statudol sydd tu allan i drefn
gwynion corfforaethol y
Cyngor.
(c) Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr Aelod
Cabinet a’r swyddogion yn briodol iddynt
fel a ganlyn:
(i)
Bod y drefn gwynion statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar wahân i’r
drefn gwynion corfforaethol a’u bod yn ymwneud yn
uniongyrchol â gofal unigolion ond fe
dderbynnir cwynion tu allan i’r
drefn statudol ac yn yr achosion
hyn fe ymdrinnir
â hwy o dan y drefn gwynion corfforaethol. Eglurwyd bod dau gam i’r drefn
gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol sef cam 1 - ymateb yn lleol
a cham 2 lle prynir gwasanaeth ymgynghorydd annibynnol i ymchwilio i’r gwyn.
(ii)
Mewn ymateb i bryder amlygwyd ynglyn â methiant i fedru darparu cyfarpar
arbenigol megis gwelyau pwrpasol i gleifion sydd angen
gofal yn eu cartref yn
benodol mewn tai teras yn ardal
Blaenau Ffestiniog, nodwyd
bod y Gwasanaeth yn ymwybodol o’r broblem
a'i fod yn
destun trafodaeth gyda’r Bwrdd Iechyd
(iii)
Nododd y swyddogion y sylw bod angen dehongli cyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd a’r
Gwasanaeth Cymdeithasol oherwydd aneglurder trigolion y Sir ac fe ystyrir ymhellach sut y gellir cyfarch
y mater hwn.
(iv)
O safbwynt cleifion yn cael
eu hanfon i Ysbytai cymunedol yn hytrach na
chartrefi preswyl, esboniwyd bod datrysiad i’r mater hwn yn
anodd oherwydd yr angen i geisio
rhoi cefnogaeth iawn i deuluoedd.
(v)
Nodwyd y pryder amlygwyd ynglyn â thacsi yn teithio
o Ogledd y Sir i’r De i gludo claf i’r
ysbyty lleol ac y byddir yn rhoi
sylw i’r mater ar y cyd gyda’r
Bwrdd Iechyd pe byddai’r Aelod
yn cyflwyno gwybodaeth ychwanegol i’r Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant.
(vi)
Bod y daflen gwynion arbennig i blant a phobl ifanc
yn barod ac yn cael ei
lansio yn fuan a nodwyd ymhellach
bod taflen ar wahân i oedolion sydd eisoes yn
cael ei weithredu.
(vii)
Mewn ymateb i sylw bod y nifer o ymholiadau yn uwch
na’r cwynion ac efallai bod pobl fregus yn llai
tebygol o gwyno, nodwyd er nad
yw pob ymholiad
/ sylw yn cael ei nodi
fel cwyn, sicrhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio datrys
yr ymholiadau.
(viii)
O safbwynt y sylw a wneir bod angen sicrhau cyfathrebu
clir gyda defnyddwyr ynglyn â threfniadau talu am ofal, gwelwyd o’r
cwynion a gyflwynwyd bod trafodaethau wedi digwydd ond nad
oedd tystiolaeth ysgrifenedig wedi ei gofnodi. Sicrhawyd bod darn
o waith yn mynd rhagddo yn
y cyswllt hwn fel datrysiad i’r
mater.
(ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y sylwadau cyffredinol canlynol:
(a) Nododd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion ac Iechyd bod trefniadau a’r ffordd newydd o weithio yn Ysbyty
Alltwen yn hynod o bwysig i geisio diddymu’r rhaniad rhwng cyfrifoldeb
y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Nodwyd ymhellach bod y cleifion sydd wedi
derbyn gwasanaeth drwy’r drefn newydd
yn Ysbyty Alltwen wedi mynegi
bodlonrwydd gyda’r gwasanaeth.
(b) Bod yr adroddiad yn
un eithaf cadarnhaol ac yn amlwg drwy
drafodaethau bod y Gwasanaeth
yn cynnig datrysiadau i’r defnyddwyr. Fodd bynnag, nodwyd
ymhellach bod y Tim sy’n gweithredu yn rhan
o’r gyfundrefn cynigion ar gyfer
toriadau a phe byddir yn haneru’r
adnoddau gall hyn effeithio ar y gwasanaeth a gynigir.
(c) Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Gwasanaeth am eu gwaith.
Penderfynwyd: Derbyn,
nodi a diolch am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: